Ymgynghoriad ar Weledigaeth, Amcanion ac Opsiynau
Pennod 4
Materion, heriau a chyfleoedd allweddol sy’n wynebu Ynys Môn
4.0 Cyflwyniad
Mae’r materion, yr heriau a’r cyfleoedd allweddol sy’n wynebu Ynys Môn wedi cael eu nodi drwy ystyried deddfwriaethau, polisïau a chanllawiau cynllunio cenedlaethol, adolygu blaenoriaethau strategol y Cyngor ac ymgysylltu cychwynnol â rhanddeiliaid. Ar ben hynny, mae adolygiad o gynlluniau a strategaethau'r Cyngor, yn ogystal ag Adroddiadau Monitro Blynyddol, wedi rhoi mewnwelediad gwerthfawr i’r materion y mae angen rhoi sylw iddynt. Mae'r materion, yr heriau a'r cyfleoedd allweddol wedi cael eu grwpio yn ôl thema.
4.1 Thema: Cefnogi Economi Gynaliadwy a Bywiog
4.1.1 Cymharol ychydig o swyddi sydd ar yr Ynys i gynnal ei phoblogaeth breswyl. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, collwyd nifer sylweddol o swyddi ar ôl cau cyflogwyr mawr, gan arwain at lawer o allgymudo ac allfudo.
4.1.2 Mae Cynllun y Cyngor yn nodi'r Economi fel un o'i chwe amcan strategol. Nod parhaus y Cyngor yw cefnogi busnesau presennol, denu buddsoddiad newydd priodol a chynyddu nifer y busnesau newydd wrth ymrwymo i sicrhau bod gan yr Ynys un o’r cyfraddau isaf o fusnesau sy’n cau ledled Cymru. Mae’r ymrwymiad i ailddatblygu hen safleoedd cyflogaeth (maes llwyd) yn glir, fel y mae cydweithio â thirfeddianwyr i gyflawni hyn.
4.1.3 Mae Gogledd Ynys Môn yn wynebu heriau economaidd yn fwy nag unrhyw ran arall o'r Ynys o ystyried colli nifer o gyflogwyr mawr yn yr ardal dros y degawdau diwethaf a'i natur ymylol cymharol a'i phellter o asgwrn cefn yr A55. Yn unol â hynny, mae angen mynd i’r afael â’r heriau economaidd sy’n wynebu’r ardal er mwyn sicrhau ei ffyniant a’i lles yn y dyfodol. Un cyfle allweddol yma yw'r datblygiad yn Wylfa. Mae Cynllun Adfywio Economaidd Gogledd Ynys Môn yn amlinellu amrywiaeth o ymyriadau i sicrhau gwelliannau a manteision parhaol i’r ardal. Bydd ymateb y CDLl newydd i’r sefyllfa economaidd yng ngogledd Ynys Môn yn cael ei lywio gan yr egwyddorion a amlinellir yn y Cynllun Adfywio Economaidd.
4.1.4 Mae’r angen i gadw’r boblogaeth oed gweithio i ysgogi adfywiad economaidd a chymunedol yn hollbwysig. O’r herwydd, mae’n bwysig meithrin a thyfu busnesau lleol yn ogystal â denu buddsoddiad newydd i Ynys Môn. Bydd angen i’r CDLl newydd alluogi twf busnes drwy ddyrannu tir cyflogaeth yn briodol ac yn gymesur.
4.1.5 Mae gan sicrhau statws Porthladd Rhydd y potensial i sicrhau newid trawsnewidiol mewn cymunedau ar draws Ynys Môn. Gydag amcanestyniadau'n awgrymu y gallai greu miloedd o swyddi newydd, hyd at 13,000-20,000 o bosibl erbyn 2030, bydd angen i'r CDLl newydd ymateb i anghenion y Porthladd Rhydd a mynd i'r afael â materion sy'n deillio o roi’r statws. Dylai’r ymrwymiad i arloesi a buddsoddi a chefnogi talent leol ddarparu cyfleoedd i ddenu buddsoddiad sylweddol o’r tu allan i gefnogi ac amrywio sylfaen economaidd yr Ynys, gan greu swyddi cynaliadwy a hygyrch ar yr un pryd a fydd yn cyfrannu at gadw’r boblogaeth oed gweithio.
4.1.6 O ystyried y tir sydd wedi’i ymrwymo i’r Porthladd Rhydd, a fydd yn cynnwys cyfran fawr o dir cyflogaeth sydd wedi’i ddyrannu ar hyn o bryd yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, mae angen ystyried ac asesu addasrwydd tir arall i’w ddyrannu at ddibenion economaidd cyffredinol.
4.1.7 Mae’r angen i gefnogi a hwyluso ynni carbon isel fel ffordd o gyfrannu at gyrraedd targedau sero net wedi’i amlinellu yng Nghynllun y Cyngor o dan y Rhaglen Ynys Ynni. Nod Rhaglen Ynys Ynni yw darparu cyfleoedd ar gyfer swyddi, twf economaidd a ffyniant drwy fanteisio ar nifer o brosiectau trawsnewidiol a rhoi Ynys Môn ar flaen y gad o ran ymchwil a datblygu ynni carbon isel. Mae cwmpas y buddsoddiad posibl yn y cyswllt hwn yn sylweddol a bydd yn sicr yn gwireddu manteision amgylcheddol ac economaidd i’r Ynys o ran cyfrannu at leihau allyriadau carbon a chreu swyddi ymysg eraill.
4.1.8 Prynodd Llywodraeth y DU safle Wylfa ym mis Mawrth 2024. Ym mis Tachwedd 2025, dewiswyd Wylfa fel y safle cyntaf yn y DU ar gyfer Adweithyddion Modiwlaidd Bach. Bydd 3 adweithydd ar y safle i ddechrau, gyda'r posibilrwydd o 5 adweithydd ychwanegol yn y dyfodol. Bydd manteision economaidd y prosiect hwn yn helpu i adfywio gogledd Ynys Môn, sydd ar hyn o bryd yn wynebu nifer o heriau economaidd-gymdeithasol sylweddol.
4.1.9 Bydd y CDLl newydd yn ceisio darparu sail polisi gadarn ar gyfer gwireddu manteision prosiectau mawr tra’n sicrhau bod unrhyw effeithiau amgylcheddol niweidiol a allai godi naill ai’n cael eu hosgoi neu eu lliniaru’n briodol.
4.1.10 Mae Ynys Môn wedi cael ei dynodi'n barth twf deallusrwydd artiffisial. Bwriad y statws hwn yw cyflymu'r broses o gymeradwyo cynlluniau ar gyfer canolfannau data, rhoi gwell mynediad iddynt at y grid a denu buddsoddiad o bob cwr o'r byd.
4.1.11 Gan ystyried pwysigrwydd parhaus amaethyddiaeth a gwasanaethau cysylltiedig i economi’r Ynys, mae angen rhoi sylw i ofynion amaethyddol yn ogystal â chyfleoedd i gefnogi, cynnal ac amrywio’r economi wledig.
4.1.12 Hefyd, rhaid i’r sector ymateb i’r heriau a osodir gan newid yn yr hinsawdd ac adfer natur a, gyda newidiadau mewn pwyslais i’r fframwaith cymhorthdal amaethyddol, bydd mwy o bwyslais ar yr angen i arallgyfeirio busnesau i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn hyfyw. Bydd economi wledig fwy amrywiol yn gallu gwrthsefyll newid a chynnal cymunedau gwledig yn well.
4.1.13 Mae canol trefi’n cael ei ystyried yn ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Ynys Môn, ac maent yn ganolfannau ar gyfer gwasanaethau a chyfleusterau nad ydynt ar gael o bosibl mewn mannau eraill ar yr Ynys. Mae Strategaeth Gwella Canol Trefi 2023-2028 y Cyngor yn nodi fframwaith ar gyfer gwella apêl, hyfywedd a bywiogrwydd canol trefi. Mae canol trefi wedi wynebu nifer o newidiadau difrifol fel twf mewn adwerthu ar gyrion trefi neu y tu allan iddynt, colli gwasanaethau traddodiadol yng nghanol trefi fel banciau'r stryd fawr, ac mae’r twf mewn adwerthu ar-lein wedi herio canol trefi'n sylweddol. Efallai y bydd mabwysiadu dull wedi'i addasu o adfywio canol trefi yn briodol.
4.1.14 Mae prif ganolfannau trefol Ynys Môn, sef Caergybi, Llangefni ac Amlwch i gyd wedi gweld gostyngiad mewn meddiannaeth “traddodiadol” ar y stryd fawr, tra bod canolfannau Porthaethwy a Biwmares yn gymharol fywiog o’u cymharu. Mae Cynllun y Cyngor yn gosod y nod o wella bywiogrwydd a hyfywedd canol trefi Ynys Môn a gellir cefnogi hyn gyda pholisïau priodol yn y CDLl newydd.
4.1.15 Mae’r economi ymwelwyr yn hanfodol i ffyniant yr Ynys ac yn cynrychioli sector mwyaf yr economi leol. Mae Cynllun y Cyngor yn amlinellu ymrwymiad y Cyngor i fuddsoddi mewn seilwaith a fydd yn caniatáu i ymwelwyr fwynhau arfordir a chefn gwlad yr Ynys i’r graddau mwyaf posibl mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy tra bydd llwyddiant y mordeithiau sy’n ymweld ag Ynys Môn yn parhau i gael ei gefnogi.
4.1.16 Mae’r Cynllun Rheoli Cyrchfan yn egluro’r angen i reoli’r twf mewn twristiaeth mewn ffordd gynaliadwy er mwyn sicrhau ffyniant hirdymor ar yr un pryd â lliniaru effeithiau amgylcheddol a chymunedol negyddol gyda’r bwriad o ddiogelu’r hyn sy’n gwneud yr Ynys yn ddeniadol i ymwelwyr yn y lle cyntaf.
4.1.17 Ffynonellau Perthnasol i gefnogi'r thema
- Cynllun Adfywio Economaidd Gogledd Ynys Môn
- Porthladd Rhydd
- Strategaeth Gwella Canol Trefi 2023-28
- Cynllun Rheoli Cyrchfan
4.2 Thema: Sicrhau mynediad at Gartrefi addas
4.2.1 Mae Cynllun y Cyngor yn nodi, fel un o'i brif amcanion, yr angen i sicrhau bod gan bawb yr hawl i alw rhywle yn gartref. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda rhanddeiliaid i nodi anghenion tai a thrwy hynny alluogi darpariaeth briodol i ddiwallu'r angen hwnnw a'r deiliadaethau gofynnol.
4.2.2 Mae maint cyfartalog aelwydydd yn lleihau, sy'n golygu ei bod yn debygol y bydd y galw am unedau llai yn cynyddu.
4.2.3 Mae Strategaeth Dai y Cyngor yn cynghori bod 62% o bobl leol yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai a, gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, mae hyn yn golygu y bydd ystod eang o atebion tai sy’n cynnig amrywiaeth o ddaliadaethau yn allweddol i fynd i’r afael ag anghenion tai.
4.2.4 Mae’r Asesiad o Farchnad Dai Leol Ynys Môn drafft yn nodi cymhareb canolrif pris tŷ i incwm canolrifol o 7.2 ar gyfer yr Ynys gyfan, o'i gymharu â 6.1 yng Nghymru a 5.8 yng Ngogledd Cymru. Mae fforddiadwyedd tai yn fater allweddol y bydd angen i'r Cynllun roi sylw iddo.
4.2.5 Mae difrifoldeb y broblem yn amrywio ar draws yr Ynys, ac ardaloedd arfordirol yn benodol yw'r rhai lleiaf fforddiadwy i drigolion lleol.

4.3.1 Mae’r anawsterau a brofir gan drigolion sy’n dymuno prynu neu rentu tai yn eu cymunedau wedi arwain at gyflwyno deddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Cymru sy’n galluogi awdurdodau cynllunio lleol i ystyried dileu neu gyfyngu ar hawliau datblygu a ganiateir (drwy roi cyfarwyddyd o dan Erthygl 4 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995) mewn perthynas â newid defnydd prif gartrefi yn ail gartrefi neu lety gwyliau tymor byr. Bydd yr angen i fynd i’r afael â’r mater hwn yn gofyn am ymateb polisi yn y CDLl newydd.
4.3.2 Mae anghenion poblogaeth sy’n heneiddio yn debygol o yrru’r galw am lety arbenigol lle gellir darparu gofal i breswylwyr. Yn yr un modd, bydd gan bobl ag anableddau ac anghenion meddygol ofynion penodol ar gyfer llety byw â chymorth a fydd yn galluogi’r rhai sy’n fwy dibynnol i fyw’n annibynnol yn eu cymunedau.
4.3.3 Mae anghenion llety’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu hamlinellu yn yr Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr (GTAA) 2022. Wedi’i gyflawni ar gyfer Cynghorau Ynys Môn a Gwynedd, mae’r Asesiad yn nodi’r angen am leiniau preswyl yn yr Ynys yn y dyfodol.
4.3.4 Ffynonellau Perthnasol i gefnogi'r thema
4.4 Thema: Darparu Seilwaith i Gefnogi Dyheadau Twf
4.4.1 Mae seilwaith yn y cyd-destun hwn yn cynnwys rhwydweithiau trafnidiaeth, rhwydweithiau cyfleustodau, cyfleusterau addysg (ysgolion cynradd ac uwchradd), cyfleusterau iechyd (meddygon teulu, fferyllwyr), seilwaith cymdeithasol (e.e. neuaddau cymunedol), seilwaith digidol (mynediad i'r rhyngrwyd) a seilwaith gwyrdd a glas (parciau a mannau agored).
4.4.2 Dylid cyfeirio datblygiadau at ardaloedd sydd â chysylltiadau da at seilwaith hanfodol, boed hynny mewn perthynas â charthffosiaeth a dŵr, nwy neu drydan. Dylid hefyd cyfeirio datblygiadau at ardaloedd lle mae mynediad at ofal iechyd ac addysg ar gael yn rhwydd. Lle byddai datblygiad yn arwain at bwysau ar wasanaethau o’r fath, dylid disgwyl cyfraniadau gan y datblygwr i alluogi addasu’r gwasanaeth.
4.4.3 Hefyd, o ystyried y pwysigrwydd a roddir ar gyfathrebu digidol ar gyfer anghenion bywyd a gwaith, dylid cyfeirio datblygiad lle bo cysylltedd o’r fath ar gael neu wedi’i gynllunio. Bydd y CDLl yn ystyried y cyfleoedd a ddarperir gan y newid i fwy o weithio gartref a gweithio hybrid, a allai gefnogi ffyniant a chymuned mewn ardaloedd mwy anghysbell.
4.4.4 Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar Drydedd Bont ar draws y Fenai yn 2018, ond ni wnaeth y prosiect ddatblygu oherwydd penderfyniad y Llywodraeth i atal ei rhaglenni adeiladu ffyrdd. Mae achosion diweddar o dagfeydd sylweddol wedi arwain at ailedrych ar y mater, gydag adroddiad Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2023. Roedd yr adroddiad, er nad oedd yn cefnogi adeiladu pont newydd, yn cynnwys nifer o argymhellion a fydd yn arwain at oblygiadau o ran defnydd tir pe baent yn cael eu rhoi ar waith. Fodd bynnag, gwrthododd y Cyngor ganfyddiadau’r Comisiwn gan nodi bod llawer o’r opsiynau a argymhellwyd, yr oedd casgliadau’r adroddiad yn seiliedig arnynt, wedi cael eu hystyried yn flaenorol gan y Cyngor ac na fyddent yn rhoi sylw digonol i’r diffyg gwytnwch sy’n bodoli. O ystyried hyn, byddai methu â darparu pont aml-ddull well yn gwaethygu heriau y mae economi a chymunedau Ynys Môn eisoes yn eu hwynebu.
4.4.5 Mae Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 yn nodi strategaeth 20 mlynedd ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy ar yr un pryd ag ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Mae’n cydnabod yr angen i newid y ffordd rydym yn teithio gyda llai o ddibyniaeth ar geir a defnyddio mwy ar drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded neu feicio ar yr un pryd ag argymell lleihau’r angen i deithio. Byddai hyn yn cael ei gyflawni drwy weithio mwy o gartref/o bell, cysylltedd ffisegol a digidol gwell i leihau’r ddibyniaeth ar geir a seilwaith trafnidiaeth a fyddai’n cefnogi dulliau teithio mwy effeithlon.
4.4.6 Rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru fapio a chynllunio ar gyfer llwybrau addas ar gyfer Teithio Llesol yn eu hardaloedd, a chymeradwywyd Map Rhwydwaith Teithio Llesol Ynys Môn gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2022. Bydd lleoli datblygiad yn agos at lwybrau Teithio Llesol yn annog pobl i’w defnyddio, gan sicrhau manteision iechyd, lles ac amgylcheddol.
4.4.7 Bydd yr angen i newid y ffordd y mae pobl yn teithio felly’n ystyriaeth bwysig wrth ddatblygu polisïau ar gyfer y CDLl newydd a bydd diogelu llwybrau teithio llesol a chynaliadwy o bosibl yn hollbwysig i’r broses honno.
4.4.8 Fodd bynnag, er y bydd teithio llesol yn chwarae rhan mewn rhai mannau, fel ardal nodedig o wledig sydd â rôl bwysig o ran logisteg a dosbarthu sy'n gysylltiedig â'r Porthladd, bydd teithio ar y ffyrdd yn dal yn bwysig. Fel yr ail borthladd gyrru i mewn ac allan mwyaf yn y DU, dyma'r prif borthladd o hyd a'r llwybr cyflymaf ar gyfer cludo nwyddau a theithwyr i ac o Iwerddon. Mae sicrhau cadernid a sefydlogrwydd hirdymor y porthladd yn hanfodol i dwf economaidd-gymdeithasol a masnach. Mae'r Porthladd yn hanfodol i hyfywedd economïau Ynys Môn, Gogledd Cymru, Cymru, y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
4.4.9 Ffynonellau Perthnasol i gefnogi'r thema
4.5 Thema: Ymateb i Hinsawdd sy’n Newid
4.5.1 Datganodd y Cyngor argyfwng hinsawdd ym mis Medi 2020 a gwnaeth ymrwymiad i fod yn awdurdod carbon niwtral erbyn 2030. Yn dilyn hynny, cytunodd ar “Gynllun tuag at Sero Net 2022-2025”. Mae’r Cynllun yn ymrwymo i’r argyfwng hinsawdd ac yn egluro sut bydd yr awdurdod yn dod yn sefydliad sero net.
4.5.2 Mae Cynllun y Cyngor (2023-2028) yn atgyfnerthu’r ymrwymiad hwn gan gydnabod bod yr angen i weithredu yn wyneb newid yn yr hinsawdd erioed wedi bod mor hanfodol. Wrth wneud hynny, mae’n ymrwymo i ystyried newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth fel materion sylfaenol wrth wneud penderfyniadau ar draws swyddogaethau’r Cyngor.
4.5.3 Yn yr un modd, mae Cynllun Llesiant Ynys Môn a Gwynedd 2023-28 yn nodi newid yn yr hinsawdd fel un o nifer o brif flaenoriaethau ar gyfer trigolion y ddwy sir, gan atgyfnerthu ei ymrwymiad i gefnogi cymunedau i gyrraedd targedau sero net. Felly, mae’r angen i weithredu yn wyneb newid yn yr hinsawdd yn cael ei ystyried yn fater pwysig i roi sylw iddo yn y CDLl newydd.
4.5.4 Rhaid i'r CDLl hefyd hwyluso camau gweithredu ac ymyriadau sydd â'r nod o addasu i newid hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys mesurau gwrthsefyll llifogydd, rheoli systemau draenio dŵr storm ac ymdopi â chanlyniadau tywydd eithafol. Bydd atebion sy'n seiliedig ar natur a defnyddio seilwaith gwyrdd a glas yn cael eu hannog
4.5.5 Ffynonellau Perthnasol i gefnogi'r thema
4.6 Thema: Diogelu a Hyrwyddo'r Iaith Gymraeg a'i Diwylliant
4.6.1 Mae Cymraeg 2050:Strategaeth y Gymraeg yn amcanu at gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2021-2026 y Cyngor yn amlinellu’r hyn y mae’n bwriadu ei hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg ar yr Ynys. Mae’n bwriadu gwrthdroi’r gostyngiad yn nifer y siaradwyr, gan anelu at gynyddu nifer y siaradwyr 325 yn ystod oes y Strategaeth. Mae’n canolbwyntio ar dri maes blaenoriaeth, sef plant, pobl ifanc a’r teulu, y gweithle a’r gymuned.
4.6.2 Gellir priodoli’r gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg i nifer o ffactorau ond, yn bennaf, y diffyg cyfleoedd cyflogaeth i’r boblogaeth iau, sy’n eu gorfodi i chwilio am waith mewn mannau eraill, a’r diffyg tai fforddiadwy i alluogi pobl i fyw yn y cymunedau lle cawsant eu magu. Hefyd, mae yna ddiffyg pobl oedran gweithio yn dychwelyd i'r Ynys ar ôl gadael am addysg uwch, a chynnydd yn nifer y trigolion di-Gymraeg sy'n mewnfudo.
4.6.3 Er bod Ynys Môn yn draddodiadol yn cael ei hystyried yn un o gadarnleoedd y Gymraeg, mae nifer y siaradwyr Cymraeg ar ynys wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rhaid i’r CDLl newydd gyfrannu at fynd i’r afael â’r dirywiad drwy ddatblygu polisïau cadarn sy’n ceisio diogelu a chryfhau’r iaith Gymraeg a’i diwylliant a hyrwyddo ei defnyddio fel rhan hanfodol o fywyd y gymuned. Bydd cynigion datblygu mwy yn ei gwneud yn ofynnol i ddatganiadau penodol neu asesiadau effaith gael eu cyflwyno i ddangos y camau a gymerir i ddiogelu, hybu a gwella’r Gymraeg.
4.6.4 Ffynonellau Perthnasol i gefnogi'r thema
4.7 Thema: Gwarchod yr Amgylchedd Naturiol a Hanesyddol a Rheoli Adnoddau
4.7.1 Roedd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cyflwyno’r ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau Adran 6, sy’n golygu ei bod yn ddyletswydd ar bob awdurdod cyhoeddus i gynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru.
4.7.2 Mae Polisi 10 Cymru’r Dyfodol: Cynllun Cenedlaethol 2040 yn cydnabod rôl bioamrywiaeth o ran cefnogi “gweithrediad ecosystemau iach a chadarn a’r manteision lluosog maent yn eu darparu” ac mae’n ymrwymo i ddadwneud colledion diweddar a gwella cydnerthedd ecosystemau. Mae’r system gynllunio yn cael ei nodi fel un sy’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni’r amcan hwn.
4.7.3 Mewn ymateb i ddyletswydd Adran 6, mae’r Cyngor wedi paratoi a mabwysiadu Cynllun Bioamrywiaeth sy’n ceisio sicrhau bod y Cyngor yn cynnal ac yn gwella bioamrywiaeth amrywiol yr Ynys wrth arfer ei ddyletswyddau statudol a’i weithgareddau dewisol ac, wrth wneud hynny, hyrwyddo cadernid ecosystemau.
4.7.4 Rhaid i’r CDLl newydd adlewyrchu’r ymrwymiadau a wneir yn y ddeddfwriaeth a’r polisi cenedlaethol ac yn y Cynllun Bioamrywiaeth corfforaethol i warchod a gwella bioamrywiaeth ar yr un pryd â chryfhau seilwaith gwyrdd i alluogi cydnerthedd a chysylltedd rhwng rhwydweithiau ecolegol.
4.7.5 Mae gwarchod a gwella harddwch naturiol yn gysylltiedig â gwarchod a gwella bioamrywiaeth. Mae'r rhan fwyaf o forlin yr Ynys (221km2) wedi'i dynodi'n Dirwedd Genedlaethol (a elwid gynt yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE)). Mae'r Cynllun Rheoli Tirwedd Genedlaethol Ynys Môn 2023-28 yn atgyfnerthu’r angen i warchod a gwella harddwch naturiol ac yn cydnabod pwysigrwydd yr ardal ddynodedig i’r economi leol, i’r amgylchedd, i ddiwylliant ac i les ei chymunedau ac i’r rhai sy’n ymweld.
4.7.6 Mae gan Ynys Môn amrywiaeth o asedau hanesyddol gan gynnwys tua 1200 o adeiladau rhestredig, 12 o Ardaloedd Cadwraeth dynodedig, Safle Treftadaeth y Byd a nifer o henebion cofrestredig. Y flaenoriaeth yw diogelu’r asedau hanesyddol hyn a’u gwarchod rhag cael eu hesgeuluso a dirywio. O’r herwydd, bydd yr CDLl newydd yn darparu sylfaen bolisi gref ar gyfer rhoi gwarchodaeth i’r amgylchedd hanesyddol a sicrhau y bydd unrhyw ddatblygiad a gynigir mewn perthynas ag asedau hanesyddol yn cael ei gyflawni gyda’r budd pennaf i’r ased yn brif ystyriaeth.
4.7.7 Mae’r polisi a’r canllawiau presennol yn nodi bod pob Awdurdod Cynllunio Mwynau (MPA) yn bodloni gofynion banc tir penodol o ran darpariaeth agregau, sef cyflenwad 10 mlynedd o agregau craig galed a 7 mlynedd ar gyfer tywod a graean. Rhaid cynnal banciau tir dros oes cynllun datblygu. Yn ymarferol, ni all Ynys Môn fodloni’r gofyniad am dywod a graean gan nad oes dim gweithrediadau masnachol ar yr Ynys ac er bod dyddodion tywod a graean yn bodoli, maent mewn ardaloedd sy’n ddarostyngedig i ddynodiadau amgylcheddol a fyddai’n golygu y byddai gweithio yno yn annerbyniol. O ran mwynau economaidd eraill, mae cronfeydd metel wrth gefn i’w cael ym Mynydd Parys ac mae cerrig dimensiwn yn cael eu tynnu o chwareli calchfaen yr Ynys.
4.7.8 Mae Datganiad Technegol Rhanbarthol (RTS) Gogledd Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob MPA yn y rhanbarth gyfrannu swm o agregau wedi’i ddosrannu i’r allbwn rhanbarthol a dylai gynllunio yn unol â hynny i fodloni’r gofynion hynny.
4.7.9 Mae adfer safleoedd yn ystyriaeth bwysig iawn i fynd i’r afael ag effaith amgylcheddol gwaith chwarela/cloddio. Bydd yr agwedd hon ar y broses ôl-echdynnu yn cael sylw digonol yn y CDLl newydd.
4.7.10 Mae’r Hierarchaeth Gwastraff yn nodi’r flaenoriaeth o ran ymateb i reoli gwahanol ffrydiau gwastraff. Mae’r Hierarchaeth yn annog lleihau gwastraff, ailddefnyddio ac ailgylchu (gan gynnwys compostio) cyn gwaredu er mai dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi yw’r prif amcan o hyd.
4.7.11 Mae Cynllun Strategol Adnoddau a Gwastraff y Cyngor yn amlinellu camau i symud tuag at economi gylchol sy’n gweithio tuag at ddarparu ymateb cynaliadwy i reoli gwastraff ac adfer adnoddau sy’n adlewyrchu amcanion cenedlaethol sydd wedi’u cynnwys yn yr Hierarchaeth Gwastraff.
4.7.12 ydd angen i’r CDLl newydd fynd i’r afael â mater rheoli gwastraff mewn ffordd sy’n gyson â nodau’r Hierarchaeth a, lle nad oes modd lleihau ac ailddefnyddio, dylid ystyried gwastraff fel adnodd y gellir ei reoli gyda chanlyniadau buddiol. Dylai’r CDLl newydd felly geisio hwyluso mwy o gapasiti ailgylchu a chompostio tra’n ystyried cynhyrchu ynni o ffrydiau gwastraff addas.
4.7.13 Er mwyn sicrhau cyfraddau ailddefnyddio ac ailgylchu uwch, rhaid i’r cyfleusterau priodol fod ar gael ac, er bod y Cyngor eisoes yn rhedeg dwy ganolfan ailgylchu, mae diffygion yn y ddarpariaeth wedi’u nodi yn ardal Caergybi, lle mae tipio anghyfreithlon yn broblem sylweddol ac yng ngogledd yr Ynys. Yn yr un modd, mae’r diffyg capasiti ar gyfer rheoli gwastraff anadweithiol a phriddoedd gwastraff yn ei gwneud yn ofynnol i’r CDLl newydd fynd i’r afael â’r materion hyn ac ystyried atebion priodol.
4.7.14 Ffynonellau Perthnasol i gefnogi'r thema
- Cynllun Bioamrywiaeth
- Cynllun Rheoli Tirwedd Genedlaethol 2023-2028
- Datganiad Technegol Rhanbarthol Gogledd Cymru
- Cynllun Strategol Adnoddau a Gwastraff
4.8 Thema: Hyrwyddo Creu Lleoedd a Lles
4.8.1 Mae lleoliad datblygiad yn chwarae rhan fawr o ran gwireddu’r uchelgais o gyflawni cymunedau iach. Gellir sicrhau ffyrdd iachach o fyw drwy leoli datblygiadau yn agos at lwybrau teithio llesol a bydd darparu/diogelu mannau agored cyhoeddus hefyd yn cyfrannu at annog ffordd fwy egnïol o fyw i drigolion. Gall darparu seilwaith i gefnogi pobl sy’n cerdded ac yn beicio yn hytrach na bod yn ddibynnol ar geir gyfrannu at gyflawni amcanion iechyd sy’n ymwneud â gordewdra a chyflyrau cysylltiedig. Fodd bynnag, rhaid cydnabod y bydd teithio mewn car ar ynys wledig yn parhau i fod yn rhan o fywydau y rhan fwyaf o drigolion.
4.8.2 Bydd yr angen i ystyried llwybrau teithio llesol a chynaliadwy a’u diogelu i wasanaethu datblygiad newydd posibl yn nodwedd bwysig o’r CDLl newydd.
4.8.3 Mae cyfleusterau cymunedol yn hanfodol i gynnal sylfaen economaidd, gymdeithasol a diwylliannol aneddiadau a chymunedau. Gall eu presenoldeb leihau’r angen i deithio i ganolfannau mwy a gallant gyfrannu at les yn ogystal â bod yn elfen hanfodol o greu lleoedd llwyddiannus. Mae eu diogelu rhag mathau eraill o ddatblygiadau yn hanfodol er mwyn helpu i gynnal cydlyniant cymunedol a dylai polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol geisio cefnogi eu cadw ar gyfer defnydd cymunedol. Un mater cysylltiedig yw sicrhau bod digon o alw am y cyfleusterau hyn drwy gadw a denu teuluoedd sy'n gweithio sy'n defnyddio'r cyfleusterau hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd.
4.8.4 Mae Cynllun Llesiant Gwynedd ac Ynys Môn yn nodi’r angen i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac anfantais er mwyn cau’r bwlch rhwng y cymunedau mwyaf breintiedig a difreintiedig, gyda’r canlynol yn cael eu nodi gan breswylwyr fel y blaenoriaethau i fynd i’r afael â nhw:
- ymateb i dlodi a chostau byw;
- gwella iechyd a lles plant a phobl ifanc;
- gwella iechyd meddwl a lles;
- newid yn yr hinsawdd – cefnogi cymunedau i gyrraedd targedau sero net;
- hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg;
- galluogi profiadau cyfartal a mynediad at natur;
- cynllunio gweithlu’r dyfodol sy’n diwallu anghenion y gymuned a’r economi leol;
- sicrhau tai ar gyfer pobl leol; a
- dylanwadu ar flaenoriaethau ariannol cyrff cyhoeddus.
4.8.5 Dylai’r CDLl newydd anelu at greu a chynnal cymunedau cynhwysol sy’n hybu iechyd a lles. Drwy ei bolisïau, dylai'r CDLl sicrhau safonau uchel o ran amwynder, meithrin cymunedau diogel gyda chyfleoedd cyflogaeth addas a chartrefi priodol.
4.8.6 Ffynonellau Perthnasol i gefnogi'r thema