Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig - Adroddiad Cwmpasu

Yn dod i ben ar 13 Awst 2025 (30 diwrnod ar ôl)

Pennod 6 Methodoleg a Fframwaith Arfarnu Cynaliadwyedd Integredig

Fframwaith ISA

6.1 Mae datblygu cyfres o amcanion ISA (a elwir yn fframwaith ISA) yn ffordd gydnabyddedig o ddisgrifio, dadansoddi a chymharu effeithiau tebygol cynllun ar gynaliadwyedd.

6.2 Cyflwynir y fframwaith ISA arfaethedig ar gyfer CDLl newydd Ynys Môn yn Nhabl 6.1 dros y dudalen. Mae'r holl bynciau sy'n ofynnol dan Reoliadau AAS (a nodir yn Atodlen 2 Rheoliadau AAS (Cymru)) yn cael sylw clir gan amcanion ISA, fel y dangosir yn nhrydedd golofn y tabl. Mae'r golofn olaf yn dangos sut mae'r amcanion yn mynd i'r afael â'r prosesau asesu eraill sydd i'w hintegreiddio yn yr ISA.

Tabl 2.1: Fframwaith ISA ar gyfer CDLl newydd Ynys Môn

Amcan ISA

Cwestiynau i helpu gyda'r penderfyniad

A fydd yr opsiwn polisi/strategaeth...?

Pwnc/pynciau perthnasol Rheoliadau AAS

Perthnasedd i brosesau asesu eraill sydd wedi'u hymgorffori yn yr ISA

1. Lliniaru ac addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd a lleihau risg llifogydd

Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr? Cyfrannu at gymuned garbon-niwtral?

Lleihau risg llifogydd i bobl, eiddo a chynnal uniondeb y gorlifdir?

Hyrwyddo defnyddio Systemau Draenio Cynaliadwy a dyluniadau eraill sy'n gallu gwrthsefyll llifogydd?

Ystyried effeithiau tebygol newid yn yr hinsawdd ar bob math o seilwaith?

Annog datblygu ynni adnewyddadwy, gan gynnwys microgynhyrchu?

Annog safonau uchel o effeithlonrwydd ynni ym mhob datblygiad newydd?

Hyrwyddo dylunio a fydd yn helpu i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd (er enghraifft drwy ogwyddo adeiladau'n briodol)?

Llywio datblygiadau i ffwrdd o'r gorlifdir lle bo hynny'n bosibl, ac atal mwy o risg llifogydd mewn mannau eraill?

Hyrwyddo dylunio a fydd yn cefnogi seilwaith gwyrdd?

Ffactorau hinsoddol

Mae'n rhoi sylw i nod(au) llesiant canlynol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:

- Cymru gydnerth

- Cymru Iachach

- Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang

2. Darparu nifer a chymysgedd priodol o dai i ddiwallu anghenion lleol

Darparu tai o ansawdd da?

Hyrwyddo cymysgedd o feintiau, mathau a deiliadaeth tai? Hyrwyddo tai sy'n bodloni gofynion y rheini sydd ag

anghenion penodol, gan gynnwys pobl hŷn a phobl ag

anableddau?

Helpu i ddiwallu anghenion tai fforddiadwy er mwyn caniatáu i bobl leol aros yn eu cymunedau?

Poblogaeth Asedau perthnasol

Mae'n rhoi sylw i nod(au) llesiant canlynol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:

- Cymru fwy cyfartal

- Cymru o gymunedau cydlynus

Mae mynediad at dai priodol i ddiwallu anghenion penodol yn fater allweddol ar gyfer elfen EqIA a HIA yr ISA.

3. Hyrwyddo cymunedau bywiog, gyda chyfleoedd i fyw, gweithio a chymdeithasu i bawb

Annog darparu cyfleusterau cymunedol mewn lleoliadau hygyrch?

Hyrwyddo mynediad at addysg i bawb?

Ystyried anghenion grwpiau penodol gan gynnwys y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig?

Cynllunio lleoedd gyda chyfleoedd ar gyfer dinasyddiaeth weithredol er mwyn hyrwyddo ymgysylltu â'r gymuned?

Darparu mannau cyfarfod ar gyfer gwahanol ddiwylliannau?

Hyrwyddo datblygiad cymysg? Darparu mynediad cyfartal i bawb?

Helpu i hyrwyddo atebion dylunio a fydd yn helpu i amddiffyn cymunedau rhag troseddau a lleihau'r ofn o droseddau?

Poblogaeth Asedau perthnasol

Mae'n rhoi sylw i nod(au) llesiant canlynol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:

- Cymru fwy cyfartal

- Cymru o gymunedau cydlynus

Mae mynediad at wasanaethau a chyfleusterau cymunedol sy'n berthnasol i grwpiau penodol yn fater allweddol i elfen EqIA yr ISA, ac mae lleihau arwahanrwydd yn bwysig i'r elfen HIA.

4. Annog ffyrdd iach a diogel o fyw sy'n hybu lles ac yn gwella lefelau iechyd yn gyffredinol ar Ynys Môn.

Hyrwyddo darparu cyfleusterau gofal iechyd a mynediad atynt?

Atal effeithiau annerbyniol ar amwynder (fel llygredd sŵn,

arogl a golau)?

Darparu mannau megis rhandiroedd a gerddi cymunedol a fydd yn hybu bwyta'n iach?

Diogelu mannau agored presennol?

Hyrwyddo darparu cyfleusterau ar gyfer gweithgareddau hamdden corfforol a chwarae (gan gynnwys ar gyfer cerdded a beicio)?

Hyrwyddo pwysigrwydd gwarchod mannau chwarae naturiol?

Gwella mynediad y cyhoedd at fannau gwyrdd naturiol a/neu gefn gwlad?

Darparu ar gyfer mannau awyr agored preifat personol mewn datblygiadau newydd?

Diogelu a gwella iechyd meddwl pobl?

Helpu i wella lefelau iechyd cyffredinol a lleihau anghydraddoldebau iechyd?

Hyrwyddo pwysigrwydd gwarchod mannau chwarae naturiol?

Sylwch fod amcan yr Arfarniad Cynaliadwyedd isod yn rhoi sylw i'r graddau y bydd opsiynau'n hyrwyddo defnyddio dulliau teithio llesol.

Iechyd pobl

Mae'n rhoi sylw i nod(au) llesiant canlynol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:

- Cymru Iachach

- Cymru fwy cyfartal

Mae'n mynd i'r afael â'r gofyniad am Asesiad o'r Effaith ar Iechyd.

5. Lleihau'r angen i deithio a hyrwyddo dulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy

Darparu ar gyfer dewisiadau eraill yn lle ceir preifat a gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig?

Darparu ar gyfer llwybrau cerdded a beicio diogel a deniadol?

Lleihau'r angen i deithio mewn datblygiadau newydd? Sicrhau cysylltedd i fand eang cyflym?

Lleihau'r angen i gymudo i'r gwaith?

Hyrwyddo'r gwaith o ddarparu seilwaith ategol ar gyfer cerbydau trydan a'r defnydd ohonynt?

Asedau perthnasol Ffactorau hinsoddol Aer

Mae'n rhoi sylw i nod(au) llesiant canlynol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:

- Cymru gydnerth

- Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang

- Cymru Iachach

6. Hyrwyddo, gwarchod a gwella treftadaeth ddiwylliannol a'r amgylchedd adeiledig

Diogelu a gwella ardaloedd ac adeiladau o bwysigrwydd hanesyddol neu ddiwylliannol?

Diogelu a gwella archaeoleg?

Diogelu a gwella treftadaeth ddiwydiannol?

Hyrwyddo mynediad cynaliadwy i safleoedd diwylliannol?

Sicrhau safonau dylunio uchel ym mhob datblygiad newydd?

Diogelu a gwella cymeriad a nodweddion unigryw lleol, gan gydnabod rôl arloesi?

Treftadaeth ddiwylliannol Asedau perthnasol

Mae'n rhoi sylw i nod(au) llesiant canlynol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:

- Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

7. Hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg

Hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ymysg gwahanol grwpiau o bobl, gan gynnwys yn y gweithle ac mewn addysg?

Hyrwyddo cynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith? Hyrwyddo statws y Gymraeg?

Treftadaeth ddiwylliannol Poblogaeth

Mae'n rhoi sylw i nod(au) llesiant canlynol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:

- Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Yn mynd i'r afael â'r angen am asesiad effaith ar y Gymraeg.

8. Diogelu a gwella ansawdd a chymeriad y dirwedd

Diogelu a gwella ardaloedd dynodedig, gan gynnwys y Dirwedd Genedlaethol a'r Arfordir Treftadaeth?

Diogelu a gwella tirweddau hanesyddol?

Diogelu a gwella cymeriad a nodweddion unigryw'r dirwedd leol?

Diogelu a gwella llonyddwch ac awyr dywyll?

Tirlun

Mae'n rhoi sylw i nod(au) llesiant canlynol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:

- Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

- Cymru Iachach

9. Gwarchod a gwella bioamrywiaeth

Gwella amrywiaeth cynefinoedd a rhywogaethau a chynnal a gwella poblogaethau rhywogaethau?

Gwella hyd a lled cynefinoedd a phoblogaethau rhywogaethau gwarchodedig a blaenoriaeth drwy geisio creu, adfer a rheoli rhwydweithiau a chysylltiadau gwyrdd yn briodol?

Gwella ac yn diogelu cyflwr ecosystemau a chefnogi'r gwaith o reoli cynefinoedd yn y tymor hir?

Gwella cysylltedd drwy fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i greu cynefinoedd gweithredol a rhwydweithiau ecolegol?

Gallu addasu i newid, yn enwedig effeithiau newid yn yr hinsawdd?

Cyfyngu ar y posibilrwydd o amharu ar brosesau naturiol neu gysylltedd?

Cefnogi'r gwaith o adfer prosesau naturiol a allai liniaru neu ddileu effeithiau eraill?

Gwella a diogelu cysylltiadau rhwng pobl a natur?

Bioamrywiaeth, fflora a ffawna

Mae'n rhoi sylw i nod(au) llesiant canlynol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:

- Cymru gydnerth

- Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang

Mae ystyriaethau Deddf yr Amgylchedd (Adran 6) yn cael eu hadlewyrchu yn y cwestiynau sy'n helpu i wneud penderfyniadau.

10. Diogelu ansawdd a swm adnoddau dŵr Ynys Môn

Lleihau a/neu osgoi llygredd i'r amgylchedd dŵr?

Cefnogi defnydd effeithlon o ddŵr, gan gynnwys ailgylchu dŵr llwyd mewn datblygiadau newydd?

Diogelu ansawdd a swm y ffynonellau dŵr daear?

Atal datblygiad newydd a fydd yn achosi problemau draenio (gan gynnwys mewn perthynas â mynychder selio pridd)?

Diogelu ansawdd a swm dŵr wyneb?

Helpu i sicrhau lefelau digonol o seilwaith carthffosiaeth a

chapasiti i drin dŵr gwastraff mewn gwaith trin carthion?

Dŵr

Mae'n rhoi sylw i nod(au) llesiant canlynol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:

- Cymru gydnerth

- Cymru Iachach

- Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang

11. Diogelu a gwella ansawdd yr aer

Osgoi cynyddu llygredd aer a sicrhau gwelliannau yn ansawdd yr aer?

Hyrwyddo polisi a datblygiad sy'n galluogi ac yn cefnogi cymunedau i fabwysiadu ffyrdd o fyw a chamau gweithredu a all ddiogelu neu wella ansawdd aer lleol?

Aer

Mae'n rhoi sylw i nod(au) llesiant canlynol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:

- Cymru gydnerth

- Cymru Iachach

- Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang

12. Hyrwyddo defnydd effeithlon o dir, priddoedd a mwynau.

Annog ailddefnyddio tir ac adeiladau a ddatblygwyd yn flaenorol fel blaenoriaeth, lle bo hynny'n briodol?

Atal a rheoli llygredd i dir?

Hyrwyddo'r gwaith o adfer halogiad tir? Diogelu adnoddau mwynol?

Ailddefnyddio ac ailgylchu agregau ar y safle?

Hyrwyddo dwysedd uwch o ddatblygiadau (lle ystyrir bod hynny'n briodol) i gefnogi defnydd mwy effeithlon o adnoddau tir?

Pridd

Asedau perthnasol

Mae'n rhoi sylw i nod(au) llesiant canlynol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:

- Cymru gydnerth

- Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang

13. Parhau i gynhyrchu cyn lleied o wastraff â phosibl a hyrwyddo dulliau mwy cynaliadwy o reoli gwastraff

Lleihau faint o wastraff sy'n cael ei gynhyrchu?

Osgoi, lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer cyn gwaredu i safleoedd tirlenwi?

Gwella perfformiad ailgylchu da ymhellach gan gynnwys darparu cyfleusterau (domestig a masnachol)?

Cefnogi datblygu dewisiadau eraill yn lle tirlenwi, gan gynnwys cyfleusterau compostio ac ynni o wastraff?

Hyrwyddo hunangynhaliaeth o ran rheoli gwastraff lle bo hynny'n briodol?

Asedau perthnasol Iechyd pobl

Dŵr

Pridd

Mae'n rhoi sylw i nod(au) llesiant canlynol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:

- Cymru gydnerth

- Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang

14. Darparu ar gyfer economi gynaliadwy

Hybu twf economaidd?

Annog mewnfuddsoddiad a buddsoddiad cynhenid priodol?

Cefnogi'r economi wledig? Hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy?

Sicrhau bod tir yn cael ei ddyrannu i ddiwallu anghenion economaidd y boblogaeth?

Cynnal banc tir priodol o safleoedd cyflogaeth? Hyrwyddo bywiogrwydd a hyfywedd canol trefi?

Cefnogi'r gwaith o sicrhau economi carbon is sy'n fwy gwyrdd a all fod o fudd i holl aelodau'r gymuned?

Asedau perthnasol

Mae'n rhoi sylw i nod(au) llesiant canlynol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:

- Cymru ffyniannus

- Cymru fwy cyfartal

15. Darparu ar gyfer amrywiaeth eang o gyfleoedd gwaith

Manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd cyflogaeth ar Ynys Môn? Darparu cyfleoedd ar gyfer amrywiaeth o lefelau sgiliau? Darparu swyddi mewn lleoliadau hygyrch?

Darparu cyfleusterau hyfforddi i helpu i ddatblygu sylfaen sgiliau hyblyg?

Poblogaeth Asedau perthnasol

Mae'n rhoi sylw i nod(au) llesiant canlynol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:

- Cymru ffyniannus

- Cymru fwy cyfartal

Methodoleg ISA

6.3 Bydd yr opsiynau polisi amgen rhesymol ar gyfer y CDLl yn cael eu gwerthuso yn erbyn yr amcanion yn fframwaith yr ISA, gyda symbolau'n cael eu defnyddio i ddangos effeithiau tebygol pob opsiwn neu bolisi ar bob amcan ISA fel a ganlyn:

Ffigur 6.1: Allwedd i symbolau a chodau lliw i'w defnyddio yn ISA CDLl Ynys Môn

++

Effaith gadarnhaol arwyddocaol yn debygol

++/- NEU

++/--

Effeithiau cadarnhaol arwyddocaol a mân effeithiau negyddol cymysg yn debygol

+

Effaith gadarnhaol fach yn debygol

+/-

Effeithiau mân neu arwyddocaol cymysg yn debygol

-

Effaith negyddol fach yn debygol

--/+

Effeithiau negyddol arwyddocaol a mân effeithiau cadarnhaol cymysg yn debygol

--

Effaith negyddol arwyddocaol yn debygol

0

Effaith fach iawn yn debygol

?

Effaith debygol yn ansicr

6.4 Pan fydd effaith gadarnhaol neu negyddol bosibl yn ansicr, bydd marc cwestiwn yn cael ei ychwanegu at y symbol perthnasol (e.e. +? neu -?) a bydd y symbol yn cael cod lliw yn unol â'r effaith gadarnhaol, fach iawn neu negyddol bosibl (e.e. gwyrdd, melyn, oren, ac ati).

6.5 Mae angen penderfynu ar effeithiau tebygol opsiynau a pholisïau ac asesu eu harwyddocâd, sy'n anochel yn golygu bod angen gwneud cyfres o benderfyniadau. Bydd yr arfarniad yn ceisio gwahaniaethu rhwng yr effeithiau mwyaf arwyddocaol ac effeithiau llai eraill drwy ddefnyddio'r symbolau a ddangosir uchod. Mae'r ffin wrth wneud penderfyniad am arwyddocâd effaith yn aml yn eithaf bach. Lle bydd naill ai (++) neu (--) yn cael eu defnyddio i wahaniaethu rhwng effeithiau arwyddocaol ac effeithiau llai (+ neu -) bydd hyn oherwydd yr ystyrir bod effaith opsiwn neu bolisi ar amcan yr ISA dan sylw mor fawr fel y bydd yn cael effaith amlwg a mesuradwy gan ystyried ffactorau eraill a allai ddylanwadu ar gyflawni'r amcan hwnnw. Fodd bynnag, bydd yr effeithiau a nodwyd yn berthnasol i faint y cynigion sy'n cael eu hystyried.

6.6 Bydd effeithiau cymysg ond yn cael eu cyflwyno pan fydd effeithiau sy'n uniongyrchol groes i'w gilydd (h.y. cadarnhaol a negyddol) wedi cael eu nodi drwy'r arfarniad (e.e. +/-, ++/-, --/+ a ++/--). Ar gyfer rhai amcanion ISA, mae'n bosibl y gallai polisi gael effaith gadarnhaol fach mewn perthynas ag un agwedd ar y polisi ac effaith gadarnhaol arwyddocaol mewn perthynas ag agwedd arall (gan roi sgôr o +/++). Fodd bynnag, yn yr achosion hyn, dim ond y sgôr fwyaf arwyddocaol a ddangosir yn y tablau arfarnu. Yn yr un modd, pe gallai polisi neu safle gael effaith negyddol fach ac arwyddocaol (-/--) ar gyfer yr un amcan ISA, dim ond y sgôr negyddol arwyddocaol fydd yn cael ei dangos yn y tablau arfarnu. Bydd y testun cyfiawnhau sy'n ymwneud â'r arfarniad yn disgrifio lle gallai gwahanol elfennau'r polisi sy'n cael ei arfarnu fod â'r potensial i arwain at effeithiau o wahanol faint.

Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol

6.7 Bydd y broses ISA ar gyfer Safleoedd Ymgeisiol yn cael ei hintegreiddio yn y broses ehangach o Asesu Safleoedd Ymgeisiol. Bydd fframwaith yr ISA yn cael ei ymgorffori yn y ffurflen Asesu Safleoedd Ymgeisiol a bydd safleoedd yn cael eu hasesu mewn perthynas â phob un o amcanion yr ISA. Er mwyn sicrhau cysondeb yn yr arfarniad, ac er mwyn sicrhau bod y broses o Asesu Safleoedd Ymgeisiol yn bodloni gofynion Rheoliadau AAS (Cymru), bydd y meini prawf a nodir yn Nhabl 6.2 dros y dudalen yn cael eu defnyddio er mwyn pennu o dan ba amgylchiadau y bydd mân effeithiau ac effeithiau arwyddocaol, yn rhai cadarnhaol a negyddol, yn cael eu nodi.

