Ymgynghoriad ar Weledigaeth, Amcanion ac Opsiynau
Pennod 8
Senarios Twf Tai a Chyflogaeth
8.0 Cyflwyniad
Mae'r bennod hon yn ystyried anghenion twf yr Ynys dros gyfnod y Cynllun. Mae'n ystyried yr wybodaeth gyd-destunol a ddarperir ym mhenodau 3 a 4 ac yn ystyried faint o gartrefi a swyddi ychwanegol y gallai fod angen cynllunio ar eu cyfer rhwng 2024 a 2039. Bydd y senarios twf a gyflwynir yn dylanwadu ar faint o dir sydd ei angen ar gyfer datblygiadau preswyl a chyflogaeth dros gyfnod y Cynllun. Mae'r senarios twf hyn yn sail i strategaeth y CDLl.
Mae'n bwysig bod yr angen am gartrefi a lefelau cyflogaeth yn cael eu hystyried gyda'i gilydd i sicrhau patrymau datblygu cynaliadwy. Mae adrannau cychwynnol y bennod hon yn ystyried y cyd-destun presennol a thueddiadau blaenorol y dylid eu hystyried wrth osod targedau tai a chyflogaeth. Mae'r adrannau olaf yn cyflwyno'r senarios.
8.1 Targedau blaenorol (Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd)
8.1.1 Roedd Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd blaenorol Ynys Môn a Gwynedd yn ceisio darparu 7,184 o unedau tai newydd. Roedd hyn yn cyfateb i darged o 3,480 o unedau newydd ar Ynys Môn, sef cyfradd o 232 o anheddau y flwyddyn.
8.1.2 Fodd bynnag, dim ond 3 gwaith y mae'r gofyniad dangosol blynyddol o 232 wedi cael ei fodloni (a rhagori arno). Cyfanswm cronnus y cyflawniadau ar gyfer Ynys Môn (hyd at 2024) yw 2,697, sy'n golygu bod diffyg o 551 ar hyn o bryd o'i gymharu â'r gofyniad cyfartalog blynyddol cronnus.
8.1.3 Bu diffyg yn y ddarpariaeth tai ar safleoedd a ddyrannwyd yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac mae cyfran fwy o lawer o dai wedi cael eu darparu ar hap-safleoedd o'i gymharu â'r hyn a ragwelwyd.
8.1.4 Y gwir gyfradd gyflawni gyfartalog dros gyfnod y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd hyd at 2024 yw 193 o anheddau y flwyddyn.
8.2 Tueddiadau demograffig
8.2.1 Yng Nghyfrifiad 2021, 68,878 oedd poblogaeth Ynys Môn, sef gwahaniaeth o -1.3% ers Cyfrifiad 2011, sy'n cyfateb i ostyngiad o 874 o bobl. Mae'r gostyngiad hwn yn is na'r hyn a welwyd rhwng Cyfrifiad 1991 a Chyfrifiad 2001 (-3.3%).
8.2.2 Rhwng 2011 a 2021, cynyddodd oedran cyfartalog (canolrifol) Ynys Môn dair blynedd, o 45 i 48 oed. Mae hyn yn uwch na'r oedran cyfartalog cenedlaethol (canolrifol) o 42 oed.
8.2.3 Mae newid yn y boblogaeth ar Ynys Môn wedi cael ei sbarduno gan gyfuniad o fudo mewnol i ac o fannau eraill yn y DU, a newidiadau i'r cydbwysedd rhwng genedigaethau a marwolaethau (newid naturiol). Y prif ffactorau sy'n sbarduno hyn yw gostyngiad yn y boblogaeth oedran gweithio (pobl oed gweithio yn symud o'r ardal) a chynnydd yn y boblogaeth mewn grwpiau oedran hŷn (pobl sydd wedi ymddeol).
Gostyngiad yn y boblogaeth oed gweithio
8.2.4 Rhwng 2011 a 2021, gostyngodd y boblogaeth oedran gweithio (rhwng 16 a 64 oed) 8%, neu tua 3,300 o bobl. Roedd hyn yn cael ei sbarduno gan ddau grŵp oedran:
- Nifer y bobl rhwng 35 a 49 oed) yn gostwng 17% (o tua 13,300 i 11,000)
- Nifer yr oedolion ifanc (15-29 oed) yn gostwng 14% (o tua 11,300 i 9,800)
Poblogaeth gynyddol mewn grwpiau oedran hŷn
8.2.5 Rhwng 2011 a 2021, bu cynnydd o 16% yn y boblogaeth 65 oed a hŷn, a chynnydd o 24% yn y boblogaeth 70 oed a hŷn.
8.2.6 Gyda'i gilydd, mae'r boblogaeth sy'n heneiddio yn creu straen ar wasanaethau, yn enwedig mewn ardaloedd fel Gogledd yr Ynys. Yn y tymor hir, byddai'n tanseilio gallu'r Ynys i ddenu cyflogwyr os yw'r gweithlu y gellir dibynnu arno yn lleihau.
8.3 Tueddiadau economaidd
8.3.1 Yng Nghyfrifiad 2021, amcangyfrifwyd bod 30,865 o bobl economaidd weithgar ar Ynys Môn; o'r rhain, cofnodwyd bod 1,662 yn ddi-waith. Roedd ychydig dros 26,000 o bobl 16 oed a hŷn yn cael eu hystyried yn 'economaidd anweithgar'.
8.3.2 Mae'r amcangyfrifon diweithdra diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos, yn dilyn dirwasgiad 2008, bod y cyfraddau diweithdra ar Ynys Môn yn dal yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol, ond ers 2014 mae'r gyfradd diweithdra ar Ynys Môn wedi bod yn gyson â'r duedd genedlaethol.
8.3.3 Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae nifer sylweddol o ddiwydiannau wedi cau, gyda dros 2,300 o swyddi uniongyrchol wedi cael eu colli. Mae hyn wedi gadael economi heb lawer o gyflogwyr mawr yn y sector preifat a dibyniaeth ar y sector cyhoeddus. Mae Ynys Môn yn cael ei dominyddu gan yr economi sylfaenol dymhorol, ac yn enwedig twristiaeth, gyda dros 300,000 o ymwelwyr i'r Ynys ar adegau prysur o'i gymharu â phoblogaeth o 69,000.
|
Blwyddyn |
Cwmni |
Swyddi a gollwyd |
|---|---|---|
|
2004 |
Octel |
100 i 120 |
|
2008 |
Peboc |
60 |
|
2008 |
Eaton Electrical |
265 |
|
2009 |
Alwminiwm Môn |
300 i 400 |
|
2013 |
Welsh Country Foods |
300 i 350 |
|
2015 |
Wylfa |
300 i 350 |
|
2019 |
Rehau |
100 |
|
2019 |
Marco Cable Management |
40 |
|
2022 |
Orthios |
120 |
|
2023 |
2-Sisters |
730 |
|
Cyfanswm |
- |
2,315 i 2,535 |
8.3.4 Nid oes swyddi wedi dod yn lle’r rhain, gan adael economi sy'n ddibynnol iawn ar y sector cyhoeddus a chontractau’r sector cyhoeddus (lled-gyhoeddus), gydag ychydig iawn o gyfleoedd i gamu ymlaen yn y sector preifat.
8.4 Senarios arfaethedig
8.4.1 Mae angen i'r CDLl gynllunio ar gyfer anghenion tai a chyflogaeth yn y dyfodol. Ffordd addas o bennu faint o dwf sy'n debygol o ddigwydd yw drwy ystyried rhagolygon cyflogaeth a phoblogaeth.
8.4.2 Mae'r Cyngor wedi cynhyrchu Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LHMA), ac wedi comisiynu dadansoddiad a rhagolygon gan Edge Analytics (EA) ac Oxford Economics (OE).
Asesiad o’r Farchnad Dai Leol (LHMA)
8.4.3 Mae'r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol drafft yn darparu dadansoddiad eang o Farchnad Dai Ynys Môn, gan ystyried y gofynion hirdymor ar gyfer tai ar Ynys Môn. Ar hyn o bryd mae yn nwylo Llywodraeth Cymru i'w gymeradwyo. Mae'n cwmpasu'r cyfnod rhwng 2023 a 2028. Mae'n cael ei baratoi gan ddefnyddio pecyn cymorth LHMA safonol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Mae adnodd yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol yn dadansoddi anghenion tai mewn Ardaloedd Marchnad Dai penodol ar Ynys Môn. Mae'r ardaloedd hyn yn rhanbarthau lle mae pobl fel arfer yn byw ac yn symud heb newid swyddi. Mae naw ardal o'r fath ar Ynys Môn.
8.4.4 Mae adnodd yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol yn cyfrifo’r ffigurau angen am dai ar gyfer Ynys Môn ar sail tri senario rhagolygon aelwydydd: Amcanestyniadau Llywodraeth Cymru - Prif, Uwch ac Is
8.4.5 O dan y Prif amrywiolyn, yr angen blynyddol am dai ar Ynys Môn yw 269 o anheddau y flwyddyn dros y 5 mlynedd nesaf. Mae hyn wedi'i rannu rhwng tai fforddiadwy (248 o unedau) a'r farchnad (21 o unedau). O dan y senario uwch, yr angen yw 310 o anheddau y flwyddyn dros y 5 mlynedd nesaf wedi'u rhannu rhwng tai fforddiadwy (263 uned) a'r farchnad (47 uned). O dan y senario is, yr angen yw 236 o anheddau y flwyddyn dros y 5 mlynedd nesaf, pob un ohonynt yn dai fforddiadwy.
8.4.6 Y rhagamcaniad a ffefrir gan y LHMA drafft yw'r prif amrywiad. Roedd yna ffafriaeth sylweddol i fabwysiadu'r amrywiad uwch mewn ymgynghoriad ar yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol, ond gan ystyried y gostyngiad yn y boblogaeth rhwng 2011 a 2021, ystyriwyd mai'r prif amrywiad oedd y dewis mwyaf priodol.
8.4.7 Mae'r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol drafft yn nodi bod problem sylweddol o ran fforddiadwyedd ar yr Ynys. Mae prisiau tai ar gyfartaledd dros 7 gwaith yr incwm cyfartalog. Mae cyfuniad o gyflogau isel a phrisiau tai uchel, sydd wedi cael eu sbarduno ymhellach gan fewnfudo, yn arwain at farchnad dai ystumiedig lle mae'r LHMA yn cynnig y dylai 89% o'r ddarpariaeth tai fod yn dai fforddiadwy. Nid yw'n glir sut y gellid ariannu cyfran mor uchel o dai fforddiadwy.
8.4.8 Pe eid ar drywydd twf uwch mewn tai ar y farchnad agored, gallai hyn arwain at:
- a) Tai'r farchnad agored mwy fforddiadwy (i'w prynu a'u rhentu), a
- b) Mwy o hyfywedd o ran darparu tai fforddiadwy (h.y. tai â chymhorthdal)
Y Dull Safonol
8.4.9 Nid oes ateb syml o ran pa lefel o dwf tai marchnad fyddai'n cefnogi darparu tai fforddiadwy. Yn Lloegr, caiff yr angen am dai ei gyfrifo gan ddefnyddio'r “Dull Safonol” sy'n pennu'r angen am dai sy'n gysylltiedig â fforddiadwyedd tai yn yr ardal leol.
8.4.10 Mae fformiwla ragnodedig y llywodraeth y mae'n rhaid i awdurdodau cynllunio lleol yn Lloegr ei defnyddio i nodi eu hanghenion tai lleol blynyddol sylfaenol wedi'i nodi mewn canllawiau cynllunio cenedlaethol ac wedi'i chysylltu â'r Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol.
8.4.11 Mae'r dull yn gyfrifiad polisi, digyfyngiad. Mae'n nodi angen, nid y gofyniad tai terfynol (sy'n gallu amrywio yn dilyn penderfyniadau cynllunio, cyfyngiadau, a chyfleoedd fel twf cyflogaeth).
8.4.12 Y man cychwyn yw “Angen Sylfaenol” o 0.8% o'r stoc dai bresennol. Yna, ceir addasiad fforddiadwyedd yn seiliedig ar gyfartaledd pum mlynedd prisiau tai canolrifol yn erbyn incwm. Ar gyfer pob 1% mae'r gymhareb fforddiadwyedd yn fwy na 4, ac mae'r llinell sylfaen yn cael ei chynyddu 0.95 (95%). Wedyn dyma'r isafswm angen am dai blynyddol.
8.4.13 Gan gymhwyso'r fformiwla hon i Ynys Môn, yr Angen Sylfaenol fyddai 280 o unedau, a byddai'r addasiad fforddiadwyedd yn oddeutu 1.4, gan fynd â chyfanswm yr angen i tua 390 o anheddau bob blwyddyn, neu 5,850 dros gyfnod y Cynllun. Mae'n amlwg mai dim ond yn Lloegr y mae'r fethodoleg yn berthnasol, ond mae'n feincnod defnyddiol o ran lefel y ddarpariaeth tai y mae Llywodraeth y DU yn credu y byddai ei hangen o ystyried (an)fforddiadwyedd cymharol Ynys Môn.
Senarios Edge Analytics
8.4.14 Mae EA wedi cynhyrchu nifer o senarios i asesu twf tebygol y boblogaeth a chartrefi. Nid yw'r rhain yn cynnwys senario sy'n cael ei arwain gan gyflogaeth yn benodol nac un sy'n ystyried fforddiadwyedd tai. Fodd bynnag, maent yn gwneud cyfres o dybiaethau ynghylch y farchnad lafur. Dyma'r senarios:
|
Senario |
Disgrifiad |
|---|---|
|
LlC-2018 |
Wedi efelychu prif amcanestyniad 2018 LlC (blwyddyn sylfaen 2018). |
|
LlC-2018 (ailbennwyd) |
Yn efelychu prif amcanestyniad 2018 LlC, wedi'i ailbennu i MYE 2023 ac amcangyfrif aelwydydd LlC, gyda'r duedd wreiddiol yn cyfrif ar ôl hynny. |
|
Tuedd - 5 mlynedd |
Tybiaethau mudo wedi'u graddnodi o duedd hanesyddol 5 mlynedd (2018/19-2022/23), gan gynnwys addasiad UPC yn elfen fudo ryngwladol MYE (2001/02-2020/21). Mae gan y senario flwyddyn sylfaen o 2023. |
|
Tuedd - 15 mlynedd |
Tybiaethau Mudo wedi'u graddnodi o duedd hanesyddol 15 mlynedd (2008/09-2022/23), gan gynnwys addasiad UPC yn elfen fudo ryngwladol MYE (2001/02-2020/21). Mae gan y senario flwyddyn sylfaen o 2023. |
|
Arweinir gan anheddau - 5 mlynedd |
Yn modelu’r effaith ar dwf poblogaeth o ganlyniad i dwf anheddau blynyddol cyfartalog o +154 dpa, yn seiliedig ar hanes 5 mlynedd o gwblhau anheddau (2019/20-2023/24). Mae tybiaethau mudo yn cyd-fynd â'r senario Tuedd-5 mlynedd. |
|
Arweinir gan anheddau - 15 mlynedd |
Yn modelu’r effaith ar dwf poblogaeth o ganlyniad i dwf anheddau blynyddol cyfartalog o +121dpa, yn seiliedig ar hanes 15 mlynedd o gwblhau anheddau (2019/20-2023/24). Mae tybiaethau mudo yn cyd-fynd â'r senario Tuedd-5 mlynedd. |
8.4.15 Mae'r dadansoddiad yn nodi tueddiadau allweddol 2011-2021 o ostyngiad yn y boblogaeth (yn erbyn twf yn genedlaethol) a phoblogaeth sy'n heneiddio. Mae hefyd yn nodi bod amcangyfrifon canol blwyddyn (MYE) wedi goramcangyfrif twf y boblogaeth cyn Cyfrifiad 2021. Cafodd yr MYEs eu hailbennu yn 2023 (h.y. eu hôl-osod) i gyfateb i ganlyniadau gwirioneddol Cyfrifiad 2021.
8.4.16 Mae'r MYEs sydd wedi'u hailbennu yn dangos:
- Roedd cynnydd mewn mudo mewnol ers 2019 wedi'i sbarduno gan fewnlif o Orllewin Swydd Gaer, Caer a Lerpwl
- Roedd hyn wedi sbarduno twf (amcangyfrifiedig) yn y boblogaeth ers 2019 - genedigaethau yn gyson is na marwolaethau, felly fel arall byddai'n gostwng yn naturiol
- Mae mudo rhyngwladol yn cael effaith gyfyngedig ar Ynys Môn
8.4.17Mae amcanestyniadau poblogaeth (ac aelwydydd) swyddogol Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar MYEs cyn 2021 (felly mae ganddynt fan cychwyn anghywir) ac maent yn tybio cyfradd genedigaethau sy'n rhy uchel (2.0 yn 2018 gan godi i 2.1 erbyn 2043 tra bod y gyfradd a gofnodwyd yn 1.43 yn 2023).
8.4.18 Felly, mae gwaith EA yn nodi bod angen senarios pwrpasol wedi'u modelu. Mae eu senarios yn cynnwys y tybiaethau canlynol:
- Allgymudo sefydlog o Ynys Môn
- Cyfradd diweithdra sefydlog o 3.8%
- Twf y llafurlu (ar wahân i'r duedd-15 mlynedd) oherwydd twf mewn grwpiau oedran hŷn sy'n parhau i weithio
8.4.19 Mae EA yn cydnabod efallai na fydd y rhain yn bodoli yn wyneb newidiadau sylweddol yn y farchnad lafur neu gyflogaeth.
8.4.20 Mae'r senarios yn arwain at y canlyniadau twf poblogaeth canlynol:
|
Newid 2024-2039 |
Cyfartaledd fesul blwyddyn 2024-2039 |
|||
|---|---|---|---|---|
|
Newid yn y Boblogaeth |
Newid yn y Boblogaeth % |
Mudo Net |
Newid Naturiol |
|
|
Arweinir gan anheddau - 5 mlynedd |
2,726 |
3.9% |
619 |
-437 |
|
Arweinir gan anheddau - 15 mlynedd |
1,661 |
2.4% |
551 |
-441 |
|
Tuedd - 5 mlynedd |
1,156 |
1.7% |
518 |
-441 |
|
LlC-2018 |
-342 |
-0.5% |
311 |
-334 |
|
LlC-2018 (ailbennwyd) |
-376 |
-0.5% |
309 |
-334 |
|
Tuedd - 15 mlynedd |
-1,094 |
1.6% |
333 |
-406 |
8.4.21 Nid yw'r chwe senario yn cynnwys senario sy'n cael ei arwain gan gyflogaeth yn benodol nac un sy'n ystyried fforddiadwyedd tai. Fodd bynnag, maent yn gwneud cyfres o dybiaethau ynghylch y farchnad lafur.
8.4.22 Mae'r tabl isod yn nodi'r twf blynyddol cyfartalog mewn anheddau o dan y gwahanol senarios.
|
Newid 2024-2039 |
Twf Cyfartalog Blynyddol mewn Anheddau |
||
|---|---|---|---|
|
Newid Aelwydydd |
Newid Aelwydydd % |
||
|
Arweinir gan anheddau - 5 mlynedd |
2,145 |
6.8% |
154 |
|
Arweinir gan anheddau - 15 mlynedd |
1,683 |
5.4% |
121 |
|
Tuedd-5 mlynedd |
1,467 |
4.7% |
105 |
|
LlC-2018 |
469 |
1.5% |
34 |
|
LlC-2018 (ailbennwyd) |
463 |
1.5% |
33 |
|
Tuedd-15 mlynedd |
226 |
0.7% |
16 |
Senarios Oxford Economics
8.4.23 Mae rhagolygon OE yn seiliedig ar gyflogaeth a thybiaethau ynghylch sut mae'r farchnad lafur yn ymateb, gan gynnwys newidiadau mewn patrymau cymudo a chyfraddau cyflogaeth, ond nid ydynt wedi'u cysylltu'n benodol â darparu tai.
8.4.24 Mae'r tabl canlynol yn nodi'r senarios twf ar gan OE. Mae'r rhain yn cael eu harwain gan gyflogaeth, ac mae'r model yn tybio bod y farchnad lafur (cyfraddau cyflogaeth a phatrymau cymudo) a mudo yn ymateb i'r cynnydd mewn swyddi.
8.4.25 Mae Senario A yn cynnwys 4,500 o swyddi ychwanegol wedi'u hychwanegu fel mewnbwn i'r model yn 2039 i gyfrif am swyddi newydd yn y Porthladd Rhydd. Mae'r rhain i gyd yn swyddi parhaol. Mae'r rhain wedyn yn creu 3,200 o swyddi eraill drwy'r gadwyn gyflenwi ac effeithiau lluosydd cyflogaeth.
8.4.26 Mae Senario B yn cynnwys 7,600 o swyddi ychwanegol wedi'u hychwanegu fel mewnbwn i'r model yn 2039 i gyfrif am swyddi newydd yn y Porthladd Rhydd ac yn Wylfa. Mae'r rhain wedyn yn creu 5,000 o swyddi eraill drwy'r gadwyn gyflenwi ac effeithiau lluosydd cyflogaeth. Fodd bynnag, nid yw'r rhain i gyd yn swyddi parhaol - mae 3,000 o swyddi adeiladu dros dro yn gysylltiedig â Wylfa yn 2039. Erbyn i'r gwaith adeiladu ddod i ben (yn 2045, ar ôl cyfnod y Cynllun) bydd 5,200 o swyddi parhaol ychwanegol. Mae rhagolygon OE yn “ddigyfyngiad” gan nad ydynt yn tybio y bydd cystadleuaeth am weithwyr yn eu gwthio allan. Mae'r cynnydd mewn swyddi yn sbarduno newidiadau mewn patrymau cymudo, cyfraddau cyflogaeth a phoblogaeth (mewnfudo).
|
Cyngor Sir Ynys Môn |
2025 |
2039 |
Newid |
% Newid |
|---|---|---|---|---|
|
Gwaelodlin |
- |
- |
- |
- |
|
Swyddi |
25,903 |
27,595 |
1,691 |
6.53% |
|
Allgymudo |
4,961 |
5,447 |
486 |
9.90% |
|
Cyfradd cyflogaeth |
50.65% |
51.83% |
1.18% |
2.32% |
|
Poblogaeth |
69,463 |
72,531 |
3,069 |
4.42% |
|
- |
- |
- |
- |
- |
|
Senario A |
- |
- |
- |
- |
|
Swyddi |
- |
35,280 |
9,376 |
36.20% |
|
Allgymudo |
- |
3,858 |
-1,103 |
-22.23% |
|
Cyfradd cyflogaeth |
- |
57.68% |
7.03% |
13.88% |
|
Poblogaet |
- |
76,875 |
7,412 |
10.67% |
|
- |
- |
- |
- |
- |
|
Senario B |
- |
- |
- |
- |
|
Swyddi |
- |
40,160 |
14,256 |
55.04% |
|
Allgymudo |
- |
2,841 |
-2,120 |
-42.74% |
|
Cyfradd cyflogaeth |
- |
60.43% |
9.77% |
19.29% |
|
Poblogaeth |
- |
80,461 |
10.998 |
15.83% |
Y Senarios
8.4.27 Mae'r senarios twf isod yn ystyried demograffeg, tueddiadau'r gorffennol, ffactorau polisi a'r berthynas rhwng tai a'r economi leol. Mae rhai hefyd yn ystyried ymyriadau ar raddfa fawr yn Wylfa, a'r dynodiad Porthladd Rhydd. Mae gan bob senario orwel rhagolwg o 2039.
|
Rhif senario |
Enw'r Senario |
Twf cyflogaeth cyfartalog blynyddol |
Anheddau y Flwyddyn |
Cyfanswm Nifer yr Anheddau (2024-2039) |
|---|---|---|---|---|
|
1 |
LHMA identified needs |
X |
269 |
4,035 |
|
2 |
“Standard Method” |
X |
390 |
5,850 |
|
3 |
Dwelling-led 5 year |
98 |
154 |
2,310 |
|
4 |
Dwelling-led 15 year |
66 |
121 |
1,815 |
|
5 |
Trend 5 year |
49 |
105 |
1,575 |
|
6 |
WG - 2018 |
2 |
34 |
510 |
|
7 |
WG (rebased) |
-0.4 |
33 |
495 |
|
8 |
Trend 15 year |
2 |
16 |
240 |
|
9 |
OE Baseline |
113 |
100 |
1,500 |
|
10 |
Freeport |
106 |
239 |
3,585 |
|
11 |
Freeport & Wylfa |
588 |
356 |
5,340 |
8.4.28 Mae amrywiad sylweddol ar draws y senarios a gyflwynir uchod. Nid yw gwaith EA nac OE yn gwneud unrhyw ragdybiaethau ynghylch fforddiadwyedd i drigolion a gweithwyr lleol nac yn asesu hynny.
8.4.29 Mae EA yn dangos twf cyflogaeth is ond twf uwch mewn aelwydydd. Y rheswm am y twf uwch mewn aelwydydd yw bod gwaith EA yn ystyried y galw am dai gan boblogaeth sy'n heneiddio sydd â nifer cynyddol o aelwydydd un person. Nid yw'r model OE yn gwneud hynny - mae'n tybio mai maint cyfartalog aelwyd yw 2.21.
8.4.30 Mae'n annhebygol y bydd senarios sy'n seiliedig ar dueddiadau yn newid taflwybr diweddar Ynys Môn o newid naturiol sy’n lleihau’r boblogaeth, pobl o'r prif oedran gweithio yn allfudo, pobl sydd wedi ymddeol yn mewnfudo a thai sy'n fwyfwy anfforddiadwy.
8.4.31 Mae datblygiadau yn Wylfa a'r Porthladd Rhydd yn darparu cyfleoedd enfawr i'r Ynys fynd yn groes i dueddiadau demograffig a chyflogaeth negyddol diweddar drwy ddarparu swyddi lleol. Fodd bynnag, rhaid ystyried y cyfleoedd hyn ochr yn ochr â'r risgiau y gallent ddwysáu materion fforddiadwyedd heb gynllunio a rheoli'r effeithiau'n briodol.
8.4.32 Mae angen i'r CDLl ymateb yn briodol i'r cyfleoedd a ddarperir gan Wylfa a'r Porthladd Rhydd a manteisio arnynt. Mae hyn yn cynnwys cydnabod nad yw taflwybr “busnes fel arfer” sy'n seiliedig ar dueddiadau diweddar yn debygol o fod y senario mwyaf priodol yn y dyfodol ar gyfer y CDLl.
8.4.33 Byddai cynllunio ar gyfer twf sylweddol uwch hefyd yn helpu i fynd i'r afael â fforddiadwyedd. Mae problemau fforddiadwyedd wedi codi'n rhannol oherwydd nad oes digon o dai ar gael. Byddai mwy o gartrefi marchnad yn golygu y byddai mwy o gartrefi ar gael i breswylwyr, gydag effaith gadarnhaol ar fforddiadwyedd oherwydd mwy o gyflenwad. Gellid dadlau bod her fforddiadwyedd hyd yn oed yn bwysicach mewn sefyllfa lle mae potensial sylweddol ar gyfer cyflogaeth ac felly twf poblogaeth ar Ynys Môn drwy'r Porthladd Rhydd a chyhoeddi datblygiad yn Wylfa.
8.4.34 Mae gallu trigolion i brynu a rhentu tai yn lleol yn allweddol i gadw buddion mwy o gyflogaeth - os nad, hyd yn oed gyda chyfleoedd cyflogaeth newydd, efallai y bydd darpar weithwyr yn dewis cymudo o leoliad mwy fforddiadwy ac felly'n gwario eu hincwm mewn mannau eraill.
8.4.35 Byddai cynllunio ar gyfer twf uwch yn y CDLl hefyd yn sicrhau bod twf sy'n debygol o ddigwydd, ni waeth beth fo'r CDLl, yn cael ei gynllunio'n briodol, yn cael ei leoli'n gynaliadwy ac yn manteisio i'r eithaf ar y buddion a ddaw yn sgil y datblygiadau hyn.
8.5 Ystyriaethau cyflenwi
8.5.1 Ar ôl ystyried anghenion digyfyngiad yr ardal, mae'n bwysig hefyd ystyried y cyflenwad posibl ac unrhyw ffactorau eraill a allai gyfyngu ar y ddarpariaeth y dylid eu hystyried wrth osod targed twf realistig y gellir ei gyflawni.
Cyflenwad i'r Dyfodol
8.5.2 Disgwylir i nifer o wahanol ffynonellau gyfrannu at y cyflenwad tai i gyflawni CDLl newydd Ynys Môn. Gellir crynhoi'r rhain fel a ganlyn:
- Cwblhau - anheddau a gwblhawyd ers dechrau cyfnod y CDLl newydd (o 1 Ebrill 2024).
- Ymrwymiadau - anheddau gyda chaniatâd cynllunio presennol y disgwylir iddynt gael eu cwblhau dros gyfnod y CDLl newydd. Mae hyn yn cynnwys safleoedd sydd â chaniatâd cynllunio sydd naill ai wedi dechrau cael eu datblygu neu sydd heb ddechrau eto (ond lle disgwylir i'r datblygiad ddechrau).
- Lwfans hap-safleoedd - safleoedd heb eu dyrannu y rhagwelir y byddant yn cael eu datblygu dros gyfnod y CDLl newydd ar safleoedd bach a mawr. Bydd tueddiadau cyflawni yn y gorffennol yn cefnogi'r cyfraniad y gall y safleoedd hyn ei wneud i'r cyflenwad tai.
- Dyraniadau Tai Newydd - safleoedd i'w dyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl yn y CDLl newydd.
8.5.3 O ran ymrwymiadau a dyraniadau tai newydd, bydd angen i'r Cyngor amcangyfrif amseroedd arwain (o ganiatâd i gyflawni) a chyfraddau adeiladu (faint o dai fydd yn cael eu cwblhau bob blwyddyn). Bydd y Cyngor yn asesu amseroedd arwain a chyfraddau adeiladu ar safleoedd mawr yn y gorffennol i ddangos tystiolaeth ynghylch tybiaethau o ran sut y gellir cyflawni ymrwymiadau a dyraniadau yn y dyfodol.
8.5.4 Bydd y Cyngor hefyd yn gwerthuso sut y bydd datblygiadau ar hap (e.e. safleoedd heb eu dyrannu) yn darparu tai yng nghyfnod y Cynllun newydd. Bydd hyn yn cynnwys asesu cyfraddau datblygu ar hap yn y gorffennol, gan gynnwys lleoliad a'r math o dai a gyflenwyd.
Galwad am Safleoedd
8.5.4 Cynhaliwyd galwad am safleoedd rhwng 12 Mai 2025 a 4 Awst 2025. Gwahoddwyd cynigwyr safleoedd i awgrymu tir a allai fod yn addas ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau. Bydd y Cyngor yn cyhoeddi cofrestr y safleoedd ymgeisiol ochr yn ochr â'r Strategaeth a Ffefrir.
Cyfyngiadau amgylcheddol ac ystyriaethau eraill
8.5.5 Bydd y CDLl hefyd yn ystyried ffactorau eraill a allai bennu pa lefelau twf y gellir eu cyflawni, gan gynnwys cyfyngiadau amgylcheddol, capasiti seilwaith cymdeithasol a ffisegol, rôl a swyddogaeth lleoedd, hyfywedd safleoedd, lefelau angen tai fforddiadwy.
8.5.6 Mae'r cyfyngiadau amgylcheddol ffisegol i ddatblygiad yn ardal y Cynllun y mae angen eu hystyried fel rhan o dwf a dosbarthiad gofodol tai yn ardal y Cynllun yn cynnwys:
- Tirwedd Genedlaethol Ynys Môn - sy'n cwmpasu’r rhan fwyaf o arfordir Ynys Môn.
- Dynodiadau rhyngwladol gan gynnwys Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) a safleoedd RAMSAR.
- Dynodiadau cenedlaethol gan gynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (GNG) a thirweddau hanesyddol fel Ardaloedd Cadwraeth.
- Tirweddau sy'n bwysig yn lleol, gan gynnwys Ardaloedd Tirwedd Arbennig (ATA).
- Ardaloedd â risg llifogydd - mae sawl rhan o ardal y Cynllun, gan gynnwys rhannau o aneddiadau, yn wynebu risg llifogydd.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
- A oes unrhyw gyfyngiadau heb eu cynnwys? Sylw