Ymgynghoriad ar Weledigaeth, Amcanion ac Opsiynau
Pennod 1
Trosolwg a phwrpas
1.1 Beth yw Cynllun Datblygu Lleol
1.1.1 Rhaid i bob Cyngor yng Nghymru lunio Cynllun Datblygu Lleol. Mae'r Cynllun Datblygu Lleol neu'r CDLl yn ddogfen sy'n llywio datblygiad dros y 15 mlynedd nesaf. Bydd y CDLl newydd yn disodli'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd presennol (a fabwysiadwyd yn 2017) a baratowyd gyda Gwynedd. Ar ôl ei fabwysiadu, bydd yr holl geisiadau cynllunio a gyflwynir i'r Cyngor yn cael eu hasesu yn erbyn y polisïau yn y Cynllun.
1.2 Sut mae'r CDLl yn cael ei baratoi?
1.2.1 Bydd y CDLl newydd yn cael ei baratoi yn unol â Chytundeb Cyflawni'r Cyngor, y cytunwyd arno gyda Llywodraeth Cymru, Mae'r Cytundeb Cyflawni yn nodi'r amserlen ar gyfer paratoi'r CDLl, a hefyd y dull o ymgysylltu â rhanddeiliaid a chyfranogiad y gymuned.
1.2.2 Mae'r CDLl yn cael ei baratoi'n iteraidd, gyda chyfle i bobl roi sylwadau ar bob cam allweddol. Mae'r diagram isod yn dangos y camau cynhyrchu allweddol:
1.2.3 Mae'r Cyngor yn awyddus i sicrhau bod pawb sy'n byw, yn gweithio neu'n ymweld ag Ynys Môn yn cael llais yn natblygiad yr Ynys yn y dyfodol.
1.3 Beth yw'r cam hwn?
1.3.1 Dyma'r papur ymgynghori ar y Weledigaeth, Amcanion ac Opsiynau. Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw ceisio mewnbwn gan y cyhoedd a rhanddeiliaid i'r gwaith cychwynnol o gwmpasu'r CDLl newydd.
1.3.2 Nod yr ymgynghoriad yw
- sicrhau ein bod wedi nodi'r holl faterion, heriau a chyfleoedd allweddol sy'n wynebu Ynys Môn
- ceisio cefnogaeth i'r weledigaeth a'r amcanion drafft
- gofyn am adborth ar yr opsiynau twf posibl
- gofyn am adborth ar yr opsiynau gofodol posibl
1.3.3 Ar ôl i'r ymgynghoriad hwn ddod i ben, bydd y Cyngor yn ystyried yr holl ymatebion ac yn paratoi dogfen “Strategaeth a Ffefrir”. Bydd y Strategaeth a Ffefrir wedyn yn cael ei chyhoeddi ar gyfer ymgynghori arni.