6.8 Mae'r meini prawf yn Nhabl 6.2 yn ymwneud â safleoedd a gynigir ar gyfer datblygiadau preswyl a chyflogaeth. Os cynigir safleoedd ar gyfer defnyddiau eraill (h.y. mwynau neu ddatblygiadau gwastraff) bydd angen addasu'r meini prawf fel y bo'n briodol. Pan fydd meini prawf sy'n seiliedig ar bellter sy'n ymwneud â mynediad at wasanaethau a chyfleusterau a seilwaith (e.e. cyfleusterau a fyddai o fudd i iechyd a nodau trafnidiaeth gynaliadwy) yn cael eu defnyddio, bydd y rhain yn cael eu defnyddio ar sail 'pellter cerdded hawdd'. Mae nifer o ddarnau o ymchwil sy'n rhoi amrywiaeth o bellteroedd canllaw a argymhellir ar gyfer cerdded. Er enghraifft, canfu'r Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant fod taith gerdded yn un cilometr o hyd ar gyfartaledd.

6.9 Mae'r cwestiynau sy'n helpu i wneud penderfyniadau wedi'u cynnwys yn Nhabl 6.2 isod yn ogystal ag yn Nhabl 6.1 yn gynharach yn y bennod hon, sy'n nodi'r fframwaith ISA cyffredinol ar gyfer yr ISA. Mae'r cwestiynau sy'n helpu i wneud penderfyniadau yn bwysig iawn ar gyfer gwerthuso'r opsiynau polisi a strategaeth ofodol yr ystyrir eu cynnwys yn y CDLl. Er y bydd y meini prawf asesu sydd wedi'u cynnwys yng ngholofn olaf Tabl 6.2 yn cael eu defnyddio i sicrhau cysondeb ar gyfer gwerthuso opsiynau safle, mae'r cwestiynau sy'n helpu gyda'r penderfyniad hefyd wedi cael eu cynnwys yn y tabl hwn i ddangos sut mae'r meini prawf asesu safle'n deillio o'r cwestiynau hyn ac yn cyd-fynd â nhw. I bob pwrpas, mae'r meini prawf asesu safle a gyflwynir yn Nhabl 6.2 yn caniatáu ar gyfer arfarniad cyson o'r opsiynau safle yn erbyn y fframwaith ISA cyffredinol (Tabl 6.1) sydd i'w ddefnyddio i 'brofi' pob elfen (opsiynau polisi, safle a strategaeth ofodol) yr ystyrir eu cynnwys yn y CDLl.

Tabl 6.2: Meini prawf asesu ar gyfer Safleoedd Ymgeisiol y CDLl

Amcan ISA

Cwestiynau i helpu gyda'r penderfyniad

A fydd y Safle Ymgeisiol yn...?

Meini prawf asesu

1. Lliniaru ac addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd a lleihau risg llifogydd

Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr?

Cyfrannu at gymuned garbon-niwtral?

Lleihau risg llifogydd i bobl, eiddo a chynnal uniondeb y gorlifdir?

Hyrwyddo defnyddio Systemau Draenio Cynaliadwy a dyluniadau eraill sy'n gallu gwrthsefyll llifogydd?

Ystyried effeithiau tebygol newid yn yr hinsawdd ar bob math o seilwaith?

Annog datblygu ynni adnewyddadwy, gan gynnwys microgynhyrchu?

Annog safonau uchel o effeithlonrwydd ynni ym mhob datblygiad newydd?

Hyrwyddo dylunio a fydd yn helpu i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd (er enghraifft drwy ogwyddo adeiladau'n briodol)?

Llywio datblygiadau i ffwrdd o'r gorlifdir lle bo hynny'n bosibl, ac atal mwy o risg llifogydd mewn mannau eraill?

Hyrwyddo dylunio a fydd yn cefnogi seilwaith gwyrdd?

Ni fydd lleoliad y datblygiad yn effeithio ar gyflawni rhai rhannau o'r amcan hwn – bydd yr effeithiau ar allyriadau nwyon tŷ gwydr o ddatblygiadau adeiledig a chynhyrchu a defnyddio ynni adnewyddadwy, er enghraifft, yn dibynnu i raddau helaeth ar y cynigion manwl ar gyfer safleoedd a'u dyluniad, nad ydynt yn hysbys ar hyn o bryd. Mae i ba raddau y byddai lleoliad safleoedd yn hwyluso defnyddio dulliau trafnidiaeth cynaliadwy yn lle ceir yn cael ei ystyried o dan amcan 4 yr Arfarniad Cynaliadwyedd isod.

Lle bo Safleoedd Ymgeisiol wedi'u lleoli mewn ardaloedd lle mae risg mawr o lifogydd, gallai gynyddu'r risg llifogydd yn yr ardaloedd hynny (yn enwedig os nad yw'r safleoedd wedi'u datblygu o'r blaen) a byddai'n cynyddu nifer y bobl a'r asedau sy'n wynebu risg llifogydd. Felly:

- Mae safleoedd sydd yn gyfan gwbl neu'n bennaf (h.y. >50%) ar dir maes glas sydd o fewn parthau llifogydd 3a neu 3b neu ar dir llwyd o fewn parthau llifogydd 3a neu 3b yn debygol o gael effaith negyddol arwyddocaol (--).

- Mae safleoedd sydd naill ai'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar faes glas y tu allan i barthau llifogydd 3a a 3b yn debygol o gael effaith negyddol fach (-).

- Mae safleoedd sydd ar dir llwyd y tu allan i barthau llifogydd 3a a 3b yn debygol o gael effaith (0) fach iawn.

2. Darparu nifer a chymysgedd priodol o dai i ddiwallu anghenion lleol

Darparu tai o ansawdd da?

Hyrwyddo cymysgedd o feintiau, mathau a deiliadaeth tai? Hyrwyddo tai sy'n bodloni gofynion y rheini sydd ag

anghenion penodol, gan gynnwys pobl hŷn a phobl ag

anableddau?

Helpu i ddiwallu anghenion tai fforddiadwy er mwyn caniatáu i bobl leol aros yn eu cymunedau?

Bydd yr holl opsiynau safle a fyddai'n darparu tai yn cael effaith gadarnhaol ar yr amcan hwn oherwydd natur y datblygiad arfaethedig. Bydd safleoedd mwy yn darparu cyfleoedd ar gyfer datblygu mwy o gartrefi a gallant hefyd gynnig cyfleoedd penodol ar gyfer ymgorffori tai fforddiadwy ac amrywiaeth o fathau o dai. Byddai gweddill y cwestiynau a fyddai'n helpu gyda'r penderfyniad yn cael eu dylanwadu gan bolisïau yn y CDLl newydd yn hytrach na lleoliadau safleoedd tai. Felly:

- Byddai safleoedd a fyddai'n darparu 100144 neu fwy o gartrefi'n cael effaith gadarnhaol arwyddocaol (++).

- Byddai safleoedd a fyddai'n darparu llai na 100 o gartrefi yn cael effaith gadarnhaol fach (+).

- Effaith fach iawn (0) fyddai i safleoedd na fyddent yn darparu tai.

3. Hyrwyddo cymunedau bywiog, gyda chyfleoedd i fyw, gweithio a chymdeithasu i bawb

Annog darparu cyfleusterau cymunedol mewn lleoliadau hygyrch?

Hyrwyddo mynediad at addysg i bawb?

Ystyried anghenion grwpiau penodol gan gynnwys y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig?

Cynllunio lleoedd gyda chyfleoedd ar gyfer dinasyddiaeth weithredol er mwyn hyrwyddo ymgysylltu â'r gymuned?

Darparu mannau cyfarfod ar gyfer gwahanol ddiwylliannau?

Hyrwyddo datblygiad cymysg? Darparu mynediad cyfartal i bawb?

Helpu i hyrwyddo atebion dylunio a fydd yn helpu i amddiffyn cymunedau rhag troseddau a lleihau'r ofn o droseddau?

Ni fyddai lleoliad y datblygiad yn dylanwadu ar nifer o'r materion sy'n cael sylw gan yr amcan hwn, ac yn hytrach byddai polisïau yn y CDLl newydd yn dylanwadu arnynt. Fodd bynnag, yn gyffredinol bydd gan safleoedd sydd wedi'u lleoli yn yr aneddiadau mwy yn Ynys Môn well mynediad at ystod ehangach o wasanaethau a chyfleusterau presennol, gan gynnwys cyfleusterau addysgol, o'u cymharu â safleoedd mewn aneddiadau llai. Byddai unrhyw wasanaethau a chyfleusterau newydd a allai gael eu darparu o ganlyniad i'r datblygiad newydd hefyd yn hygyrch i nifer uwch o drigolion cyfagos.

- Byddai safleoedd sydd wedi'u lleoli yn un o'r canolfannau gwasanaeth trefol yn cael effaith gadarnhaol arwyddocaol (++).

- Byddai safleoedd sydd wedi'u lleoli yn un o'r canolfannau gwasanaeth lleol yn cael effaith gadarnhaol fach (+).

- Byddai safleoedd sydd wedi'u lleoli i ffwrdd o'r canolfannau gwasanaeth trefol a lleol yn cael effaith negyddol fach (-) ond cydnabyddir eu bod yn rhoi hwb i'r economi leol a'r ddarpariaeth addysg.

4. Annog ffyrdd iach a diogel o fyw sy'n hybu lles ac yn gwella lefelau iechyd yn gyffredinol ar Ynys Môn.

Hyrwyddo darparu cyfleusterau gofal iechyd a mynediad atynt?

Atal effeithiau annerbyniol ar amwynder (fel llygredd sŵn a

golau)?

Darparu mannau megis rhandiroedd a gerddi cymunedol a fydd yn hybu bwyta'n iach?

Diogelu mannau agored presennol?

Hyrwyddo darparu cyfleusterau ar gyfer gweithgareddau hamdden corfforol a chwarae (gan gynnwys ar gyfer cerdded a beicio)?

Hyrwyddo pwysigrwydd gwarchod mannau chwarae naturiol?

Gwella mynediad y cyhoedd at fannau gwyrdd naturiol a/neu gefn gwlad?

Darparu ar gyfer mannau awyr agored preifat personol mewn datblygiadau newydd?

Diogelu a gwella iechyd meddwl pobl?

Helpu i wella lefelau iechyd cyffredinol a lleihau anghydraddoldebau iechyd?

Hyrwyddo pwysigrwydd gwarchod mannau chwarae naturiol?

Sylwch fod amcan yr Arfarniad Cynaliadwyedd isod yn rhoi sylw i'r graddau y bydd opsiynau safleoedd yn hyrwyddo defnyddio dulliau teithio llesol.

Bydd safleoedd preswyl sy'n agos at gyfleusterau gofal iechyd presennol (h.y. meddygfeydd meddygon teulu) yn sicrhau bod gan breswylwyr fynediad da at wasanaethau gofal iechyd. Os bydd nifer o safleoedd yn cael eu dyrannu'n agos at ei gilydd, gallai hyn arwain at orlwytho cyfleusterau gofal iechyd presennol. Os daw gwybodaeth ar gael ar unrhyw adeg ynghylch capasiti cyfleusterau gofal iechyd presennol, bydd hyn yn cael ei ystyried yn yr ISA. Cydnabyddir hefyd y gallai datblygiad newydd ysgogi darparu cyfleusterau gofal iechyd newydd, ond ni ellir tybio hyn ar hyn o bryd.

Bydd iechyd y cyhoedd hefyd yn cael ei ddylanwadu gan agosrwydd safleoedd at fannau agored, llwybrau cerdded a beicio, a gall mynediad hawdd at y rhain annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden llesol yn yr awyr agored.

Felly:

- Byddai safleoedd preswyl sydd o fewn 400m i ddarparwr gofal iechyd yn cael effaith gadarnhaol arwyddocaol (++).

- Byddai safleoedd preswyl sydd o fewn 400-800m i ddarparwr gofal iechyd yn cael effaith gadarnhaol fach (+).

- Byddai safleoedd preswyl nad ydynt o fewn 800m i ddarparwr gofal iechyd yn cael effaith negyddol fach (-).

- Byddai safleoedd na fyddent yn cynnwys datblygiadau preswyl yn cael effaith fach iawn (0) ar y rhan hon o'r amcan.

Ar ben hynny, gallai arwain at effeithiau cymysg yn gyffredinol145:

- Bydd safleoedd sydd o fewn 800m i ardal o fan agored acsydd o fewn 400m i lwybr cerdded neu feicio yn cael effaith gadarnhaol arwyddocaol (++).

- Bydd safleoedd sydd o fewn 800m i ardal o fan agored neu o fewn 400m i lwybr cerdded neu feicio (ond nid y ddau) yn cael effaith gadarnhaol fach (+).

- Bydd safleoedd sydd dros 800m o fan agored a dros 400m o lwybr cerdded neu feicio yn cael effaith negyddol fach (-).

- Gallai safleoedd sy'n cynnwys ardal bresennol o fan agored (gan gynnwys rhandiroedd) neu lwybr cerdded neu feicio a allai felly gael ei golli o ganlyniad i ddatblygiad newydd gael effaith negyddol arwyddocaol (--?), er bod hyn yn ansicr gan ddibynnu ar a fyddai datblygu'r safle mewn gwirionedd yn arwain at golli'r cyfleuster hwnnw.

Ar ben hynny, gallai arwain at effeithiau cymysg yn gyffredinol:

- Byddai safleoedd preswyl a fyddai'n amlygu trigolion i lefelau sŵn o Lnight >=55.0 dB, neu Laeq,16 >=

60.0 dB yn cael effaith negyddol arwyddocaol (--).

- Byddai safleoedd preswyl a fyddai'n amlygu trigolion i lefelau sŵn o Lnight 50.0-54.9 dB, neu Laeq,16 55.0- 59.9 dB yn cael effaith negyddol fach (-).

- Byddai opsiynau safleoedd cyflogaeth yn cael effaith fach iawn (0) gan y dylanwadir yn fawr ar lefelau sŵn a brofir gan weithwyr gan y math o waith sy'n cael ei wneud ar y safle, a yw gweithwyr yn gwisgo cyfarpar diogelu'r clyw, a dyluniad yr adeilad (e.e. mae swyddfeydd yn fwy tebygol na thai o fod ag aerdymheru ac wedi'u hinswleiddio'n acwstig).

5. Lleihau'r angen i deithio a hyrwyddo dulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy

Darparu ar gyfer dewisiadau eraill yn lle ceir preifat a gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig?

Darparu ar gyfer llwybrau cerdded a beicio diogel a deniadol?

Lleihau'r angen i deithio mewn datblygiadau newydd? Sicrhau cysylltedd i fand eang cyflym?

Lleihau'r angen i gymudo i'r gwaith?

Hyrwyddo'r gwaith o ddarparu seilwaith ategol ar gyfer cerbydau trydan a'r defnydd ohonynt?

Bydd mynediad hwylus at gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn lleihau lefelau defnyddio ceir ac yn annog newid moddol. Gallai datblygiad newydd ysgogi darparu cysylltiadau newydd fel llwybrau bysiau; fodd bynnag, ni ellir tybio hyn. Ar ben hynny, nid oes gwybodaeth ar gael am amlder gwasanaethau bysiau a chydnabyddir

mai dim ond gwasanaethau cyfyngedig y gall rhai safleoedd bysiau eu cynnig, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

- Bydd safleoedd sydd o fewn 400m i orsaf reilffordd a 400m i safle bws yn cael effaith gadarnhaol arwyddocaol (++).

- Bydd safleoedd sydd o fewn 400m i orsaf drenau neu arosfan fysiau (ond nid y ddau) yn cael effaith gadarnhaol fach (+).

- Bydd safleoedd nad ydynt o fewn 400m i orsaf reilffordd neu safle bws yn cael effaith negyddol fach (-).

Ar ben hynny, a allai arwain at effeithiau cymysg yn gyffredinol, bydd safleoedd sydd yn yr aneddiadau mwy o faint ar Ynys Môn fel arfer angen teithiau byrrach i gael mynediad at swyddi, gwasanaethau a chyfleusterau o'u cymharu â safleoedd mewn aneddiadau llai. Bydd hyn yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd siwrneiau'n cael eu gwneud ar droed neu ar feic yn hytrach nag mewn car.

- Byddai safleoedd sydd wedi'u lleoli yn un o'r canolfannau gwasanaeth trefol neu leol yn cael effaith gadarnhaol fach (+).

6. Hyrwyddo, gwarchod a gwella treftadaeth ddiwylliannol a'r amgylchedd adeiledig

Diogelu a gwella ardaloedd ac adeiladau o bwysigrwydd hanesyddol neu ddiwylliannol?

Diogelu a gwella archaeoleg?

Diogelu a gwella treftadaeth ddiwydiannol?

Hyrwyddo mynediad cynaliadwy i safleoedd diwylliannol?

Sicrhau safonau dylunio uchel ym mhob datblygiad newydd?

Diogelu a gwella cymeriad a nodweddion unigryw lleol, gan gydnabod rôl arloesi?

Bydd y fethodoleg i'w defnyddio yn yr ISA mewn perthynas ag arfarnu effeithiau tebygol opsiynau safleoedd ar yr amgylchedd hanesyddol yn cael ei phennu ar ôl i'r Cyngor benderfynu pa dystiolaeth amgylchedd hanesyddol fydd yn cael ei chynhyrchu fel sail i'r broses o baratoi'r CDLl.

7. Hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg

Hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ymysg gwahanol grwpiau o bobl, gan gynnwys yn y gweithle ac mewn addysg?

Hyrwyddo cynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith? Hyrwyddo statws y Gymraeg?

Er y gellid ystyried bod tai newydd mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio'n helaeth yn cynyddu'r boblogaeth yn yr ardaloedd hynny ac yn annog defnyddio'r Gymraeg, mae hefyd yn bosibl y gallai pobl sy'n symud i'r ardaloedd hynny i gael mynediad at y tai newydd 'wanhau' y defnydd o'r Gymraeg yn yr ardaloedd hynny a chael effaith i'r gwrthwyneb. Felly, nid yw'n bosibl dod i'r casgliad y bydd lleoliad gofodol Safleoedd Ymgeisiol yn effeithio'n uniongyrchol ar yr amcan hwn ac felly bydd yr holl opsiynau safleoedd yn cael effaith fach iawn (0).

8. Diogelu a gwella ansawdd a chymeriad y dirwedd

Diogelu a gwella ardaloedd dynodedig, gan gynnwys y Parc Cenedlaethol, y Dirwedd Genedlaethol a'r Arfordir Treftadaeth?

Diogelu a gwella tirweddau hanesyddol?

Diogelu a gwella cymeriad a nodweddion unigryw'r dirwedd leol?

Diogelu a gwella llonyddwch ac awyr dywyll?

Gallai datblygiadau sy'n agos at y Parc Cenedlaethol, y Dirwedd Genedlaethol a'r Arfordir Treftadaeth gael effaith negyddol arwyddocaol ar yr amcan hwn oherwydd sensitifrwydd y tirweddau hynny; fodd bynnag, mae hyn yn ansicr nes bydd cynigion manwl ar gyfer safleoedd yn hysbys. Felly:

- Gallai safleoedd sydd o fewn 1km i'r Dirwedd Genedlaethol neu'r Arfordir Treftadaeth gael effaith negyddol arwyddocaol (--?).

Ar ben hynny:

- Gallai safleoedd sydd o fewn Ardal Tirwedd Arbennig gael effaith negyddol arwyddocaol (--?).

Argyfersafleoeddytuallani'rardaloeddhyn,byddunrhywwaithasesusensitifrwyddtirweddygellireiwneud fel rhan o'r broses o lunio CDLl yn cael ei ddefnyddio, a bydd meini prawf yn cael eu nodi yma i ddangos sut mae tystiolaeth o'r fath wedi cael ei defnyddio i hysbysu'r ISA.

9. Gwarchod a gwella bioamrywiaeth

Gwella amrywiaeth cynefinoedd a rhywogaethau a chynnal a gwella poblogaethau rhywogaethau?

Gwella hyd a lled cynefinoedd a phoblogaethau rhywogaethau gwarchodedig a blaenoriaeth drwy geisio creu, adfer a rheoli rhwydweithiau a chysylltiadau gwyrdd yn briodol?

Gwella ac yn diogelu cyflwr ecosystemau a chefnogi'r gwaith o reoli cynefinoedd yn y tymor hir?

Gwella cysylltedd drwy fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i greu cynefinoedd gweithredol a rhwydweithiau ecolegol?

Gallu addasu i newid, yn enwedig effeithiau newid yn yr hinsawdd?

Cyfyngu ar y posibilrwydd o amharu ar brosesau naturiol neu gysylltedd?

Cefnogi'r gwaith o adfer prosesau naturiol a allai liniaru neu ddileu effeithiau eraill?

Gwella a diogelu cysylltiadau rhwng pobl a natur?

Mae gan safleoedd datblygu sy'n agos at safle cadwraeth dynodedig rhyngwladol, cenedlaethol neu leol y potensial i effeithio ar fioamrywiaeth neu geoamrywiaeth y safleoedd/nodweddion hynny, e.e. drwy ddifrodi/colli cynefinoedd, darnio, amharu ar rywogaethau, llygredd aer, mwy o bwysau hamdden ac ati. Ar y llaw arall, efallai y bydd cyfleoedd i hyrwyddo cysylltedd cynefinoedd os bydd datblygiadau newydd yn cynnwys seilwaith gwyrdd. Felly, er bod agosrwydd at safleoedd dynodedig yn rhoi syniad o'r posibilrwydd o effaith niweidiol, mae ansicrwydd yn bodoli, oherwydd gallai mesurau lliniaru priodol osgoi effeithiau niweidiol a hyd yn oed arwain at effeithiau manteisiol. Ar ben hynny, ni ellir pennu'r effeithiau posibl ar fioamrywiaeth sy'n bresennol ar bob safle, na chynefinoedd a rhywogaethau heb eu dynodi wrth ymyl y safleoedd datblygu posibl, ar y lefel asesu strategol hon. Byddai hyn yn cael ei benderfynu unwaith y byddai cynigion mwy penodol yn cael eu datblygu a'u cyflwyno fel rhan o gais cynllunio.

- Gall safleoedd sydd o fewn 250m i un neu fwy o safleoedd bioamrywiaeth neu geoamrywiaeth sydd â dynodiad rhyngwladol neu genedlaethol gael effaith negyddol arwyddocaol (--?).

- Gall safleoedd sydd rhwng 250m ac 1km o un neu fwy o safleoedd bioamrywiaeth neu geoamrywiaeth sydd wedi'u dynodi'n rhyngwladol neu'n genedlaethol, neu sydd o fewn 250m i safle sydd wedi'i ddynodi'n lleol, gael effaith negyddol fach (-?).

- Gallai safleoedd sy'n fwy na 1km o unrhyw safleoedd bioamrywiaeth neu geoamrywiaeth sydd â dynodiad rhyngwladol neu genedlaethol ac sydd dros 250m o safle sydd wedi'i ddynodi'n lleol gael effaith fach iawn (0?).

10. Diogelu ansawdd a swm

adnoddau dŵr Ynys Môn

Lleihau a/neu osgoi llygredd i'r amgylchedd dŵr?

Cefnogi defnydd effeithlon o ddŵr, gan gynnwys ailgylchu dŵr llwyd mewn datblygiadau newydd?

Diogelu ansawdd a swm y ffynonellau dŵr daear?

Atal datblygiad newydd a fydd yn achosi problemau draenio (gan gynnwys mewn perthynas â mynychder selio pridd)?

Diogelu ansawdd a swm dŵr wyneb?

Helpu i sicrhau lefelau digonol o seilwaith carthffosiaeth a

chapasiti i drin dŵr gwastraff mewn gwaith trin carthion?

Bydd lefelau'r defnydd o ddŵr mewn datblygiad newydd yn cael eu pennu gan ei ddyluniad ac arferion ar y safle ac felly bydd polisïau yn y CDLl newydd yn dylanwadu arnynt, yn hytrach na lleoliad y safle. Fodd bynnag, gallai lleoliad y datblygiad effeithio ar ansawdd y dŵr daear yn ystod y cam adeiladu, gan ddibynnu ar ba mor agos ydyw at Ardaloedd Diogelu Tarddiad Dŵr. Byddai'r effaith ar ansawdd y dŵr yn dibynnu ar dechnegau adeiladu a defnyddio systemau draenio cynaliadwy yn y dyluniad, felly mae'r effeithiau'n ansicr ar hyn o bryd.

- Gallai datblygu mewn Ardal Diogelu Tarddiad Dŵr arwain at effeithiau negyddol arwyddocaol (--?) ar

ansawdd dŵr er bod hyn yn ansicr ar hyn o bryd yn yr asesiad.

- Effaith fach iawn (0) fyddai i ddatblygu y tu allan i Ardal Diogelu Tarddiad Dŵr.

11. Diogelu a gwella ansawdd yr aer

Osgoi cynyddu llygredd aer a sicrhau gwelliannau yn ansawdd yr aer?

Hyrwyddo polisi a datblygiad sy'n galluogi ac yn cefnogi cymunedau i fabwysiadu ffyrdd o fyw a chamau gweithredu a all ddiogelu neu wella ansawdd aer lleol?

Gallai datblygiadau mewn ardaloedd lle mae problemau ansawdd aer gwael yn barod olygu bod trigolion newydd yn agored i lygredd aer a gallai effeithio ar eu hiechyd a'u lles:

- Byddai gan safleoedd sydd â chrynodiad llygryddion o >40µg/m3 NO2 neu PM10, neu >20µg/m3 PM2.5 effaith negyddol arwyddocaol (--).

- Byddai safleoedd sydd â chrynodiad llygryddion o 10-40µg/m3 NO2, 15-40µg/m3 PM10 neu 5-20µg/m3 PM2.5 yn cael effaith negyddol fach (-).

- Byddai safleoedd heb y crynodiadau llygryddion a ddisgrifir uchod yn cael effaith (0) fach iawn.

12. Hyrwyddo defnydd effeithlon o dir, priddoedd a mwynau.

Annog ailddefnyddio tir ac adeiladau a ddatblygwyd yn flaenorol fel blaenoriaeth, lle bo hynny'n briodol?

Atal a rheoli llygredd i dir?

Hyrwyddo'r gwaith o adfer halogiad tir? Diogelu adnoddau mwynol?

Ailddefnyddio ac ailgylchu agregau ar y safle?

Hyrwyddo dwysedd uwch o ddatblygiadau (lle ystyrir bod hynny'n briodol) i gefnogi defnydd mwy effeithlon o adnoddau tir?

Mae datblygu ar dir llwyd yn golygu bod tir yn cael ei ddefnyddio'n fwy effeithlon o'i gymharu â datblygu safleoedd maes glas. Felly:

- Byddai safleoedd sydd ar dir llwyd yn cael effaith gadarnhaol arwyddocaol (++).

- Byddai safleoedd ar dir maes glas sy'n cael eu hystyried yn dir amaethyddol o ansawdd uchel (Graddau 1, 2 neu 3a) yn cael effaith negyddol arwyddocaol (--).

- Byddai safleoedd ar dir maes glas nad ydynt yn cael eu hystyried yn dir amaethyddol o ansawdd uchel (Graddau 3b, 4, 5 a thir trefol) yn cael effaith negyddol fach (-).

- Ar ben hynny, gallai safleoedd sydd ar dir maes glas ac sydd mewn Ardal Diogelu Mwynau gael effaith negyddol fach er bod hyn yn ansicr (-?) oherwydd gallai fod yn bosibl echdynnu adnoddau mwynau cyn i'r datblygiad ddigwydd ac mae potensial i'r adnodd mwynau fod wedi ei sterileiddio eisoes.

13. Lleihau gwastraff a hyrwyddo rheoli gwastraff mewn ffordd fwy cynaliadwy

Lleihau faint o wastraff sy'n cael ei gynhyrchu?

Osgoi, lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer cyn gwaredu i safleoedd tirlenwi?

Gwella perfformiad ailgylchu da ymhellach gan gynnwys darparu cyfleusterau (domestig a masnachol)?

Cefnogi datblygu dewisiadau eraill yn lle tirlenwi, gan gynnwys cyfleusterau compostio ac ynni o wastraff?

Hyrwyddo hunangynhaliaeth o ran rheoli gwastraff lle bo hynny'n briodol?

Bydd effeithiau datblygu ar gynhyrchu gwastraff a rheoli gwastraff yn gynaliadwy yn dibynnu ar yr arferion a ddefnyddir ar y safle, yn hytrach na lleoliad y datblygiad. Fodd bynnag, gall datblygu ar dir llwyd gynnig cyfleoedd i ailddefnyddio adeiladau a deunyddiau ar y safle. Felly:

- Gallai safleoedd sydd ar dir llwyd gael effaith gadarnhaol fach (+?).

- Gallai safleoedd sydd ar dir maes glas gael effaith (0) fach iawn.

14. Darparu ar gyfer economi gynaliadwy

Hybu twf economaidd?

Annog mewnfuddsoddiad a buddsoddiad cynhenid priodol?

Cefnogi'r economi wledig? Hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy?

Sicrhau bod tir yn cael ei ddyrannu i ddiwallu anghenion economaidd y boblogaeth?

Cynnal banc tir priodol o safleoedd cyflogaeth?

Hyrwyddo bywiogrwydd a hyfywedd canol trefi?

Cefnogi'r gwaith o sicrhau economi carbon is sy'n fwy gwyrdd a all fod o fudd i holl aelodau'r gymuned?

Byddai'r holl Safleoedd Ymgeisiol a fyddai'n cael eu defnyddio ar gyfer datblygiadau sy'n gysylltiedig â chyflogaeth yn cael effeithiau cadarnhaol ar yr economi gan y byddant yn darparu safleoedd newydd o ansawdd uchel i fusnesau leoli a gallant annog mewnfuddsoddi. Bydd safleoedd mwy yn darparu cyfleoedd penodol ar gyfer twf economaidd. Felly:

- Byddai safleoedd cyflogaeth sy'n fwy na 5ha146 o ran maint yn cael effaith gadarnhaol arwyddocaol (++).

- Byddai safleoedd cyflogaeth sy'n llai na 5ha yn cael effaith gadarnhaol fach (+).

- Effaith fach iawn (0) fyddai i safleoedd na fyddai'n darparu datblygiad cyflogaeth.

Gallai safleoedd preswyl gael effaith negyddol ar gyflawni'r amcan hwn pe baent yn arwain at golli defnyddiau cyflogaeth presennol. Felly:

- Byddai safleoedd preswyl sy'n cael eu defnyddio at ddibenion cyflogaeth ar hyn o bryd yn cael effaith negyddol arwyddocaol (--) ar yr amcan hwn.

15. Darparu ar gyfer amrywiaeth eang o gyfleoedd gwaith

Manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd cyflogaeth ar Ynys Môn? Darparu cyfleoedd ar gyfer amrywiaeth o lefelau sgiliau? Darparu swyddi mewn lleoliadau hygyrch?

Darparu cyfleusterau hyfforddi i helpu i ddatblygu sylfaen sgiliau hyblyg?

Byddai'r holl Safleoedd Ymgeisiol a fyddai'n cael eu defnyddio ar gyfer datblygiad sy'n gysylltiedig â chyflogaeth yn cael effeithiau cadarnhaol ar yr amcan hwn, oherwydd natur y datblygiad arfaethedig. Bydd safleoedd mwy yn darparu niferoedd uwch o swyddi, yn ogystal â'r cyfleoedd cysylltiedig ar gyfer dysgu yn y gwaith a datblygu sgiliau. Felly:

- Byddai safleoedd cyflogaeth sy'n fwy na 5a o ran maint yn cael effaith gadarnhaol arwyddocaol (++).

- Byddai safleoedd cyflogaeth sy'n llai na 5ha yn cael effaith gadarnhaol fach (+).

- Effaith fach iawn (0) fyddai i safleoedd na fyddai'n darparu datblygiad cyflogaeth.

Ym mhob achos, os mai'r un fath o effaith yw dwy ran sgôr, e.e. cadarnhaol a negyddol, yna bydd y senario gorau neu waethaf yn cael ei gofnodi, h.y. byddai sgôr sy'n cynnwys '+' a '++' yn cael ei gofnodi fel '++', a byddai sgôr sy'n cynnwys '-' ac '--' yn cael ei gofnodi fel '- -'. Dim ond pan fydd sgôr yn cynnwys effeithiau cadarnhaol a negyddol y bydd effeithiau cymysg yn cael eu cofnodi, e.e. '+/-' neu '+/--'.

Am gyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r system ac i wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig