Ymgynghoriad ar Weledigaeth, Amcanion ac Opsiynau
Pennod 9
Opsiynau Gofodol
9.0 Cyflwyniad
Mae'n rhaid i'r CDLl ystyried nid yn unig faint o ddatblygu sydd ei angen (fel yr amlinellir ym Mhennod 8) ond hefyd ble dylid cyfeirio'r datblygiad hwn. Cyflwynir y penderfyniad ynghylch ble y dylid canolbwyntio twf yn y bennod hon drwy gyfres o opsiynau gofodol.
Mae'r opsiynau gofodol a gyflwynir yn dangos sut y gellid darparu'r ystod o gartrefi a chyflogaeth a amlinellir ym Mhennod 8 ar draws yr Ynys. Mae'r opsiynau wedi cael eu datblygu ar sail nifer o fewnbynnau allweddol fel yr amlinellir yn Ffigur 9.1 isod. Ystyrir bod pob un ohonynt yn realistig gan eu bod yn ceisio mynd i'r afael ag amcanion drafft y Cynllun a'u bod yn cydymffurfio â pholisïau a blaenoriaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol a amlinellir ym Mhennod 2. Mae'r opsiynau amgen yn darparu senarios datblygu gofodol penodol a fyddai'n arwain at ganlyniadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd gwahanol i'r Ynys.
Ar y cam hwn o baratoi'r CDLl, nid oes unrhyw safleoedd penodol wedi cael eu dewis.
9.1 Opsiynau arfaethedig
Opsiwn Gofodol A: Canolbwyntio ar aneddiadau allweddol
Disgrifiad
9.1.1 Byddai Opsiwn A yn canolbwyntio'r datblygu ar aneddiadau allweddol sylfaenol (canolfannau gwasanaethau is-ranbarthol a chanolfannau gwasanaethau trefol) Caergybi, Llangefni, Amlwch a Phorthaethwy. Mae'n barhad cyffredinol o'r strategaeth ofodol bresennol a nodir yn y CDLlC presennol. Fodd bynnag, mae dosbarthiadau rhai aneddiadau wedi newid o ganlyniad i'r Astudiaeth Aneddiadau wedi'i diweddaru. Mae Caergybi wedi cael ei hail-ddosbarthu'n ganolfan Is-ranbarthol ac mae Porthaethwy wedi cael ei huwchraddio o Ganolfan Gwasanaethau Lleol i Ganolfan Gwasanaethau Trefol.
9.1.2 Byddai'r opsiwn hwn yn dosbarthu twf newydd yn bennaf i safleoedd mawr yng Nghaergybi, Llangefni, Amlwch a Phorthaethwy neu o'u cwmpas, ac i safleoedd bach i ganolig yn y rhan fwyaf o Ganolfannau Gwasanaethau Lleol a Phentrefi yn ardal y CDLl. Byddai ffocws ar safleoedd tir llwyd ac adfywio canolfannau trefol. Byddai twf yn yr holl aneddiadau eraill wedi'i gyfyngu i'r cyflenwad presennol o fanciau tir, hap-safleoedd, addasu unedau presennol, a chwblhau aneddiadau. Byddai'r dull hwn yn gymesur â maint, rôl, cymeriad a chapasiti amgylcheddol yr anheddiad.
Nodweddion allweddol
- Mae'n cefnogi nodau ac amcanion Cymru'r Dyfodol drwy gydnabod Caergybi fel y prif anheddiad ar yr Ynys.
- Mae cyfran sylweddol o safleoedd cyflogaeth wedi'u lleoli yn y pedwar anheddiad allweddol hyn.
- Cyfle i ddarparu datblygiadau dwysedd uwch mewn ardaloedd trefol sy'n lleihau'r tir sydd ei angen i ddiwallu anghenion twf.
- Dibynnu'n drwm ar dir trefol llwyd. Gall hyn beri heriau o ran adfer a hyfywedd. Efallai na fydd digon o safleoedd tir llwyd ar gael i ddiwallu anghenion twf.
- Byddai'r rhan fwyaf o'r tai marchnad a thai fforddiadwy yn cael eu darparu mewn nifer cyfyngedig o aneddiadau allweddol gyda datblygiad cyfyngedig yn cael ei gyfeirio at aneddiadau ac ardaloedd gwledig 'llai' gan arwain at fethiant posibl i ddiwallu anghenion datblygu cymunedau gwledig.
- Mae ffocws trefol yn debygol o wella'r defnydd o drafnidiaeth gynaliadwy sy'n canolbwyntio'n gyffredinol ar leoliadau trefol hygyrch.
- Mae darparu safleoedd ar raddfa fwy yn fwy tebygol o gefnogi gofynion seilwaith sylweddol na nifer fwy o safleoedd llai.

Opsiwn Gofodol B: Datblygiad Gwasgaredig
Disgrifiad
9.1.3 Byddai'r opsiwn hwn yn gwasgaru datblygiad ar draws pob anheddiad ar lefel sy'n gymesur â maint pob anheddiad yn seiliedig ar y boblogaeth ym mhob anheddiad, yn debyg i Opsiwn A. Fodd bynnag, byddai'r Opsiwn hwn yn rhoi mwy o ffocws ar gymunedau gwledig ac yn gwasgaru mwy o'r twf newydd i bob anheddiad, pentrefi'r ardal, pentrefi gwledig a chlystyrau nag a nodwyd yn Opsiwn A.
9.1.4 Byddai nifer y cartrefi newydd a ddyrannwyd ym mhob anheddiad yn adlewyrchu maint yr anheddiad, ar sail nifer yr anheddau/poblogaeth a oedd yn yr anheddiad hwnnw bryd hynny. Byddai llawer llai o dwf yn cael ei gyfeirio i Gaergybi, Llangefni, Amlwch a Phorthaethwy a'r Aneddiadau Allweddol Sylfaenol na'r holl opsiynau eraill.
Nodweddion allweddol
- Byddai datblygiad yn cael ei rannu'n gyfartal ar draws yr Ynys, yn gymesur â maint yr anheddiad. Gallai hyn helpu i gryfhau bywiogrwydd mwy o aneddiadau a lleihau patrymau allgáu cymdeithasol ac arwahanrwydd.
- Potensial i ddosbarthu cyfleoedd cyflogaeth yn ehangach mewn ardaloedd gwledig.
- Byddai datblygiad ar draws ardal ehangach o bosibl yn golygu bod pobl yn cael eu lleoli ymhellach oddi wrth wasanaethau a chyfleusterau.
- Pwysau mawr i ddatblygu ar dir maes glas a allai effeithio ar asedau amgylcheddol a nodweddion tirwedd.
- Mae’n darparu'r ystod fwyaf o safleoedd a chyfleoedd i ddatblygwyr, yn enwedig ar gyfer datblygiadau preswyl.
- Byddai'n cyfrannu at flaenoriaethau cenedlaethol a lleol ar gyfer cymunedau gwledig cynaliadwy, gan fynd i'r afael â diboblogi gwledig a heriau demograffig.
- Byddai'n cyfyngu ar ddefnyddio safleoedd tir llwyd trefol.
- Sicrhau'r dosbarthiad mwyaf posibl o dai fforddiadwy
- Llai o gyfleoedd i greu lleoedd strategol a chyflawni gwelliannau seilwaith ar raddfa fawr
- Problemau tebygol o ran darparu cysylltedd cynaliadwy a theithio llesol. Mae pobl yn debygol o orfod teithio mwy, o fewn opsiynau cynaliadwy cyfyngedig.

Opsiwn Gofodol C: Ffocws ar Goridorau Trafnidiaeth
Disgrifiad
9.1.5 Byddai'r opsiwn hwn yn canolbwyntio'r datblygu ar hyd coridor yr A55 sy'n rhedeg o Borthaethwy i Gaergybi. Byddai hefyd yn ffafrio safleoedd sydd â mynediad hawdd at ganolfannau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaergybi, Llangefni, Llanfairpwll, Bodorgan, Tŷ Croes, Rhosneigr a'r Fali. Byddai dosbarthiad datblygiad cymesur yn cael ei gyfeirio ar draws yr aneddiadau allweddol hyn. Byddai'r opsiwn hwn yn dosbarthu cyfran uwch o dwf i Gaergybi, Llangefni a Phorthaethwy (fel pwyntiau mynediad allweddol i'r A55), yn ogystal â Chanolfannau Gwasanaethau Lleol a Phentrefi yn y canolfannau trafnidiaeth gyhoeddus neu'n agos atynt.
Nodweddion allweddol
- Mae coridor yr A55 yn cyd-fynd â 3 o'r 4 anheddiad allweddol sef Caergybi, Llangefni a Phorthaethwy. Fodd bynnag, ni fyddai'r opsiwn hwn yn sicrhau'r datblygiad mwyaf posibl yn Amlwch, sy'n anheddiad allweddol yn yr Hierarchaeth Aneddiadau
- Mae'r rhan fwyaf o'r safleoedd cyflogaeth presennol o fewn neu'n agos at goridor yr A55.
- Gallai canolbwyntio ar fynediad ffordd annog i fathau anghynaliadwy o deithio fod yn fwy deniadol.
- Mae'n anwybyddu rôl aneddiadau cynaliadwy mewn mannau eraill yn Ynys Môn.
- Byddai'n cefnogi Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru 2025-2030 (Drafft) sy'n annog strategaeth cynllunio trefol sy'n canolbwyntio ar greu datblygiadau dwysedd uchel, defnydd cymysg o amgylch canolfannau trafnidiaeth gyhoeddus.
- Byddai'r rhan fwyaf o'r tai marchnad a thai fforddiadwy yn cael eu darparu mewn nifer cyfyngedig o aneddiadau, gan adael rhai ardaloedd ag anghenion heb eu diwallu o bosibl.
- Byddai canolbwyntio twf o amgylch canolfannau trafnidiaeth gynaliadwy yn lleihau'r angen i deithio mewn car a gallai annog newid dulliau teithio.

9.1.6 Bydd eich barn a'ch sylwadau yn ein helpu i ddewis y Strategaeth Ofodol a Ffefrir ar gyfer y CDLl newydd. Gall y strategaeth ofodol a ffefrir fod yn un o'r opsiynau a gyflwynir yma neu'n gyfuniad ohonynt. Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn ystyried yr holl sylwadau a gafwyd, ochr yn ochr â'r safleoedd arfaethedig (a gyflwynwyd drwy'r alwad am safleoedd), y sylfaen dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg a mewnbwn gan randdeiliaid allweddol i ddewis y strategaeth a ffefrir.