Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig - Adroddiad Cwmpasu

Yn dod i ben ar 13 Awst 2025 (30 diwrnod ar ôl)

Atodiad A Adolygiad o Gynlluniau, Polisïau a Rhaglenni

A.1 Mae'r atodiad hwn yn cyflwyno adolygiad o bolisïau, cynlluniau a rhaglenni rhyngwladol, cenedlaethol ac is- genedlaethol sy'n berthnasol i gyflawni'r ISA a pharatoi'r CDLl. Amlinellir y rhain isod, ynghyd â chrynodeb o'r goblygiadau i'r ISA a'r Cynllun Datblygu Lleol.

Teitl a deddfwriaeth

Crynodeb, amcanion, targedau dangosyddion allweddol

Goblygiadau i'r ISA a'r CDLl:

RHYNGWLADOL

Confensiwn Treftadaethy Byd UNESCO (1972)

Mae gofyn i wledydd wneud y canlynol:

  • Sicrhau bod mesurau'n cael eu cymryd i ddiogelu, gwarchod a chyflwyno treftadaeth ddiwylliannol a naturiol
  • Mabwysiadu polisi cyffredinol sy'n rhoi swyddogaeth i dreftadaeth ddiwylliannol a naturiol ym mywyd y gymuned
  • Integreiddio gwarchod treftadaeth mewn rhaglenni cynllunio cynhwysfawr.
  • Mae'n nodi canllawiau ar gyfer dynodi Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO.

Dylai'r ISA gynnwys amcan ar faterion treftadaeth ac archeolegol.

Comisiwn y Byd ar yr Amgylchedd a Datblygu (1987) Ein Dyfodol Cyffredin (Adroddiad Brundtland)

Mae Adroddiad Brundtland yn ymwneud ag economi ac amgylchedd y byd. Yr amcan yw darparu economi gynaliadwy sy'n ehangu tra'n gwarchod amgylchedd cynaliadwy. Roedd yr Adroddiad yn alwad gan y Cenhedloedd Unedig:

  • i gynnig strategaethau amgylcheddol hirdymor ar gyfer cyflawni datblygu cynaliadwy erbyn y flwyddyn 2000 a thu hwnt;
  • argymell ffyrdd y gellir troi pryder am yr amgylchedd yn fwy o gydweithredu ymhlith gwledydd De'r Byd a rhwng gwledydd ar wahanol gamau o ddatblygiad economaidd a chymdeithasol ac arwain at gyflawni amcanion cyffredin a chyd-gefnogol sy'n ystyried y rhyngberthynas rhwng pobl, adnoddau, yr amgylchedd a datblygiad;
  • ystyried ffyrdd y gall y gymuned ryngwladol ddelio'n fwy effeithiol â phryderon amgylcheddol; a
  • helpu i ddiffinio canfyddiadau cyffredin ynghylch materion amgylcheddol hirdymor a'r ymdrechion priodol sydd eu hangen i ddelio'n llwyddiannus â phroblemau gwarchod a gwella'r amgylchedd, agenda hirdymor ar gyfer gweithredu yn ystod y degawdau nesaf, a nodau uchelgeisiol ar gyfer cymuned y byd.

Yn Adroddiad Brundtland cafwyd y diffiniad gwreiddiol o ddatblygu cynaliadwy. Dylai effeithiau cronedig amcanion yr ISA geisio sicrhau datblygu cynaliadwy.

UNFCCC(1997)
Protocol Kyoto Protocol i UNFCCC
 

Protocol Kyoto i'r UNFCCC a sefydlodd y polisi cyntaf sy'n ceisio lleihau allyriadau nwyon tŷ

gwydr gan wledydd diwydiannol.

Mae adeiladu yn ffynhonnell sylweddol o allyriadau nwyon tŷ gwydr o ganlyniad i ddefnyddio deunyddiau a defnyddio ynni. Nod Protocol Kyoto yw lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU 12.5%, o'i gymharu â lefelau 1990, erbyn 2008 – 2012.

Mae Protocol Kyoto yn ddylanwadol o ran cyflawni datblygu cynaliadwy gan ei fod yn annog newid i economi carbon isel. Felly, mae'n ffactor hanfodol mewn dogfennau cynllunio.

Uwch Gynhadleddy Byd ar Ddatblygu Cynaliadwy (WSSD),
Johannesburg, Medi 2002

Ymrwymiadau yn codi o Uwchgynhadledd Johannesburg:

  • Patrymau defnyddio a chynhyrchu cynaliadwy.
  • Cyflymu'r symudiad tuag at ddefnyddio a chynhyrchu cynaliadwy – fframwaith rhaglenni gweithredu 10 mlynedd; Gwrthdroi'r duedd o golli adnoddau naturiol.
  • Ynni Adnewyddadwy ac Effeithlonrwydd Ynni.
  • Cynyddu cyfran [byd-eang] yr ynni adnewyddadwy ar frys ac yn sylweddol
  • Lleihau cyfradd colli bioamrywiaeth yn sylweddol erbyn 2010.

Dim targedau na dangosyddion, ond mae'r camau gweithredu'n cynnwys:

  • Defnyddio adnoddau'n fwy effeithlon;
  • Cefnogi arloesedd busnes a'r defnydd o arferion gorau ym maes technoleg a rheoli;
  • Lleihau gwastraff a chyfrifoldeb cynhyrchwyr; a
  • Caffael a defnydd cynaliadwy gan ddefnyddwyr.

Gall y CDLl annog adnoddau i fod yn fwy effeithlon. Sicrhau bod polisïau'n ymdrin â'r meysydd gweithredu.

Gall y CDLl annog ynni adnewyddadwy. Sicrhau bod polisïau'n ymdrin â'r meysydd gweithredu.

Gall y CDLl warchod a gwella bioamrywiaeth. Sicrhau bod polisïau'n ymdrin â'r meysydd gweithredu.

Cytundeb Cancun- UNFCCC (2011)

Gweledigaeth a rennir i sicrhau bod tymheredd y byd yn codi llai na dwy radd Celsius, gydag amcanion i'w hadolygu o ran a oes angen ei gryfhau yn y dyfodol ar sail y wybodaeth wyddonol orau sydd ar gael.

Dylai'r ISA gynnwys amcan ar allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Dylai'r CDLl anelu at leihau allyriadau.

Cenhedloedd Unedig (2015) Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP 21) Cytundeb Paris

Prif nod y cytundeb yw cadw'r cynnydd mewn tymheredd byd-eang ymhell o dan 2 radd Celsius yn y ganrif hon a sbarduno ymdrechion i gyfyngu ar y cynnydd mewn tymheredd hyd yn oed ymhellach i 1.5 gradd Celsius uwchben lefelau cyn-ddiwydiannol.

Mae'r terfyn 1.5 gradd Celsius yn llinell amddiffyn llawer mwy diogel rhag effeithiau gwaethaf hinsawdd sy'n newid.

Ar ben hynny, nod y cytundeb yw cryfhau'r gallu i ddelio ag effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Dylai'r ISA gynnwys amcan ar ffactorau hinsoddol.

Dylai'r CDLl gyfrannu'n gadarnhaol at economi carbon isel.

Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig (UN, 2015)

Mae dau ar bymtheg o Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs) yn mynd i'r afael â heriau byd- eang cydgysylltiedig gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â thlodi, anghydraddoldeb, hinsawdd, diraddio amgylcheddol, ffyniant, a heddwch a chyfiawnder. Amcanir i'r Nodau a'r targedau gael eu cyflawni erbyn 2030. Yng Nghymru, mae'r nodau'n cael eu trosi'n nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gyda dyddiad targed o 2030.

Nid yw Llywodraeth y DU wedi lleoleiddio'r Nodau Datblygu Cynaliadwy eto ac mae wedi penderfynu ar gynllun ar lefel y DU ar gyfer eu rhoi ar waith.

Dylai'r ISA ystyried y Nodau Datblygu Cynaliadwy wrth ddatblygu amcanion.

Dylai'r CDLl ystyried y Nodau Datblygu Cynaliadwy wrth ddatblygu polisïau/cynigion.

EWROPEAIDD

Confensiwn Diogelu Treftadaeth Bensaernïol Ewrop (Confensiwn Granada 1985)

Prif bwrpas y confensiwn yw atgyfnerthu a hyrwyddo polisïau ar gyfer gwarchod a gwella treftadaeth Ewrop a meithrin cydweithrediad Ewropeaidd agosach i amddiffyn treftadaeth. Mae cydnabod bod cadwraeth treftadaeth yn ddiben diwylliannol ac yn gadwraeth integredig o dreftadaeth yn ffactor pwysig o ran gwella ansawdd bywyd.

Dylai'r ISA gynnwys amcan ar warchod a gwella treftadaeth a meini prawf gwneud penderfyniadau ar dreftadaeth bensaernïol.

Y Confensiwn Ewropeaiddar Ddiogelu Treftadaeth Archeolegol (Confensiwn Valetta 1992)

Cytundeb bod gwarchod a gwella treftadaeth archeolegol yn un o nodau polisi cynllunio trefol a rhanbarthol. Mae'n ymwneud yn benodol â'r angen am gydweithrediad rhwng archaeolegwyr a chynllunwyr er mwyn sicrhau bod treftadaeth archeolegol yn cael ei gwarchod yn y ffordd orau bosibl.

Dylai'r ISA gynnwys amcan ar warchod a gwella treftadaeth a meini prawf gwneud penderfyniadau ar dreftadaeth bensaernïol.

Cyfarwyddeby Cyngor 91/271/EEC ar gyfer Trin Dŵr Gwastraff Trefol

Ei amcan yw diogelu'r amgylchedd rhag effeithiau niweidiol gollyngiadau dŵr gwastraff trefol

o rai sectorau diwydiannol ac mae'n ymwneud â chasglu, trin a gollwng:

  • Dŵr gwastraff domestig
  • Cymysgedd o ddŵr gwastraff
  • Dŵr gwastraff o rai sectorau diwydiannol

Mae'r Gyfarwyddeb yn cynnwys gofyniad gyda'r safonau penodol canlynol:

  • Safonau casglu a thrin dŵr gwastraff ar gyfer trothwyon poblogaeth perthnasol
  • Safonau triniaeth eilaidd
  • Gofyniad i rag-awdurdodi holl ollyngiadau dŵr gwastraff trefol

Monitro perfformiad safleoedd trin a dyfroedd derbyn a Rheolaethau ar waredu ac ailddefnyddio slwtsh carthion, ac ailddefnyddio dŵr gwastraff wedi'i drin.

Dylai amcanion yr ISA gynnwys blaenoriaethau i leihau effeithiau niweidiol ar ddŵr daear a/neu ddŵr wyneb.

Persbectif Datblygu Gofodol Ewrop (1999)

Nod polisïau datblygu gofodol yw gweithio tuag at ddatblygiad cytbwys a chynaliadwy yn nhiriogaeth yr Undeb Ewropeaidd. Nod ESPD yw sicrhau bod tri nod sylfaenol polisi Ewropeaidd yn cael eu cyflawni'n gyfartal ym mhob rhanbarth o'r UE:

  • Cydlyniant economaidd a chymdeithasol;
  • Gwarchod a rheoli adnoddau naturiol a'r dreftadaeth ddiwylliannol;
  • Cystadleurwydd mwy cytbwys y diriogaeth Ewropeaidd.

Mae tirweddau, dinasoedd a threfi diwylliannol Ewropeaidd, yn ogystal ag amrywiaeth o henebion naturiol a hanesyddol, yn rhan o'r Dreftadaeth Ewropeaidd. Dylai ei meithrin fod yn rhan bwysig o bensaernïaeth fodern, cynllunio trefol a chynllunio tirwedd ym mhob rhanbarth o'r UE.

Her fawr i bolisi datblygu gofodol yw cyfrannu at yr amcanion, a gyhoeddwyd gan yr UE yn ystod cynadleddau rhyngwladol ynghylch yr amgylchedd a'r hinsawdd, o leihau allyriadau i'r system ecolegol fyd-eang.

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n ymwneud â hyrwyddo cydlyniant economaidd a chymdeithasol, gwarchod adnoddau naturiol, gwarchod treftadaeth hanesyddol a lleihau allyriadau CO2. Dylid edrych yn gadarnhaol ar y cyfraniad i ffurf a swyddogaeth ardaloedd gwledig a threfol y sir a dylai amcanion y cynllun adlewyrchu hyn.

Dylai'r CDLl ystyried dull gweithredu sy'n hyrwyddo manteision economaidd i bawb a chydlyniant cymdeithasol yn ogystal â gwarchod a gwella'r amgylchedd hanesyddol. Gallai hyn gynnwys polisïau sy'n ymwneud ag effeithiau ar dirwedd, treflun, strwythurau a nodweddion hanesyddol.

Cyfarwyddeb Dŵr Yfed yr UE (98/83/EC)

Mae'n darparu ar gyfer ansawdd dŵr yfed.

Mae'r safonau sydd wedi'u cynnwys yn gyfreithiol rwymol.

Dylai'r ISA ystyried amcanion sy'n ymwneud ag ansawdd dŵr.

Dylai'r CDLl gydnabod y gall datblygiad effeithio ar ansawdd dŵr a chynnwys polisïau i

ddiogelu'r adnoddau.

Cyfarwyddeb yr UE ar Dirlenwi Gwastraff (99/31/EC)

Mae'n nodi gofynion sy'n sicrhau bod yr effeithiau amgylcheddol yn cael eu deall a'u lliniaru pan fydd tirlenwi'n digwydd.

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n nodi blaenoriaethau i leihau gwastraff, mwy o ailgylchu ac ailddefnyddio.

Dylai'r CDLl ystyried tirlenwi yng nghyswllt ffactorau amgylcheddol.

Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr UE (2000/60/EC)

Mae'n sefydlu fframwaith ar gyfer diogelu dyfroedd wyneb mewndirol, dyfroedd aberol,

dyfroedd arfordirol a dŵr daear sydd:

  • Mae'n atal dirywiad pellach a diogelu a gwella statws ecosystemau dyfrol ac, o ran eu hanghenion dŵr, ecosystemau daearol a gwlypdiroedd sy'n dibynnu'n uniongyrchol ar yr ecosystemau dyfrol;
  • Mae'n hyrwyddo defnyddio dŵr yn gynaliadwy ar sail diogelu'r adnoddau dŵr sydd ar

gael yn y tymor hir;

  • Mae'n anelu at ddiogelu a gwella'r amgylchedd dyfrol yn well, ymhlith pethau eraill, drwy fesurau penodol ar gyfer lleihau gollyngiadau, allyriadau a cholli sylweddau â blaenoriaeth yn raddol, a rhoi'r gorau i ollyngiadau, allyriadau a cholli sylweddau peryglus â blaenoriaeth, neu eu dirwyn i ben yn raddol;
  • Mae'n sicrhau gostyngiad cynyddol mewn llygredd dŵr daear ac yn atal ei lygru
  • ymhellach, ac yn

  • Cyfrannu at liniaru effeithiau llifogydd a sychder.

Dylai'r ISA ystyried yr effeithiau ar adnoddau ac ansawdd dŵr.

Dylai polisïau'r CDLl ystyried sut y gellir diogelu a gwella'r amgylchedd dŵr. Bydd hyn yn digwydd drwy leihau llygredd ac echdynnu dŵr.

Gellir diogelu a gwella cyrsiau dŵr hefyd drwy eu haddasu'n ffisegol. Bydd angen i gynllunio gofodol ystyried a ellir gwella cyrsiau dŵr drwy weithio gyda datblygwyr.

Confensiwn Aarhus (2001)

Mae Confensiwn Aarhus yn gytundeb amgylcheddol amlochrog sy'n cynyddu'r cyfleoedd i ddinasyddion gael gafael ar wybodaeth amgylcheddol ac yn sicrhau gweithdrefn reoleiddio dryloyw a dibynadwy. Mae'n annog mynediad at wybodaeth, cyfranogiad y cyhoedd a mynediad at gyfiawnder.

Ymgynghorir ar yr ISA a bydd yn agored i graffu arno yn unol â gofyniad y rheoliadau perthnasol.

Rhaid cyflwyno ymgynghoriad cyhoeddus a mynediad at wybodaeth sy'n cefnogi'r broses o wneud penderfyniadau yn y gweithdrefnau ar gyfer llunio'r CDLl.

Cyfarwyddeb Sŵn Amgylcheddol yr UE (Cyfarwyddeb 2002/49/EC)

Mae egwyddorion sylfaenol y Gyfarwyddeb yn debyg i'r rhai sy'n sail i bolisïau amgylcheddol cyffredinol eraill (fel aer neu wastraff), h.y.:

  • Monitro'r broblem amgylcheddol; drwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cymwys mewn Aelod-wladwriaethau lunio "mapiau sŵn strategol" ar gyfer prif ffyrdd, rheilffyrdd, meysydd awyr a chrynodrefi, gan ddefnyddio dangosyddion sŵn wedi'u cysoni Lden (lefel gyfwerth â dydd-min nos-nos) a Lnight (lefel gyfwerth â nos). Bydd y mapiau hyn yn cael eu defnyddio i asesu nifer y bobl sy'n flin ac yr aflonyddir ar eu cwsg ledled Ewrop;
  • Hysbysu ac ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch amlygiad i sŵn, ei effeithiau, a'r mesurau a ystyrir i fynd i'r afael â sŵn, yn unol ag egwyddorion Confensiwn Aarhus;
  • Mynd i'r afael â materion sŵn lleol drwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cymwys lunio cynlluniau gweithredu i leihau sŵn lle bo angen a chynnal ansawdd sŵn amgylcheddol lle bo'n dda. Nid yw'r gyfarwyddeb yn gosod unrhyw werth terfyn, ac nid yw ychwaith yn rhagnodi'r mesurau i'w defnyddio yn y cynlluniau gweithredu, sy'n parhau'n ddibynnol ar ddisgresiwn yr awdurdodau cymwys;
  • Datblygu strategaeth hirdymor ar gyfer yr UE, sy'n cynnwys amcanion i leihau nifer y bobl y bydd sŵn yn effeithio arnynt yn y tymor hwy, ac sy'n darparu fframwaith ar gyfer datblygu polisi presennol y Gymuned ar leihau sŵn o'r ffynhonnell. Gyda golwg ar hyn, mae'r Comisiwn wedi gwneud datganiad ynghylch y darpariaethau a nodir yn Erthygl 1.2 mewn perthynas â pharatoi deddfwriaeth sy'n ymwneud â ffynonellau sŵn.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n mynd i'r afael â lleihau sŵn gormodol. Bydd angen i'r CDLl ystyried gofynion y Gyfarwyddeb Sŵn Amgylcheddol.

Confensiwn Tirweddau Ewropeaidd 2000 (a ddaeth 
yn 
rhwymol ym mis Mawrth 2007)

Roedd y Confensiwn yn amlinellu'r angen i gydnabod tirwedd yn y gyfraith, i ddatblygu polisïau tirwedd sy'n benodol ar gyfer diogelu, rheoli a chreu tirweddau, ac i sefydlu gweithdrefnau ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill yn y gwaith o greu a gweithredu polisïau tirwedd. Mae hefyd yn annog integreiddio tirwedd i bob maes polisi perthnasol, gan gynnwys polisïau diwylliannol, economaidd a chymdeithasol.

Mae mesurau penodol yn cynnwys:

  • codi ymwybyddiaeth o werth tirweddau ymhlith pob sector o gymdeithas, ac o rôl cymdeithas wrth eu llunio;
  • hyrwyddo hyfforddiant ac addysg tirwedd ymysg arbenigwyr tirwedd, proffesiynau cysylltiedig eraill, ac mewn cyrsiau ysgol a phrifysgol;
  • adnabod ac asesu tirweddau, a dadansoddi newid yn y dirwedd, gyda rhanddeiliaid yn cymryd rhan weithredol;
  • pennu amcanion ar gyfer ansawdd y dirwedd, gan gynnwys y cyhoedd; a
  • gweithredu polisïau tirwedd, drwy sefydlu cynlluniau a rhaglenni ymarferol.

Dylai'r ISA ystyried sut y bydd tirwedd yn cael ei integreiddio i'r holl feysydd polisi perthnasol, gan ystyried sut y mae canlyniadau'r Confensiwn Tirweddau Ewropeaidd yn bwydo i mewn i'r CDLl a'i ddogfennau cysylltiedig. Dylai'r CDLl ddatblygu polisïau penodol ar gyfer gwarchod, rheoli a chreu tirweddau.

Cyfarwyddeb Llifogydd yr UE 2007/60/EC

Ei nod yw darparu dull cyson o reoli risg llifogydd ledled Ewrop.

Dylai'r ISA ystyried amcanion sy'n ymwneud â risg llifogydd.

Dylai'r CDLl gydnabod y gall datblygiad effeithio ar fod yn agored i lifogydd a chynyddu'r risg o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd.

Cyfarwyddeb Ansawdd Aer yr UE (2008/50/EC) chyfarwyddeba u blaenorol (96/62/EC; 99/30/EC; 
2000/69/EC 2002/3/EC)

Darparodd y Gyfarwyddeb newydd fod y rhan fwyaf o'r ddeddfwriaeth bresennol yn cael ei huno'n un gyfarwyddeb (ac eithrio'r bedwaredd is-gyfarwyddeb) heb unrhyw newid i amcanion ansawdd aer presennol.

Mae'r amcanion perthnasol yn cynnwys:

  • Cynnal ansawdd aer amgylchynol lle mae'n dda a'i wella mewn achosion eraill; a
  • Cynnal ansawdd aer amgylchynol lle mae'n dda a'i wella mewn achosion eraill o ran sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, deunydd gronynnol a phlwm.

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n ymwneud ag ansawdd aer.

Dylai polisïau cynlluniau datblygu lleol ystyried cynnal ansawdd aer da a'r mesurau y gellir eu cymryd i'w wella drwy, er enghraifft, annog cerbydau i symud llai.

Cyfarwyddeb Nitradau'r Undeb Ewropeaidd (UE) (91/676/EEC)

Amcan y Gyfarwyddeb hon yw:

  • lleihau llygredd dŵr a achosir neu a berir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol; a
  • atal llygredd pellach o'r fath.

Darparu ar gyfer nodi ardaloedd agored i niwed.

Dylai'r CDLl ystyried effeithiau datblygiad ar unrhyw ardaloedd a nodwyd fel rhai sy'n sensitif i nitradau lle nad yw datblygiad o'r fath yn cael ei ystyried o fewn ei gwmpas.

Dylai polisïau ystyried yr amcan i hyrwyddo arferion amaethyddol sy'n amgylcheddol sensitif.

Cyfarwyddeb yr UE ar Gadwraeth Adar Gwyllt (09/147/EC) (fersiwn wedi'i chodeiddio o Gyfarwyddeby Cyngor 79/409/EEC fel y'i diwygiwyd)

Mae'n nodi 181 o rywogaethau ac is-rywogaethau mewn perygl y mae'n ofynnol i'r Aelod- wladwriaethau ddynodi Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ar eu cyfer.

Mae'n ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol bod gwledydd yr UE yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwarchod adar. Mae hyn yn cynnwys dewis a dynodi Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig.

Mae'r Camau Targed yn cynnwys:

  • Creu ardaloedd gwarchodedig;
  • Cynnal a rheoli; ac
  • Ailsefydlu biotopau a ddinistriwyd.

Dylai'r ISA ystyried amcanion i warchod a gwella bioamrywiaeth, gan gynnwys adar gwyllt.

Dylai'r CDLl gynnwys polisïau i warchod a gwella poblogaethau adar gwyllt, gan gynnwys diogelu Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig.

Cyfarwyddebyr UE ar Warchod Cynefinoedd Naturiol a Phlanhigionac Anifeiliaid Gwyllt (92/43/EEC) a Diwygiadau Dilynol

Mae'r gyfarwyddeb yn ceisio gwarchod cynefinoedd a rhywogaethau naturiol. Mae gwarchod cynefinoedd naturiol yn ei gwneud yn ofynnol i aelod-wladwriaethau nodi ardaloedd cadwraeth arbennig a chynnal, lle bo angen, nodweddion tirwedd sydd o bwys i fywyd gwyllt a phlanhigion.

Mae'r gwelliannau yn 2007 yn:

  • symleiddio'r drefn gwarchod rhywogaethau er mwyn adlewyrchu'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn well;
  • darparu sail gyfreithiol glir ar gyfer goruchwylio a monitro rhywogaethau a warchodir gan Ewrop (EPS);
  • cryfhau'r drefn ar fasnachu EPS nad ydynt yn gynhenid i'r DU; a
  • sicrhau bod y gofyniad i gynnal asesiadau priodol o gydsyniadau echdynnu dŵr a

chynlluniau defnydd tir yn glir.

Dylai'r ISA gynnwys blaenoriaethau ar gyfer diogelu nodweddion tirwedd er budd ecolegol.

Dylai polisïau'r Cynllun Datblygu Lleol geisio gwarchod nodweddion tirwedd sy'n bwysig i gynefinoedd a sicrhau bod safleoedd Natura 2000 a Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop yn cael eu gwarchod.

Cyfarwyddeb yr UE ar Wastraff (Cyfarwyddeb 75/442/EEC, 
2006/12/EC 2008/98/EC fel y'i diwygiwyd)

Mae'n ceisio atal a lleihau'r gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu a'i effeithiau. Lle bo angen, dylid gwaredu gwastraff heb greu problemau amgylcheddol

Mae'n ceisio diogelu'r amgylchedd ac iechyd pobl drwy atal neu leihau effeithiau niweidiol cynhyrchu a rheoli gwastraff a thrwy leihau effeithiau cyffredinol defnyddio adnoddau a gwella effeithlonrwydd defnydd o'r fath.

Mae'n hyrwyddo datblygu technoleg lân i brosesu gwastraff, gan hyrwyddo ailgylchu ac ailddefnyddio.

Mae'r Gyfarwyddeb yn cynnwys amrywiaeth o ddarpariaethau gan gynnwys:

  • Sefydlu casgliadau gwastraff ar wahân lle bo hynny'n ymarferol yn dechnegol, yn amgylcheddol ac yn economaidd ac yn briodol er mwyn bodloni'r safonau ansawdd angenrheidiol ar gyfer y sectorau ailgylchu perthnasol – gan gynnwys, erbyn 2015, casgliad ar wahân ar gyfer o leiaf papur, metel, plastig a gwydr.
  • Targed ailgylchu gwastraff cartrefi – rhaid cynyddu'r gwaith o baratoi i ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau gwastraff fel, o leiaf, papur, metel, plastig a gwydr o gartrefi ac o bosibl o darddiadau eraill, cyn belled â bod y ffrydiau gwastraff hyn yn debyg i wastraff o gartrefi, i o leiaf 50% yn ôl pwysau erbyn 2020.
  • Targed adfer gwastraff adeiladu a dymchwel – rhaid cynyddu'r gwaith paratoi ar gyfer ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer deunyddiau eraill o wastraff adeiladu a dymchwel nad yw'n beryglus i isafswm o 70% yn ôl pwysau erbyn 2020.

Dylai'r ISA gynnwys blaenoriaethau i leihau gwastraff, mwy o ailgylchu ac ailddefnyddio.

Dylai polisïau'r Cynllun Datblygu Lleol amcanu at leihau gwastraff, a'r effeithiau amgylcheddol a achosir ganddo. Dylai polisïau hyrwyddo ailgylchu ac ailddefnyddio.

Cyfarwyddeb Ynni Adnewyddadw y'r UE (2009/28/EC)

Mae'r Gyfarwyddeb hon yn sefydlu fframwaith cyffredin ar gyfer defnyddio ynni o ffynonellau adnewyddadwy er mwyn cyfyngu ar allyriadau nwyon tŷ gwydr a hyrwyddo trafnidiaeth lanach. Mae'n annog effeithlonrwydd ynni, defnyddio ynni o ffynonellau adnewyddadwy a gwella'r cyflenwad ynni.

Pob Aelod-wladwriaeth i gyrraedd targed isaf o 10% ar gyfer cyfran yr ynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2020.

Dylai'r ISA gynnwys ystyried defnyddio ynni o ffynonellau ynni adnewyddadwy.

Dylai'r CDLl gyfrannu at gynyddu cyfran yr ynni o ffynonellau ynni adnewyddadwy lle bo hynny'n briodol.

EU (2009) Adnewyddiadi Strategaeth Datblygu Cynaliadwy yr UE

Ym mis Mehefin 2001, cytunodd Penaethiaid Gwladwriaethau'r UE ar y strategaeth datblygu cynaliadwy Ewropeaidd gyntaf. Mae'r Strategaeth yn nodi sut gall yr UE ddiwallu anghenion cenedlaethau'r presennol heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion. Mae'r Strategaeth yn cynnig prif amcanion ac yn rhestru saith her allweddol:

  • Newid yn yr hinsawdd ac ynni glân;
  • Trafnidiaeth gynaliadwy;
  • Defnyddio a chynhyrchu cynaliadwy;
  • Cadwraeth a rheoli adnoddau naturiol;
  • Iechyd y cyhoedd;
  • Cynhwysiant cymdeithasol, demograffeg a mudo; a
  • Thlodi byd-eang.

Dylai'r CDLl anelu at greu patrwm datblygu sy'n gyson ag amcanion y Strategaeth ac sydd, yn ei dro, yn hyrwyddo datblygu cynaliadwy.

Comisiwn Ewropeaidd (2011) Ewrop sy'n Effeithlon o ran Adnoddau - Menter Flaenllaw dan Strategaeth Ewrop 2020, Cyfathrebiad oddi wrth y Comisiwn i Senedd Ewrop, y Cyngor, Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop a Phwyllgor y Rhanbarthau (COM 2011/21)

Nod y fenter flaenllaw hon yw creu fframwaith ar gyfer polisïau i gefnogi'r symudiad tuag at economi carbon isel sy'n effeithlon o ran adnoddau a fydd yn helpu i wneud y canlynol:

  • Hybu perfformiad economaidd tra'n lleihau'r defnydd o adnoddau;
  • Canfod a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer twf economaidd a mwy o arloesi a rhoi hwb i gystadleurwydd yr UE;
  • Sicrhau diogelwch y cyflenwad o adnoddau hanfodol; a
  • Brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a chyfyngu ar effeithiau amgylcheddol defnyddio adnoddau.

Mae gan bob Aelod-wladwriaeth darged a gyfrifir yn ôl cyfran yr ynni o ffynonellau adnewyddadwy yn ei defnydd terfynol gros ar gyfer 2020. Mae'n ofynnol i'r DU gael 15 y cant o anghenion ynni o ffynonellau adnewyddadwy, gan gynnwys biomas, hydro, gwynt ac ynni'r haul erbyn 2020.

O 1 Ionawr 2017, dylid cynyddu'r gyfran o fiodanwyddau a biohylifau mewn arbedion allyriadau i 50 y cant.

Dylai fframwaith asesu'r ISA gynnwys amcanion, dangosyddion a thargedau sy'n ymwneud â defnyddio adnoddau.

Dylai'r CDLl ystyried amcanion y Fenter Flaenllaw.

Cymhelliant Gwres Adnewyddadw y (RHI) (Swyddfa Marchnadoedd Nwy Thrydan, 2018)

Mae gwres yn cyfrif am 46% o gyfanswm defnydd ynni'r DU ac felly mae hon yn fenter allweddol i gyrraedd targedau 2020 o 15% o ynni o ffynonellau adnewyddadwy. Y cymhelliant yw rhoi incwm sefydlog i aelwyd gynhyrchu ei hynni gwres adnewyddadwy ei hun o ynni solar neu wynt.

Nod y Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy yw cynyddu faint o ynni adnewyddadwy a ddefnyddir i wresogi. Gosodwyd targedau ar gyfer y sectorau annomestig a domestig. Bydd hyn yn cynyddu lefel gyffredinol yr ynni adnewyddadwy a ddefnyddir ar gyfer gwresogi i 12% o'r 1.5% fel y mae ar hyn o bryd.

Mae'n cynnwys amcan cynaliadwyedd sy'n ymwneud â chynyddu'r ynni a ddarperir o ffynonellau adnewyddadwy.

Dylai'r CDLl gefnogi darpariaeth ynni adnewyddadwy.

Cyfarwyddeb 2015/1513 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb 98/70/EC sy'n ymwneud ag ansawdd
tanwyddau petrol a diesel acyn diwygio Cyfarwyddeb
2009/28/EC ar hyrwyddo
defnyddioynni offynonellau
adnewyddadwy

 

Mae'r Gyfarwyddeb hon yn creu fframwaith cyffredin ar gyfer defnyddio ynni adnewyddadwy yn yr UE er mwyn cyfyngu ar allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) a hyrwyddo trafnidiaeth lanach. I wneud hynny, mae Aelod-wladwriaethau'n mynnu bod cyflenwyr tanwydd neu ynni yn lleihau cylch bywyd GHG fesul uned o ynni tanwyddau a ddefnyddir o leiaf 6% erbyn 31 Rhagfyr 2020. Cyfuno biodanwyddau yw un o'r dulliau sydd ar gael i gyflenwyr tanwydd ffosil i leihau dwysedd nwyon tŷ gwydr y tanwyddau ffosil a gyflenwir. Rhaid i bob Aelod-wladwriaeth hefyd sicrhau bod cyfran yr ynni o ffynonellau adnewyddadwy ym mhob math o drafnidiaeth yn 2020 yn o leiaf 10% o'r defnydd terfynol o ynni mewn trafnidiaeth.

Bydd pob gwlad yn yr UE yn gwneud cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer 2020, gan osod cyfran ar gyfer ffynonellau ynni adnewyddadwy mewn trafnidiaeth, gwresogi a chynhyrchu trydan.

Mae'n cynnwys amcan cynaliadwyedd sy'n ymwneud â chynyddu'r ynni a ddarperir o ffynonellau adnewyddadwy.

Dylai'r CDLl gefnogi darpariaeth ynni adnewyddadwy gan gynnwys trydan, gwres a thrafnidiaeth.

Cynllun Strategol 2016-2020 (Cyfarwyddiaet Gyffredinol ar gyfer Symudedd a Thrafnidiaeth, 2016)

Er mwyn cyfrannu at gyflawni'r nodau cyffredinol a osodwyd ar lefel yr UE, mae'r Comisiwn wedi gosod nifer o Amcanion Cyffredinol yn seiliedig ar y blaenoriaethau a amlinellwyd gan yr Arlywydd Juncker. Mae gweithgareddau DG MOVE yn cyfrannu'n weithredol at y rhain ac yn benodol at y 5 Amcan Cyffredinol canlynol:

  • Amcan Cyffredinol 1 y Comisiwn: "Hwb Newydd i Swyddi, Twf a Buddsoddiad"
  • Amcan Cyffredinol 2 y Comisiwn: "Marchnad Ddigidol Sengl Gysylltiedig"
  • Amcan Cyffredinol 3 y Comisiwn: "Undeb Ynni Gwydn gyda Pholisi Newid Hinsawdd sy'n Edrych tua'r Dyfodol"
  • Amcan Cyffredinol 4 y Comisiwn: "Marchnad Fewnol Ddyfnach a Thecach gyda Sylfaen Ddiwydiannol Gryfach"
  • Amcan Cyffredinol 5 y Comisiwn: "Gweithredwr Byd-eang Cryfach"


Mae camau gweithredu DG MOVE sy'n cyfrannu at Amcanion Cyffredinol y Comisiwn yn dod o dan 3 Amcan Penodol, sy'n cyfateb i'r prif offerynnau sydd ar gael:

  • Amcan Penodol 1 DG MOVE: "Ardal Drafnidiaeth Ewropeaidd Sengl effeithlon, gynaliadwy, saff a diogel: Gwella rheoleiddio, sicrhau lefel uchel o weithredu deddfwriaeth yr UE ym maes trafnidiaeth a chystadleuaeth agored a theg yn yr UE ac mewn perthynas â gwledydd partner allweddol."
  • Amcan Penodol 2 DG MOVE: "Seilwaith trafnidiaeth Ewropeaidd modern: Sicrhau bod y Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd yn cael ei weithredu'n effeithiol gyda chymorth Cyfleuster Cysylltu Ewrop a'r offerynnau ariannol arloesol (EFSI)."
  • Amcan Penodol 3 DG MOVE: "Sector trafnidiaeth arloesol: Sicrhau bod cyllid yn cael ei roi ar waith yn effeithiol ar gyfer gweithgareddau ymchwil ac arloesi yn yr ardal drafnidiaeth o dan Horizon 2020."

Er mwyn mesur y cynnydd a wnaed gan DG MOVE tuag at weithredu ei bolisïau a chyrraedd amcanion penodol, cyflwynir nifer o ddangosyddion yn atodiad y Cynllun Strategol. Rhoddir sylw arbennig i'r tri dangosydd canlynol:

  1. Cyfradd trosi mewn deddfwriaeth trafnidiaeth (gweler amcan penodol 1)
  2. Cyfanswm grantiau Cyfleuster Cysylltu Ewrop, dirprwyaethau, cyfraniadau a lofnodwyd ar gyfer prosiectau a rhaglenni trafnidiaeth (gweler amcan penodol 2)
  3. Cyfanswm grantiau Horizon 2020, dirprwyaethau, cyfraniadau a lofnodwyd ar gyfer prosiectau a rhaglenni trafnidiaeth (gweler amcan penodol 3)

Dylai'r ISA ystyried yr amcanion cyffredinol a phenodol wrth ddatblygu'r fframwaith cynaliadwyedd.

Dylai'r CDLl ystyried amcanion cyffredinol a phenodol y Cynllun Strategol wrth ddatblygu polisïau/cynigion

Cyfarwyddeb Asesiad Amgylcheddol Strategol 2001/42/EC ar asesu effeithiau cynlluniau a rhaglenni penodol ar yr amgylchedd

Darparu ar gyfer lefel uchel o ddiogelu'r amgylchedd a chyfrannu at integreiddio ystyriaethau amgylcheddol i'r gwaith o baratoi a mabwysiadu cynlluniau a rhaglenni gyda golwg ar hyrwyddo datblygu cynaliadwy.

Rhaid bodloni gofynion y Gyfarwyddeb yn yr Arfarniad Cynaliadwyedd pan fydd Arfarniad Cynaliadwyedd/AAS integredig yn cael ei gynnal (yn yr un modd â CDLl newydd Ynys Môn).

Mae'nymwneudâphrosesgyffredinolyrISA.

Dyrannu safleoedd a datblygu polisïau a ddewisir ar sail canfyddiadau'r AAS (yn ogystal â ffactorau perthnasol eraill).

CENEDLAETHOL (Y DU Chymru)

Deddf Seilwaith (Cymru) 2024

Mae'r Ddeddf yn sefydlu proses gydsynio unedig ar gyfer seilwaith yng Nghymru (a dyfroedd Cymru), o'r enw Cydsyniad Seilwaith, ar gyfer mathau penodol o seilwaith mawr a elwir yn Brosiectau Seilwaith Arwyddocaol.

Mae'r Ddeddf hefyd yn cynnwys y gallu i weinidogion ychwanegu, amrywio neu ddileu prosiectau cyn belled bod y prosiectau ym meysydd ynni, atal llifogydd, mwynau, trafnidiaeth, dŵr, dŵr gwastraff a gwastraff.

Dylai'r ISA ystyried effeithiau datblygu seilwaith ar gynaliadwyedd.

Bydd yn rhaid paratoi'r CDLl yn unol â'r Ddeddf. Gallai'r Ddeddf leihau faint o amser mae'n ei gymryd i ganiatáu a darparu seilwaith mawr.

Y Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026 (2021)

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi'r amcanion llesiant y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflawni dros y pum mlynedd nesaf o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Y deg amcan llesiant yw:

  • Darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel.
  • Diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed.
  • Adeiladu economi yn seiliedig ar egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol.
  • Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth i ni wneud y cynnydd mwyaf tuag at ddatgarboneiddio.
  • Gwreiddio ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a byd natur ym mhopeth a wnawn.
  • Barhau â'n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a safonau yn codi.
  • Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math.
  • Gwthio tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi ein diwydiannau twristiaeth, chwaraeon a'r celfyddydau i ffynnu.
  • Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi hyd yn oed yn llefydd gwell i fyw a gweithio ynddynt.
  • Arwain Cymru mewn sgwrs ddinesig genedlaethol am ein dyfodol cyfansoddiadol, a rhoi'r presenoldeb cryfaf posibl i'n gwlad ar lwyfan y byd.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n mynd i'r afael ag iechyd a lles (ac elfen HIA yr ISA) i ystyried effeithiau'r CDLl ar draws yr ystod o faterion a allai effeithio ar y maes pwnc hwn.

Dylai'r CDLl geisio mynd i'r afael â'r deg amcan llesiant a amlinellir yn y Rhaglen Lywodraethu.

Fargen Twf

Mae'r Fargen Twf yn gytundeb a fydd yn cynhyrchu cyfanswm buddsoddiad o dros £1 biliwn ar gyfer Gogledd Cymru er mwyn cynhyrchu dros 4,000 o swyddi newydd a chreu cynyddu o

£2.4 biliwn mewn gwerth ychwanegol gros. Nodau'r cytundeb yw:

  • Adeiladu economi fwy bywiog, cynaliadwy a chadarn yng Ngogledd Cymru.
  • Meithrin ein cryfderau, hybu cynhyrchiant ar yr un pryd â mynd i'r afael â heriau hirdymor a rhwystrau economaidd i sicrhau twf cynhwysol.
  • Hyrwyddo twf mewn ffordd raddadwy, gynhwysol a chynaliadwy, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n mynd i'r afael â thwf economaidd ac iechyd a lles (ac elfen HIA yr ISA) i ystyried effeithiau'r CDLl ar draws yr ystod o faterion a allai effeithio ar y maes pwnc hwn.

Dylai'r CDLl geisio cefnogi twf economaidd ac iechyd a lles.

Ailddychmygu Adeiladu Tai Cymdeithasol
yng Nghymru: Strategaeth Dulliau Adeiladu Modern ar gyfer Tai Cymdeithasol (2020)

Mae'r strategaeth yn nodi disgwyliadau sy'n ymwneud â chynhyrchu cartrefi sy'n cael eu hadeiladu, gan ddarparu canllaw i ddarparwyr tai cymdeithasol a fforddiadwy yng Nghymru ar ddefnyddio Dulliau Adeiladu Modern (MMC) i adeiladu cartrefi newydd. Mae'r strategaeth yn targedu llywodraeth leol, cymdeithasau tai a busnesau preifat, gan eu hannog i ategu gwaith adeiladu traddodiadol gyda thechnolegau a dulliau newydd. Mae cynhyrchion MMC yn darparu manteision clir a phendant sy'n cyflwyno achos cryf dros eu defnyddio'n eang. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Adeiladau a seilwaith o ansawdd gwell
  • Gweithlu mwy medrus a chynhyrchiant uwch
  • Gwell perfformiad mewn adeiladau

Nod y strategaeth hon yw canolbwyntio adnoddau i ddarparu mwy o gartrefi cymdeithasol gan ddefnyddio MMC ac, wrth wneud hynny, helpu i ddatblygu'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru. Bydd Gweinidogion Cymru yn cefnogi MMC yng Nghymru yn y ffyrdd canlynol:

  • Safoni cylchoedd sicrwydd, gwarantau ac achrediadau i gefnogi hyder benthycwyr a thrydydd partïon mewn MMC
  • Gosod safonau ar gyfer pob cartref cymdeithasol newydd yng Nghymru
  • Archwilio modelau caffael gwerth uchel yn hytrach na chost isel i adlewyrchu costau oes gyfan adeiladu o'r newydd a darparu mwy o opsiynau datblygu i ddarparwyr tai
  • Datblygu dulliau safonol o ddylunio a gweithgynhyrchu er mwyn cynyddu niferoedd, lleihau costau ac adeiladu mwy o gartrefi
  • Nodi a chydlynu gofynion sgiliau a chymwysterau i gefnogi mwy o ddefnydd o MMC
  • Cefnogi'r gwaith o weithgynhyrchu cartrefi yng Nghymru, mewn ffordd sy'n cyfrannu at uchelgeisiau cymdeithasol ac economaidd ehangach y llywodraeth
  • Cydweithio a phartneriaethau
  • Darparu cymorth i gynhyrchwyr MMC yng Nghymru a'u cadwyni cyflenwi i helpu'r diwydiant i dyfu a ffynnu
  • Mwy na thai yn unig (ffocws ychwanegol ar agweddau o'r broses gynllunio ac annog mwy o gwmnïau gwaith tir lleol i ddechrau paratoi safleoedd preswyl).

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n mynd i'r afael â'r potensial i ddarparu tai drwy MMC, gan sicrhau bod datblygiadau newydd yn cyfrannu at gynaliadwyedd, effeithlonrwydd ynni a fforddiadwyedd.

Dylai polisïau tai yn y CDLl fod yn ystyriol o'r Strategaeth, gan gyd-fynd â'i hamcanion i wella ansawdd ac argaeledd cartrefi. Dylai'r CDLl gefnogi mabwysiadu MMC drwy annog arloesi mewn dulliau adeiladu, gan sicrhau bod dyraniadau tir yn addas ar gyfer datblygiadau MMC.

Deddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023

Mae'r Ddeddf yn nodi'r cyfeiriad ar gyfer cynllunio ac yn gwneud darpariaethau i gefnogi'r agenda ffyniant bro. Mae'n ceisio symleiddio'r broses gynllunio gan roi mwy o bwys ar gynlluniau datblygu ar yr un pryd. Mae hefyd yn ceisio gwella'r gwaith o gyflenwi seilwaith gyda system ardollau newydd, gwella aliniad rhwng cynlluniau i fynd i'r afael â materion trawsffiniol, a bydd yn cyflwyno diogelwch ychwanegol ar gyfer asedau treftadaeth. Mae'r Ddeddf hefyd yn datgan y bydd systemau presennol yr UE, sef SEA, HRA ac EIA yn cael eu disodli maes o law gan broses symlach o'r enw 'Adroddiadau Canlyniadau Amgylcheddol'.

Rhaid paratoi'r ISA yn unol â gofynion deddfwriaethol y Ddeddf, gan sicrhau ei fod yn asesu effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y CDLl.

Bydd yn rhaid paratoi'r CDLl yn unol â'r ddeddfwriaeth, gan sicrhau bod polisïau cynllunio lleol yn cyd-fynd ag amcanion y Ddeddf, gan gynnwys drwy wella'r cyflenwad tai.

Strategaeth Diogelwch Ynni Prydain (2022)

Mae'r Strategaeth yn nodi sut bydd y DU yn gwella ei diogelwch ynni, gan nodi cynlluniau ar gyfer defnyddio gwynt, niwclear newydd, solar a hydrogen yn y dyfodol, ac ar gyfer cefnogi'r gwaith o gynhyrchu olew a nwy domestig yn y tymor agosach. Mae'r strategaeth yn adeiladu ar 'gynllun deg pwynt ar gyfer chwyldro diwydiannol gwyrdd' y Prif Weinidog, a'r 'strategaeth sero net'. Mae'r prif nodau ac ymrwymiadau'n cynnwys:

  • Ymrwymiadau newydd i roi hwb enfawr i ynni glân a chyflymu'r defnydd, a allai olygu y bydd 95% o drydan Prydain Fawr yn garbon isel erbyn 2030.
  • Cefnogi dros 40,000 yn rhagor o swyddi mewn diwydiannau glân, gan greu cyfanswm o 480,000 o swyddi erbyn 2030.
  • Cyflymu'r gwaith o ehangu niwclear, gwynt, solar, hydrogen, olew a nwy, gan gynnwys darparu'r hyn sy'n cyfateb i un adweithydd niwclear y flwyddyn yn hytrach nag un bob degawd.
  • Gwynt ar y môr – nod o ddarparu hyd at 50GW erbyn 2030, y bwriedir i 5GW ohono fod o wynt arnofiol ar y môr mewn moroedd dyfnach. Y nod yw i hyn gael ei ategu gan ddiwygiadau cynllunio newydd i gwtogi'r amseroedd cymeradwyo ar gyfer ffermydd gwynt newydd ar y môr o 4 blynedd i 1 flwyddyn a symleiddio cyffredinol a fydd yn ceisio lleihau'r amser mae'n ei gymryd i brosiectau newydd gyrraedd camau adeiladu ar yr un pryd â gwella'r amgylchedd.
  • Olew a nwy – bwriedir lansio cylch trwyddedu ar gyfer prosiectau olew a nwy newydd ym Môr y Gogledd yn yr Hydref, gyda thasglu newydd yn darparu cymorth pwrpasol i ddatblygiadau newydd.
  • Gwynt ar y tir – Mae'r Llywodraeth yn bwriadu ymgynghori ar ddatblygu partneriaethau gyda nifer cyfyngedig o gymunedau cefnogol sy'n dymuno cynnal seilwaith gwynt newydd ar y tir yn gyfnewid am filiau ynni is gwarantedig.
  • Gweithgynhyrchu pympiau gwres: Nod y Llywodraeth yw cynnal Cystadleuaeth Sbarduno Buddsoddi mewn Pympiau Gwres yn 2022 sy'n werth hyd at £30 miliwn i wneud pympiau gwres o Brydain, gyda'r gobaith o leihau'r galw am nwy.

Dylai'r ISA gynnwys ystyried defnyddio ynni o ffynonellau ynni adnewyddadwy.

Dylai'r CDLl gyfrannu at dargedau ynni cenedlaethol a nodir yn y Strategaeth, gan gynyddu cyfran yr ynni o ffynonellau ynni adnewyddadwy lle bo hynny'n briodol.

Cynllun Strategol Iechyd Cyhoeddus Cymru 2022-25
(2022)

Mae'r Cynllun Strategol yn nodi'r camau allweddol y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn eu cymryd yn 2022/23 yn erbyn nifer fach o themâu strategol, gan ganolbwyntio ar leihau anghydraddoldebau iechyd, atal clefydau, a hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw.

Yn ystod y tair blynedd nesaf, mae'r Cynllun yn ceisio cyflawni gwelliannau allweddol i iechyd y cyhoedd, gan gynnwys:

  • Cryfhau gallu'r system iechyd y cyhoedd ehangach a chraidd i ddylanwadu ar benderfynyddion iechyd ehangach
  • Gweithio gyda chyflogwyr a phartneriaid cenedlaethol, rhanbarthol a lleol i ddylanwadu'n gadarnhaol ar sut gall gwaith ac addysg wella iechyd a thegwch
  • Sicrhau bod atebion tegwch iechyd yn cael eu gwreiddio'n llwyddiannus ym mholisïau allweddol Cymru sy'n effeithio ar benderfynyddion iechyd ehangach

Mae dangosyddion llwyddiant yn cynnwys disgwyliad oes gwell, llai o wahaniaethau iechyd, mwy o bobl yn manteisio ar ofal iechyd ataliol

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael ag iechyd a lles (ac elfen HIA yr ISA) i ystyried effeithiau'r CDLl ar draws yr ystod o faterion a allai effeithio ar y maes pwnc hwn. Mae hyn yn cynnwys mynediad at gyfleusterau gofal iechyd, mynediad at fannau agored a chyfleusterau hamdden, llygredd sŵn, llygredd aer a lles meddyliol (gan gynnwys ynysu cymdeithasol).

Dylai'r CDLl gynnwys polisïau sy'n ceisio hybu iechyd a lles.

Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru – Gweithio i Gyflawni Dyfodol Iachach i Gymru (2018)

Mae'r Strategaeth yn ceisio sicrhau dyfodol iachach i Gymru, gan adlewyrchu Agenda 2030 y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a'i 17 Nod Datblygu Cynaliadwy. Mae saith blaenoriaeth strategol yn sail i'r Strategaeth:

  • Dylanwadu ar benderfynyddion ehangach iechyd
  • Gwella lles meddyliol a meithrin gwytnwch
  • Hyrwyddo ymddygiad iach
  • Sicrhau dyfodol iach i'r genhedlaeth nesaf drwy ganolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar
  • Diogelu'r boblogaeth rhag heintiau a bygythiadau amgylcheddol i iechyd
  • Cefnogi'r gwaith o ddatblygu system iechyd a gofal gynaliadwy sy'n canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar
  • Meithrin a defnyddio gwybodaeth a sgiliau i wella iechyd a lles ledled Cymru

Fel uchod.

Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol (2004)

Roedd y Ddeddf yn diwygio'r ffordd yr ymdrinnir â cheisiadau cynllunio er mwyn sicrhau proses gyflymach a mwy effeithlon, yn ogystal â diwygio system y cynllun datblygu. Roedd yn cyflwyno gorchmynion datblygu lleol a yn sefydlu datblygu cynaliadwy fel un o amcanion allweddol y system gynllunio.

Bydd yn rhaid paratoi'r CDLl yn unol â'r ddeddfwriaeth.

Deddf Cydraddoldeb (2010)

Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn darparu amddiffyniad cyfreithiol i bobl rhag gwahaniaethu yn y gymdeithas ehangach ac yn y gweithle.

Dylai'r ISA (drwy'r elfen asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb) ystyried goblygiadau posibl y CDLl mewn perthynas â'r nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb.

Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn darparu amddiffyniad cyfreithiol i bobl rhag gwahaniaethu yn y gymdeithas ehangach ac yn y gweithle.

Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (2018)

Mae'r Ddeddf yn diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac yn gwneud darpariaethau eraill mewn cysylltiad ag ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r UE.

Nid yw'r goblygiadau i'r CDLl a'r ISA yn gwbl hysbys eto, fodd bynnag, gallai tynnu allan o'r UE arwain at oblygiadau yn y dyfodol o ran paratoi cynlluniau.

Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) (2020)

Mae'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth gyfreithiol ar gyfer ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer setliad ariannol a chytundeb ar hawliau dinasyddion.

Nid yw'r goblygiadau i'r CDLl a'r ISA yn gwbl hysbys eto, fodd bynnag, gallai tynnu allan o'r UE arwain at oblygiadau yn y dyfodol o ran paratoi cynlluniau.

Deddf Cynllunio (Cymru) (2015)

Mae'r Ddeddf yn ceisio moderneiddio a gwella system gynllunio Cymru er mwyn hwyluso'r gwaith o ddarparu tai, cyflogaeth a seilwaith. Mae'r Ddeddf yn hyrwyddo newid diwylliannol mewn cynllunio i helpu i wneud cynllunio'n fwy cadarnhaol a chefnogi datblygiad priodol.

Mae gofynion y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) a'r Cynlluniau Datblygu Strategol (CDS) wedi'u nodi yn y ddeddfwriaeth.

Bydd angen i'r CDLl roi sylw i'r Ddeddf, a'r goblygiadau cysylltiedig (FfDC, CDS ayb)

Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 12 (2024)

Dyma'r themâu allweddol a'r nodau llesiant i Gymru sy'n cael sylw ym Mholisi Cynllunio Cymru:

  • Amddiffyn yr amgylchedd i'r graddau mwyaf posibl a chyfyngu ar yr effaith ar yr amgylchedd (gan gynnwys mewn perthynas â bioamrywiaeth, tirweddau, seilwaith gwyrdd, newid yn yr hinsawdd a'r amgylchedd hanesyddol).
  • Hwyluso amgylcheddau hygyrch ac iach (gan gynnwys mewn perthynas â mannau gwyrdd o ansawdd uchel, creu lleoedd diogel a chynhwysol, teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus a mynediad at nwyddau a gwasanaethau).
  • Gwneud y defnydd gorau o adnoddau (gan gynnwys mewn perthynas â gwneud y defnydd gorau o adnoddau naturiol, cyfyngu ar wastraff a hyrwyddo'r defnydd o dir a ddatblygwyd yn flaenorol.
  • Tyfu'r economi mewn ffordd gynaliadwy (gan gynnwys ym maes ynni adnewyddadwy a thechnoleg glyfar ac arloesol).
  • Creu a chynnal cymunedau (gan gynnwys cefnogaeth i'r iaith Gymraeg, darparu tai a swyddi i ddiwallu anghenion cymdeithas, cefnogi profiadau diwylliannol a gwasanaethau a chyfleusterau yn y gymuned).

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ymwneud â lliniaru newid yn yr hinsawdd, diogelu a gwella bioamrywiaeth, gwarchod yr amgylchedd hanesyddol, sicrhau mynediad at dai digonol o ansawdd uchel, hyrwyddo mynediad at gyflogaeth a gwasanaethau eraill, diogelu a gwella tirweddau, hyrwyddo a darparu seilwaith gwyrdd, a sicrhau iechyd a llesiant y cyhoedd.

Bydd angen i'r CDLl gynnwys ystod eang o fesurau a nodwyd gan PCC er mwyn cynorthwyo datblygu cynaliadwy a'r agenda creu lleoedd. Mae gan gynllunio hefyd rôl uniongyrchol i'w chwarae mewn perthynas ag effeithiau newid yn yr hinsawdd, a lleoliad a dyluniad adeiladau.

Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 (2021)

Cymru'r Dyfodol yw'r cynllun datblygu haen uchaf yng Nghymru, a rhaid i bob cynllun arall gydymffurfio â'r polisïau sydd yn y ddogfen honno. Mae'r cynllun yn nodi'r cyfeiriad ar gyfer twf, datblygu a buddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru tan 2040.

Bydd yn rhaid i'r CDLl gydymffurfio â Cymru'r Dyfodol. Mae polisïau wedi cael eu croesgyfeirio at nifer o bynciau lefel uchel:

  • Dewisiadau Strategol a Gofodol
  • Lleoedd Actif a Chymdeithasol
  • Lleoedd Cynhyrchiol a Mentrus
  • Lleoedd Neilltuol a Naturiol

Dylai cynaliadwyedd a chreu lleoedd fod yn rhan annatod o'r broses llunio polisïau.

Adeiladu Lleoedd Gwell (2020)

Mae'n nodi blaenoriaethau polisi cynllunio'r Llywodraeth i helpu i weithredu yn y cyfnod adfer ar ôl pandemig COVID-19. Mae'n cydnabod pwysigrwydd y system gynllunio o ran mynd i'r afael â'r materion amgylchedd adeiledig a naturiol sydd wedi codi o'r pandemig. Mewn perthynas â Chynlluniau Datblygu Lleol, mae'n cydnabod pwysigrwydd cael cynllun cyfredol ar waith er mwyn mynd i'r afael â'r blaenoriaethau presennol a'r rôl y gall cynlluniau ei chwarae o ran gwella iechyd a lles yn fwy cyffredinol.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n rhoi sylw i iechyd a lles.

Dylai'r CDLl geisio mynd i'r afael â blaenoriaethau presennol ardal y cynllun a chynnwys polisïau sy'n cefnogi adferiad yr ardal yn dilyn y pandemig yn ogystal ag iechyd a lles yn fwy cyffredinol.

Ynni Cymru: Pontio i Economi Carbon Isel (2012)

Mae'r cynllun yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at y nod o greu economi gynaliadwy, carbon isel i Gymru.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n mynd i'r afael â'r potensial i ddarparu cynlluniau adnewyddadwy ac integreiddio datblygiadau newydd i rwydweithiau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes (fel CHP a rhwydweithiau gwres).

Dylai'r CDLl annog defnyddio ynni adnewyddadwy lle bo hynny'n briodol, gan ystyried goblygiadau amgylcheddol posibl datblygiadau o'r fath.

Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel (2019)

Mae casgliad 'Ffyniant Pawb' o strategaethau a pholisïau yn cynnwys cynlluniau ar gyfer mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a lleihau allyriadau carbon. Mae'r Cynllun yn gosod y sylfeini i Gymru newid i fod yn genedl carbon isel.

Mae'r Cynllun yn cydnabod bod gan y system gynllunio rôl i'w chwarae o ran hwyluso datgarboneiddio. Mae newidiadau allweddol i Bolisi Cynllunio Cymru wedi cael eu gwneud sydd wedi cael eu dylunio i helpu Cymru i leihau allyriadau carbon, er enghraifft hyrwyddo Teithio Llesol a hyrwyddo datblygu ynni adnewyddadwy.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ceisio hyrwyddo llai o gyfraniad at newid yn yr hinsawdd drwy drafnidiaeth, gofynion ynni a ffynonellau eraill.

Dylai'r CDLl roi pwyslais ar yr agenda newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio lle mae cyfleoedd ar gael, yn enwedig mewn perthynas â datblygu polisi.

Effeithlonrwyd d Ynni yng Nghymru: Strategaeth ar gyfer y 10 Mlynedd Nesaf
2016-2026 (2017)

Nod y Cynllun yw sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa orau i wireddu potensial effeithlonrwydd ynni llawn. Mae'n nodi'r system gynllunio fel dull o hwyluso datblygiadau ynni adnewyddadwy a charbon isel.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ceisio hyrwyddo llai o gyfraniad at newid yn yr hinsawdd drwy ofynion ynni, gan gynnwys hyrwyddo dylunio sy'n defnyddio ynni'n effeithlon.

Dylai'r CDLl gynllunio'n gadarnhaol ar gyfer datblygiadau adnewyddadwy a charbon isel, drwy ddatblygu polisi.

NCT 3: Parthau Cynllunio Syml (1996)

Mae'r NCT yn darparu canllawiau ar weithredu cynlluniau Parthau Cynllunio Syml (SPZ) yng Nghymru, gan nodi rôl awdurdodau cynllunio lleol, a gallu cynlluniau o'r fath i symleiddio rheolaeth gynllunio.

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n ymwneud â sicrhau twf economaidd cynaliadwy, gan

ystyried SPZs a'u potensial ar gyfer twf economaidd ac adfywio.

Dylai'r CDLl fod yn rhagweithiol wrth nodi SPZs, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau economaidd ac adfywio lleol.

NCT 7: Rheoli Hysbysebion Awyr Agored (1996)

Mae'r Nodyn Cyngor Technegol yn rhoi arweiniad ar sut y dylai awdurdodau cynllunio lleol reoleiddio hysbysebion awyr agored i sicrhau eu bod yn cyfrannu'n gadarnhaol at amwynder gweledol a diogelwch cyhoeddus ardal.

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael â dylunio o ran hyrwyddo cadwraeth treftadaeth, yr amgylchedd naturiol, cymeriad lleol a diogelwch.

Dylai'r CDLl hyrwyddo dylunio sy'n ceisio gwella amwynder gweledol, gwarchod treftadaeth a diogelwch y cyhoedd.

NCT 10: Gorchmynion 
Cadw 
Coed (1997)

Mae'r Nodyn Cyngor Technegol yn nodi pwrpas Gorchmynion Cadw Coed (TPO), yn ogystal ag amlinellu'r broses ar gyfer dynodi, rheoli a gorfodi TPOs.

Dylai'r ISA ystyried effeithiau ar goetir (gan gynnwys coetir hynafol a choed aeddfed eraill lle bo hynny'n briodol) fel rhan o'i amcan bioamrywiaeth.

Dylai'r CDLl ymgorffori polisïau sy'n diogelu coed sy'n cael eu gwarchod gan TPOs, gan sicrhau eu bod yn cael eu hystyried mewn penderfyniadau cynllunio, a chynigion datblygu.

NCT 14: Cynllun Arfordirol (2021)

Mae'r NCT hwn yn disgrifio rôl awdurdodau cynllunio lleol a'r ystod o reolaethau sectoraidd a rheoleiddiol dros ddatblygu morol ac arfordirol. Mae'r canllawiau'n rhoi manylion nifer o faterion y mae'n rhaid eu hystyried oherwydd eu heffeithiau posibl ar brosesau ffisegol ac amodau'r tir, yn ogystal â chydbwysedd cyffredinol, sensitifrwydd a chadwraeth yr ardal.

Mae'r rhain yn cynnwys effaith weledol o'r tir a'r môr, a'r angen posibl am waith adfer ac amddiffyn. Mae'n ymdrin ag ystyriaethau a materion cynllunio i'w cynnwys mewn cynlluniau datblygu ac wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ceisio gwarchod a rheoli parthau arfordirol yn gynaliadwy yn y Fwrdeistref Sirol, gan ystyried effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Dylai'r CDLl ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar leoedd i reoli risg llifogydd. Dylai polisïau geisio cyfyngu ar y potensial ar gyfer mwy o risg llifogydd yn ardal y cynllun a, lle bo hynny'n briodol, ceisio darparu atebion ar gyfer materion cyfredol sy'n ymwneud â risg llifogydd, yn enwedig mewn perthynas ag amddiffyn yr arfordir.

NCT 13: Twristiaeth (1997)

Mae'r Nodyn Cyngor Technegol yn nodi sut y gall y system gynllunio annog mathau cynaliadwy o dwristiaeth, gan sicrhau'r manteision economaidd mwyaf posibl a gwella a diogelu buddiannau amgylcheddol ar yr un pryd.

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n ymwneud â sicrhau twf economaidd cynaliadwy yn ogystal â diogelu a gwella'r amgylchedd naturiol.

Dylai'r CDLl ddarparu fframwaith strategol ar gyfer cyfleoedd datblygu twristiaeth, gan gyfyngu ar yr effeithiau ar yr amgylchedd ac ar gymunedau lleol ar yr un pryd.

NCT 2: Cynllunio a Thai Fforddiadwy (2006)

Nod y Nodyn Cyngor Technegol yw sicrhau bod tai fforddiadwy'n cael eu darparu.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ymwneud â darparu tai fforddiadwy.

Dylai Cynlluniau Datblygu Lleol fod yn seiliedig ar Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LHMA), a rhaid iddynt osod targed tai fforddiadwy yn seiliedig ar yr angen a nodwyd yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol. Rhaid i awdurdodau lleol nodi sut y cyflawnir y targed drwy ddulliau polisi. Rhaid i'r CDLl ystyried sut y mae tai fforddiadwy'n cael eu cynnwys yn y datblygiad.

Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy (2019)

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy ym mis Ebrill 2019. Mae'r ddogfen yn cynnwys argymhellion ar gyfer newidiadau sydd wedi'u cynllunio i gynyddu'r cyflenwad a gwella'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y dylai fod yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu asesiadau o'r Farchnad Dai Leol (LHMA) yn seiliedig ar amserlen, data a methodoleg gyson ar draws deiliadaethau tai. Mae safonau newydd wedi'u cyfuno a'u symleiddio ar gyfer tai sy'n cael eu hariannu gan grantiau adeiladu o'r newydd a chartrefi A106 hefyd yn cael eu hargymell yn y ddogfen adolygu.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ymwneud â darparu tai fforddiadwy.

Dylai Cynlluniau Datblygu Lleol fod yn seiliedig ar Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LHMA), a rhaid iddynt osod targed tai fforddiadwy yn seiliedig ar yr angen a nodwyd yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol. Dylai polisïau tai yn y CDLl hefyd ystyried argymhellion y ddogfen adolygu.

NCT 18:

Trafnidiaeth (2007)

Mae'r Nodyn Cyngor Technegol yn nodi sut y gall cynllunio hyrwyddo dulliau teithio mwy cynaliadwy, a mathau o drafnidiaeth.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ymwneud â thrafnidiaeth a theithio ac, yn benodol, hyrwyddo dulliau cynaliadwy a llesol.

Dylai'r CDLl annog dulliau trafnidiaeth gynaliadwy, tra'n lleihau'r angen i deithio. Mae trafnidiaeth yn rhan annatod o'r rhan fwyaf o ddatblygiadau, ac mae'n ystyriaeth bwysig ar faterion cynaliadwyedd.

Llwybr Newydd Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021

Dylid darllen strategaeth 2021 ochr yn ochr â'r dogfennau canllawiau polisi cynllunio is- genedlaethol, gan gynnwys canllawiau rhanbarthol, cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, a chynlluniau cyflawni trafnidiaeth cenedlaethol. Mae'r strategaeth yn nodi tair blaenoriaeth:

  • Dod â gwasanaethau i bobl er mwyn lleihau'r angen i deithio.
  • Caniatáu i bobl a nwyddau symud yn rhwydd o ddrws i ddrws drwy wasanaethau a seilwaith trafnidiaeth hygyrch, cynaliadwy ac effeithlon.
  • Annog pobl i newid i drafnidiaeth fwy cynaliadwy.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ymwneud â thrafnidiaeth a theithio gan gynnwys mewn perthynas ag annog dewisiadau trafnidiaeth gynaliadwy a chyfyngu ar effeithiau amgylcheddol.

Bydd angen ymgorffori'r strategaeth fel rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol. Mae potensial i fynd i'r afael â thrafnidiaeth a theithio drwy'r Cynllun Datblygu Lleol.

Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth 2022 i 2027

Y cynllun cyflawni trafnidiaeth cenedlaethol 2022 i 2027 yw'r cynllun cyflawni 5 mlynedd cyntaf er mwyn i Lywodraeth Cymru roi Llwybr Newydd: Strategaeth Trafnidiaeth Cymru 2021 ar waith. Mae'r cynllun yn nodi ac yn anelu at gyflawni'r tair blaenoriaeth, sef:

  1. Dod â gwasanaethau i bobl er mwyn lleihau'r angen i deithio.
  2. Caniatáu i bobl a nwyddau symud yn rhwydd o ddrws i ddrws drwy wasanaethau a seilwaith trafnidiaeth hygyrch, cynaliadwy ac effeithlon.
  3. Annog pobl i newid i drafnidiaeth fwy cynaliadwy.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ymwneud â thrafnidiaeth a theithio gan gynnwys mewn perthynas ag annog dewisiadau trafnidiaeth gynaliadwy a hygyrch a chyfyngu ar effeithiau amgylcheddol.

Bydd angen ymgorffori'r cynllun cyflenwi fel rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol. Mae potensial i fynd i'r afael â thrafnidiaeth a theithio drwy'r Cynllun Datblygu Lleol.

Arweiniadar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WeITAG) (2024)

Mae canllawiau arfarnu trafnidiaeth Cymru (WelTAG) yn helpu i gynllunio rhaglenni, polisïau a phrosiectau trafnidiaeth. Mae'r canllawiau wedi'u cynllunio i helpu i ddatblygu rhaglenni a phrosiectau sy'n mynd i'r afael â blaenoriaethau trafnidiaeth y gwledydd o'r cychwyn cyntaf.

Mae WelTAG 2022 yn gosod pum maen prawf a fydd yn cael eu defnyddio i benderfynu a ddylid ystyried cefnogi rhaglen neu brosiect. Mae'r rhain yn seiliedig ar ddelfrydau o gydweddiad strategol, lles, fforddiadwyedd, y gallu i gyflawni a rheoli. Oni bai fod prosiect, rhaglen neu bolisi'n bodloni'r ddau faen prawf cyntaf, ni fydd yn cael ei ystyried ar gyfer datblygu pellach, cyllid na chefnogaeth. Yn ogystal, rhaid i bob prosiect, polisi a rhaglen gael ei gefnogi gan achos busnes sy'n dangos sut y byddant yn darparu gwerth am arian yn erbyn y meini prawf hyn.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ymwneud â thrafnidiaeth a theithio, yn enwedig ymgorffori'r meini prawf a nodir yn y canllawiau, gan gynnwys yr angen am ddatblygiadau i fodloni'r blaenoriaethau a'r manteision llesiant a nodir yn strategaeth drafnidiaeth Cymru.

Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008

Y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd yw'r sail ar gyfer dull y DU o ymdrin â newid yn yr hinsawdd. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r DU gyfan leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i lefelau cyn 1990 erbyn 2050. Mae hyn yn cyfeirio at allyriadau carbon deuocsid net y DU a nwyon tŷ gwydr eraill.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ceisio lleihau cyfraniad Ynys Môn at newid yn yr hinsawdd.

Dylai'r strategaeth i gyrraedd lefelau nwyon tŷ gwydr sy'n is na'r rhai a welwyd yn 1990 gael ei hymgorffori fel rhan o'r CDLl a dylid cynnwys polisi i helpu i gyfyngu ar lefel yr allyriadau carbon yn y Fwrdeistref Sirol. Gallai hyn gynnwys cymorth ar gyfer dulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy a lleoli datblygiadau mewn ardaloedd a fydd yn lleihau'r angen i drigolion orfod teithio'n bell yn rheolaidd.

Tuag at Ddyfodol Diwastraff – Strategaeth Wastraff Cymru (2010)

Y strategaeth hon yw strategaeth wastraff genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru. Mae'n darparu'r fframwaith hirdymor, lefel uchel ar gyfer defnyddio adnoddau'n gynaliadwy a rheoli gwastraff yng Nghymru hyd at 2050. Yn y pen draw, nod y strategaeth yw sicrhau cyfradd ailgylchu o 70% ar gyfer Gwastraff Solet Trefol ar draws pob sector erbyn 2025, ac erbyn 2050 codi hyn i 100%.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ymwneud â gwastraff a hyrwyddo trin gwastraff yn unol â'r hierarchaeth gwastraff.

Bydd yn rhaid ymgorffori'r strategaeth hon fel rhan o'r CDLl. Dylai'r CDLl ystyried dull gweithredu sy'n helpu i sicrhau bod gwastraff yn cael ei drin yn unol â'r hierarchaeth gwastraff

NCT 6: Cynllunioar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy (2010)

Mae'r Nodyn Cyngor Technegol yn ymdrin ag economeg a chymunedau gwledig cynaliadwy, tai fforddiadwy gwledig, anheddau mentrau gwledig, datblygu un blaned, gwasanaethau gwledig cynaliadwy ac amaethyddiaeth.

Dylai cynlluniau datblygu lleol hwyluso arallgyfeirio yn yr economi wledig drwy ddiwallu anghenion mentrau gwledig traddodiadol a newydd. Dylid nodi amrywiaeth eang o safleoedd ac ystyried yr angen am bolisïau safleoedd eithriedig.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ymwneud â mynediad at wasanaethau a chyfleusterau yn ogystal ag effeithiau ar gymeriad, gan gynnwys y dirwedd a'r amgylchedd hanesyddol. Dylai hefyd gynnwys amcan sy'n ymwneud â hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy.

Drwy'r sylfaen dystiolaeth, bydd angen diffinio angen lleol a hwyluso darparu gwasanaethau lle mae datblygiadau newydd o faint digonol. Dylid gweld gostyngiad yn nifer y datblygiadau yng nghefn gwlad gan ei bod yn anodd gwrthdroi'r effeithiau, a rhaid i bolisïau datblygu sydd wedi'u cynnwys yn y CDLl ystyried effeithiau cronnus.

Dylid ymgynghori â'r Adran Materion Gwledig a Llywodraeth Cymru er mwyn cael gwybodaeth am ansawdd tir amaethyddol.

Ffyniant i Bawb: Y Cynllun Gweithreduar yr Economi

Wedi'i ddrafftio i gefnogi'r gwaith o gyflawni Ffyniant i Bawb – y strategaeth genedlaethol i Gymru. Mae'r Cynllun yn nodi gweledigaeth ar gyfer twf cynhwysol, wedi'i hadeiladu ar sylfeini cryf, diwydiannau egnïol iawn y dyfodol a rhanbarthau cynhyrchiol. Nodau cyffredinol y Cynllun yw tyfu'r economi a lleihau anghydraddoldeb. Mae'r Contract Economaidd wedi'i nodi fel canolbwynt dull gweithredu'r Cynllun. Pwrpas y dull hwn yw fframio'r berthynas ddwyochrog rhwng y Llywodraeth a busnesau a sbarduno buddsoddiad cyhoeddus gyda phwrpas cymdeithasol.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ystyried twf economaidd cynaliadwy yn ogystal â lleihau gwahaniaethau yn y Fwrdeistref Sirol.

Bydd yn rhaid i'r CDLl ystyried y strategaeth hon a dylai polisïau gefnogi lefel briodol o dwf economaidd sy'n caniatáu cyflogaeth mewn sectorau cyflogaeth gwerth uchel a fydd yn cefnogi'r gwaith o gulhau mesuriadau gwahaniaethau ar Ynys Môn.

Adnewyddu'r Economi: Cyfeiriad Newydd (2010)

Nod polisi Llywodraeth Cymru yw hwyluso economi gryfach a mwy cynaliadwy drwy fuddsoddi mewn seilwaith, sgiliau, ymchwil a datblygu.

Y pum blaenoriaeth polisi yw:

  • Buddsoddi mewn seilwaith cynaliadwy o ansawdd uchel;
  • Gwneud Cymru'n lle mwy deniadol i wneud busnes;
  • Ehangu a dyfnhau'r sylfaen sgiliau;
  • Hybu arloesedd; a
  • Thargedu'r cymorth busnes rydym yn ei gynnig i'n helpu i gael mantais gystadleuol.

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael â mynediad at wasanaethau a chyfleusterau i drigolion yn ogystal â seilwaith a fydd yn cefnogi twf economaidd. Dylai hefyd gynnwys amcan sy'n ystyried y gefnogaeth i dwf economaidd cynaliadwy ei hun.

Bydd yn rhaid i'r CDLl roi sylw i'r strategaeth hon a dylai ystyried dull gweithredu sy'n sicrhau buddsoddiad mewn seilwaith, sgiliau trigolion a'r datblygiad angenrheidiol i gefnogi twf economaidd cynaliadwy.

Cymru'n Un: Un Blaned – Cynllun Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru (2009)

Datblygiad Un Blaned yw datblygiad sydd naill ai'n gwella neu nad yw'n lleihau ansawdd yr amgylchedd yn sylweddol. Gellir lleoli Datblygiadau Un Blaned o fewn neu wrth ymyl aneddiadau presennol, neu yng nghefn gwlad agored. Yng nghefn gwlad agored, dylid cael cynllun rheoli fel tystiolaeth o ddatblygiadau o'r fath.

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael â diogelu rhinweddau amgylcheddol (gan

gynnwys aer, sŵn a dŵr).

Bydd angen diweddaru polisïau sy'n ceisio rheoli datblygiadau yng nghefn gwlad agored fel rhan o'r CDLl.

Dylai materion cynaliadwyedd fod yn rhan annatod o'r broses o lunio polisïau.

Deddf Teithio Llesol (Cymru) (2013)

Mae'r Ddeddf yn darparu y gall awdurdodau lleol wella llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig, gan gynhyrchu mapiau ar gyfer llwybrau teithio llesol presennol a newydd/gwell.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ymwneud â thrafnidiaeth a theithio ac, yn benodol, hyrwyddo dulliau cynaliadwy a llesol.

Bydd yn rhaid i'r CDLl ystyried y Ddeddf, cynigion newydd a diwygiedig ar gyfer teithio llesol a/neu fapiau integredig. Mae'n gyfle i fabwysiadu dull gweithredu sy'n cryfhau'r potensial ar gyfer teithio drwy ddulliau llesol a chynaliadwy.

Partneriaethar gyfer Twf: Strategaeth ar gyfer Twristiaeth 2013-2020 
(dim dyddiad cyhoeddi)

Mae'r strategaeth yn nodi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Twristiaeth hyd at 2020, ac yn rhoi manylion sut bydd hyn yn cael ei gyflawni.

Mae'r strategaeth yn nodi y gall hyblygrwydd yn y system gynllunio sicrhau bod datblygu priodol yn gallu cefnogi ffyniant yn y sector twristiaeth yn y dyfodol. Bydd yn rhaid i'r CDLl ystyried y strategaeth hon wrth ystyried polisïau twristiaeth.

Deddf Tai (Cymru) (2014)

Nod y Ddeddf yw gwella cyflenwad, ansawdd a safonau tai yng Nghymru ac mae'n nodi nifer o ofynion ar awdurdodau lleol, gan gynnwys:

 Asesu anghenion Sipsiwn a Theithwyr

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n rhoi sylw i ddarparu'r nifer ofynnol o gartrefi a stoc dai o ansawdd uchel yn ardal y cynllun. Dylai'r ISA hefyd ystyried y potensial i ddiwallu anghenion Sipsiwn a Theithwyr.

Mae'r ddeddfwriaeth yn mynnu bod Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (AFDL) cyfredol yn cael ei gynhyrchu. Bydd angen i anghenion tai fforddiadwy a llety Sipsiwn a Theithwyr gael eu hystyried gan y CDLl.

NCT 23: Datblygu Economaidd (2014)

Mae'r Nodyn Cyngor Technegol yn nodi bod angen i'r system gynllunio gydnabod agweddau economaidd pob datblygiad, a bod penderfyniadau cynllunio'n cael eu gwneud mewn ffordd gynaliadwy sy'n cydbwyso ystyriaethau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n rhoi sylw i gynnal lefelau addas o dwf economaidd cynaliadwy ar draws ardal y cynllun.

Dylai Cynlluniau Datblygu Lleol ddefnyddio dull dilyniannol wrth nodi safleoedd at ddibenion economaidd.

Dylai gweledigaeth y Cynllun Datblygu Lleol fod yn gyson ac yn gydlynol fel bod ystyriaethau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol yn cefnogi ei gilydd ac yn pwyntio i'r un cyfeiriad.

NCT 12: Dylunio (2016)

Mae'n darparu canllawiau manwl ar 'Hyrwyddo cynaliadwyedd drwy ddylunio da' a sut y gellir hwyluso 'Cynllunio ar gyfer adeiladu cynaliadwy' drwy'r system gynllunio.

Dylid ystyried materion dylunio yn gynnar yn y broses ddatblygu. Mae angen i'r system gynllunio fod yn rhagweithiol o ran codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd materion dylunio.

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael â dylunio o ran hyrwyddo cynhwysiant mynediad, yr amgylchedd naturiol, cymeriad lleol a diogelwch.

Mae gan awdurdodau lleol rôl ddeuol i sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael eu cynnwys yn y gwaith o ddatblygu polisïau dylunio, a darparu gwybodaeth am faterion dylunio.

Dylai polisïau'r CDLl ar ddylunio nodi disgwyliadau dylunio, a dylai polisïau fynd i'r afael â materion lleol a bod yn seiliedig ar dystiolaeth.

NCT 4: Adwerthu a Datblygu Masnachol (2016)

Mae'r Nodyn Cyngor Technegol yn rhoi rhagor o gyngor mewn perthynas â strategaethau adwerthu, profion angen, ffryntiadau adwerthu a masnachol, a dangosyddion bywiogrwydd a hyfywedd.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ystyried bywiogrwydd a hyfywedd lleoliadau yng nghanol trefi.

Dylai Cynlluniau Datblygu Lleol ddefnyddio dull dilyniannol wrth nodi safleoedd at ddibenion economaidd.

Dylai gweledigaeth y Cynllun Datblygu Lleol fod yn gyson ac yn gydlynol fel bod ystyriaethau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol yn cefnogi ei gilydd ac yn pwyntio i'r un cyfeiriad.

Ffyniant i Bawb: Y Strategaeth Genedlaethol (2017)

Mae'r strategaeth hon yn nodi nod Llywodraeth Cymru i 'adeiladu Cymru sy'n ffyniannus a diogel, yn iach ac yn egnïol ac sy'n uchelgeisiol ac yn dysgu, ac yn unedig a chysylltiedig'.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ystyried iechyd a llesiant yn ogystal â'r potensial i fynd i'r afael ag amddifadedd yn ardal y cynllun.

Nod y strategaeth yw cyfuno'r holl wahanol elfennau y mae'r Llywodraeth yn dylanwadu arnynt sy'n effeithio ar fywydau pobl megis tai, addysg a chyflogaeth. Dylai'r CDLl roi sylw i'r strategaeth hon.

NCT 21: Gwastraff (2017)

Mae'n rhoi cyngor ar sut y dylai cynllunio gyfrannu at reoli gwastraff yn gynaliadwy ac effeithlonrwydd adnoddau.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ymwneud â gwastraff a hyrwyddo trin gwastraff yn unol â'r hierarchaeth gwastraff.

Dylai Cynlluniau Datblygu Lleol nodi safleoedd addas ar gyfer darparu pob math o fesurau rheoli gwastraff. Dylai strategaethau a pholisïau ddangos y dylai datblygwyr leihau gwastraff fel rhan o'r gwaith dylunio a chodi adeiladau newydd.

Bydd angen ymgynghori â rhanddeiliaid perthnasol wrth ddatblygu polisïau gwastraff y CDLl.

Cylchlythyr 005/2018 (2018)

Mae'r Cylchlythyr yn ymwneud â Sipsiwn a Theithwyr. Mae'n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i drafod anghenion llety yn uniongyrchol gyda Sipsiwn a Theithwyr, eu cyrff cynrychioliadol a grwpiau cefnogi lleol.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n rhoi sylw i ddarparu llety i ddiwallu'r holl anghenion perthnasol, gan gynnwys anghenion Sipsiwn a Theithwyr.

Bydd angen i'r CDLl ystyried manylion y Cylchlythyr wrth baratoi'r sylfaen dystiolaeth mewn perthynas â Sipsiwn a Theithwyr.

Mae'r Cylchlythyr yn nodi y bydd angen polisïau sy'n seiliedig ar feini prawf, a rhaid iddynt fod yn deg, yn rhesymol, yn realistig ac yn effeithiol wrth ddarparu safleoedd.

Strategaeth Aer Glân 2019

Mae'r Strategaeth Aer Glân yn dangos sut bydd y DU yn mynd i'r afael â phob ffynhonnell llygredd aer, gan wneud yr aer yn iachach i'w anadlu, diogelu natur a rhoi hwb i'r economi. Mae'n nodi camau gweithredu cynhwysfawr sy'n ofynnol o bob rhan o lywodraeth a chymdeithas er mwyn cyflawni'r nodau hyn.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ceisio cyfyngu ar y potensial ar gyfer llygredd aer o bob ffynhonnell. Dylai'r ISA ystyried materion sy'n ymwneud ag ansawdd aer ar hyn o bryd yn ardal y cynllun.

Dylai'r CDLl ystyried effeithiau'r datblygiad ar ansawdd yr aer, ac effeithiau posibl y traffig sy'n gysylltiedig â'r datblygiad hwnnw.

Croeso i Gymru: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr (2020-2025)

Mae'r Cynllun Croeso i Gymru yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer yr economi dwristiaeth dros gyfnod o bum mlynedd. Mae'r cynllun yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y gall hamdden ac adloniant awyr agored ei chael ar yr economi dwristiaeth.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n mynd i'r afael â thwf economaidd cynaliadwy yn ardal y cynllun a gallai hyn gynnwys cyfeiriad at y rôl y gall twristiaeth, hamdden ac adloniant awyr agored ei chwarae yn hyn o beth.

Bydd angen i'r CDLl ystyried y cynllun, yn enwedig mewn perthynas ag unrhyw gynigion a pholisïau twristiaeth/hamdden.

Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygiad) 2018

O dan y Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol, mae gan Weinidogion Cymru rwymedigaeth i gynhyrchu a diweddaru mapiau sŵn ar gyfer:

  • crynodrefi (ardaloedd trefol mawr gyda phoblogaethau o dros 100,000);
  • prif ffyrdd (ffyrdd lle mae dros dair miliwn o gerbydau'n pasio bob blwyddyn); a
  • phrif reilffyrdd (rheilffyrdd lle mae dros 30,000 o drenau'n pasio bob blwyddyn).

O dan y Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol, mae gan Weinidogion Cymru rwymedigaeth i lunio cynlluniau gweithredu ar gyfer lleoedd ger prif ffyrdd a phrif reilffyrdd, ac ar gyfer crynodrefi. Mae'r Rheoliadau'n gymwys i sŵn amgylcheddol y mae pobl yn agored iddo yn enwedig mewn ardaloedd adeiledig, parciau cyhoeddus neu ardaloedd tawel eraill mewn crynodrefi, ac wrth ymyl ysgolion, ysbytai ac adeiladau ac ardaloedd eraill sy'n sensitif i sŵn.

Drwy gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael ag iechyd a lles (ac elfen HIA yr ISA), dylai'r ISA ystyried y potensial i drigolion, gweithwyr ac ymwelwyr yn ardal y cynllun gael eu heffeithio gan lygredd sŵn.

Mae'r mapiau sŵn yn hysbysu amrywiaeth o weithgareddau a gyflawnir gan gyrff cyhoeddus

yng Nghymru, gan gynnwys:

  • gwaith lliniaru sŵn â blaenoriaeth, fel rhwystrau sŵn ac ailwynebu;
  • y broses gynllunio;
  • ansawdd aer, seilwaith gwyrdd a chynlluniau a strategaethau trafnidiaeth;
  • yr asesiadau llesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus;
  • yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) a'r datganiadau ardal a luniwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Bydd yn rhaid i'r CDLl roi sylw i'r mapiau sŵn, a'r cynlluniau cysylltiedig.

Cynllun Sŵn a Seinwedd i Gymru: Ein Strategaeth
Genedlaethol 
ar 
Seinweddau, 2023-2028 (2023)

Cynllun Sŵn a Seinwedd 2023-2028 yw strategaeth genedlaethol Cymru ar seinweddau, sy'n golygu'r amgylchedd sain fel y mae'n cael ei ganfod neu ei brofi a/neu ei ddeall gan unigolyn neu bobl, mewn cyd-destun. Ystyrir bod pob math o sain a glywir gan bobl Cymru yn yr awyr o fewn cwmpas y ddogfen.

Mae'n rhoi crynodeb o'r dystiolaeth, polisïau cyfredol a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys cwblhau'r NCT 11: Sŵn newydd, datblygu canllawiau ynghylch dylunio seinweddau a chymryd camau i leihau sŵn mewn safleoedd blaenoriaeth wrth ymyl Rhwydwaith Ffyrdd Strategol Cymru.

Drwy gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael ag iechyd a lles (ac elfen HIA yr ISA), dylai'r ISA ystyried y potensial i drigolion, gweithwyr ac ymwelwyr yn ardal y cynllun gael eu heffeithio gan lygredd sŵn.

Bydd angen i'r CDLl gynnwys polisïau wedi'u diweddaru sy'n caniatáu ar gyfer asesu effeithiau sŵn.

Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024

Mae'r Ddeddf yn ceisio gwella ansawdd yr amgylchedd aer a lleihau effeithiau llygredd aer ar iechyd pobl, natur, yr amgylchedd a'r economi. Mae'r Ddeddf yn creu fframwaith i Weinidogion Cymru osod targedau mewn perthynas ag ansawdd aer ac mae'n diwygio'r ddeddfwriaeth bresennol ar ansawdd aer mewn perthynas â rheoli ansawdd aer lleol, codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd, gwrthsegura a rheoli mwg. Mae'r Ddeddf hefyd yn creu dyletswyddau newydd i Weinidogion Cymru gymryd camau i hybu ymwybyddiaeth o'r risgiau i iechyd pobl a'r amgylchedd naturiol a achosir gan lygredd aer, a ffyrdd o leihau neu gyfyngu ar lygredd aer.

Mae'r Ddeddf hefyd yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol i hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau neu gyfyngu ar lygredd aer ac mae'n darparu ar gyfer gosod y ddyletswydd hon drwy reoliadau, ar awdurdodau cyhoeddus eraill. Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio strategaeth genedlaethol ar seinweddau.

Drwy gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael ag iechyd a lles (ac elfen HIA yr ISA), dylai'r ISA ystyried y potensial i drigolion, gweithwyr ac ymwelwyr yn ardal y cynllun gael eu heffeithio gan lygredd sŵn. Dylai'r ISA hefyd gynnwys amcan i sicrhau aer glanach yn y sir.

Bydd angen i'r CDLl gynnwys polisïau wedi'u diweddaru ynghylch llygredd sŵn, yn ogystal â pholisïau sy'n ceisio gosod terfynau a thargedau ar bob datblygiad sydd ar y gweill i sicrhau bod effeithiau datblygiadau o'r fath ar ansawdd aer yn bodloni'r safonau a bennir gan y Ddeddf.

NCT 11: Sŵn (1997)

Mae'r Nodyn Cyngor Technegol yn nodi sut gall y system gynllunio leihau effaith niweidiol sŵn heb osod cyfyngiadau afresymol ar ddatblygiad neu ychwanegu'n ormodol at gostau a beichiau gweinyddol busnesau.

Drwy gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael ag iechyd a lles (ac elfen HIA yr ISA), dylai'r ISA ystyried y potensial i drigolion, gweithwyr ac ymwelwyr yn ardal y cynllun gael eu heffeithio gan lygredd sŵn.

Dylai'r CDLl hyrwyddo dyluniad sy'n lleihau neu'n lliniaru sŵn a dylai geisio cyfyngu ar ddefnydd sy'n sensitif i sŵn mewn ardaloedd y mae sŵn yn effeithio arnynt. Efallai y bydd angen polisïau sŵn penodol ar gyfer rhai ardaloedd.

NCT 16: Chwaraeon, Hamdden a Mannau Agored (2009)

Mae'r Nodyn Cyngor Technegol yn rhoi arweiniad ar gynllunio ar gyfer chwaraeon, mannau agored a diogelu cyfleusterau presennol.

Drwy gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael ag iechyd a lles (ac elfen HIA yr ISA), dylai'r ISA ystyried hygyrchedd mannau agored a chyfleusterau hamdden yn ardal y cynllun, yn ogystal â'r posibilrwydd o golli'r mathau hyn o asedau wrth i ddatblygiad newydd gael ei gyflawni.

Dylai'r CDLl nodi fframwaith ar gyfer chwaraeon a hamdden, gyda dull strategol o ymdrin â datblygiadau o'r fath. Dylai hefyd ddiogelu ardaloedd o fannau agored sydd â gwerth hamdden, amwynder a/neu gadwraeth.

Dringo'n Uwch: Strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (2015)

Mae'r strategaeth yn nodi y dylid cyflawni'r canlynol erbyn 2025:

  • Bydd canran y bobl yng Nghymru sy'n defnyddio'r amgylchedd naturiol ar gyfer gweithgareddau awyr agored yn cynyddu i 60% o 36%
  • Bydd gan 95% o bobl lwybr troed neu feicio o fewn pellter cerdded o 10 munud
  • Ni ddylai neb fyw ymhellach na 6 munud (300m) o'u man gwyrdd naturiol agosaf
  • Bydd gan holl weithwyr y sector cyhoeddus a 75% o'r holl weithwyr eraill fynediad at gyfleusterau chwaraeon yn y gweithle, neu o fewn 10 munud ar droed o'r gweithle

Drwy gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael ag iechyd a lles (ac elfen HIA yr ISA), dylai'r ISA ystyried hygyrchedd mannau agored a chyfleusterau hamdden yn ardal y cynllun.

Dylai'r CDLl ddarparu fframwaith ar gyfer chwaraeon a hamdden a nodi dull strategol o ymdrin â datblygiadau o'r fath. Dylai'r CDLl gefnogi nodau'r strategaeth.

Law yn Llaw at Iechyd Meddwl: Strategaeth ar gyfer Iechyd Meddwl a Lles yng Nghymru (2012)

Mae'r strategaeth yn nodi nodau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Mae'n berthnasol i bob oed; plant a phobl ifanc, oedolion oed gweithio a phobl hŷn. Ei nod yw hyrwyddo lles meddyliol pawb yng Nghymru a sicrhau bod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a salwch meddwl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Drwy gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael ag iechyd a lles (ac elfen HIA yr ISA), dylai'r ISA ystyried effeithiau posibl datblygiad ar iechyd meddwl a materion yn ymwneud ag ynysu. Dylai elfen Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb yr ISA ystyried effeithiau posibl ar y nodweddion gwarchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys pobl hŷn a phobl iau.

Mae'r strategaeth yn nodi materion, fel tai, y mae angen mynd i'r afael â nhw er mwyn meithrin gwytnwch, diogelu a hybu iechyd meddwl. Dylai'r CDLl roi sylw i hyn.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (Deddf WBFG) yn mynnu bod cyrff cyhoeddus (gan gynnwys awdurdodau lleol) yn meddwl mwy am y tymor hir; yn gweithio'n fwy effeithiol gyda phobl, cymunedau a gyda'i gilydd; yn edrych ar atal problemau ac yn mabwysiadu dull gweithredu mwy cydgysylltiedig.

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael ag iechyd a lles (ac elfen HIA yr ISA) i ystyried effeithiau'r CDLl ar draws yr ystod o faterion a allai effeithio ar y maes pwnc hwn. Mae hyn yn cynnwys mynediad at gyfleusterau gofal iechyd, mynediad at fannau agored a chyfleusterau hamdden, llygredd sŵn, llygredd aer a lles meddyliol (gan gynnwys ynysu cymdeithasol).

Yn bwysig, mae'r Ddeddf yn nodi 'egwyddor datblygu cynaliadwy', y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ei hystyried yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae'n mynnu bod penderfyniadau'n cael eu gwneud fel bod 'anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain'.

Mesur Iechyd a Lles Cenedl: Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus Cymru (2016)

Bydd y Fframwaith yn helpu sefydliadau i gydweithio i wella iechyd nawr ac yn y dyfodol. O fewn y fframwaith, pob canlyniad fel dangosyddion unigol. Datblygwyd y fframwaith fel sail i ddangosyddion cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael ag iechyd a lles (ac elfen HIA yr ISA) i ystyried effeithiau'r CDLl ar draws yr ystod o faterion a allai effeithio ar y maes pwnc hwn. Mae hyn yn cynnwys mynediad at gyfleusterau gofal iechyd, mynediad at fannau agored a chyfleusterau hamdden, llygredd sŵn, llygredd aer a lles meddyliol (gan gynnwys ynysu cymdeithasol). Dylai'r ISA hefyd ystyried yr effaith y gall mynediad at dai o ansawdd da ei chael o ran hybu iechyd a lles.

Mae'r Fframwaith yn nodi bod 'tai o ansawdd da' yn arwydd o iechyd da. Bydd yn rhaid i'r CDLl gyd-fynd â'r cynllun llesiant lleol, Polisi Cynllunio Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.

Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) (2017)

Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd yn gwella ac yn diogelu iechyd a lles Cymru. Mae'r Ddeddf yn ymateb i heriau iechyd newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg.

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael ag iechyd a lles (ac elfen HIA yr ISA) i ystyried effeithiau'r CDLl ar draws yr ystod o faterion a allai effeithio ar y maes pwnc hwn. Mae hyn yn cynnwys mynediad at gyfleusterau gofal iechyd, mynediad at fannau agored a chyfleusterau hamdden, llygredd sŵn, llygredd aer a lles meddyliol (gan gynnwys ynysu cymdeithasol).

Mae un o ddarpariaethau'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynnal Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd mewn amgylchiadau penodol. Nid yw'r rheoliadau hyn wedi cael eu gwneud eto, fodd bynnag, yn ystod y broses o baratoi'r CDLl, gellid cyhoeddi'r rhain.

Creu Lleoedd a Mannau Iachach ar gyfer Cenedlaethau'r Presennol a'r Dyfodol (2018)

Mae'r ddogfen yn nodi bod Cynlluniau Datblygu Lleol yn gam gweithredu ar lefel strategol drwy ymgorffori polisïau sy'n ymwneud â seilwaith gwyrdd, teithio llesol, yr amgylchedd adwerthu, gwasanaethau iechyd, llygredd aer a dylunio adeiladau, felly gall helpu i siapio a hyrwyddo Iechyd a Llesiant. Mae 'cynllunwyr' wedi cael eu nodi fel dylanwadwyr ar y meysydd blaenoriaeth hyn, a gallant hefyd gefnogi'r gwaith o gyflawni'r nodau llesiant.

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael ag iechyd a lles (ac elfen HIA yr ISA) i ystyried effeithiau'r CDLl ar draws yr ystod o faterion a allai effeithio ar y maes pwnc hwn. Mae hyn yn cynnwys mynediad at gyfleusterau gofal iechyd, mynediad at fannau agored a chyfleusterau hamdden, llygredd sŵn, llygredd aer a lles meddyliol (gan gynnwys ynysu cymdeithasol).

Mae'r ddogfen yn rhoi enghreifftiau o sut mae Awdurdodau Cynllunio Lleol eraill wedi defnyddio Cynlluniau Datblygu Lleol i hyrwyddo'r agenda Iechyd a Lles.

Gweithio Gyda'n Gilydd dros Gymru Iachach: Ein Strategaeth Tymor Hir 2023-2035
(2023)

Mae'r strategaeth yn nodi gweledigaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer sicrhau dyfodol iachach i Gymru erbyn 2035. Byddant yn cyflawni hyn drwy ganolbwyntio ar gyflawni chwe blaenoriaeth strategol:

  • Dylanwadu ar benderfynyddion ehangach iechyd
  • Hyrwyddo lles meddyliol a chymdeithasol
  • Hyrwyddo ymddygiad iach
  • Cefnogi'r gwaith o ddatblygu system iechyd a gofal gynaliadwy sy'n canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar
  • Darparu gwasanaethau iechyd cyhoeddus rhagorol i ddiogelu'r cyhoedd a sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i iechyd y boblogaeth
  • Mynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd ar iechyd y cyhoedd

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael ag iechyd a lles (ac elfen HIA yr ISA) i ystyried effeithiau'r CDLl ar draws yr ystod o faterion a allai effeithio ar y maes pwnc hwn. Mae hyn yn cynnwys mynediad at gyfleusterau gofal iechyd, mynediad at fannau agored a chyfleusterau hamdden, llygredd sŵn, llygredd aer a lles meddyliol (gan gynnwys ynysu cymdeithasol).

Dylai'r CDLl gynnwys polisïau sy'n ceisio hybu iechyd a lles.

Cymru Iachach: Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal 
Cymdeithasol (2019)

Mae'r cynllun hwn yn nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol o 'ddull system gyfan o ymdrin ag iechyd a gofal cymdeithasol', sy'n canolbwyntio ar iechyd a lles, ac ar atal salwch. Awgrymir modelau a dulliau amrywiol o ran sut y darperir gofal iechyd yn y dyfodol, ac awgrymir y bydd mwy o ofal iechyd yn y gymuned.

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael ag iechyd a lles (ac elfen HIA yr ISA) i ystyried effeithiau'r CDLl ar draws yr ystod o faterion a allai effeithio ar y maes pwnc hwn. Mae hyn yn cynnwys mynediad at gyfleusterau gofal iechyd, mynediad at fannau agored a chyfleusterau hamdden, llygredd sŵn, llygredd aer a lles meddyliol (gan gynnwys ynysu cymdeithasol).

Er nad oes cyfeiriad penodol at y system gynllunio fel arf i helpu i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gallai cynlluniau datblygu helpu i weithredu cynlluniau a pholisïau yn y dyfodol.

Cynllun ar gyferIechyda Gofal Cymdeithasol (2024)

Mae'r cynllun hwn yn nodi cyfres o gamau gweithredu diwygiedig y cytunwyd arnynt i gefnogi'r gwaith o gyflawni Cymru Iachach (gweler uchod).

Fel uchod.

NCT 5: Cadwraeth Natur a Chynllunio (2009)

Dylai'r system gynllunio warchod a gwella bioamrywiaeth a chadwraeth ddaearegol. Er mwyn sicrhau bod cynlluniau datblygu'n seiliedig ar wybodaeth ddigonol am ddaeareg, tirffurf, cynefinoedd a rhywogaethau, dylid cynnwys materion cadwraeth natur mewn arolygon o ardaloedd awdurdodau lleol.

Rhaid i awdurdodau sicrhau nad yw datblygiadau'n torri amodau'r gyfarwyddeb cynefinoedd.

Dylid ymgymryd â'r ISA mewn ffordd sy'n derbyn blaenoriaeth amcanion cadwraeth natur, a dylai roi sylw manwl i'r dynodiadau hyn wrth bennu amcanion yr Arfarniad Cynaliadwyedd a diffinio opsiynau.

Dylai awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i gyflawni amcanion cadwraeth natur. Mae'n cysylltu â Chynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth cenedlaethol a lleol drwy greu a rheoli cynefinoedd. Mae mesurau lliniaru i'w cynnwys pan fydd polisïau a chynigion yn cael eu datblygu yn y CDLl sy'n debygol o gael effaith negyddol.

Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru 2020-21
(2020)

Mae'r cynllun hwn yn fframwaith i Gymru sy'n nodi camau gweithredu i gyflawni nodau tymor byr, ac ymrwymiadau tymor hwy ar ôl 2020 sy'n ymwneud â 'Chynllun Strategol hyd at 2050' y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol. Mae'r cynllun, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mis Rhagfyr 2015 fel y 'Cynllun Adfer Natur', yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol colli bioamrywiaeth drwy roi natur wrth galon penderfyniadau a chynyddu cydnerthedd ecosystemau drwy gymryd camau penodol sy'n canolbwyntio ar y chwe amcan ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau. Mae rhan gyntaf y cynllun yn nodi'r strategaeth ar gyfer natur ac ymrwymiadau i wrthdroi colli bioamrywiaeth yng Nghymru. Mae rhan dau yn nodi'r cynllun gweithredu i gyflawni'r amcanion a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth. Mae rhan tri yn canolbwyntio ar y Fframwaith Adfer Natur, gan nodi'r llywodraethiant, y partneriaethau a'r perthnasoedd a fydd yn hanfodol i gyflawni'r camau gweithredu a nodir o dan ran dau.

Yn yr un modd â'r ddyletswydd bioamrywiaeth, bydd angen i'r ISA a'r Cynllun Datblygu Lleol roi sylw i'r cynllun adfer.

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) (2016)

Mae'r Ddeddf yn rhoi dyletswydd bioamrywiaeth newydd, i reoli adnoddau naturiol Cymru yn rhagweithiol ac yn gynaliadwy. Mae'r Ddeddf yn cyflwyno dyletswydd bioamrywiaeth well i awdurdodau lleol roi sylw i warchod a gwella bioamrywiaeth. Mae hyn yn cynnwys dull gweithredu sy'n ceisio meithrin cydnerthedd mewn ecosystemau a chydnabod y manteision y maent yn eu darparu i'r boblogaeth ddynol. Mae hefyd yn cyflwyno rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy fel dull gweithredu newydd sy'n sicrhau nad yw'r ffordd y defnyddir ein hadnoddau naturiol a'r effeithiau arnynt yn arwain at eu dirywiad yn y tymor hir. Mae datblygu Datganiadau Ardal yn un o ofynion eraill y Ddeddf er mwyn helpu i gyflawni Polisi Adnoddau

Naturiol Llywodraeth Cymru. Mae'r Ddeddf yn datgan bod rhaid i CNC baratoi adroddiad sy'n cynnwys ei asesiad o gyflwr adnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru; Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR).

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n mynd i'r afael â'r angen i ddiogelu a gwella asedau bioamrywiaeth yn ogystal ag adnoddau naturiol eraill.

Bydd yn rhaid i'r CDLl roi sylw i'r ddyletswydd bioamrywiaeth, yn enwedig mewn perthynas â datblygu polisi.

Polisi Adnoddau Naturiol (2017)

Cyflwynwyd y Polisi Adnoddau Naturiol statudol fel rhan o weithredu Deddf yr Amgylchedd (Cymru). Mae'n nodi polisïau i sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy ac yn nodi tair blaenoriaeth genedlaethol;

  • Darparu atebion sy'n seiliedig ar natur;
  • Cynyddu effeithlonrwydd ynni adnewyddadwy ac adnoddau; a,
  • Defnyddio dull sy'n seiliedig ar le.

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n ymwneud â defnyddio adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Dylai'r CDLl ystyried nodau'r Polisi Adnoddau Naturiol wrth ddatblygu polisïau perthnasol.

Strategaeth Coetiroedd i Gymru (2018)

Mae'r strategaeth yn nodi'r cyfeiriad strategol ar gyfer coedwigaeth yng Nghymru. Nod y strategaeth yw sicrhau cyfradd plannu sylfaenol o 2,000ha bob blwyddyn o 2020 ymlaen, yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Mae gweledigaeth y strategaeth fel a ganlyn:

Bydd Cymru'n adnabyddus am ei choetiroedd o ansawdd uchel sy'n gwella'r dirwedd, sy'n briodol i amodau lleol ac sydd â chymysgedd amrywiol o rywogaethau a chynefinoedd. Bydd y rhain yn:

  • darparu manteision cymdeithasol a chymunedol gwirioneddol, yn lleol ac yn genedlaethol;
  • cefnogi diwydiannau ffyniannus sy'n seiliedig ar goetiroedd; a
  • chyfrannu at amgylchedd o ansawdd gwell ledled Cymru

Dylai'r ISA ystyried effeithiau ar goetir (gan gynnwys coetir hynafol a choed aeddfed eraill lle bo hynny'n briodol) fel rhan o'i amcan bioamrywiaeth.

Mae'r strategaeth yn nodi y gall coetiroedd a choed chwarae rhan fel elfen mewn seilwaith gwyrdd, a fydd yn cael ei hystyried fel rhan o broses y Cynllun Datblygu Lleol. Mae hefyd yn nodi y dylai awdurdodau lleol ddarparu rhagor o raglenni plannu coed a rheoli coetiroedd, a dylid hyrwyddo hyn drwy elfennau o gynllunio defnydd tir.

Mae'r strategaeth hefyd yn nodi 'rydym eisiau dod o hyd i ffyrdd o sicrhau bod polisi cynllunio'n adlewyrchu'r angen am blannu i ddigolledu, pan ganiateir tynnu coetir yn barhaol ar gyfer datblygu.' Mae'r CDLl yn gyfle i ymgorffori polisïau a fyddai'n symud tuag at gefnogi'r nodau hyn.

Mesur y Gymraeg (Cymru) (2011)

Mae'r Mesur yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg ac yn trin y Gymraeg â statws cyfartal â'r Saesneg. Mae'r statws cyfartal hwn i'r Gymraeg a'r Saesneg yn ymestyn i ddarparu gwasanaethau a llunio polisïau.

  • Wrth greu polisi, rhaid i'r lluniwr polisi ystyried pa effeithiau, os o gwbl (cadarnhaol a negyddol) y byddai'r penderfyniad polisi yn eu cael ar:
  • Gyfleoedd i bobl eraill ddefnyddio'r Gymraeg; neu
  • Beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Dylai'r ISA ystyried effaith y CDLl ar y Gymraeg.

Bydd yn rhaid i'r CDLl roi sylw i'r Iaith Gymraeg, yn enwedig mewn perthynas â datblygu polisi.

Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr (2017)

Mae strategaeth iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru yn nodi ei weledigaeth, erbyn 2050: 'Mae'r iaith Gymraeg yn ffynnu, mae nifer y siaradwyr wedi cyrraedd miliwn, ac mae'n cael ei  defnyddio ym mhob agwedd ar fywyd. Ymhlith y rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg mae ewyllys da ac ymdeimlad o berchnogaeth tuag at yr iaith a chydnabyddiaeth gan bawb o'i holl gyfraniad i ddiwylliant, cymdeithas ac economi Cymru.'

Er mwyn gwneud hyn, nodir tair thema strategol:

  • Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg
  • Cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg
  • Creu seilwaith ffafriol

Dylai'r ISA ystyried effaith y CDLl ar y Gymraeg.

Fel awdurdod lleol, bydd angen nodi'r angen am addysg mewn Ysgolion Cyfrwng Cymraeg yn y Cynllun Datblygu Lleol.

Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

Mae'r Ddeddf yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwarchod a rheoli'r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru. Paratowyd y ddeddfwriaeth gyda thri phrif nod:

  • Rhoi gwarchodaeth fwy effeithiol i henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig Cymru.
  • Gwella'r mecanweithiau presennol ar gyfer rheoli'r amgylchedd hanesyddol yn gynaliadwy.
  • Cyflwyno mwy o dryloywder ac atebolrwydd mewn penderfyniadau a wneir ynghylch yr amgylchedd hanesyddol.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ceisio gwarchod a gwella'r amgylchedd hanesyddol gan gynnwys cyd-destun gweledol asedau treftadaeth.

Dylai'r CDLl ystyried darpariaethau'r Ddeddf a dylai gynnwys polisïau lleol penodol ar gyfer gwarchod a gwella asedau hanesyddol.

NCT 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol (2017)

Mae'r Nodyn Cyngor Technegol yn rhoi arweiniad ar sut mae'r system gynllunio'n ystyried yr amgylchedd hanesyddol, ac mae'n darparu canllawiau penodol ar agweddau penodol ar yr amgylchedd hanesyddol.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ceisio gwarchod a gwella'r amgylchedd hanesyddol gan gynnwys cyd-destun gweledol asedau treftadaeth.

Rhaid i Gynlluniau Datblygu Lleol gynnwys polisïau lleol penodol ar gyfer gwarchod a gwella asedau hanesyddol, os yw hynny'n briodol.

NCT 20: Cynllunio a'r Iaith Gymraeg (2017)

Mae'r NCT yn rhoi arweiniad ar sut dylid ystyried y Gymraeg wrth gynllunio, ac ar gydymffurfiaeth â gofynion cynllunio a deddfwriaeth berthnasol arall.

Mae'r NCT hefyd yn nodi dull 'cam wrth gam' ynghylch sut a phryd y gellid ystyried y Gymraeg wrth baratoi Cynllun Datblygu Lleol.

Dylai'r ISA ystyried effaith y CDLl ar y Gymraeg.

Lle siaredir y Gymraeg yn y gymuned, mae'r CDLl yn gyfle i gynnwys polisi a fydd yn rhoi sylw i oblygiadau cymdeithasol datblygu a gwarchod y dreftadaeth ddiwylliannol.

Rheoliadau Risg Llifogydd (2009)

Mae Rheoliadau Risg Llifogydd 2009 yn gweithredu Cyfarwyddeb yr UE ar Lifogydd yng Nghymru. Mae Rheoliadau Risg Llifogydd 2009 yn nodi'r dyletswyddau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu asesiadau rhagarweiniol o risg llifogydd, mapiau peryglon llifogydd a mapiau risg llifogydd a chynlluniau rheoli risg llifogydd.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n mynd i'r afael â risg llifogydd yng ngoleuni newid yn yr hinsawdd.

Dylai'r CDLl gynnwys polisïau sy'n ystyried ardaloedd ar Ynys Môn sy'n wynebu'r risg mwyaf o lifogydd.

NCT 15: Datblygu a Pherygl o Lifogydd (2025)

Mae'r Nodyn Cyngor Technegol yn nodi canllawiau ar risg llifogydd, a sut y dylid rheoli a mynd i'r afael ag unrhyw risg. Mae'n nodi fframwaith rhagofalus i leihau'r risg i bobl a datblygiadau yn sgil llifogydd.

Nod cyffredinol y fframwaith rhagofalus, yn nhrefn blaenoriaeth, yw:-

  • Cyfeirio datblygiadau newydd i ffwrdd o'r ardaloedd hynny sy'n wynebu risg mawr o lifogydd.
  • Lle mae'n rhaid ystyried datblygiad mewn ardaloedd risg uchel (parth C) dim ond y datblygiadau hynny y gellir eu cyfiawnhau ar sail y profion a amlinellir yn adran 6 ac adran 7 sy'n cael eu lleoli mewn ardaloedd o'r fath.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n mynd i'r afael â risg llifogydd yng ngoleuni newid yn yr hinsawdd.

Dylai Cynlluniau Datblygu Lleol fod yn rhagofalus o ran risg llifogydd, canlyniadau posibl llifogydd a sicrhau bod lleoliad y datblygiad yn ystyried risg, achosion a chanlyniadau posibl llifogydd.

Cynllun Rheoli Risg Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru: Lle Gogledd- orllewin Cymru (dim dyddiad cyhoeddi)

Mae Cynllun Rheoli Risg Llifogydd (FRMP) Lle Gogledd Orllewin Cymru yn cynnwys Awdurdodau Lleol Conwy, Ynys Môn a Gwynedd, ac mae'n darparu gwybodaeth am faint y risg llifogydd, yn ogystal â blaenoriaethau Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer rheoli'r risg o lifogydd, a'r mesurau rydym yn bwriadu eu cymryd, dros y blynyddoedd nesaf. Mae'r Cynllun Rheoli Risg Llifogydd yn ymdrin â llifogydd o afonydd, cronfeydd dŵr a'r môr. Nid yw'n cynnwys llifogydd o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr llai, y mae gan Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA) bwerau i gymryd yr awenau ar eu cyfer.

Mae'r Cynllun Rheoli Risg Llifogydd (FRMP) yn amlinellu'r mesurau ar raddfa gymunedol a roddwyd ar waith yn dilyn cylch cyntaf Cynlluniau Rheoli Risg Llifogydd (2016), gan gynnwys:

  • Llanfair Talhaiarn: Cwblhau cam cyntaf y gwelliannau rheoli risg llifogydd, gan wella diogelwch ar gyfer 29 o gartrefi a 4 busnes. Ar ben hynny, mae gwaith gwerthuso wedi cael ei wneud i asesu pa mor ymarferol fyddai cynllun rheoli risg llifogydd posibl yn Llangefni.
  • Llyn Tegid: Dechrau'r gwaith o reoli diogelwch cronfeydd dŵr, risg llifogydd a sicrhau parhad gwasanaeth ar gyfer adnoddau dŵr yn y dyfodol.

Mae'r Cynllun hefyd yn nodi cynllun cyflawni ar gyfer mesurau rheoli risg llifogydd arfaethedig ar draws cymunedau a lleoliadau Lle Gogledd Orllewin Cymru, gan gynnwys diweddaru modelau hydrolig presennol, a dylunio ac adeiladu gwelliannau i asedau risg llifogydd.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ceisio cyfyngu ar risg llifogydd yng Ngogledd Orllewin Cymru, gan ystyried effeithiau newid yn yr hinsawdd. Bydd angen i'r ISA ystyried sut y bydd polisïau rheoli risg llifogydd yn targedu'r amcanion a nodir yn y Cynllun Rheoli Risg Llifogydd yn effeithiol.

Dylai'r CDLl ystyried canfyddiadau'r Cynllun Rheoli Risg Llifogydd yn ei ddull o reoli risg llifogydd. Dylai polisïau geisio cyfyngu ar y potensial ar gyfer mwy o risg llifogydd yn ardal y cynllun, yn enwedig mewn perthynas â Gogledd Orllewin Cymru, a lle bo hynny'n briodol, ceisio darparu atebion ar gyfer materion cyfredol sy'n ymwneud â risg llifogydd. Gall hyn gynnwys drwy bolisïau sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â mesurau dylunio i liniaru materion sy'n ymwneud â risg llifogydd a chyfeirio datblygiadau at ardaloedd lle mae risg llifogydd yn llai tebygol o ddigwydd.

MTAN 1: Agregiadau (2004)

Mae'r Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn darparu canllawiau sy'n sicrhau bod cloddio am fwynau'n cael ei reoli mewn ffordd gynaliadwy. I sicrhau bod y cyflenwad yn cael ei reoli mewn ffordd gynaliadwy er mwyn cael y cydbwysedd gorau rhwng ystyriaethau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol, gan sicrhau bod effeithiau amgylcheddol ac ar amwynder o ganlyniad i unrhyw echdynnu angenrheidiol yn cael eu cadw i lefel sy'n osgoi achosi niwed amlwg i fuddiannau o bwysigrwydd cydnabyddedig.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n mynd i'r afael â chadw a defnyddio adnoddau naturiol yn briodol, gan gynnwys echdynnu mwynau.

Mae polisïau penodol mewn perthynas ag ardaloedd dynodedig a materion penodol, fel dŵr daear, a sut dylid eu rheoli. Dylid ystyried y canllawiau hyn wrth lunio'r CDLl er mwyn sicrhau bod effeithiau cloddio am fwynau'n cael eu lleihau a'u lliniaru.

MTAN 2: Glo (2009)

Mae'r Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn darparu canllawiau arferion gorau sy'n sicrhau bod cloddio am fwynau'n cael ei reoli mewn ffordd gynaliadwy.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n mynd i'r afael â chadw a defnyddio adnoddau naturiol yn briodol.

Dylid ystyried y canllawiau hyn wrth lunio'r CDLl er mwyn sicrhau bod effeithiau cloddio am fwynau'n cael eu lleihau a'u lliniaru. Dylid cyfeirio gwaith glo i ffwrdd o leoliadau sensitif a sicrhau y gellir lliniaru effeithiau amgylcheddol a chymunedol. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi'n glir nad oes angen diogelu glo ond efallai y bydd Awdurdodau Cynllunio Lleol unigol yn dymuno gwneud hynny gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau. Dylid ystyried hyn wrth ddrafftio'r polisïau ar gyfer y CDLl.

Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) (2010)

Mae'r Rheoliadau'n nodi mesurau mewn perthynas ag asesu a rheoli ansawdd aer a chydymffurfio â gwerthoedd terfyn ansawdd aer, gwerthoedd targed ac amcanion.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ceisio cyfyngu ar y potensial ar gyfer llygredd aer o bob ffynhonnell. Dylai'r ISA ystyried materion sy'n ymwneud ag ansawdd aer ar hyn o bryd yn ardal y cynllun.

Dylai'r CDLl ystyried effeithiau'r datblygiad ar ansawdd yr aer, ac effeithiau posibl y traffig sy'n gysylltiedig â'r datblygiad hwnnw.

Strategaeth Ddŵr Gymru (2015)

Mae'r strategaeth yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y defnydd gorau o

adnoddau dŵr, a sut bydd yn rheoli dŵr mewn ffordd gynaliadwy ac integredig.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ceisio sicrhau bod ansawdd dŵr yn cael ei ddiogelu a hyrwyddo'r defnydd ohono mewn ffordd effeithlon. Dylai'r ISA ystyried meysydd sy'n profi straen ar hyn o bryd o ran swm neu ansawdd.

Dylai'r CDLl ystyried effaith datblygiad ar ddŵr. Bydd rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy

hefyd yn cael ei ystyried fel rhan o'r CDLl.

Polisi Adnoddau Naturiol (2017)

Mae'r polisi'n nodi rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol yng Nghymru, gan adeiladu ar fframwaith Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Mae'r polisi'n nodi tair blaenoriaeth genedlaethol ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy:

  • darparu atebion sy'n seiliedig ar natur;
  • Cynyddu ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd adnoddau; a
  • Defnyddio dull seiliedig ar leoedd. Nod y dulliau hyn yw cefnogi'r gwaith o ddatblygu rhwydweithiau ecolegol cadarn, gwella amrywiaeth fiolegol, cefnogi'r gwaith o liniaru newid yn yr hinsawdd a rheoli risg llifogydd, a gwella seilwaith gwyrdd.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ceisio sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n briodol yn ardal y cynllun.

Bydd Datganiadau Ardal, a'r Polisi Adnoddau Naturiol, yn darparu llinell sylfaen ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a fydd yn cael ei hystyried fel rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol.

Cynllun Aer GlânGymru: Awyr Iach, Cymru Iach (2020)

Mae'r cynllun hwn yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella ansawdd aer a lleihau baich ansawdd aer gwael ar iechyd pobl, bioamrywiaeth a'r amgylchedd naturiol. Mae'n nodi amrywiaeth o bolisïau a chamau gweithredu a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd a lles, yr amgylchedd naturiol, ecosystemau a bioamrywiaeth a chymunedau cynaliadwy. Mae'r cynllun yn nodi potensial Deddf Aer Glân i Gymru.

Mae'r Cynllun yn defnyddio themâu i fynd i'r afael â meysydd effaith, gan ategu ei gilydd i greu dull cynaliadwy o wella ansawdd aer. Y themâu yw:

  • Diogelu iechyd a llesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
  • Cymryd camau i gefnogi ein hamgylchedd naturiol, ecosystemau a bioamrywiaeth.
  • Gweithio gyda'r diwydiant i leihau allyriadau, gan gefnogi Cymru lanach a mwy ffyniannus.
  • Creu lleoedd cynaliadwy drwy gynllunio, seilwaith a thrafnidiaeth well.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ceisio cyfyngu ar y potensial ar gyfer llygredd aer o bob ffynhonnell. Dylai'r ISA ystyried materion sy'n ymwneud ag ansawdd aer ar hyn o bryd yn ardal y cynllun.

Dylai'r CDLl ddiogelu a gwella'r amgylchedd, ac mae ansawdd aer yn elfen allweddol ohono.

Y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru (2020)

Mae'r FCERM yn nodi amcanion a thargedau cenedlaethol ar gyfer rheoli risg llifogydd yng Nghymru a'r dull gweithredu y dylai awdurdodau cynllunio lleol a bwrdeistrefi sirol ei ddilyn, a'r camau y dylid eu cymryd, dros y 10 mlynedd nesaf. Y prif ffocws yw gwella cyfathrebu rhwng yr holl randdeiliaid ac awdurdodau er mwyn gwella ymatebion a pharatoi ar gyfer digwyddiadau llifogydd yn y dyfodol. Ar ben hynny, dylid gweithredu penderfyniadau 'seiliedig ar leoedd', sy'n golygu bod yna ddealltwriaeth nad yw mesurau atal llifogydd sy'n gweithio mewn un fwrdeistref sirol mor effeithiol mewn un arall efallai. Cafodd y FCERM ei gynhyrchu yn unol â Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ceisio cyfyngu ar risg llifogydd yn y Fwrdeistref Sirol, gan ystyried effeithiau newid yn yr hinsawdd. Bydd angen i'r ISA ystyried sut y bydd polisïau rheoli risg llifogydd yn targedu'r amcanion a nodir yn y FCERM yn effeithiol.

Dylai'r CDLl ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar leoedd i reoli risg llifogydd. Dylai polisïau geisio cyfyngu ar y potensial ar gyfer mwy o risg llifogydd yn ardal y cynllun a, lle bo hynny'n briodol, ceisio darparu atebion ar gyfer materion cyfredol sy'n ymwneud â risg llifogydd. Gall hyn gynnwys drwy bolisïau sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â mesurau dylunio i liniaru materion sy'n ymwneud â risg llifogydd a chyfeirio datblygiadau at ardaloedd lle mae risg llifogydd yn llai tebygol o ddigwydd.

Rheoliadau Ansawdd Aer (Diwygiad) (Cymru) 2002

Mae'n nodi amcanion ansawdd aer cenedlaethol ar gyfer Cymru fel trothwyon pragmatig lle mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod y risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â llygredd aer yn annerbyniol.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n rhoi sylw i ansawdd aer a llygredd aer.

Dylai'r CDLl gynnwys polisïau i helpu i fynd i'r afael ag ansawdd aer mewn perthynas ag amwynder ac iechyd pobl yn ogystal â'r amgylchedd naturiol.

Mynd i'r Afael â Chrynodiadau Nitrogen Deuocsid ar Ymyl y Ffordd yng Nghymru: Cynllun Atodol Llywodraeth Cymru i Gynllun y DU ar gyfer Mynd i'r Afael â Chrynodiadau Nitrogen Deuocsid Ymyl Ffordd 2017 (2018)

Mae'n nodi mai'r unig gyfyngiad statudol ar ansawdd aer y mae Cymru, a gweddill y DU, yn methu ei gyrraedd ar hyn o bryd yw ynghylch crynodiadau NO2. Dywed yr adroddiad fod angen gweithredu i leihau crynodiadau o amgylch ffyrdd. Mae'n darparu cymorth i sicrhau bod camau angenrheidiol yn cael eu cymryd i fodloni'r rhwymedigaethau cyfreithiol a gwella iechyd, ni waeth beth yw cost neu amhoblogrwydd penderfyniadau.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ymwneud â llygredd aer a lleihau'r angen i deithio mewn car yn y Fwrdeistref Sirol.

Dylai'r CDLl gynnwys polisïau i fynd i'r afael â llygredd aer a'i effeithiau yn yr ardal leol. Dylid cynnwys polisïau hefyd i helpu i gefnogi newid moddol yn y sir.

Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archeolegol 1979

Mae'r Ddeddf yn deddfu i warchod treftadaeth archeolegol Cymru, Lloegr a'r Alban ac mae'n darparu gwarchodaeth benodol i henebion sydd o ddiddordeb cenedlaethol. Mae'n ymwneud â'r henebion, a materion o ddiddordeb archeolegol neu hanesyddol, ac mae hyn yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ymchwilio, cadw a chofnodi, a rheoleiddio materion o'r fath. Mae'r Ddeddf yn rhoi sylw i adennill a darparu grantiau. Mae'r Ddeddf yn diffinio 'henebion cofrestredig' (safleoedd y mae angen eu diogelu) ac yn gwneud difrod i henebion cofrestredig a chwilota am fetel arnynt yn drosedd.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ymwneud â gwarchod henebion sydd o ddiddordeb cenedlaethol.

Dylai'r CDLl gynnwys polisïau sy'n gwarchod ac yn lliniaru niwed i gyd-destun gweledol henebion o ddiddordeb cenedlaethol, gan gynnwys henebion hynafol.

Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredigac Ardaloedd Cadwraeth) 1990

Mae Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 yn darparu diogelwch penodol ar gyfer adeiladau ac ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Newidiodd ddeddfau ynghylch rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer gwaith adeiladu, gan gynnwys yn benodol y rhai yn y system adeiladau rhestredig yng Nghymru a Lloegr.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ymwneud â diogelu adeiladau ac ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

Dylai'r CDLl gynnwys polisïau sy'n diogelu ac yn lliniaru niwed i leoliad adeiladau ac ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, gan gynnwys adeiladau rhestredig.

Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan Gymru (2021)

Mae'r Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan ar gyfer Cymru yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwefru cerbydau trydan yng Nghymru. Darperir fframwaith a rennir gan y cynllun, sy'n nodi gweledigaeth deg ar gyfer gwefru ceir trydan, sy'n helpu'r sectorau cyhoeddus a phreifat yn ogystal â phobl wrth iddynt newid i sero net.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ymwneud â gwefru ceir trydan yn deg.

Dylai'r CDLl gynnwys polisïau sy'n ceisio cynyddu nifer y pwyntiau gwefru ar Ynys Môn.

Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan i Gymru: Cynllun 
Gweithred (2021)

Mae'r cynllun gweithredu'n egluro sut mae'r llywodraeth yn bwriadu parhau i dyfu ei seilwaith gwefru trydan yn unol â'r cynnydd yn y galw a ddaw wrth i gerbydau tanwydd ffosil gael eu diddymu'n raddol. Mae'n rhagweld buddsoddiadau mewn seilwaith, gan gynnwys y sector preifat, i osod pwyntiau gwefru bob 20 milltir ar gefnffyrdd ar hyd a lled Cymru erbyn 2025. Mae'r cynllun yn nodi dull gweithredu i sicrhau bod nifer y pwyntiau gwefru'n parhau i dyfu i ateb y galw cynyddol wrth i gerbydau tanwydd ffosil gael eu diddymu'n raddol.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ymwneud â darparu seilwaith gwefru trydan.

Dylai'r CDLl gynnwys polisïau sy'n ceisio cynyddu nifer y pwyntiau gwefru ar Ynys Môn.

Statws Carbon Sero Net erbyn 2030: Trywydd ar gyfer Datgarboneiddi o ar draws Sector Cyhoeddus Cymru (2021)

Mae'r trywydd yn rhoi trosolwg strategol o'r prif feysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu a'r cerrig milltir sydd eu hangen er mwyn i sector cyhoeddus Cymru gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2030. Mae'n fframwaith strategol i helpu i asesu beth sydd ar waith a beth sydd ei angen, ac i fonitro cynnydd dros amser. Mae'r dogfennau'n canolbwyntio ar ôl troed y Sector Cyhoeddus ei hun, a'i nod yw arwain y gwaith o ddatblygu ei gyfraniad at Gynlluniau Cyflawni Carbon Isel Cymru gyfan yn y dyfodol.

Dylai'r ISA gynnwys amcan i geisio lleihau allyriadau carbon. Dylai'r CDLl gynnwys polisïau sy'n ceisio lleihau allyriadau carbon.

Canllawiau Statudol Draenio Cynaliadwy (2019)

Mae'r ddogfen hon yn ganllawiau statudol y mae'n rhaid i awdurdodau lleol roi sylw iddynt mewn perthynas â'u swyddogaeth fel corff cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy sy'n ofynnol o dan baragraff 6 Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Dylid ei darllen ar y cyd ag Atodlen 3 i Ddeddf 2010 a'r offerynnau statudol a restrir uchod.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ceisio lliniaru risg llifogydd, gyda chwestiwn sy'n helpu gyda'r penderfyniad sy'n cyfeirio at Systemau Draenio Cynaliadwy.

Dylai'r CDLl gynnwys polisïau ynghylch gweithredu Systemau Draenio Cynaliadwy.

RHANBARTHOL (GOGLEDD/GOGLEDD ORLLEWIN CYMRU)

Canllawiau Cynllunio Rhanbarthol Gogledd Orllewin Cymru (2002)

Mae'r ddogfen ganllawiau wedi cael ei mabwysiadu gan awdurdodau lleol cyfansoddol Gogledd Orllewin Cymru, ac mae'n berthnasol i'r cyfnod 1996 – 2011. Mae'r ddogfen yn darparu:

  • Cyd-destun strategol ar gyfer paratoi Cynlluniau Datblygu Unedol (CDU) yng Ngogledd Cymru
  • cyd-destun ar gyfer datrys materion cynllunio trawsffiniol
  • fframwaith defnydd tir ar gyfer mewnfuddsoddi, ar gyfer cronfeydd strwythurol diwygiedig yr UE ac i ddiogelu a gwella'r amgylchedd adeiledig a naturiol
  • sail ar gyfer deialog gadarnhaol gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch cynllunio i'r dyfodol yng Ngogledd Cymru .

Nod sylfaenol y canllawiau yw datblygu asedau'r rhanbarth a lledaenu twf economaidd a'i fanteision ledled y Rhanbarth yng nghyd-destun datblygu cynaliadwy.

Dylai'r ISA gyd-fynd â Chanllawiau Cynllunio Rhanbarthol Gogledd Orllewin Cymru, gan sicrhau bod amcanion cynaliadwyedd yn adlewyrchu blaenoriaethau rhanbarthol. Dylai asesu sut mae polisïau yn y CDLl yn cyfrannu at dwf cytbwys, diogelu'r amgylchedd, y gallu i wrthsefyll yr hinsawdd, a datblygu seilwaith ar draws Gogledd Orllewin Cymru.

Dylai'r Cynllun Datblygu Lleol fod yn seiliedig ar y canllawiau, gan sicrhau bod polisïau lleol yn cyd-fynd â strategaethau twf rhanbarthol a blaenoriaethau datblygu, mewn perthynas â thai, trafnidiaeth, datblygu economaidd, yr hinsawdd a risg llifogydd,

Cynllun Rhanbarthol Gogledd Cymru 2023 2028 (2017)

Mae'r cynllun yn nodi egwyddorion, canlyniadau a blaenoriaethau lefel uchel ar gyfer gweithio'n rhanbarthol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngogledd Cymru. Mae'r cynllun yn ceisio darparu gwasanaethau mewn perthynas â'r canlynol:

  • Plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth
  • Pobl hŷn gan gynnwys pobl â dementia
  • Pobl ag anableddau dysgu a chyflyrau niwroddatblygiadol
  • Gofalwyr di-dâl
  • Pobl ag anghenion llesiant emosiynol ac iechyd meddwl.

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael ag iechyd a lles (ac elfen HIA yr ISA) i ystyried effeithiau'r CDLl ar draws yr ystod o faterion a allai effeithio ar y maes pwnc hwn. Mae hyn yn cynnwys mynediad at gyfleusterau gofal iechyd, mynediad at fannau agored a chyfleusterau hamdden, llygredd sŵn, llygredd aer a lles meddyliol (gan gynnwys ynysu cymdeithasol).

Er nad oes cyfeiriad penodol at y system gynllunio fel arf i helpu i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gallai cynlluniau datblygu helpu i weithredu cynlluniau a pholisïau yn y dyfodol.

Cynllun Rheoli Traethlin Gorllewin Cymru (2012)

Mae'r Cynllun Rheoli Traethlin yn darparu asesiad ar raddfa fawr o'r risgiau sy'n gysylltiedig ag esblygiad arfordirol ac mae'n cyflwyno fframwaith polisi i fynd i'r afael â'r risgiau hyn i bobl a'r amgylchedd datblygedig, hanesyddol a naturiol mewn ffordd gynaliadwy. Amcanion Cynllun Rheoli Traethlin Gorllewin Cymru SMP2, sy'n seiliedig ar Ganllawiau'r Cynllun Rheoli Traethlin Cyfrol 1: Nodau a Gofynion (Defra, 2006a), fydd:

  • Nodi risgiau llifogydd ac erydiad i bobl a'r amgylchedd datblygedig, hanesyddol a naturiol yn ardal astudiaeth SMP2;
  • Nodi cyfleoedd i gynnal a gwella'r amgylchedd drwy reoli risgiau llifogydd ac erydu arfordirol;
  • Nodi'r polisïau sy'n cael eu ffafrio ar gyfer rheoli risgiau llifogydd ac erydiad dros y ganrif nesaf;
  • Nodi canlyniadau rhoi'r polisïau sy'n cael eu ffafrio ar waith; Nodi gweithdrefnau ar gyfer monitro pa mor effeithiol yw'r polisïau hyn; Hysbysu eraill fel bod defnydd tir, cynllunio a datblygu'r draethlin yn y dyfodol yn ystyried y risg a'r polisïau sy'n cael eu ffafrio;
  • Atal datblygiadau amhriodol mewn ardaloedd lle mae'r risg llifogydd ac erydu yn uchel; a
  • Bodloni deddfwriaeth cadwraeth natur ryngwladol a chenedlaethol a cheisio cyflawni'r amcanion bioamrywiaeth.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ceisio cyfyngu ar risg llifogydd yng Ngogledd Orllewin Cymru, gan ystyried effeithiau newid yn yr hinsawdd. Yn unol â'r Cynllun Rheoli Traethlin (CRhT), dylai'r ISA asesu sut y gall polisïau rheoli risg llifogydd gefnogi cydnerthedd yr arfordir yn effeithiol er mwyn targedu'r amcanion a nodir yn y Cynllun Rheoli Traethlin yn effeithiol.

Dylai'r CDLl ystyried yr amcanion a nodir yn y Cynllun Rheoli Traethlin, gan lywio datblygiadau oddi wrth ardaloedd arfordirol sy'n agored i niwed, a lle bo hynny'n briodol, ceisio darparu atebion ar gyfer materion sy'n bodoli eisoes sy'n ymwneud â risg llifogydd. Gall hyn gynnwys drwy bolisïau sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â mesurau dylunio i liniaru materion sy'n ymwneud â risg llifogydd a chyfeirio datblygiadau at ardaloedd lle mae risg llifogydd yn llai tebygol o ddigwydd.

Strategaeth 10 Mlynedd Actif Gogledd Cymru 2023 –2033
(dim dyddiad)

Mae'r strategaeth ddeng mlynedd ar y cyd yn nodi ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a'n blaenoriaethau ar gyfer sicrhau Gogledd Cymru fwy gweithgar. Mae fframwaith y strategaeth yn seiliedig ar bedwar amcan strategol:

  • Pobl egnïol - Creu a hyrwyddo cyfleoedd i bawb fod yn egnïol
  • Amgylchedd egnïol – Gwneud y defnydd gorau o fannau a gofodau lleol i fod yn actif
  • Cymdeithasau egnïol - Cynnal a thyfu drwy wrando ar gymunedau, eu cefnogi a gweithio gyda nhw i wneud 'bod yn actif' yn norm
  • Systemau egnïol - Ymgysylltu, cydlynu a chydweithio aml-sector.

Mae'r strategaeth yn pwysleisio pwysigrwydd gweithgarwch corfforol nid yn unig er mwyn gwella iechyd meddwl a chorfforol ond hefyd er mwyn meithrin cysylltiadau cymdeithasol, gwella hunanhyder, lleihau unigrwydd, ac adeiladu cymunedau cryfach a mwy diogel.

Drwy gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael ag iechyd a lles (ac elfen HIA yr ISA), dylai'r ISA ystyried hygyrchedd mannau agored a chyfleusterau hamdden yn ardal y cynllun.

Dylai'r CDLl ddarparu fframwaith ar gyfer chwaraeon a hamdden a nodi dull strategol o ymdrin â datblygiadau o'r fath. Dylai'r CDLl gefnogi nodau'r strategaeth.

Strategaeth Ynni Gogledd Cymru (2021)

Amcan cyffredinol Strategaeth Ynni Gogledd Cymru yw datblygu llwybr strategol sy'n nodi ymyriadau allweddol i gyflawni uchelgeisiau'r rhanbarth ar gyfer datgarboneiddio ei system ynni a sicrhau bod y rhanbarth yn elwa o'r newid. Mae senario Gweledigaeth Ynni wedi cael ei modelu i nodi llwybr datgarboneiddio posibl a fydd yn rhoi'r rhanbarth ar y trywydd iawn i gyflawni system ynni sero net erbyn 2050. Dyma'r blaenoriaethau a amlinellir ar gyfer gwireddu'r weledigaeth hon:

  • Manteisio ar ddigonedd yr adnoddau carbon isel lleol i fod yn bwerdy gwyrdd ac amrywio'r cymysgedd ynni.
  • Dod yn arweinydd byd-eang mewn technolegau gwynt ar y môr a morol.
  • Gwella effeithlonrwydd ynni tai'r rhanbarth a chyflymu'r gwaith o ddatgarboneiddio stoc adeiladu Gogledd Cymru.
  • Newid i drafnidiaeth carbon is

Mae'r strategaeth yn nodi, er mwyn cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru a bod ar y trywydd iawn ar gyfer sero net erbyn 2050, bod angen i Ogledd Cymru leihau allyriadau o'i system ynni 55% erbyn 2035, wedi'u rhannu yn ôl sector yn y llwybr a fodelwyd fel a ganlyn:

  • Gostyngiad o 57% mewn allyriadau gwres a phŵer domestig;
  • Gostyngiad o 54% mewn allyriadau masnachol a diwydiannol;
  • Gostyngiad o 55% mewn allyriadau trafnidiaeth ffordd.

Mae'r strategaeth hefyd yn darparu tri cham nesaf i'r rhanbarth eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yng Ngogledd Cymru. Mae'r rhain fel a ganlyn:

  • Diffinio trefn lywodraethu'r strategaeth.
  • Cyfathrebu a chymdeithasu'r strategaeth.
  • Sefydlu cynllun gweithredu.

Dylai'r ISA gynnwys ystyried defnyddio ynni o ffynonellau ynni adnewyddadwy.

Dylai'r CDLl gyfrannu at dargedau ynni rhanbarthol a nodir yn y Strategaeth, gan gynyddu cyfran yr ynni o ffynonellau ynni adnewyddadwy lle bo hynny'n briodol. Dylai'r CDLl hefyd gynllunio'n gadarnhaol ar gyfer datblygiadau adnewyddadwy a charbon isel, drwy ddatblygu polisi.

Datganiad Ardal Gogledd Orllewin Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynhyrchu Datganiadau Ardal ar gyfer pob ardal yng Nghymru – mae Datganiad Ardal Gogledd Orllewin Cymru yn cynnwys Ynys Môn yn ogystal â Chonwy a Gwynedd. Mae pob Datganiad Ardal yn amlinellu'r heriau allweddol sy'n wynebu'r ardal benodol honno, yr hyn y gallwn i gyd ei wneud i ateb yr heriau hynny, a sut y gallwn reoli ein hadnoddau naturiol yn well er budd cenedlaethau'r dyfodol. Byddant yn cael eu diweddaru'n rheolaidd. Gyda'i gilydd, gellir gweld y saith Datganiad Ardal fel ymateb cydweithredol i'r hyn a elwir yn Bolisi Adnoddau Naturiol, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2017, sy'n nodi'r heriau a'r cyfleoedd allweddol ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy yn y dyfodol. Mae Datganiad Ardal Gogledd Orllewin Cymru yn rhoi sylw i'r themâu canlynol:

  • Ffyrdd o weithio.
  • Argyfwng hinsawdd a natur.
  • Ailgysylltu pobl â byd natur.
  • Hybu economi gynaliadwy.
  • Cefnogi rheoli tir yn gynaliadwy.
  • Cyfleoedd ar gyfer ecosystemau cydnerth.

Bydd angen i'r ISA ystyried amcanion y Datganiad Ardal a dylai chwilio am gyfleoedd i gyfrannu at yr amcanion hynny.

Cynllun Datblygu
Strategol Gogledd 
Cymru 
sydd ar y gweill

Bydd y Cynllun Datblygu Strategol yn meithrin twf economaidd cynaliadwy, yn gwella seilwaith, ac yn gwella ansawdd bywyd cyffredinol trigolion. Bydd y cynllun yn helpu i sicrhau bod y datblygiad yn gytbwys ac yn gynhwysol, gan adlewyrchu dyheadau'r boblogaeth. Bydd yn bwynt canol rhwng y Cynllun Cenedlaethol a'r CDLl, a bydd yn darparu cyd-destun strategol ar gyfer paratoi Cynlluniau Datblygu Lleol dilynol.

Bydd angen i'r CDLl roi sylw i'r Cynllun Datblygu Strategol wrth iddo gael ei ddatblygu, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'r cynllun ac yn adlewyrchu ei uchelgeisiau.

Cydgynllun Trafnidiaeth Lleol Gogledd Cymru 2015

Mae Cydgynllun Trafnidiaeth Lleol o'r enw Cydgynllun Trafnidiaeth Lleol Gogledd Cymru yn cynnwys Bwrdeistref Sirol Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae'r cynllun yn cwmpasu rhan ogleddol Gwynedd yn unig gyda Meirionnydd yn cael ei chynnwys yng Nghynllun Trafnidiaeth Lleol Canolbarth Cymru. Mae rhan o Barc Cenedlaethol Eryri o fewn ardal Gogledd Cymru ac mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol hefyd wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r cynllun. Mae'r saith awdurdod wedi paratoi'r cynllun ar y cyd i nodi materion a chyfleoedd ar gyfer trafnidiaeth yn ardal y cynllun.

Mae llawer o'r materion a nodwyd yn gyffredin i'r saith awdurdod, ac mae gan drafnidiaeth rôl i'w chwarae o ran lleihau gwahaniaethau ar draws yr ardal a chysylltu â gweddill Cymru.

Bydd angen i'r CDLl roi sylw i'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol, wrth greu polisïau trafnidiaeth a diogelu llwybrau. Dylid hefyd ystyried cyfleoedd ar gyfer teithio cynaliadwy.

Cynllun Datblygu Lleol Conwy 2007-2022 (2013)

Mae Cynllun Datblygu Lleol Conwy yn amlinellu fframwaith strategol ar gyfer datblygu cynaliadwy ym Mwrdeistref Sirol Conwy, ac eithrio Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn mynd i'r afael â heriau allweddol fel twf poblogaeth, datblygu economaidd, anghenion tai, a chadwraeth amgylcheddol.

O ran tai, mae'r Cynllun yn ceisio darparu tua 6,520 o unedau tai newydd, gyda lefel wrth gefn o hyd at 7,170 o anheddau. Mae hyn yn cynnwys targed o 1,875 o unedau tai fforddiadwy newydd, gyda 1,000 o adeiladau newydd. Mae'r Cynllun hefyd yn ceisio creu tua 2,350 o swyddi newydd, gyda hyd at 2,585 wrth gefn.

Mae gan gyrff cyhoeddus ddyletswydd i gydweithredu ar faterion cynllunio sy'n croesi ffiniau gweinyddol. Felly, mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn ymwybodol o'r amcanion strategol perthnasol a/neu unrhyw ofynion penodol yn Strategaethau Craidd eu hawdurdodau cyfagos a fyddai'n cael effeithiau trawsffiniol penodol.

Dylai'r CDLl ystyried goblygiadau ei bolisïau i ardaloedd cyfagos, a sut y gallai ardaloedd cyfagos effeithio ar ardal y cynllun lleol.

Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych 2006-2021
(2013)

Mae Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych yn darparu casgliad o bolisïau sy'n nodi'r weledigaeth hirdymor a'r cyd-destun strategol ar gyfer rheoli a darparu ar gyfer twf yn Sir Ddinbych tan 2021. Mae'n canolbwyntio ar feysydd allweddol fel tai, twf economaidd a chadwraeth amgylcheddol. O'r 7,500 o anheddau sydd eu hangen, mae 1,410 eisoes wedi cael eu hadeiladu ers dechrau cyfnod y cynllun (2006). Mae gan 1,749 arall ganiatâd cynllunio. Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn gwneud dyraniadau newydd ar gyfer oddeutu 3,300 o dai newydd ym Modelwyddan yn bennaf ac aneddiadau eraill i'r gogledd o'r A55 ynghyd â safleoedd yn Ninbych, Llanelwy, Rhuthun a Chorwen.

Mae gan gyrff cyhoeddus ddyletswydd i gydweithredu ar faterion cynllunio sy'n croesi ffiniau gweinyddol. Felly, mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn ymwybodol o'r amcanion strategol perthnasol a/neu unrhyw ofynion penodol yn Strategaethau Craidd eu hawdurdodau cyfagos a fyddai'n cael effeithiau trawsffiniol penodol.

Felly, bydd angen i'r CDLl ystyried Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych, gan sicrhau cysondeb lle bo hynny'n briodol i gefnogi datblygu cynaliadwy, cynllunio seilwaith a thwf economaidd ar draws y rhanbarth.

Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint 2015-2030 (2023)

Mae Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint yn darparu casgliad o bolisïau sy'n nodi'r weledigaeth hirdymor a'r cyd-destun strategol ar gyfer rheoli a darparu ar gyfer twf yn Sir y Fflint tan 2023.

  • Mae'r polisïau strategol yn y cynllun yn ymwneud â'r themâu canlynol:
  • Creu Lleoedd a Chymunedau Cynaliadwy
  • Cefnogi Economi Ffyniannus
  • Diwallu Anghenion Tai
  • Gwerthfawrogi'r Amgylchedd

Mae gan gyrff cyhoeddus ddyletswydd i gydweithredu ar faterion cynllunio sy'n croesi ffiniau gweinyddol. Felly, mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn ymwybodol o'r amcanion strategol perthnasol a/neu unrhyw ofynion penodol yn Strategaethau Craidd eu hawdurdodau cyfagos a fyddai'n cael effeithiau trawsffiniol penodol.

Dylai'r CDLl ystyried goblygiadau ei bolisïau i ardaloedd cyfagos, a sut y gallai ardaloedd cyfagos effeithio ar ardal y cynllun lleol.

Cynllun Datblygu Lleol Wrecsam 2
(CDLl2) 2013 i
2028 (2023)

Mae Cynllun Datblygu Lleol Wrecsam yn darparu casgliad o bolisïau sy'n nodi'r weledigaeth hirdymor a'r cyd-destun strategol ar gyfer rheoli a darparu ar gyfer twf yn Wrecsam tan 2023. Elfen allweddol o CDLl2 yw dyrannu tir ar gyfer dros 8,000 o gartrefi newydd a 111 erw o ofod cyflogaeth i fynd i'r afael ag anghenion tai ac ysgogi twf economaidd.

Mae gan gyrff cyhoeddus ddyletswydd i gydweithredu ar faterion cynllunio sy'n croesi ffiniau gweinyddol. Felly, mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn ymwybodol o'r amcanion strategol perthnasol a/neu unrhyw ofynion penodol yn Strategaethau Craidd eu hawdurdodau cyfagos a fyddai'n cael effeithiau trawsffiniol penodol.

Dylai'r CDLl ystyried goblygiadau ei bolisïau i ardaloedd cyfagos, a sut y gallai ardaloedd cyfagos effeithio ar ardal y cynllun lleol.

Cynllun Datblygu Lleol Eryri 2016-2031 (2019)

Cynllun Datblygu Lleol Eryri yw'r fframwaith strategol sy'n llywio defnydd a datblygiad tir ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Nod y cynllun yw cydbwyso diogelu harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y parc ag anghenion ei gymunedau. Bydd y Cynllun Datblygu Lleol hwn yn arwain datblygiad mewn ffordd a fydd yn sicrhau y bydd Eryri, yn ystod oes y cynllun, yn parhau i fod yn dirwedd sy'n cael ei gwarchod a'i datblygu, ei diogelu a'i gwella i ddarparu amgylchedd naturiol cyfoethog ac amrywiol; gan ddarparu manteision cymdeithasol, economaidd a llesiant yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae gan gyrff cyhoeddus ddyletswydd i gydweithredu ar faterion cynllunio sy'n croesi ffiniau gweinyddol. Felly, mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn ymwybodol o'r amcanion strategol perthnasol a/neu unrhyw ofynion penodol yn Strategaethau Craidd eu hawdurdodau cyfagos a fyddai'n cael effeithiau trawsffiniol penodol.

Dylai'r CDLl ystyried goblygiadau ei bolisïau i ardaloedd cyfagos, a sut y gallai ardaloedd cyfagos effeithio ar ardal y cynllun lleol.

Datganiad Technegol Rhanbarthol 2il Adolygiad (2019)

Mae'r Datganiad Technegol Rhanbarthol (DTRh) yn nodi gofynion pob Awdurdod Cynllunio Lleol (LPA) o ran faint o agregau adeiladu y mae angen eu cyflenwi o'u hardal (dosraniadau) dros gyfnod penodol. Os bydd y DTRh yn nodi diffygion, bydd hefyd yn nodi maint y dyraniadau newydd angenrheidiol mewn CDLl i sicrhau bod cyflenwad digonol yn cael ei gynnal drwy gydol cyfnod y cynllun.

Mae'r ddogfen yn nodi cyfrifiadau manwl i bennu'r galw a ragwelir am agregau yn rhanbarth De Cymru rhwng mis Rhagfyr 2010 a 2036. Yn dilyn hynny, mae'n dosrannu tunelli o agregau y mae angen i bob un o'r 18 awdurdod lleol yn y rhanbarth eu darparu ar ffurf banciau tir o ganiatâd.

Bydd angen ystyried canlyniadau Ail Adolygiad DTRh wrth baratoi polisïau CDLl yn ystod y broses adolygu.

Fframwaith Economaidd Rhanbarthol Gogledd Cymru (2022)

Mae'r fframwaith yn ganllaw strategol ar gyfer cysoni ymdrechion ac adnoddau rhanbarthol i wella llesiant cymunedau ledled Gogledd Cymru. Y genhadaeth drwy'r fframwaith yw creu cyfleoedd arloesol i sicrhau bod yr amgylchedd naturiol yn cael ei ddiogelu a'i wella, a bod cymunedau hefyd yn cael ffynnu. Mae blaenoriaethau'r fframwaith yn cynnwys cefnogi

gwasanaethau cyhoeddus a busnesau preifat gan ganolbwyntio ar fusnesau bach a chanolig brodorol lleol, a chefnogi'r gwaith o gyflymu'r broses o adeiladu cartrefi gan gynghorau, cymdeithasau tai a datblygwyr preifat, gan sicrhau bod y rhain yn cael eu darparu er budd cymunedau lleol gan ddefnyddio sgiliau a deunyddiau lleol lle bynnag y bo modd.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ystyried hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy.

Bydd angen i'r CDLl ystyried polisïau sy'n hyrwyddo cyflawni twf economaidd cynaliadwy ar draws Ynys Môn, wedi'u cefnogi gan lefelau priodol o seilwaith.

CYNLLUNIAU, POLISIAU RHAGLENNI LLEOL

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd
2011-2026 (2017)

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn gweithredu fel y fframwaith strategol ar gyfer defnydd a datblygiad tir o fewn awdurdodaethau Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd, ac eithrio Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'r cynllun yn amlinellu polisïau a chynigion i arwain datblygu cynaliadwy, mynd i'r afael ag anghenion tai, ysgogi twf economaidd, a diogelu'r amgylchedd naturiol ac adeiledig. Mae'n nodi safleoedd penodol ar gyfer gwahanol fathau o ddatblygiadau, gan gynnwys tai, cyflogaeth ac adwerthu, ar yr un pryd â dynodi ardaloedd cadwraeth i gynnal a gwella tirwedd a threftadaeth ddiwylliannol unigryw'r rhanbarth.

Rhaid asesu'r targedau tai a thwf economaidd a bennir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar gyfer eu cynaliadwyedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Mae hyn yn cynnwys gwerthuso effaith datblygiadau tai ar raddfa fawr ar seilwaith, adnoddau naturiol a'r gallu i wrthsefyll yr hinsawdd, yn enwedig yn ardaloedd arfordirol a gwledig Ynys Môn.

Bydd yn rhaid i'r CDLl roi sylw i amcanion strategol y Cynllun Datblygu Lleol.

Wylfa Newydd: Canllawiau Cynllunio Atodol (2018)

Mae'r ddogfen yn rhoi canllawiau manwl ar gyfer cynllunio a datblygu gorsaf bŵer niwclear arfaethedig Wylfa Newydd ar Ynys Môn. Mae'r canllawiau'n nodi mai gweledigaeth y Cyngor Sir ar gyfer prosiect Wylfa Newydd yw:

'Mae'r Orsaf Niwclear Newydd yn Wylfa yn sbardun ar gyfer trawsnewid yr economi a chymunedau ar Ynys Môn, gan ddarparu cyfleoedd gwaith cynaliadwy, gwella ansawdd bywyd a llesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol a hyrwyddo hunaniaeth a nodweddion unigryw lleol.

Dylai'r ISA gynnwys amcan i geisio lleihau allyriadau carbon.

Dylai'r CDLl sicrhau bod polisïau sy'n ymwneud â Wylfa Newydd yn cyd-fynd ag amcanion ehangach adfywio economaidd a thwf cynaliadwy, a lliniaru newid yn yr hinsawdd.

Canllawiau Cynllunio Atodol Cymysgedd o Dai (2018)

Y canllawiau ar sicrhau cymysgedd cytbwys a chynaliadwy o dai mewn datblygiadau preswyl newydd ar draws Ynys Môn.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ymwneud â datblygu tai cynaliadwy o ansawdd uchel, gan ddefnyddio cymysgedd o fathau o dai.

Mannau Agored mewn Datblygiad Preswyl Newydd (2019)

Mae'r ddogfen yn rhoi canllawiau manwl i sicrhau bod datblygiadau tai newydd yn Ynys Môn a Gwynedd yn cynnwys mannau agored digonol o ansawdd uchel. Mae'n nodi y dylai datblygiad preswyl newydd gyfrannu at ddarparu mannau agored, gan gadw at safon meincnod Meysydd Chwarae Cymru (FiT) o 2.4 hectar am bob 1,000 o'r boblogaeth.

Drwy gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael ag iechyd a lles (ac elfen HIA yr ISA), dylai'r ISA ystyried hygyrchedd mannau agored a chyfleusterau hamdden yn ardal y cynllun, yn arbennig mewn perthynas â datblygiadau preswyl newydd, yn ogystal â'r posibilrwydd o golli'r mathau hyn o asedau wrth i ddatblygiad newydd gael ei gyflawni.

Dylai'r CDLl nodi fframwaith ar gyfer chwaraeon a hamdden, gyda dull strategol o ymdrin â datblygiadau o'r fath. Dylai hefyd ddiogelu ardaloedd o fannau agored sydd â gwerth hamdden, amwynder a/neu gadwraeth, a hyrwyddo mannau agored mewn datblygiadau preswyl newydd.

Canllawiau Cynllunio Atodol Tai yn y Farchnad Leol (2019)

Mae'r ddogfen yn diffinio'r meini prawf ar gyfer meddiannu tai ar y farchnad leol, ac yn amlinellu mecanweithiau i gynnal fforddiadwyedd tai ar y farchnad leol am byth, gan sicrhau manteision tymor hir i drigolion lleol.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ymwneud â darparu tai fforddiadwy a thai ar y farchnad leol.

Dylai Cynlluniau Datblygu Lleol fod yn seiliedig ar Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LHMA), a rhaid iddynt osod targed tai fforddiadwy yn seiliedig ar yr angen a nodwyd yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol. Rhaid i awdurdodau lleol nodi sut y cyflawnir y targed drwy ddulliau polisi. Rhaid i'r CDLl ystyried sut y mae tai fforddiadwy'n cael eu cynnwys yn y datblygiad.

Canllawiau Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy (2019)

Mae'r ddogfen yn rhoi arweiniad ynghylch tai fforddiadwy yn y Sir. Mae'r ddogfen yn cynnwys argymhellion ar gyfer newidiadau sydd wedi'u cynllunio i gynyddu'r cyflenwad a gwella'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y dylai fod yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu asesiadau o'r Farchnad Dai Leol (LHMA) yn seiliedig ar amserlen, data a methodoleg gyson ar draws deiliadaethau tai. Mae safonau newydd wedi'u cyfuno a'u symleiddio ar gyfer tai sy'n cael eu hariannu gan grantiau adeiladu o'r newydd a chartrefi A106 hefyd yn cael eu hargymell yn y ddogfen adolygu.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ymwneud â darparu tai fforddiadwy.

Dylai Cynlluniau Datblygu Lleol fod yn seiliedig ar Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LHMA), a rhaid iddynt osod targed tai fforddiadwy yn seiliedig ar yr angen a nodwyd yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol. Rhaid i awdurdodau lleol nodi sut y cyflawnir y targed drwy ddulliau polisi. Rhaid i'r CDLl ystyried sut y mae tai fforddiadwy'n cael eu cynnwys yn y datblygiad.

Canllawiau Cynllunio Atodol Anheddau Newydd a Throsi Eiddo yng Nghefn Gwlad (2019)

Mae'r ddogfen gynllunio atodol yn rhoi arweiniad ar gynigion i amnewid anheddau presennol a throsi adeiladau mewn ardaloedd gwledig, gan sicrhau bod datblygiadau o'r fath yn cyd- fynd ag egwyddorion datblygu cynaliadwy ac yn parchu cymeriad cefn gwlad.

Dylai'r ISA gynnwys amcan i sicrhau bod anheddau newydd a throsi eiddo yng nghefn gwlad yn cadw cymeriad cefn gwlad, yn ogystal â chefnogi anghenion tai lleol.

Bydd angen diweddaru polisïau sy'n ceisio rheoli datblygiadau yng nghefn gwlad agored fel rhan o'r CDLl.

Dylai materion cynaliadwyedd fod yn rhan annatod o'r broses o lunio polisïau.

Canllawiau Cynllunio Atodol Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy (2019)

Mae'r CCA yn darparu canllawiau manwl i sicrhau bod datblygiadau'n cyfrannu'n gadarnhaol at gynaliadwyedd a natur unigryw cymunedau lleol. Mae'r CCA yn pwysleisio pwysigrwydd ystyried yr iaith Gymraeg, treftadaeth ddiwylliannol a chydlyniant cymdeithasol mewn cynigion cynllunio.

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael â dylunio o ran hyrwyddo cynhwysiant a hynodrwydd cymunedau, cymeriad lleol a diogelwch.

Mae gan awdurdodau lleol rôl ddeuol i sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael eu cynnwys yn y gwaith o ddatblygu polisïau dylunio, a darparu gwybodaeth am faterion dylunio.

Dylai polisïau'r CDLl ar ddylunio nodi disgwyliadau dylunio, a dylai polisïau fynd i'r afael â materion lleol a bod yn seiliedig ar dystiolaeth.

Newiddefnydd cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol, safleoedd
cyflogaeth ac unedau adwerthu (2021)

Mae'r CCA yn darparu canllawiau manwl o ran newid defnydd cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol, safleoedd cyflogaeth ac unedau adwerthu

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n ceisio diogelu cyfleusterau cymunedol, adwerthu ac economaidd.

Drwy'r sylfaen dystiolaeth, bydd angen diffinio angen lleol a hwyluso darparu gwasanaethau lle mae datblygiadau newydd o faint digonol.

Canllawiau Cynllunio Atodol Cyfleusteraua Llety Twristiaeth (2021)

Mae'r ddogfen yn darparu canllawiau manwl i gefnogi'r gwaith o weithredu polisïau sy'n ymwneud â thwristiaeth yng Nghynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd. Nod y CCA hyn yw hyrwyddo datblygu twristiaeth gynaliadwy sydd o fudd i'r economi leol ar yr un pryd â gwarchod uniondeb diwylliannol ac amgylcheddol y rhanbarth.

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n ymwneud â sicrhau twf economaidd cynaliadwy yn ogystal â diogelu a gwella'r amgylchedd naturiol.

Dylai'r CDLl ddarparu fframwaith strategol ar gyfer cyfleoedd datblygu twristiaeth, gan gyfyngu ar yr effeithiau ar yr amgylchedd ac ar gymunedau lleol ar yr un pryd.

Canllawiau Cynllunio Atodol Canllaw Dylunio ar gyfer yr Amgylchedd Trefol a Gwledig (2008)

Mae'r CCA yn ceisio egluro'r materion dylunio sylfaenol a sut y dylid mynd i'r afael â nhw. Un nodyn cyfarwyddyd nodedig yn y gyfres hon yw Nodyn Cyfarwyddyd 14: Addasiadau mewn Ardaloedd Gwledig, sy'n cynnig cyngor penodol ar drosi adeiladau allanol gwledig yn dai preswyl. Mae'r nodyn hwn yn pwysleisio pwysigrwydd cynnal cymeriad ac uniondeb strwythurau presennol tra'n sicrhau bod unrhyw addasiadau'n cyfrannu'n gadarnhaol at y dirwedd wledig.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ceisio mynd i'r afael â materion dylunio (gan gynnwys effeithiau ar y dirwedd a'r amgylchedd hanesyddol yn ogystal â materion cynaliadwyedd ehangach).

Dylai'r CDLl hyrwyddo dylunio cynaliadwy o ansawdd uchel.

Canllawiau Cynllunio Atodol Llety Gwyliau (2007)

Mae'r CCA yn darparu canllawiau manwl ynghylch llety gwyliau ar Ynys Môn. Mae'r ddogfen yn darparu diffiniadau ar gyfer y mathau o ddatblygiadau sy'n dod o dan y CCA ynghylch llety gwyliau, a meini prawf i helpu i ddiffinio datblygiadau o ansawdd uchel o ran ystyriaethau defnydd tir.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ceisio sicrhau twf economaidd cynaliadwy y mae twristiaeth yn debygol o chwarae rhan bwysig ynddo. Dylai hefyd gynnwys amcan sy'n ceisio sicrhau bod yr amgylchedd naturiol yn cael ei ddiogelu, gan gynnwys asedau bioamrywiaeth pwysig, rhwydweithiau ecolegol ehangach a'r dirwedd naturiol.

Bydd yn rhaid i'r CDLl gynllunio'n unol â hynny ar gyfer Twristiaeth yn y Sir.

Canllawiau Cynllunio Atodol Sefydliadau Bwyd Tecawê Poeth ar Ynys Môn (1993)

Mae'r CCA yn darparu fframwaith ar gyfer gwerthuso cynigion ar gyfer sefydliadau bwyd tecawê poeth ar Ynys Môn. Nod y canllawiau hyn yw cydbwyso manteision busnesau o'r fath ag effeithiau posibl ar gymunedau lleol.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ceisio lleihau effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol sefydliadau tecawê.

Dylai'r CDLl ystyried polisïau priodol i reoli lleoliad sefydliadau bwyd tecawê poeth, gan sicrhau eu bod yn cefnogi gweithgarwch economaidd ar yr un pryd â lleihau effeithiau negyddol ar ardaloedd preswyl ac amwynderau lleol.

Canllawiau Cynllunio Atodol Ynni GwyntarTir (2013)

Mae'r CCA yn darparu fframwaith i arwain y gwaith o ddatblygu tyrbinau gwynt ar y tir ar Ynys Môn.

Dylai'r ISA gynnwys ystyried defnyddio ynni o ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan hyrwyddo ynni gwynt ar y tir yn benodol.

Dylai'r CDLl gyfrannu at gynyddu cyfran yr ynni o ffynonellau ynni adnewyddadwy lle bo hynny'n briodol, gan hyrwyddo ynni gwynt ar y tir yn benodol.

Canllawiau Cynllunio Atodol Safonau Parcio (2008)

Mae'r ddogfen yn rhoi canllawiau manwl ar gyfer darpariaeth parcio sy'n gysylltiedig â datblygiadau newydd a cheisiadau newid defnydd.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ceisio mynd i'r afael â materion dylunio (gan gynnwys effeithiau ar y dirwedd a'r amgylchedd hanesyddol yn ogystal â materion cynaliadwyedd ehangach).

Dylai'r CDLl hyrwyddo dylunio cynaliadwy o ansawdd uchel. Dylid cynnwys polisïau hefyd i helpu i gefnogi newid moddol yn y sir.

Cynllun Tuag at Sero Net 2022-2025 (2022)

Nod y cynllun yw "Moderneiddio ac addasu i ddod yn Gyngor Sero Net erbyn 2030". Cyflawnir y nod hwn drwy gyflawni'r amcanion canlynol:

  1. Lleihau a datgarboneiddio'r defnydd o ynni yn adeiladau ac asedau'r Cyngor
  2. Parhau i ddarparu gwasanaethau'r Cyngor ar yr un pryd â lleihau allyriadau carbon o'n cerbydau a'n harferion gweithio
  3. Gwella bioamrywiaeth a gorchudd coed ar dir ac asedau'r Cyngor
  4. Hwyluso'r gwaith o ddatblygu dull newydd o gynhyrchu ynni carbon isel
  5. Addasu polisïau, prosesau, diwylliant, gwerthoedd ac ymddygiad (staff y Cyngor ac aelodau etholedig)
  6. Deall cyfanswm ôl troed carbon y Cyngor, sefydlu trefniadau monitro ac adrodd effeithiol ac effeithlon

Dylai'r ISA gynnwys amcan i geisio lleihau allyriadau carbon.

Bydd y CDLl yn ystyried y cynllun ac yn rhoi cyfle i gynnwys polisïau a fydd yn lliniaru newid yn yr hinsawdd.

Cynllun y Cyngor 2023-2028
(dim dyddiad)

Gweledigaeth y cynllun yw "Creu Ynys Môn sy'n iach ac yn ffyniannus lle gall pobl ffynnu". Mae'n canolbwyntio ar chwe amcan:

  • Y Gymraeg – cynyddu cyfleoedd i ddysgu a defnyddio'r iaith
  • Gofal Cymdeithasol a Lles – darparu'r gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn
  • Addysg – sicrhau darpariaeth effeithiol ar gyfer heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
  • Tai – sicrhau bod gan bawb yr hawl i alw i rywle yn y cartref
  • Economi – hyrwyddo cyfleoedd i ddatblygu economi'r Ynys
  • Newid yn yr Hinsawdd – ymateb i'r argyfwng, mynd i'r afael â newid a gweithio tuag at fod yn sefydliad sero net erbyn 2030

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n cwmpasu amcanion Cynllun y Cyngor.

Bydd y CDLl yn rhoi sylw i'r cynllun ac yn rhoi cyfle i gynnwys polisïau sy'n ymwneud ag amcanion Cynllun y Cyngor.

Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (2021)

Mae'r cynllun yn cwmpasu'r cyfnod 2022-2032 ac mae'n ceisio helpu pobl Ynys Môn i ffynnu a chyflawni eu potensial tymor hir i gynnal yr iaith, y diwylliant a'r economi yn lleol a darparu ar gyfer ein disgyblion ar gyfer y dyfodol. Gweledigaeth y cynllun yw "bod pob disgybl sy'n mynd drwy system addysg Ynys Môn yn gwbl ddwyieithog erbyn 16 oed ac yn hyderus i gyfathrebu yn y ddwy iaith yn gyfartal ym myd gwaith, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol." Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy nodau fel cynnig addysg drwy gyfrwng y Gymraeg i fwy o blant meithrin / plant tair oed.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n rhoi sylw i'r Gymraeg.

Dylai'r CDLl ddarparu sail polisi ar gyfer cynyddu ac amddiffyn y defnydd o'r Gymraeg mewn sefydliadau addysgol.

Strategaeth Hybu'r Gymraeg 2021-2026 (2021)

Mae Strategaeth Hybu'r Gymraeg 2021-2026 yn adeiladu ar sylfeini'r strategaeth gyntaf ac yn mabwysiadu targed a meysydd blaenoriaeth cyson. Themâu strategol y strategaeth yw:

  • Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg
  • Cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg
  • Chreu amodau ffafriol – seilwaith a chyd-destun

Fel uchod.

Cynllun Strategol Cartrefi Gwag 2023-2028 
(dim dyddiad)

Pwrpas Cynllun Strategol Cartrefi Gwag yw sicrhau bod cyn lleied â phosibl o eiddo gwag ac annog perchnogion i'w defnyddio eto. Mae'n darparu gwybodaeth am sut bydd y Cyngor yn delio ag eiddo gwag.

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n cefnogi ailddefnyddio cartrefi gwag i hyrwyddo atebion tai cynaliadwy.

Dylai Cynlluniau Datblygu Lleol fod yn seiliedig ar Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LHMA). Dylai polisïau tai yn y CDLl fod yn ystyriol o'r amcanion a nodir yn y Cynllun Strategol Cartrefi Gwag, gan gydnabod sut y mae cartrefi gwag yn effeithio ar argaeledd tai.

Strategaeth Dai Ynys Môn 
2022-27 (2021)

Nod strategol cyffredinol y strategaeth yw sicrhau bod gan bobl Ynys Môn le i'w alw'n gartref, eu bod yn cael eu grymuso a'u cefnogi i gyfrannu at eu cymuned leol. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar chwe thema allweddol:

  • Thema 1 – Datblygu'r cartrefi iawn ar gyfer dyfodol Ynys Môn
  • Thema 2 – Gwneud y defnydd gorau o'r stoc dai bresennol a gwella cartrefi a chymunedau
  • Thema 3 – Atal argyfwng tai a chynyddu opsiynau tai
  • Thema 4 – Cefnogaeth i hyrwyddo annibyniaeth tai
  • Thema 5 – Cartrefi ar gyfer bywydau hirach
  • Thema 6 – Mae tai yn cyfrannu at yr economi leol

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n rhoi sylw i ddarparu'r nifer ofynnol o gartrefi a stoc dai o ansawdd uchel yn ardal y cynllun. Dylai'r ISA hefyd ystyried y potensial i ddiwallu anghenion Sipsiwn a Theithwyr.

Dylai Cynlluniau Datblygu Lleol fod yn seiliedig ar Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LHMA). Bydd angen i anghenion tai fforddiadwy a llety Sipsiwn a Theithwyr gael eu hystyried gan y CDLl.

Cynllun Strategol Môn Actif 
2024-2029 
(dim dyddiad)

Mae'r cynllun yn nodi'r meysydd blaenoriaeth allweddol a'r weledigaeth ar gyfer creu cymunedau iach dros y pum mlynedd nesaf. Y nod yw sicrhau bod gan y Cyngor gynllun cyraeddadwy, cynaliadwy ac addas i'r diben, i ddarparu gwasanaethau i wella iechyd a lles trigolion ac ymwelwyr â'r ynys.

Drwy gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael ag iechyd a lles (ac elfen HIA yr ISA), dylai'r ISA ystyried effeithiau posibl datblygiad ar iechyd meddwl a materion yn ymwneud ag ynysu. Dylai elfen Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb yr ISA ystyried effeithiau posibl ar y nodweddion gwarchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys pobl hŷn a phobl iau.

Mae'r cynllun yn nodi materion fel diffyg mynediad at fannau agored y dylid mynd i'r afael â nhw er mwyn meithrin gwytnwch, diogelu a hyrwyddo iechyd meddwl. Dylai'r CDLl roi sylw i hyn.

Cynllun Strategol Trechu Tlodi
2024-2029 

(dim dyddiad)

Mae'r cynllun yn nodi blaenoriaethau allweddol i fynd i'r afael â thlodi yn y Sir:

  • Darparu mynediad at gymorth i reoli gwariant a dyledion
  • Sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cyflawni eu potensial yn llawn
  • Cydweithio i sicrhau bod pobl leol yn gallu manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth lleol
  • Sicrhau bod y boblogaeth yn iach, yn ddiogel ac yn annibynnol
  • Cefnogi ein cymunedau i fod yn oed-gyfeillgar
  • Gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod cartrefi fforddiadwy a hygyrch o safon yn cael eu darparu

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ystyried iechyd a llesiant yn ogystal â'r potensial i fynd i'r afael ag amddifadedd yn y Sir.

Mae'r strategaeth yn nodi materion, fel tai, y mae angen mynd i'r afael â nhw er mwyn meithrin gwytnwch, diogelu a a lleihau tlodi. Dylai'r CDLl roi sylw i hyn.

Strategaeth Plant sy'n Derbyn Gofal ac yn Gadael Gofal 2023-2028
(2023)

Mae'r strategaeth wedi ymrwymo i gefnogi plant a phobl ifanc yn ei gofal. Mae blaenoriaethau allweddol yn cynnwys sicrhau cartrefi diogel sy'n meithrin, hybu iechyd a lles, cefnogi cyrhaeddiad addysgol, a pharatoi pobl ifanc ar gyfer byw'n annibynnol.

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael ag iechyd a lles (ac elfen HIA yr ISA) i ystyried effeithiau'r CDLl ar draws yr ystod o faterion a allai effeithio ar y maes pwnc hwn. Mae hyn yn cynnwys mynediad at gyfleusterau gofal iechyd, mynediad at fannau agored a chyfleusterau hamdden, llygredd sŵn, llygredd aer a lles meddyliol (gan gynnwys ynysu cymdeithasol). Dylai'r ISA hefyd ystyried yr effaith y gall mynediad at dai o ansawdd da ei chael o ran mwy o sefydlogrwydd i blant a phobl ifanc.

Dylai'r CDLl roi sylw i'r strategaeth drwy bolisïau sy'n cefnogi tai o ansawdd uchel sy'n cefnogi plant a phobl ifanc, gan sicrhau mynediad at wasanaethau hanfodol, a meithrin cymunedau diogel a chynhwysol.

Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu Strategaeth y Gymraeg (2023)

Mae'r rhaglen hon yn amlinellu cynlluniau posib y Cyngor ar gyfer ysgolion Môn am y 9 mlynedd nesaf, hyd at 2033. Prif ffocws Cynllun Amlinellol Strategol Cyngor Sir Ynys Môn fydd y sector uwchradd. Er mwyn cynyddu cyfran y disgyblion Cyfnod Sylfaen sy'n cyflawni targedau iaith Gymraeg fel yr amlinellir mewn dogfennau strategol gan Lywodraeth Cymru a chynlluniau lleol, bwriedir hefyd defnyddio modelau gofal plant i gynyddu capasiti gofal plant Cymru ar Ynys Môn. Mae gan y model partneriaeth gofal plant y potensial i fod yn gyfrannwr allweddol at uchelgais Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n rhoi sylw i'r Gymraeg.

Dylai'r CDLl ddarparu sail polisi ar gyfer cynyddu ac amddiffyn y defnydd o'r Gymraeg mewn sefydliadau addysgol.

Cynllun Strategol Adnoddau a Gwastraff  2023-2028
(dim dyddiad)

Mae'r cynllun yn nodi ein nod o symud tuag at Economi Gylchol ar Ynys Môn; cadw adnoddau'n cylchredeg yn yr economi am gyn hired â phosibl cyn eu taflu i ffwrdd. Bydd hyn yn helpu ar y daith tuag at allyriadau carbon sero net erbyn 2030. Mae'r Cynllun yn darparu pedair blaenoriaeth strategol:

  • Lleihau gwastraff a chynyddu ailddefnyddio
  • Cynyddu cyfraddau ailgylchu a gwella ansawdd
  • Gwella glanhau strydoedd a lleihau tipio anghyfreithlon
  • Arwain drwy esiampl

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ymwneud â gwastraff a hyrwyddo trin gwastraff yn unol â'r hierarchaeth gwastraff.

Bydd yn rhaid ymgorffori'r strategaeth hon fel rhan o'r CDLl. Dylai'r CDLl ystyried dull gweithredu sy'n helpu i sicrhau bod gwastraff yn cael ei drin yn unol â'r hierarchaeth gwastraff

Cynllun Newid Fflyd Ynys Môn: Arwainy Newid i Gerbydau Di- allyriadau (2023)

Mae'r cynllun yn cefnogi amcan y Cyngor o ddod yn sefydliad sero net erbyn 2030, gan hyrwyddo newid i gerbydau trydan. Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar ddull gweithredu fesul cam:

  • Tymor Byr (2023): Blaenoriaethu newid cerbydau bach i ganolig am fodelau trydan.
  • Tymor Canolig (2024 ymlaen): Newid cerbydau fflyd mwy i rai trydan neu ddewisiadau eraill isel iawn eu hallyriadau.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ymwneud â llygredd aer a lleihau'r angen i deithio mewn car yn y Fwrdeistref Sirol.

Dylai'r CDLl gynnwys polisïau i fynd i'r afael â llygredd aer a'i effeithiau yn yr ardal leol. Dylid cynnwys polisïau hefyd i helpu i gefnogi newid moddol yn y sir.

Strategaeth Gwella Canol Trefi
2023-28 (2023)

Mae'r strategaeth yn darparu fframwaith ar gyfer cyflawni'r nod a nodir yng Nghynllun y Cyngor o 'wella bywiogrwydd a hyfywedd canol ein trefi'. Mae hefyd yn cefnogi ein hamcan llesiant 'bod pobl Ynys Môn a'i chymunedau yn mwynhau, yn diogelu ac yn gwella eu hamgylchedd adeiledig a naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol'. Ffocws y ddogfen hon yw canol yr aneddiadau sydd wedi'u dynodi'n gyfreithiol yn drefi ac sydd â chynghorau tref, sef Caergybi, Llangefni, Amlwch, Porthaethwy a Biwmares. Mae llawer o bentrefi'r Sir hefyd yn bwysig iawn i economi'r Ynys, gyda nifer ohonynt yn gyrchfannau poblogaidd i ymwelwyr, ac efallai y bydd angen gwelliannau a phrosiectau tebyg i'w hystyried o dan gynlluniau a rhaglenni perthnasol.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ystyried bywiogrwydd a hyfywedd lleoliadau yng nghanol trefi.

Dylai Cynlluniau Datblygu Lleol ddefnyddio dull dilyniannol wrth nodi safleoedd at ddibenion economaidd.

Dylai gweledigaeth y Cynllun Datblygu Lleol fod yn gyson ac yn gydlynol fel bod ystyriaethau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol yn cefnogi ei gilydd ac yn pwyntio i'r un cyfeiriad.

Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol 
2023-2028 
(dim dyddiad)

Gweledigaeth gyffredinol y cynllun rheoli yw y bydd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Ynys Môn yn parhau i gael ei chydnabod fel ased lleol a chenedlaethol, sy'n hanfodol i economi, amgylchedd, diwylliant a lles ei chymunedau a'r rheini sy'n ymweld ag Ynys Môn.

Mae yna gysylltiad cynyddol â'r rhinweddau arbennig, ac mae'r rhain yn cael eu gwarchod, eu gwella, eu gwerthfawrogi, eu deall, a maent yn gallu bod wrth galon y gymuned, a diwydiant ymwelwyr sy'n amgylcheddol gyfrifol ac yn economaidd gynaliadwy. Mae parhad ac atgyfnerthu arferion a thraddodiadau, a'r defnydd o'r Gymraeg wedi ychwanegu at hunaniaeth unigryw ac ymdeimlad o le. Mae AHNE Ynys Môn wedi gallu gwneud iawn am y dirywiad mewn bioamrywiaeth, ac mae'n cael ei rheoli mewn ffordd sy'n addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd ac yn lliniaru yn eu herbyn er mwyn diogelu ei harddwch naturiol ar yr un pryd â chefnogi anghenion cymunedau lleol a busnesau gwledig.

Dylai'r ISA (drwy gynnwys amcanion priodol) a'r CDLl geisio gwella polisïau a gweledigaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Ynys Môn. Dylid ystyried dibenion a rhinweddau arbennig yr AHNE, yn enwedig wrth ystyried safleoedd datblygu posibl yn ei chyd-destun.

Cynllun Rheoli Cyrchfan Ynys Môn 2023 i 2028
(dim dyddiad)

Mae'r cynllun yn darparu gweledigaeth ar gyfer Ynys Môn rhwng 2023 a 2028, gan nodi bod y cynllun yn ceisio darparu economi ymwelwyr sy'n empathig at ymdeimlad yr Ynys o le, ac sydd o fudd i bobl, yr amgylchedd, diwylliant, treftadaeth a'r iaith, ac sy'n parhau i chwarae rhan ganolog yn sefydlogrwydd economaidd yr ynys. Mae'r cynllun hwn yn ceisio gwella ysbryd o gydweithio a meddwl cyfannol er mwyn datblygu cynnig sy'n gwella'r nodweddion allweddol hyn, ac sy'n sicrhau manteision economaidd a chymdeithasol i'r cymunedau lleol.

Dylai'r ISA gynnwys amcan sy'n ceisio sicrhau twf economaidd cynaliadwy y mae twristiaeth yn debygol o chwarae rhan bwysig ynddo. Dylai hefyd gynnwys amcan sy'n ceisio sicrhau bod yr amgylchedd naturiol yn cael ei ddiogelu, gan gynnwys asedau bioamrywiaeth pwysig, rhwydweithiau ecolegol ehangach a'r dirwedd naturiol.

Bydd yn rhaid i'r CDLl gynllunio'n unol â hynny ar gyfer Twristiaeth ar Ynys Môn.

Cynllun Strategol Cyfranogiad y Cyhoedd 2023-2028
(dim dyddiad)

Mae'r cynllun yn amlinellu amcanion, dull gweithredu a mecanweithiau'r cyngor ar gyfer annog a galluogi cyfranogiad y cyhoedd, ynghyd â gwybodaeth am sut gall pobl leol ddylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau. Mae hyn yn cynnwys drwy godi ymwybyddiaeth, annog cyfranogiad drwy gyfathrebu heb adnoddau digidol ac ymgysylltu â phob aelod o'r cyhoedd, a gwella ffyrdd o dderbyn ac ymgorffori adborth drwy ddefnyddio'r adnoddau traddodiadol a digidol sydd ar gael.

Dylai amcanion yr ISA hefyd ystyried anghenion pob carfan o'r gymuned. Dylai hyn gael ei ategu gan ganfyddiadau'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb a fydd yn ystyried effeithiau'r CDLl mewn perthynas â'r nodweddion gwarchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau annog pobl leol i gymryd rhan yn eu penderfyniadau. Mae hyn yn cynnwys pan fydd cynghorau'n gwneud penderfyniadau mewn partneriaeth â phrif gyngor arall neu ar y cyd ag unigolyn neu gorff arall fel bwrdd iechyd lleol. Dylai'r CDLl adlewyrchu'r gofyniad hwn drwy hyrwyddo ymgysylltu â'r gymuned mewn penderfyniadau cynllunio, gan sicrhau bod lleisiau lleol yn cael eu hystyried wrth lunio polisïau datblygu.

Trin Pobl yn Deg: Ein Cynllun ar gyfer 2024 2028 (2024)

Mae'r cynllun yn nodi sut mae'r Cyngor yn bwriadu cyflawni ei ymrwymiad i gydraddoldeb a sut bydd yn cyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol yn cynnwys strategaethau cenedlaethol, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Dyma'r Amcanion Cydraddoldeb ar gyfer 2024 – 2028:
 

  • Dylunio gwasanaethau teg
  • Bod yn gyflogwr o ddewis
  • Arwain drwy esiampl
  • Creu cynghreiriaeth

Dylai amcanion yr ISA hefyd ystyried anghenion pob carfan o'r gymuned. Dylai hyn gael ei ategu gan ganfyddiadau'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb a fydd yn ystyried effeithiau'r CDLl mewn perthynas â'r nodweddion gwarchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Bydd angen i'r CDLl ystyried anghenion holl aelodau'r gymuned wrth ddatblygu polisïau.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028
(dim dyddiad)

Mae'r cynllun yn edrych ar les yng nghyd-destun ffactorau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Yn benodol, mae'r cynllun yn ceisio lliniaru effaith tlodi ar les cymunedau yn ogystal â chynllunio gwasanaethau a gweithgareddau ataliol gyda'i gilydd i gefnogi teuluoedd cyn i'r angen am ymyriadau dwys godi. Byddwn yn annog plant, pobl ifanc a'u teuluoedd i wella eu hiechyd er mwyn iddynt allu byw'n iach ac yn annibynnol yn eu cymunedau yn y tymor hir.

Drwy gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael ag iechyd a lles (ac elfen HIA yr ISA), dylai'r ISA ystyried effeithiau posibl datblygiad ar iechyd cymunedol, mynediad at wasanaethau, a lles cyffredinol. Dylai elfen Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb yr ISA ystyried effeithiau posibl ar y nodweddion gwarchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys pobl hŷn a phobl iau.

Mae'r strategaeth yn nodi materion fel tlodi, bylchau mewn cyrhaeddiad addysgol, a safonau byw, y mae angen mynd i'r afael â nhw er mwyn meithrin gwytnwch, diogelu a hyrwyddo iechyd meddwl. Dylai'r CDLl roi sylw i hyn.

Cynllun Cyfathrebu Strategol 2023 2028
(dim dyddiad)

Mae'r cynllun yn amlinellu dull rhagweithiol o ymgysylltu â'r cyhoedd a phartneriaid allweddol. Yn unol â Chynllun y Cyngor, mae'r strategaeth hon yn pwysleisio pwysigrwydd cyfathrebu clir, cyson a thryloyw er mwyn gwella ymddiriedaeth a chyfranogiad y cyhoedd. Bydd y tîm cyfathrebu'n gwneud hyn drwy:

  • Hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg drwy rannu ein gohebiaeth yn ddwyieithog (e.e. datganiadau i'r wasg a negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol).
  • Rhoi negeseuon cefnogol allweddol a chyfredol ynghylch gofal cymdeithasol a lles i breswylwyr e.e. argyfwng costau byw, cyhoeddiadau cyllideb, datblygiadau economaidd a materion trafnidiaeth.
  • Rhannu negeseuon allweddol ynghylch y Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu newydd a Strategaeth Datblygu'r Gymraeg, prydau ysgol am ddim, derbyniadau i ysgolion a straeon am lwyddiannau ysgolion / disgyblion.
  • Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i breswylwyr am y gefnogaeth sydd ar gael ar hyn o bryd i brynwyr tro cyntaf, datblygiadau tai newydd, cymorth grant a digwyddiadau cyfranogiad tenantiaid.
  • Darparu diweddariadau allweddol ynghylch datblygiadau Porthladd Rhydd, Ynys Ynni ac unedau busnes Ynys Môn. Rhannu cyfleoedd cyllid grant a fyddai'n cefnogi busnesau lleol newydd a rhai sy'n bodoli eisoes.
  • Tynnu sylw at brosiectau newid yn yr hinsawdd fel rhan o'n Cynllun Tuag at Sero Net 2022-25 a'n Cynllun Bioamrywiaeth.

Dylai'r ISA ystyried effeithiau datblygiad telathrebu ar gynaliadwyedd.

Dylai'r CDLl ystyried y potensial i gryfhau cysylltedd digidol wrth gydbwyso'r angen am dwf economaidd ag effeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol.

Cynllun Strategol Digidol Corfforaethol 2024-2029 
(dim dyddiad)

Prif nod y cynllun strategol yw sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr i Ynys Môn yn gallu cael gafael ar wasanaethau o ansawdd uchel drwy amrywiaeth o sianeli digidol a thraddodiadol.

Drwy gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael ag iechyd a lles (ac elfen HIA yr ISA), dylai'r ISA ystyried potensial gwasanaethau digidol ar gyfer darparu gofal cymdeithasol a lles, addysg, a chynyddu cyfleoedd i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg.

Dylai'r ISA ystyried effeithiau datblygiad telathrebu ar gynaliadwyedd.

Dylai'r CDLl ystyried y potensial i gryfhau cysylltedd digidol wrth gydbwyso'r angen am dwf economaidd ag effeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol.

Cynllun Llesiant Ynys Môn a Gwynedd 2023-28 (dim dyddiad)

Mae'r cynllun yn amlinellu strategaeth gydweithredol gan ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus lleol i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol cymunedau. Mae'r Cynllun yn nodi tri amcan llesiant:

  • Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i liniaru effaith tlodi ar lesiant ein cymunedau.
  • Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i flaenoriaethu lles a chyflawniad ein plant a'n pobl ifanc er mwyn gwireddu eu potensial yn llawn.
  • Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i gefnogi ein cymunedau i symud tuag at Sero Net Carbon.

Dylai'r ISA gynnwys amcanion sy'n mynd i'r afael ag iechyd a lles (ac elfen HIA yr ISA) i ystyried effeithiau'r CDLl ar draws yr ystod o faterion a allai effeithio ar y maes pwnc hwn. Mae hyn yn cynnwys mynediad at gyfleusterau gofal iechyd, mynediad at fannau agored a chyfleusterau hamdden, llygredd sŵn, llygredd aer a lles meddyliol (gan gynnwys ynysu cymdeithasol). Dylai elfen Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb yr ISA ystyried effeithiau posibl ar y nodweddion gwarchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys pobl hŷn a phobl iau.

Er nad oes cyfeiriad penodol at y system gynllunio fel arf i helpu i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gallai cynlluniau datblygu helpu i weithredu cynlluniau a pholisïau yn y dyfodol.

Am gyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r system ac i wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig