Ymgynghoriad ar Weledigaeth, Amcanion ac Opsiynau

Yn dod i ben ar 25 Mawrth 2026 (31 diwrnod ar ôl)

Pennod 6

Amcanion

6.0 Cyflwyniad

Mae'r adran hon o'r ddogfen yn nodi amcanion drafft y Cyngor. Bydd yr amcanion drafft yn sicrhau bod y weledigaeth ddrafft a nodir ym mhennod 5 yn cael ei gwireddu. Bydd y weledigaeth a'r amcanion yn sail i'r CDLl. Datblygwyd yr amcanion yng nghyd-destun y materion, y cyfleoedd a'r heriau allweddol a nodwyd ym mhennod 4. Mae cysylltiad clir rhwng yr amcanion drafft a'r Cynllun Corfforaethol, Cymru'r Dyfodol, Polisi Cynllunio Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

6.1 Thema: Cefnogi Economi Gynaliadwy a Bywiog

6.1.1 Mae'r amcanion yn yr adran hon wedi'u cynllunio i gynnal economi gydnerth a ffyniannus i sicrhau cyflenwad cadarn o swyddi a chefnogi busnesau lleol.

Amcan 1: Annog ffyniant economaidd drwy gefnogi busnesau presennol a denu buddsoddiad newydd i wella sgiliau a chyfleoedd gwaith ar yr Ynys a, thrwy wneud hynny, galluogi cadw’r boblogaeth oed gweithio a chyfrannu at gymunedau mwy cynaliadwy a hyfyw.

6.1.2 Mae Amcan 1 yn ceisio darparu amrywiaeth o swyddi lleol diogel i drigolion Ynys Môn. Mae'n cydnabod y bydd darparu cyflogaeth leol yn helpu i gadw pobl oedran gweithio ar yr Ynys. Mae'n cysylltu â'r amcan strategol o hyrwyddo cyfleoedd i ddatblygu economi Ynys Môn yng Nghynllun y Cyngor.

Amcan 2: Parhau i ddarparu cyfleoedd datblygu ar gyfer arallgyfeirio’r economi wledig ar yr un pryd â darparu cymorth i ddiwydiannau gwledig sylfaenol fel ffermio i sicrhau eu hyfywedd a’u cadernid parhaus

6.1.3 Mae Amcan 2 yn darparu cymorth penodol i'r economi wledig. Mae'n cefnogi arallgyfeirio.

Amcan 3: Cefnogi datblygiadau sy’n gwella bywiogrwydd a hyfywedd strydoedd a chanol trefi Ynys Môn gyda’r bwriad o wella a diogelu canolfannau manwerthu lleol ar yr Ynys

6.1.4 Mae Amcan 3 yn cydnabod pwysigrwydd canol trefi Ynys Môn fel canolfannau adwerthu. Mae'n ceisio mynd i'r afael â gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr a sicrhau bod canol trefi'n cael eu cynnal fel canolbwyntiau cymunedol a chanolfannau economaidd hyd yn oed mewn marchnad adwerthu sy'n newid.

Amcan 4: Cefnogi datblygiadau twristiaeth priodol o safon uchel a fydd yn cyfrannu at dwf cynaliadwy’r economi ymwelwyr gan sicrhau bod y nodweddion sy’n cyfrannu at atyniad yr Ynys fel cyrchfan yn cael eu diogelu’n ddigonol.

6.1.5 Mae Amcan 4 yn rhoi cefnogaeth glir i dwf yr economi ymwelwyr. Mae'n ceisio gwella arlwy Ynys Môn fel cyrchfan i dwristiaid ond mae'n cydbwyso hyn â'r angen i ddiogelu'r hyn sy'n creu'r galw ymysg twristiaid. Mae Ynys Môn yn cael ei gwerthfawrogi am ei thirweddau dramatig a rhaid i'r Cynllun sicrhau bod yr asedau allweddol hyn yn cael eu diogelu'n briodol.

Amcan 5: Cefnogi'r gwaith o gyflawni'r cyfleoedd buddsoddi strategol a ddarperir gan Ddynodiad Porthladd Rhydd a datblygiad yn Wylfa. Mae hyn yn cynnwys seilwaith galluogi.

6.1.6 Yn gysylltiedig ag Amcan 1, mae Amcan 5 yn darparu cefnogaeth glir a phenodol ar gyfer darparu'r cyfleoedd buddsoddi strategol allweddol sydd ar gael ar Ynys Môn.

6.2 Thema: Sicrhau mynediad at Gartrefi addas

6.2.1 Mae'r amcanion yn yr adran hon yn dangos sut bydd y Cynllun yn gwneud Ynys Môn yn lle gwych i fyw ynddo drwy ddarparu tai addas gyda digon o seilwaith addas i hybu ffyrdd cynaliadwy o fyw.

Amcan 6: Hwyluso’r gwaith o ddarparu amrywiaeth a chymysgedd o dai sydd eu hangen i ddiwallu’r galw am dai mewn ardaloedd trefol a gwledig. Bydd cartrefi o’r fath yn gallu gwrthsefyll yr hinsawdd ac yn hygyrch i wasanaethau a chyfleusterau sydd eu hangen ar breswylwyr yn ogystal ag ystyried anghenion a gofynion arbenigol poblogaeth sy’n heneiddio a’r angen i ddarparu digon o dai fforddiadwy

6.2.2 Mae Amcan 6 yn ceisio sicrhau bod ystod a chymysgedd addas o dai yn cael eu darparu i ddiwallu anghenion amrywiol yr Ynys. Bydd angen i'r Cynllun gael ei ategu gan dystiolaeth o anghenion tai'r Ynys, gan gynnwys asesu'r angen am dai fforddiadwy. Bydd yn ceisio diwallu anghenion am lety arbenigol a'r angen am lety i Sipsiwn a Theithwyr.

6.3 Thema: Seilwaith i gefnogi uchelgeisiau

6.3.1 Mae'r amcanion y themau hon wedi'u cynllunio i sicrhau bod datblygiad yn cael ei gefnogi'n briodol gan seilwaith hanfodol.

Amcan 7: Sicrhau bod seilwaith ffisegol, cymdeithasol/cymunedol, digidol, gwyrdd a glas strategol a lleol digonol ar waith i gefnogi twf yn ardal y Cynllun yn y dyfodol

6.3.2 Bydd Amcan 7 yn sicrhau bod seilwaith ategol yn ystyriaeth allweddol i'r Cynllun. Mae'r amcan hwn yn ymdrin â'r mathau o seilwaith “traddodiadol” sy'n cael eu hystyried fel arfer gan CDLl, ond mae hefyd yn ymdrin â seilwaith gwyrdd a glas (fel parciau, afonydd a thraethau), gan godi hyn i'r un lefel ag anghenion seilwaith eraill a mynnu bod atebion sy'n seiliedig ar natur yn cael eu hystyried. Mae'r amcan hefyd yn cefnogi sail cyfraniadau gan ddatblygwyr yn y dyfodol i gefnogi datblygiad.

Amcan 8: Sicrhau, cyn belled â phosibl, bod datblygiadau newydd yn cael eu lleoli i leihau’r angen i deithio a’u bod wedi’u dylunio i fod yn addas ar gyfer cerdded neu feicio, gyda chyfleusterau wedi’u lleoli wrth ymyl lle mae pobl yn byw

6.3.3 Mae Amcan 8 yn cydnabod yr angen i wneud bywyd bob dydd mor syml a hawdd â phosibl. Bydd yn helpu i sicrhau bod y CDLl yn cyflawni newid moddol. Mae'n adlewyrchu'r angen i gefnogi teithio llesol a bydd yn helpu i gyflawni amcanion amgylcheddol ac iechyd ehangach y Cyngor.

6.4 Thema: Ymateb i Hinsawdd sy’n Newid

6.4.1 Mae'r amcanion yn yr adran hon yn dangos sut y bydd y Cynllun yn ymateb i'r argyfwng newid hinsawdd.

Amcan 9: Cefnogi mesurau i leihau allyriadau carbon a chanlyniadau newid yn yr hinsawdd, gan ymateb i gynhesu byd-eang a chefnogi cymdeithas i addasu’r ffordd mae’n gweithio, yn byw ac yn defnyddio tir, gan feithrin cadernid rhag effeithiau hinsawdd sy’n newid.

6.4.2 Mae Amcan 9 yn adlewyrchu'r ffaith bod y Cyngor wedi datgan argyfwng hinsawdd. Mae hefyd yn adlewyrchu'r amcan strategol yng Nghynllun y Cyngor i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a gweithio tuag at fod yn sefydliad sero net. Bydd gan y CDLl rôl allweddol yn cynorthwyo'r Cyngor i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae hyn yn ymwneud â lleihau allyriadau carbon, lliniaru effaith newid hinsawdd a gwneud Ynys Môn yn fwy gwydn i'w heffeithiau.

Amcan 10: Cefnogi'r broses o bontio i economi carbon isel. Cefnogi'r gwaith o gynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel drwy hwyluso'r gwaith o ddatblygu seilwaith priodol sy'n gwireddu manteision lleol ystyrlon ac yn lliniaru effeithiau negyddol.

6.4.3 Mae Amcan 10 yn darparu cymorth lefel uchel ar gyfer ynni adnewyddadwy a charbon isel i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Mae'n sicrhau bod ymrwymiadau'r Cyngor i ddarparu ynni adnewyddadwy yn cael eu hadlewyrchu yn y CDLl.

6.5 Thema: Diogelu a Hyrwyddo'r Iaith Gymraeg a'i Diwylliant

6.5.1 Mae'r amcanion y themau hon yn ceisio sicrhau bod y system gynllunio yn chwarae ei rhan wrth hyrwyddo'r iaith Gymraeg ar yr Ynys.

Amcan 11: Sicrhau bod datblygiadau’n cael eu cynllunio’n briodol i alluogi’r Gymraeg i ddatblygu a ffynnu, gan wneud cyfraniad cadarnhaol at gyflawni targed cenedlaethol Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

6.5.2 Mae Amcan 11 yn darparu fframwaith i'r Cynllun er mwyn gallu ystyried sut y gall ymateb i'r nod o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ac yn benodol yn Ynys Môn. Mae hefyd yn adlewyrchu'r amcan strategol o gynyddu cyfleoedd i ddysgu a defnyddio'r iaith fel y nodir yng Nghynllun y Cyngor.

6.6 Thema: Gwarchod yr Amgylchedd Naturiol a Hanesyddol a Rheoli Adnoddau

6.6.1 Mae'r amcanion yn yr adran hon yn ceisio taro'r cydbwysedd rhwng caniatáu datblygu a newid, gan ddiogelu nodweddion unigryw amgylchedd Ynys Môn ar yr un pryd.

Amcan 12: Diogelu a gwella bioamrywiaeth yr Ynys drwy sicrhau bod effeithiau'r datblygiad yn cael eu hosgoi a'u lliniaru lle bo angen. Cyfrannu at gynnal rhwydweithiau ecolegol cydnerth a chysylltiedig a gwella seilwaith gwyrdd fel rhan o ddatblygiad.

6.6.2 Mae Amcan 12 yn ymateb i ofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) i gynnal a gwella bioamrywiaeth ac i hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau. Mae'n ceisio atal, a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth drwy sicrhau bod datblygiadau newydd yn cael effaith gadarnhaol ar rwydweithiau presennol.

Amcan 13: Diogelu'r amgylchedd hanesyddol drwy sicrhau bod unrhyw ddatblygiad arfaethedig a allai effeithio ar asedau hanesyddol yn cael ei arwain gan fuddiannau gorau'r asedau hynny ac yn parchu cymeriad a natur unigryw lleol

6.6.3 Mae Amcan 13 yn ceisio sicrhau bod asedau hanesyddol a'r amgylchedd hanesyddol yn cael eu diogelu a'u gwarchod yn barhaus. Mae'n cydnabod cyfraniad yr asedau hyn at rinweddau unigryw'r Ynys.

Amcan 14: Diogelu adnoddau mwynol rhag cael eu sterileiddio gan sicrhau bod banc tir digonol o fwynau agregau yn cael ei gynnal yn unol â’r gofynion presennol i ddiwallu anghenion cymdeithas yn gynaliadwy

6.6.4 Mae Amcan 14 yn cydnabod yr angen i ystyried cyflenwi deunyddiau i gefnogi datblygiad.

Amcan 15: Hwyluso darpariaeth ddigonol o gyfleusterau rheoli gwastraff cynaliadwy a fydd yn cyfrannu at ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint â phosibl o wastraff a, thrwy wneud hynny, symud tuag at economi gylchol.

6.6.5 Mae Amcan 15 yn cydnabod pwysigrwydd yr economi gylchol ac yn darparu sail iddo gael ei wreiddio mewn cynigion datblygu yn y dyfodol.

Amcan 16: Hyrwyddo a chefnogi iechyd a lles yr holl breswylwyr drwy sicrhau bod lleoedd yn cael eu dylunio a'u datblygu i gefnogi ffyrdd egnïol o fyw a chymunedau cysylltiedig drwy integreiddio safonau uchel o amwynder a meithrin amgylcheddau diogel i bawb

6.6.6 Bwriad Amcan 16 yw sicrhau bod dewisiadau ffordd iach o fyw yn cael eu cefnogi gan y CDLl, fel darparu cyfleoedd teithio llesol a sicrhau mynediad rhwydd at fannau agored, ond hefyd hyrwyddo cwmpas rhyngweithio cymdeithasol yn y gymuned. Mae ganddo gysylltiad clir ag amcan strategol gofal cymdeithasol a lles Cynllun y Cyngor.

Amcan 17: Sicrhau bod cymunedau’n cael ystod o gyfleusterau allweddol sy’n darparu mynediad digonol i hamdden, adloniant, diwylliant, iechyd, addysg a mannau agored cyhoeddus. Dylai datblygiad a allai effeithio ar y defnydd o gyfleusterau o’r fath a’u hargaeledd geisio gwella’r ddarpariaeth.

6.6.7 Mae Amcan 17 yn ceisio sicrhau bod lleoedd yn ymarferol ac yn braf i fyw ynddynt. Mae'n ceisio sicrhau bod seilwaith cymunedol digonol ar waith, a'i fod yn cael ei ddiogelu. Mae'n cydnabod bod angen darparu seilwaith lleol digonol i gynnal ffyrdd cynaliadwy o fyw.

Amcan 18: Mabwysiadu dull creu lleoedd er mwyn gallu datblygu aneddiadau bywiog sy'n darparu dyluniad da sy'n unigryw yn lleol, sy'n adlewyrchu cyd-destun, cymeriad a lleoliad, sy'n sicrhau mynediad a symudiad priodol, ac sy'n cyfrannu at gyflawni aneddiadau cynaliadwy sy'n eu gwneud yn fwy deniadol fel lleoedd i fyw a gweithio ynddynt.

6.6.8 Mae Amcan 18 yn adlewyrchu pwysigrwydd lle. Mae'n ceisio sicrhau bod y CDLl yn ymgorffori creu lleoedd yn briodol fel elfen ganolog o'r Cynllun. Nod y dull creu lleoedd hwn yw llywio twf cynaliadwy yn yr ardaloedd cywir - un o brif egwyddorion cynllunio Polisi Cynllunio Cymru.

Cwestiynau’r ymgynghoriad
  • Ydych chi’n cytuno â’r amcanion hyn? Sylw
  • A oes unrhyw rai ar goll? Sylw
Am gyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r system ac i wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig