Ymgynghoriad ar Weledigaeth, Amcanion ac Opsiynau
Pennod 2
Cyd-destun Polisi Strategol
2.0 Cyflwyniad
Nid yw'r CDLl yn cael ei baratoi mewn gwagle, rhaid i'r Cynllun ymateb i'r cyd-destun cenedlaethol, rhanbarthol a lleol sy'n cael ei grynhoi'n fyr isod.
2.1 Cyd-destun cenedlaethol
2.1.1 Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn darparu'r sylfaen ar gyfer system gynllunio symlach ac effeithiol yng Nghymru. Fe'i cynlluniwyd i hyrwyddo datblygu cynaliadwy drwy wella cysondeb penderfyniadau cynllunio ar lefel leol a chenedlaethol, a sicrhau bod cynllunio'n cyfrannu at nodau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd hirdymor.
2.1.2 Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i ystyried goblygiadau hirdymor eu penderfyniadau. Drwy fynnu bod y camau a gymerir heddiw yn cyfrannu at lesiant cenedlaethau'r dyfodol, nod y Ddeddf yw creu Cymru fwy cynaliadwy, ffyniannus a gwydn, gan gydbwyso anghenion y presennol â chadw adnoddau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
2.1.3 Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn nodi fframwaith ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy. Ei brif nod yw gwella cydnerthedd amgylcheddol ar yr un pryd â chefnogi llesiant cymdeithasol, economaidd ac ecolegol Cymru. Mae'r Ddeddf hon yn sicrhau bod penderfyniadau datblygu ac arferion rheoli adnoddau yn cyd-fynd ag egwyddorion cynaliadwyedd, gan ddiogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
2.1.4 Mae Polisi Cynllunio Cymru (PCC) yn amlinellu polisïau ac egwyddorion cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru, gan lywio defnydd tir, datblygiadau a phenderfyniadau cynllunio ledled y wlad. PCC sy’n darparu’r fframwaith polisi trosfwaol ar gyfer awdurdodau cynllunio, gan sicrhau bod datblygiadau yn cyfrannu at greu cymunedau cynaliadwy a chynhwysol,
2.1.5 Mae Nodiadau Cyngor Technegol (TANs) yn ddogfennau cyfarwyddyd manwl a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o weithredu Polisi Cynllunio Cymru. Mae'r nodiadau hyn yn rhoi cyngor ymarferol ar bynciau cynllunio penodol fel tai, trafnidiaeth a'r amgylchedd.
2.1.6 Mae Cymru’r Dyfodol: Cynllun Cenedlaethol 2040 yn fframwaith datblygu strategol i Gymru, gan arwain twf cynaliadwy, datblygu seilwaith, a diogelu'r amgylchedd hyd at 2040. Mae'n siapio penderfyniadau cynllunio rhanbarthol a lleol drwy sefydlu gweledigaeth ar gyfer datblygiad Cymru yn y dyfodol a sicrhau bod twf yn cael ei gydbwyso â diogelu adnoddau naturiol ac anghenion cymunedau.
2.1.7 Mae'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu yn rhoi canllawiau manwl i awdurdodau lleol Cymru ar baratoi a rheoli Cynlluniau Datblygu Lleol. Mae'n sicrhau bod cynlluniau'n cyd-fynd â pholisïau cenedlaethol, fel y rhai a nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru a Cymru'r Dyfodol, ac yn hyrwyddo datblygu cynaliadwy ar draws pob ardal yng Nghymru. Drwy roi arweiniad i awdurdodau lleol wrth baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol, mae'r Llawlyfr yn helpu i sicrhau bod y broses gynllunio'n cefnogi datblygu cydlynol a chynaliadwy ledled y wlad.
2.2 Cyd-destun Rhanbarthol
2.2.1 Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn paratoi Cynllun Datblygu Strategol (SDP). Mae'r Cynllun Datblygu Strategol yn fframwaith cynhwysfawr sydd wedi'i ddylunio i sbarduno twf economaidd, buddsoddi mewn seilwaith, a datblygu cynaliadwy ar draws Gogledd Cymru. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar roi hwb i economi'r rhanbarth drwy greu cyfleoedd newydd, gwella diwydiannau presennol, a datblygu seilwaith hanfodol. Drwy gysoni datblygu rhanbarthol â nodau cynaliadwyedd, mae Uchelgais Gogledd Cymru yn sicrhau bod twf o fudd i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol, gan greu Gogledd Cymru gydnerth a ffyniannus.
2.2.2 Mae'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn amlinellu'r blaenoriaethau trafnidiaeth allweddol a'r strategaethau buddsoddi ar gyfer Gogledd Cymru. Mae'n canolbwyntio ar wella cysylltedd, gwella seilwaith trafnidiaeth, a chefnogi twf economaidd rhanbarthol. Mae'r cynllun yn cynnwys mentrau i wella rhwydweithiau ffyrdd, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus, gan sicrhau bod cymunedau wedi'u cysylltu'n well a'u bod yn gallu manteisio ar gyfleoedd economaidd.
2.2.3 Mae'r Gweithgor Agregau Rhanbarthol (RAWP) yn chwarae rhan hollbwysig wrth gydlynu'r gwaith o gyflenwi a rheoli agregau ar draws rhanbarth Gogledd Cymru. Ei brif nod yw bodloni galw'r sector adeiladu am agregau ar yr un pryd â sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n gynaliadwy. Drwy gydweithio â rhanddeiliaid yn y diwydiant a sicrhau dull cytbwys o echdynnu adnoddau a diogelu'r amgylchedd, mae RAWP yn helpu i gynnal cyflenwad cyson o ddeunyddiau sydd eu hangen ar gyfer prosiectau seilwaith ac adeiladu, gan leihau effeithiau amgylcheddol ar yr un pryd.
2.3 Cyd-destun Lleol
2.3.1 Mae'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC) presennol wedi rheoli defnydd tir, datblygiad a seilwaith ar draws Ynys Môn a Gwynedd ers 2017. Bydd yn cael ei ddisodli gan CDLl newydd Ynys Môn ond ar hyn o bryd mae'n darparu cyd-destun lleol defnyddiol.
2.3.2 Cynllun Cyngor Sir Ynys Môn (2023 - 2028) yw strategaeth gorfforaethol y Cyngor sy'n amlinellu blaenoriaethau, gwasanaethau ac amcanion gwella lleol yr Ynys. Mae'n ddogfen allweddol o ran llywio gwaith y Cyngor. Mae'r cynllun yn sicrhau bod camau gweithredu'r Cyngor yn cyd-fynd ag anghenion y gymuned, gan osod nodau clir ar gyfer gwella gwasanaethau ac ansawdd bywyd ar Ynys Môn.
2.3.3 Mae'r Cynllun Llesiant Lleol wedi'i ddylunio i wella iechyd, llesiant cymdeithasol ac economaidd cymunedau yn Ynys Môn, Gwynedd a thu hwnt, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'r cynllun yn mabwysiadu dull cyfannol o ddatblygu cymunedol, gan fynd i'r afael â rhyng-gysylltiad ffactorau amrywiol fel iechyd y cyhoedd, addysg a chyfleoedd economaidd. Ei nod yw creu rhanbarth mwy teg, cydnerth a chynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
2.3.4 Mae'r Datganiad Argyfwng Hinsawdd yn gydnabyddiaeth ffurfiol gan y Cyngor o'r angen dybryd i weithredu'n ystyrlon ar newid hinsawdd. Drwy ddatgan argyfwng hinsawdd, mae'r Cyngor yn ymrwymo i wreiddio ystyriaethau hinsawdd ym mhob polisi a phroses benderfynu leol. Mae'r datganiad hwn yn sbarduno ymateb lleol cynhwysfawr i'r argyfwng hinsawdd, gan annog datblygu cynaliadwy, lleihau allyriadau carbon, a diogelu adnoddau naturiol.
2.3.5 Mae'r Rhaglen Ynys Ynni yn fenter uchelgeisiol i sefydlu Ynys Môn fel canolfan flaenllaw ar gyfer ynni adnewyddadwy a charbon isel. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu gallu Ynys Môn i gynhyrchu ynni glân drwy brosiectau fel cynlluniau ynni gwynt, llanw a niwclear. Drwy fanteisio ar adnoddau naturiol Ynys Môn, nod y Rhaglen Ynys Ynni yw sbarduno twf economaidd, creu swyddi cynaliadwy, a chyfrannu at nodau trawsnewid ynni ehangach Cymru.
2.3.6 Mae Dynodiad Porthladd Rhydd (Ynys Môn) yn fenter parth economaidd arbennig sy'n rhoi cymhellion treth a chymorth seilwaith i'r rhanbarth i annog buddsoddiad, masnach a chreu swyddi. Mae'r dynodiad yn rhan o strategaeth ehangach i drawsnewid Ynys Môn yn ganolfan economaidd ddeinamig, gan ddenu busnesau, yn enwedig mewn sectorau fel ynni adnewyddadwy a charbon isel, gweithgynhyrchu a logisteg, a rhoi hwb i economi ranbarthol Ynys Môn.
2.3.7 Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i atal colli bioamrywiaeth, gwarchod cynefinoedd naturiol, a hyrwyddo gwytnwch amgylcheddol. Mae'r Cyngor yn cyflawni ei ddyletswydd o dan Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru), ond mae hefyd yn ceisio diogelu amgylchedd naturiol unigryw Ynys Môn drwy roi strategaethau ar waith i adfer bioamrywiaeth, gwella gwasanaethau ecosystemau, a chynnwys cymunedau lleol mewn ymdrechion cadwraeth. Cofnodir cynnydd yn yr Adroddiad Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau.
2.3.8 Mae Cynlluniau Canol Trefi yn canolbwyntio ar strategaethau i adfywio a chynnal canol trefi ledled Ynys Môn. Nod y cynlluniau hyn yw adfywio ardaloedd trefol drwy wella gweithgarwch economaidd, gwella hygyrchedd, a chreu mannau cyhoeddus mwy bywiog. Drwy fuddsoddi mewn adfywio canol trefi, mae'r cynlluniau'n ceisio cryfhau economïau lleol, cefnogi busnesau bach, a meithrin mannau cynhwysol a chroesawgar i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.
2.3.9 Mae Cynllun Rheoli Tirwedd Genedlaethol Ynys Môn yn gwerthuso ac yn pennu rhinweddau arbennig y Dirwedd Genedlaethol. Mae hefyd yn nodi pa gamau y mae angen eu cymryd i sicrhau bod y rhinweddau hyn yn cael eu gwarchod a'u gwella ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.