Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig - Adroddiad Cwmpasu
1.1 Ym mis Chwefror 2025, comisiynodd Cyngor Sir Ynys Môn LUC i gynnal Arfarniad Cynaliadwyedd (AC) a oedd yn cynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) o'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd. Fel yr argymhellir yn y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu1, bydd y AC/AAS hefyd yn ymgorffori asesiadau eraill fel Asesiad o'r Effaith ar Iechyd (HIA), Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb (EqIA) ac asesiad o'r effaith ar y Gymraeg, yn ogystal â mynd i'r afael â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Adran 6). Felly, cyfeirir at y broses fel Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ISA).
1.2 Pwrpas yr Adroddiad Cwmpasu hwn yw darparu'r cyd- destun ar gyfer ISA y CDLl, a phennu ei gwmpas, a nodi'r fframwaith ar gyfer ymgymryd â chamau diweddarach yr ISA.
1.3 I grynhoi, mae'r cam Cwmpasu yn cynnwys adolygu cynlluniau, polisïau a rhaglenni perthnasol eraill; ystyried cyflwr presennol yr amgylchedd yn ogystal ag amodau cymdeithasol ac economaidd ar Ynys Môn; nodi unrhyw faterion neu broblemau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd allweddol y gallai'r CDLl effeithio arnynt; a nodi 'fframwaith ISA', sy'n cynnwys set o amcanion cynaliadwyedd y gellir asesu effeithiau tebygol y CDLl yn eu herbyn. Mae'r Adroddiad Cwmpasu hwn hefyd yn cyflwyno'r fethodoleg arfaethedig a fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer camau diweddarach yr ISA, gan gynnwys asesu Safleoedd Ymgeisiol.
Ardal y Cynllun
1.4 Mae Sir Ynys Môn yn cwmpasu Ynys Môn, gan gynnwys Ynys Gybi, ac mae wedi'i lleoli yng ngogledd orllewin Cymru (gweler Ffigur 1.3). Dyma'r ynys fwyaf yng Nghymru a Lloegr, yn 275 milltir sgwâr ac mae ganddi boblogaeth o 68,900. Dyma'r chweched ardal awdurdod lleol leiaf poblog o bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Caergybi yw'r anheddiad mwyaf, yna Llangefni ac Amlwch.
1.5 Mae Ynys Môn wedi'i hamgylchynu gan ynysoedd llai, ac mae rhannau helaeth o'r morlin wedi cael eu dynodi'n Dirwedd Genedlaethol Arfordir Ynys Môn (a elwid gynt yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol neu AHNE). Mae rhannau o'r arfordir hefyd wedi cael eu dynodi'n Arfordir Treftadaeth. Mae Ynys Môn yn ffinio â siroedd Conwy a Gwynedd, ac mae'r ddwy sir yn cynnwys rhannau o Barc Cenedlaethol Eryri.
1.6 Mae'r prif lwybrau strategol ar Ynys Môn yn cynnwys yr A55, sy'n rhedeg drwy'r sir i Gaergybi, yn ogystal â rheilffordd arfordirol Gogledd Cymru sy'n cysylltu Ynys Môn â gogledd Cymru yn ehangach a thu hwnt. Mae gorsaf reilffordd Caergybi, terfyn gorllewinol Prif Reilffordd Gogledd Cymru, yn darparu gwasanaethau trên uniongyrchol i Lundain Euston. Mae'r gwasanaethau hyn yn cael eu gweithredu'n bennaf gan Avanti West Coast, gyda phum trên uniongyrchol yn rhedeg bob dydd. Mae porthladd Caergybi yn darparu gwasanaeth fferi i Iwerddon a dyma'r brif gyswllt ffordd a rheilffordd rhwng Iwerddon a Gogledd Cymru, canolbarth Lloegr a Gogledd Lloegr.
Y Cynllun Datblygu Lleol newydd
1.7 Mabwysiadodd Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd y CDLl ar y Cyd presennol ym mis Gorffennaf 2017, a oedd yn nodi'r strategaeth gynllunio ar gyfer yr ardal (ac eithrio'r rhannau o Wynedd sydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri) dros y 15 mlynedd hyd at 2026.
1.8 I ddechrau roedd y ddau Gyngor yn bwriadu paratoi CDLl ar y Cyd newydd; fodd bynnag ym mis Mawrth 2023 penderfynwyd rhoi'r gorau i'r cytundeb cydweithio ar faterion polisi cynllunio ac mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi dechrau gweithio ar baratoi ei CDLl newydd ei hun.
1.9 Mae'r Cyngor bellach yng nghamau cynnar paratoi'r CDLl newydd, yn dilyn ymgynghoriad ar Gytundeb Cyflawni Drafft yn ystod Haf 2024.
1.10 Disgwylir i'r CDLl newydd gynnwys gweledigaeth ac amcanion ar gyfer ardal y cynllun, strategaeth gyffredinol ar gyfer datblygu ar Ynys Môn, dyraniadau safle ar gyfer gwahanol fathau o ddatblygiadau gan gynnwys tai a chyflogaeth, a pholisïau ar ffurf rheoli datblygiadau ar gyfer rheoli ceisiadau a ddaw gerbron.
Asesiad Cynaliadwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol
1.11 O dan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Adran 62(6)), mae AC yn orfodol ar gyfer Cynlluniau Datblygu Lleol. Mae hefyd angen cynnal asesiad amgylcheddol yn unol â gofynion y Gyfarwyddeb Asesiad Amgylcheddol Strategol (Cyfarwyddeb Ewropeaidd 2001/42/EC), sydd wedi'i throsi i gyfraith Cymru drwy Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004. Felly, mae'n ofyniad cyfreithiol i CDLl newydd Ynys Môn fod yn destun AC a AAS drwy gydol y paratoi.
1.12 Mae'r gofynion i gyflawni AC ac AAS yn wahanol, er ei bod yn bosibl bodloni'r ddau drwy ddefnyddio un broses arfarnu (fel yr argymhellir yn y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu) lle gall defnyddwyr gydymffurfio â gofynion y Gyfarwyddeb AAS drwy un broses AAS integredig – dyma'r broses sy'n cael ei chynnal ar Ynys Môn. O hyn ymlaen, dylid cymryd bod y term 'AC' (neu ISA, gan fod proses integredig yn cael ei chynnal yn yr achos hwn) yn golygu 'AC sy'n ymgorffori gofynion Rheoliadau AAS'.
1.13 Mae proses AC yn cynnwys nifer o gamau, gyda'r Cwmpasu yn Gam A fel y dangosir yn Ffigur 1.1 isod.
Ffigur 1.1: Prif gamau'r Arfarniad Cynaliadwyedd
Cam A: Gosod y cyd-destun a'r amcanion, sefydlu'r llinell sylfaen a phenderfynu ar y cwmpas.
Cam B: Datblygu a mireinio opsiynau ac asesu effeithiau.
Cam C: Paratoi Adroddiad AC.
Cam D: Ymgynghori ar y Cynllun ac adroddiad AC
Cam E: Monitro effeithiau sylweddol gweithredu'r Cynllun.
1.14 Mae Ffigur 1.2 isod yn nodi'r tasgau sy'n gysylltiedig â'r cam Cwmpasu.
Ffigur 1.2: Camau cwmpasu AC (Cam A)
A1: Nodi polisïau, cynlluniau a rhaglenni perthnasol eraill, ac amcanion cynaliadwyedd.
A2: Casglu gwybodaeth llinell sylfaen.
A3: Nodi materion a phroblemau cynaliadwyedd.
A4: Datblygu fframwaith AC.
A5: Ymgynghori ar gwmpas yr AC.
Bodloni gofynion Rheoliadau AAS
1.15 Cafodd y Gyfarwyddeb AAS ei throsi i gyfraith Cymru drwy Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 (y cyfeirir atynt yn gyffredin fel 'Rheoliadau AAS'). Mae Rheoliadau AAS yn parhau mewn grym ar ôl Brexit ac mae'n ofyniad cyfreithiol i CDLl Ynys Môn fod yn destun AC ac AAS drwy gydol y broses o'i baratoi.
1.16 Mae'r Adroddiad Cwmpasu hwn yn cynnwys rhai o elfennau gofynnol yr 'Adroddiad Amgylcheddol' terfynol (yr allbwn sy'n ofynnol o dan Reoliadau AAS). Mae Tabl 1.1 isod yn cyfeirio at adrannau perthnasol yr Adroddiad Cwmpasu hwn yr ystyrir eu bod yn bodloni gofynion Rheoliadau AAS (bydd y gweddill yn cael eu bodloni yn ystod camau dilynol ISA y CDLl, fel y nodir yn y tabl). Bydd y tabl hwn yn cael ei gynnwys yn yr Adroddiad ISA ym mhob cam o'r broses o lunio cynlluniau i ddangos sut mae gofynion Rheoliadau AAS wedi cael eu bodloni drwy broses ISA.
Tabl 1.1: Gofynion Rheoliadau AAS (Cymru) a lle mae'r rhain wedi cael eu bodloni
Gofynion Rheoliadau AAS (Cymru) |
Lle yr ymdrinnir â hyn yn yr adroddiad hwn |
Paratoi adroddiad amgylcheddol lle mae’r effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd o ganlyniad i weithredu’r cynllun neu’r rhaglen, a dewisiadau amgen rhesymol gan ystyried amcanion a chwmpas daearyddol y cynllun neu’r rhaglen, yn cael eu nodi, eu disgrifio a’u gwerthuso (Rheoliad 12). Y wybodaeth sydd i’w rhoi yw (Atodlen 2): |
|
|
Penodau 1 a 3 ac Atodiad A |
|
Penodau 4 a 5 |
|
Pennod 4 |
|
Pennod 5 |
|
Pennod 3 ac Atodiad A |
|
Bydd y gofyniad yn cael ei fodloni'n ddiweddarach yn y broses ISA. |
|
Bydd y gofyniad yn cael ei fodloni'n ddiweddarach yn y broses ISA. |
|
Bydd y gofyniad yn cael ei fodloni'n ddiweddarach yn y broses ISA. |
|
Bydd y gofyniad yn cael ei fodloni'n ddiweddarach yn y broses ISA. |
|
Bydd y gofyniad yn cael ei fodloni'n ddiweddarach yn y broses ISA. |
Rhaid i'r adroddiad gynnwys cymaint o'r wybodaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 2 y gall fod ei hangen yn rhesymol, gan ystyried - gwybodaeth a dulliau asesu cyfredol, cynnwys a lefel y manylion yn y cynllun neu'r rhaglen, statws y cynllun neu'r rhaglen yn y broses o wneud penderfyniadau, ac i ba raddau y mae materion penodol yn cael eu hasesu'n fwy priodol ar wahanol lefelau yn y broses honno er mwyn osgoi dyblygu'r asesiad (Rheoliad 12(3)). |
Bydd yr Adroddiad Cwmpasu hwn a'r Adroddiadau Amgylcheddol yn glynu wrth y gofyniad hwn. |
Gofynion ymgynghori |
Gofynion Rheoliadau AAS (Cymru) |
Lle yr ymdrinnir â hyn yn yr adroddiad hwn |
|
Bydd ymgynghoriad â'r cyrff statudol ar Adroddiad Cwmpasu'r ISA yn cael ei gynnal am o leiaf bum wythnos o Wanwyn 2025 ymlaen. |
|
Bydd y gofyniad yn cael ei fodloni'n ddiweddarach yn y broses ISA. |
|
AMH |
Ystyried yr adroddiad amgylcheddol a chanlyniadau’r ymgynghoriadau wrth wneud penderfyniadau (Rheoliad 16) | |
Darparu gwybodaeth am y penderfyniad: Pan fabwysiedir y cynllun neu'r rhaglen, rhaid hysbysu'r cyhoedd ac unrhyw wledydd yr ymgynghorir â hwy dan Reoliad 14 a rhaid sicrhau bod y canlynol ar gael i'r rhai a hysbysir am hynny:
|
Bydd y gofyniad yn cael ei fodloni'n ddiweddarach yn y broses ISA. |
Monitro effeithiau amgylcheddol sylweddol gweithredu'r cynllun neu'r rhaglen (Rheoliad 17). |
Bydd y gofyniad yn cael ei fodloni'n ddiweddarach yn y broses ISA. |
Sicrhau ansawdd: dylai adroddiadau amgylcheddol fod o safon ddigonol i fodloni gofynion Cyfarwyddeb AAS. |
Bydd yr Adroddiad Cwmpasu hwn a'r Adroddiadau Amgylcheddol yn glynu wrth y gofyniad hwn. |
Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
1.17 O dan Erthygl 6 (3) a (4) Cyfarwyddeb 92/43/EEC ar Warchod Cynefinoedd Naturiol a Phlanhigion ac Anifeiliaid Gwyllt (y Gyfarwyddeb Cynefinoedd), mae cynlluniau defnydd tir, gan gynnwys Cynlluniau Datblygu Lleol, hefyd yn destun Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA). Cadarnhawyd y gofyniad i gynnal HRA ar gyfer cynlluniau datblygu gan y diwygiadau i'r Rheoliadau Cynefinoedd a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru a Lloegr yn 20072. Y fersiwn sy'n berthnasol ar hyn o bryd yw Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 20173 (fel y'u diwygiwyd). Pwrpas HRA yw asesu effeithiau'r cynllun yn erbyn amcanion cadwraeth safle Ewropeaidd a chanfod a fyddai'n cael effaith niweidiol ar uniondeb y safle hwnnw.
1.18 Bydd y HRA ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Ynys Môn yn cael ei gynnal a'i adrodd arno ar wahân i'r ISA, fel sy'n cael ei argymell yn y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu. Fodd bynnag, bydd y canfyddiadau'n cael eu hystyried yn yr ISA lle bo hynny'n berthnasol (er enghraifft i hysbysu barn am effeithiau tebygol y CDLl ar fioamrywiaeth).
Strwythur yr Adroddiad Cwmpasu hwn
1.19 Mae'r bennod hon wedi disgrifio cefndir paratoi CDLl newydd Ynys Môn a'r gofyniad i ymgymryd ag ISA. Dyma strwythur gweddill yr adroddiad hwn:
- Mae Pennod 2 yn disgrifio sut mae'r CDLl wedi cael ei sgrinio yn erbyn y gofynion ar gyfer AAS a phrosesau asesu eraill.
- Mae Pennod 3 yn disgrifio'r berthynas rhwng y CDLl a chynlluniau, polisïau a rhaglenni eraill sy'n berthnasol i ISA y CDLl ac yn crynhoi eu hamcanion allweddol (ceir rhagor o fanylion yn Atodiad A).
- Mae Pennod 4 yn cyflwyno'r wybodaeth sylfaenol am Ynys Môn a fydd yn sail i'r ISA.
- Mae Pennod 5 yn nodi'r prif faterion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ar Ynys Môn ac yn ystyried eu hesblygiad tebygol heb y Cynllun Datblygu Lleol.
- Mae Pennod 6 yn cyflwyno'r fframwaith ISA a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y CDLl ac yn disgrifio'r fethodoleg arfaethedig ar gyfer cyflawni'r ISA, gan gynnwys asesu Safleoedd Ymgeisiol.
- Mae Pennod 7 yn disgrifio'r camau nesaf i'w cymryd yn ISA y CDLl.
