Ymgynghoriad ar Weledigaeth, Amcanion ac Opsiynau

Yn dod i ben ar 25 Mawrth 2026 (31 diwrnod ar ôl)

Pennod 5

Gweledigaeth

5.0 Cyflwyniad

Er mwyn sicrhau bod gan y Cynllun ffocws cydlynol i'r holl bolisïau weithio tuag at ei gyflawni, bydd gweledigaeth gref a chlir ar gyfer y dyfodol wrth galon y ddogfen. Dylai'r weledigaeth nodi disgrifiad uchelgeisiol sy'n benodol i'r ardal o sut le fydd yr Ynys ar ddiwedd cyfnod y Cynllun.

Rhaid i'r weledigaeth fod yn gyson â chynllun corfforaethol y Cyngor a pholisïau cyd-destunol allweddol eraill fel yr amlinellir ym mhennod 2. Dylid darllen y weledigaeth hefyd fel dilyniant i'r weledigaeth a nodir yn y CDLlC a fabwysiadwyd. Yn olaf, dylai ddarparu dimensiwn gofodol sy'n sicrhau ei fod yn unigryw i Ynys Môn.

Bydd y weledigaeth yn cael ei mireinio wrth i'r Cynllun fynd rhagddo er mwyn adlewyrchu tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn well ac ymgorffori cyfraniadau rhanddeiliaid.

Erbyn 2039, bydd Ynys Môn yn Ynys o gymunedau bywiog, dwyieithog ac ymgysylltiol lle bydd pobl yn dewis byw, gweithio ac ymweld. Bydd yr Ynys wedi:

  1. Cadw a gwella cymeriad unigryw'r Ynys, wedi'i strwythuro o amgylch yr aneddiadau allweddol a nodwyd ar gyfer twf ac ardal wledig helaeth sy'n cynnwys aneddiadau a phentrefi llai
     
  2. Gwarchod ei bioamrywiaeth a'i hasedau amgylcheddol allweddol, gan gynnwys Tirwedd Genedlaethol Ynys Môn a safleoedd tirwedd ac ecolegol dynodedig a safleoedd eraill heb eu dynodi
     
  3. Hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd a sicrhau bod hyn yn cael ei ystyried mewn penderfyniadau cynllunio
     
  4. Cefnogi dylunio o ansawdd uchel mewn datblygiadau newydd gan gynnwys darpariaeth ddigonol o fannau agored hygyrch a seilwaith gwyrdd a glas
     
  5. Darparu digon o dai o'r mathau a'r deiliadaethau cywir i ddiwallu anghenion lleol, gan gynnwys ar gyfer y boblogaeth sy'n heneiddio, tai fforddiadwy a'r gymuned sipsiwn a theithwyr
     
  6. Cefnogi'r gwaith o ddatblygu a manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd economaidd a chymdeithasol a ddaw yn sgil datblygiadau niwclear newydd yn Wylfa a datblygiadau cysylltiedig
     
  7. Lleihau'r angen i deithio (yn enwedig mewn car) drwy leoli datblygiadau newydd yn briodol, a chefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau yn agos at lle mae eu hangen, gan gydnabod y bydd angen i gymuned Ynys deithio rhywfaint mewn car o hyd
     
  8. Cyfrannu at liniaru newid hinsawdd drwy gefnogi datblygiad ynni adnewyddadwy a charbon isel sydd wedi'i leoli'n sensitif, gan gynnwys datblygiadau yn Wylfa yn y dyfodol
     
  9. Cefnogi economi amrywiol gyda swyddi o ansawdd uchel, yn seiliedig ar ddiwydiannau arbenigol
     
  10. Cefnogi'r diwydiant twristiaeth drwy barhau i ddenu ymwelwyr i'r Ynys, a sicrhau bod effeithiau twristiaeth yn cael eu rheoli a'u lleihau
     
  11. Manteisio i'r eithaf ar fanteision dynodiadau Porthladd Rhydd a pharth twf Deallusrwydd Artiffisial
Cwestiynau’r ymgynghoriad
  • Ydych chi'n cytuno â'r weledigaeth arfaethedig? Sylw
  • A yw'n canolbwyntio ar y materion cywir? Sylw
  • Oes unrhyw beth ar goll? Sylw
Am gyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r system ac i wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig