Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig - Adroddiad Cwmpasu

Yn dod i ben ar 13 Awst 2025 (30 diwrnod ar ôl)

Pennod 7 Y camau nesaf

7.1 Er mwyn bodloni gofynion Rheoliadau AAS (Cymru), ceisir barn y cyrff amgylcheddol statudol (Cyfoeth Naturiol Cymru a Cadw) mewn perthynas â chwmpas a lefel y manylion sydd i'w cynnwys yn yr Adroddiad ISA.

7.2 Yn benodol, gofynnir i'r ymgyngoreion ystyried:

  • A yw cwmpas yr ISA yn gyffredinol yn briodol fel a nodir.
  • A yw'r dull o integreiddio prosesau asesu eraill, a ddisgrifir ym Mhennod 2, yn briodol ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau.
  • A oes unrhyw gynlluniau, polisïau neu raglenni ychwanegol sy'n berthnasol i'r ISA ac y dylid eu cynnwys ym Mhennod 3.
  • A yw'r wybodaeth a ddarperir ym Mhennod yn gadarn ac yn gynhwysfawr ac yn darparu llinell sylfaen addas ar gyfer ISA Cynllun Datblygu Lleol Ynys Môn.
  • A oes unrhyw faterion cynaliadwyedd allweddol ychwanegol yn Ynys Môn (Pennod 5) y dylid eu cynnwys.
  • A yw'r fframwaith ISA (Pennod 6) yn briodol ac yn cynnwys ystod addas o amcanion.
  • A yw'r fethodoleg arfaethedig ar gyfer asesu Safleoedd Ymgeisiol (Pennod 6) yn briodol.

7.3 Wrth i'r CDLl gael ei baratoi, bydd yn ddarostyngedig i gamau diweddarach yr ISA gan ddefnyddio fframwaith yr ISA a gyflwynir ym Mhennod 6. Bydd Adroddiad ISA llawn (sy'n cynnwys camau diweddarach y broses ISA) wedyn yn cael ei gynhyrchu a bydd ar gael i randdeiliaid eraill a'r cyhoedd ar gyfer ymgynghori ehangach ochr yn ochr â fersiwn Cyn-adneuo'r CDLl.

Cwestiwn Un: A oes unrhyw ddogfennau neu negeseuon allweddol ar goll o adolygiad cyd-destun y polisi a gwblhawyd ar gyfer bob thema Gwerthusiad Cynaliadwyedd Integredig? Sylw

Cwestiwn Dau: A oes unrhyw ffynonellau data neu dueddiadau allweddol ar goll o’r wybodaeth sylfaen ar gyfer bob un? Sylw

Cwestiwn Tri: A oes gennych unrhyw sylwadau ar faterion allweddol sydd wedi’u hadnabod ar gyfer bob Cynaliadwyedd Integredig? Sylw

Cwestiwn Pedwar: A oes gennych unrhyw sylwadau ar amcanion y Gwerthusiad Cynaliadwyedd Integredig a/neu gwestiynau asesu ar gyfer bob thema Gwerthusiad Cynaliadwyedd Integredig? Sylw

Cwestiwn Pump: A oes gennych unrhyw sylw arall ar yr Adroddiad Cwmpasu Gwerthusiad Cynaliadwyedd Integredig? Sylw

Am gyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r system ac i wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig