Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig - Adroddiad Cwmpasu

Yn dod i ben ar 13 Awst 2025 (30 diwrnod ar ôl)

Pennod 2 Sgrinio

2.1 Fel sy'n cael ei argymell yn y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu4, mae Cyngor Sir Ynys Môn yn mabwysiadu dull integredig o ymdrin â'r ACAAS a phrosesau asesu eraill ar gyfer y CDLl newydd. Mae'r bennod hon yn nodi'r ymarfer sgrinio a gynhaliwyd mewn perthynas â'r asesiadau eraill hyn. Ar gyfer pob un, ystyrir:

  • Y gofynion deddfwriaethol.
  • Dogfennau canllaw perthnasol.
  • A fydd yr asesiad yn cael ei gynnal a sut, gan gynnwys a fydd yn cael ei integreiddio yn yr AC/AAS neu'n cael ei gynnal ar wahân.

2.2 Os deuir i'r casgliad y bydd gofynion asesiadau eraill yn cael sylw drwy fframwaith yr ISA, mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ym Mhennod 6 sy'n cyflwyno'r fframwaith.

AC/AAS

2.3 Fel y disgrifir ym Mhennod 2, mae'n ofyniad cyfreithiol i'r CDLl fod yn destun AC ac AAS; felly nid oes gofyniad i gynnal Sgrinio AAS. Yr AC/AAS integredig fydd prif elfen y broses ISA ehangach ac fe'i cyflawnir i fodloni gofynion Rheoliadau AAS (Cymru) fel y nodir yn Nhabl 1.1.

Asesiad o'r Effaith ar Iechyd

2.4 Fel y nodir yn y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu, mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn mynnu bod cyrff cyhoeddus yn cynnal Asesiad o'r Effaith ar Iechyd. Bydd yr amgylchiadau lle mae'n rhaid cynnal Asesiad o'r Effaith ar Iechyd a sut dylid gwneud hyn yn cael eu nodi'n fanwl mewn rheoliadau statudol, yn unol â chyfarwyddyd y Prif Weinidog5. Rhwng mis Rhagfyr 2023 a mis Mawrth 2024, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar y rheoliadau drafft hyn6 ac yn ôl ei gwefan, bydd manylion y canlyniad yn cael eu cyhoeddi maes o law. Ar ôl cyhoeddi'r rheoliadau newydd, byddant yn cael eu hadolygu a bydd eu goblygiadau i CDLl newydd Ynys Môn yn cael eu hystyried.

2.5 Diffinnir Asesiad o'r Effaith ar Iechyd yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 fel “...asesiad o effaith debygol, yn y tymor byr ac yn y tymor hir, gweithred neu benderfyniad arfaethedig ar iechyd corfforol a meddwl pobl Cymru neu rai o bobl Cymru.”

2.6 Mae Polisi Cynllunio Cymru (PCC) yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau iechyd da drwy gynllunio.7 Mae PCC yn tynnu sylw at y cyfraniad pwysig y gall HIA ei wneud at lunio cynlluniau. Mae hefyd yn datgan y gall fod angen gwybodaeth i asesu effeithiau posibl ar iechyd drwy wahanol fecanweithiau, gan gynnwys AC, a lle bo hynny'n berthnasol, dylid ymgorffori effeithiau ar iechyd yn yr asesiadau hyn. Mae PCC yn nodi dull integredig a rennir o gasglu tystiolaeth ac asesiadau er mwyn cynnig y ffyrdd mwyaf effeithiol a chydweithredol o weithio yn gyffredinol. Er bod modd cynnal Asesiad o'r Effaith ar Iechyd fel asesiad annibynnol ar wahân, mae'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu yn nodi y gellir integreiddio'r Asesiad o'r Effaith ar Iechyd i'r Arfarniad Cynaliadwyedd o'r dechrau. Gan fod Rheoliadau AAS yn mynnu bod iechyd pobl yn cael ei ystyried fel rhan o'r asesiad o effeithiau amgylcheddol, nodir hefyd y gellir ehangu elfen iechyd Asesiad Amgylcheddol Strategol i gynnwys amcanion iechyd corfforol a meddyliol Asesiad o'r Effaith ar Iechyd.

2.7 Mae Canllaw Ymarferol Llywodraeth Cymru ar HIA8 a chanllawiau Uned Gymorth Asesu'r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) ar HIA910, yn nodi'r camau sydd eu hangen i gynnal Asesiad o'r Effaith ar Iechyd, a sgrinio yw'r cam cyntaf. Mae'r canllawiau'n nodi nad oes ffordd benodol o wneud penderfyniad ynghylch cynnal Asesiad o'r Effaith ar Iechyd, ond y dylai'r cam sgrinio roi darlun rhagarweiniol o'r effeithiau posibl ar iechyd y boblogaeth berthnasol. Mae'r canllawiau hyn hefyd yn nodi, er bod modd cynnal Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd fel rhan o broses ehangach ISA, rhaid i elfennau iechyd a llesiant ac anghydraddoldebau'r asesiad fod yn glir.

2.8 Yn gryno, dylai sgrinio ystyried y canlynol:

  • a yw'r cynnig yn debygol o effeithio ar iechyd;
  • pa rannau o'r boblogaeth, yn enwedig grwpiau agored i niwed, sy'n debygol o gael eu heffeithio; a
  • maint posibl unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

2.9 Fel cynllun lefel strategol, gall y CDLl effeithio ar iechyd y cyhoedd drwy'r polisïau a'r dyraniadau safle sydd wedi'u cynnwys ynddo. Yn ogystal â pholisïau sy'n ymwneud yn benodol ag iechyd a lles, gall lleoliad safleoedd datblygu mewn perthynas â chyfleusterau gofal iechyd a dyrannu safleoedd ar gyfer mannau agored a seilwaith gwyrdd arall ddylanwadu ar effeithiau sy'n gysylltiedig ag iechyd.

2.10 Cyflwynir gwybodaeth sylfaenol sy'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd ar Ynys Môn ym Mhennod 4 ac mae'n dangos bod proffil iechyd Ynys Môn yn cyd-fynd yn fras â gweddill Cymru, er bod nifer y bobl sy'n ystyried eu hunain mewn iechyd gwael neu wael iawn ychydig yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Mae'r CDLl newydd yn cynnig cyfleoedd i wella iechyd y cyhoedd drwy gynnwys polisïau perthnasol a dyrannu datblygiadau yn y lleoliadau mwyaf cynaliadwy (a fydd yn arwain at fanteision iechyd cysylltiedig).

2.11 Disgwylir y bydd effeithiau'r CDLl ar iechyd wedi'u cyfyngu i raddau helaeth i ardal y cynllun, h.y. Ynys Môn, a byddent yn rhai hirdymor a pharhaol yn bennaf er y byddai unrhyw effeithiau sy'n gysylltiedig ag iechyd yn sgil y broses o adeiladu datblygiad newydd (fel effeithiau sŵn) yn rhai tymor byr.

O ystyried natur strategol y CDLl a'r ffaith bod 'iechyd pobl' yn un o'r pynciau y mae'n ofynnol mynd i'r afael â hwy o dan Reoliadau AAS, cynigir y bydd y HIA yn cael ei integreiddio o fewn y broses ISA ar gyfer y CDLl, a fydd yn cael sylw drwy amcan ISA perthnasol (gweler Pennod 6). Bydd yr adroddiad ISA ar bob cam o'r broses o lunio cynlluniau yn cynnwys adran sy'n crynhoi'n glir effeithiau'r Cynllun Datblygu Lleol ar iechyd er mwyn sicrhau bod yr elfen hon o'r ISA yn glir.

Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb

2.12 Mae'r gofyniad cyfreithiol am Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb (EqIA) wedi'i nodi drwy Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Daeth Dyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Cymru (Adran 149 y Ddeddf) i rym ym mis Ebrill 2011. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus asesu effaith polisïau ar wahanol grwpiau poblogaeth i sicrhau nad oes gwahaniaethu'n digwydd, a lle bo'n bosibl, i hyrwyddo cyfle cyfartal. Drwy'r Ddeddf Cydraddoldeb, mae rhoi sylw dyledus i hyrwyddo cydraddoldeb yn cynnwys:

  • dileu neu leihau'r anfanteision a brofir gan bobl oherwydd eu nodweddion gwarchodedig;
  • cymryd camau i ddiwallu anghenion pobl o grwpiau gwarchodedig lle mae'r rhain yn wahanol i anghenion pobl eraill; ac
  • annog pobl â nodweddion gwarchodedig i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus neu mewn gweithgareddau eraill lle mae eu cyfranogiad yn anghymesur o isel.

2.13 Dylai awdurdod gwneud cynlluniau sgrinio'r naw grŵp o nodweddion gwarchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol) i nodi a chyfiawnhau pa nodweddion y gall y cynllun ddylanwadu arnynt. Dylai'r nodweddion hynny y gellir dylanwadu arnynt gael eu hintegreiddio i'r fframwaith asesu; dylai'r rheini na ellir dylanwadu arnynt gael eu sgrinio allan a'u cyfiawnhau.

2.14 Ym mis Mawrth 2021, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol i ategu Deddf Cydraddoldeb 2010 gyda'r nod o gyfrannu ymhellach at nodau llesiant hirdymor Cymru, yn enwedig "Cymru sy'n fwy cyfartal" a "Chymru o gymunedau cydlynus". Mae'r Ddyletswydd yn rhoi cyfrifoldeb cyfreithiol ar gyrff pan fyddant yn gwneud penderfyniadau strategol i roi sylw dyledus i'r angen i leihau anghydraddoldebau canlyniadau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol11. I bob pwrpas, mae'r ddyletswydd yn arwain at ymestyn yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb i ystyried yr effeithiau posibl sy'n ymwneud â grwpiau yr effeithir arnynt yn economaidd-gymdeithasol.

2.15 Mae'n bosibl y gallai'r CDLl effeithio ar unrhyw un o'r nodweddion gwarchodedig yn ogystal â grwpiau dan anfantais economaidd-gymdeithasol i ryw raddau, fel rhan o effeithiau cyffredinol y cynllun ar y boblogaeth leol, er y gallai rhai grwpiau gael eu heffeithio'n fwy uniongyrchol (h.y. gallai darparu neu beidio â darparu tai priodol i ddiwallu eu hanghenion penodol effeithio'n uniongyrchol ar bobl hŷn). Gall fod yn heriol nodi sut byddai polisïau unigol yn effeithio ar rai o'r nodweddion – efallai y bydd yn haws adnabod effeithiau wrth ystyried y cynllun yn ei gyfanrwydd.

Cynigir y bydd Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael ei baratoi ochr yn ochr â phroses yr ISA ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol ac y bydd yn cael ei gyflwyno mewn atodiad i'r Adroddiad ISA Bydd matrics Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael ei baratoi i asesu effeithiau tebygol y CDLl ar bob un o'r naw nodwedd warchodedig a grwpiau eraill a allai gael eu heffeithio wrth ystyried ffactorau economaidd-gymdeithasol, gan gyfeirio at unrhyw bolisïau sy'n arbennig o berthnasol. Bydd y prif Adroddiad ISA yn cynnwys crynodeb o effeithiau tebygol y Cynllun Datblygu Lleol ar gydraddoldeb a bydd yn gwneud unrhyw argymhellion angenrheidiol ar gyfer osgoi neu liniaru effeithiau negyddol a chynyddu effeithiau cadarnhaol. Bydd canfyddiadau'r asesiad cydraddoldeb hefyd yn cael eu hystyried mewn perthynas ag amcanion perthnasol yr ISA (gweler Pennod 6).

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (WBFGA) 2015

2.16 Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ddatblygu'n gynaliadwy. Mae'n nodi saith nod llesiant y mae'n rhaid i bob corff cyhoeddus eu cyflawni:

  • Cymru Lewyrchus
  • Cymru Gydnerth
  • Cymru Iachach
  • Cymru sy'n Fwy Cyfartal
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus
  • Cymru o Ddiwylliant Bywiog ac Iaith Gymraeg Ffyniannus
  • Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang

2.17 Mae rhagor o wybodaeth am ystyr y nodau hyn ar gael yng nghanllaw Llywodraeth Cymru i'r Ddeddf.12 Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn dangos ymroddiad cyfraniad Cymru at holl nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, gan gynnwys Nod 313, sef 'sicrhau bywydau iach a hyrwyddo llesiant i bawb o bob oed'.

2.18 Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn sefydlu 'egwyddor datblygu cynaliadwy' sy'n nodi sut dylai sefydliadau fynd ati i gyflawni eu dyletswydd o dan y Ddeddf. Wrth gymhwyso'r egwyddor datblygu cynaliadwy, mae angen i gyrff cyhoeddus ddangos eu bod wedi ystyried y pum mater canlynol:

  • Edrych tua'r tymor hir fel nad ydym yn peryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion;
  • Deall achosion sylfaenol problemau er mwyn eu hatal rhag digwydd neu waethygu.
  • Defnyddio dull integredig fel bod cyrff cyhoeddus yn edrych ar yr holl nodau llesiant wrth benderfynu ar eu hamcanion llesiant.
  • Cynnwys amrywiaeth o bobl yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.
  • Gweithio gydag eraill mewn ffordd gydweithredol i ddod o hyd i atebion cynaliadwy a rennir.

2.19 Mae'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu yn nodi:

‘Rhaid i’r CDLl ddangos sut y mae’n cyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant. Gall y dull a ddefnyddir i arfarnu’r cynllun drwy’r Arfarniad Cynaliadwyedd alluogi Awdurdodau Cynllunio Lleol i ddeall lle gall y cynllun wneud y cyfraniad mwyaf posibl. Dylai’r nodau llesiant fod yn rhan annatod o’r gwaith o baratoi Adroddiad Cwmpasu Arfarniad Cynaliadwyedd a dylid eu defnyddio fel sail i’r adolygiad o dystiolaeth, i nodi problemau ac i strwythuro fframwaith yr Arfarniad Cynaliadwyedd a fydd yn asesu opsiynau twf, amcanion, polisïau a chynigion y cynllun’.

2.20 Mae hefyd yn datgan y 'dylai'r nodau llesiant, yr amcanion a'r pum ffordd weithio fod yn rhan annatod o ddatblygu fframwaith yr Arfarniad Cynaliadwyedd'.

2.21 Mae'r cyhoeddiad 'Creu Lleoedd a Mannau Iachach ar gyfer Cenedlaethau'r Presennol a'r Dyfodol' wedi cael ei ddatblygu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru14 mewn ymateb i'r Ddeddf. Mae'n nodi dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar chwe maes blaenoriaeth15 yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol sy'n gallu cael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant, a chefnogi'r gwaith o gyflawni'r nodau llesiant. Mae'r meysydd blaenoriaeth hyn yn berthnasol iawn i'r CDLl ac felly bydd asesu'r polisïau a'r safleoedd yn y CDLl hefyd yn helpu i asesu pa mor dda yr eir i'r afael â'r blaenoriaethau hynny.

Cynigir y bydd gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cael eu hintegreiddio ym mhroses yr ISA ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol, drwy gynnwys amcanion perthnasol yr ISA (gweler Pennod 6). Bydd yr Adroddiad ISA hefyd yn cynnwys asesiad cryno (fel rhan o gasgliadau'r adroddiad) o effeithiau cyffredinol y cynllun ar lesiant, gan gyfeirio'n benodol at y nodau llesiant sydd wedi'u nodi yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

2.22 Ystyriwyd a ddylid strwythuro fframwaith yr ISA yn unol â'r nodau llesiant, h.y. a ellid grwpio'r amcanion yn ôl pa nod y maent yn berthnasol iddo. Fodd bynnag, mae llawer o'r nodau llesiant yn drawsbynciol a byddai mwy nag un o amcanion yr ISA yn dylanwadu arnynt; felly byddai cyflwyno fframwaith yr ISA fel hyn yn rhy syml. Yn hytrach, mae fframwaith yr ISA ym Mhennod 6 yn dangos sut mae pob amcan ISA yn helpu i fynd i'r afael â'r saith nod llesiant.

Asesiad o'r Effaith ar yr Iaith Gymraeg

2.23 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn gosod y gofynion polisi ar gyfer yr iaith Gymraeg ac yn ei gwneud yn glir bod yr iaith Gymraeg yn "rhan o wead cymdeithasol a diwylliannol" (Cymru) ac y "dylai'r system cynllunio defnydd tir ystyried yr amodau sy'n hanfodol i'r iaith Gymraeg a chyfrannu at ei defnydd a'i nod iaith Gymraeg ffyniannus".

2.24 Mae'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu yn nodi bod yn rhaid ystyried y Gymraeg o ddechrau proses y cynllun datblygu. Mae'r gofyniad i'r Arfarniad Cynaliadwyedd gynnwys "asesiad o effeithiau tebygol y cynllun ar y defnydd o'r Gymraeg yn ardal y cynllun" wedi'i nodi drwy Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (adran 11). Mae'r Ddeddf yn datgan mai "pwrpashynyw sicrhau bod maint a lleoliad y newid a nodir yn y cynllun yn cefnogi'r Gymraeg a sicrhau bod mesurau lliniaru priodol ar waith, os oes angen".

2.25 Mae'r gofyniad cyffredinol i gynnal Arfarniad Cynaliadwyedd wedi'i nodi yn adran 62 Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Mae Canllaw Comisiynydd y Gymraeg ar Safonau Llunio Polisi16 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Gymraeg gael ei hystyried o'r cychwyn wrth lunio polisi ac yn nodi: “nid yw’r Comisiynydd yn ystyried bod y gofyniad o dan adran 62 y Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol yn golygu bod y gofyniad i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg yn cael ei ddileu. Gan eu bod yn codi o ddau ofyniad statudol ar wahân, mae’n gwbl briodol disgwyl i gyrff sicrhau eu bod yn mynd y tu hwnt i ofynion adran 62 er mwyn ystyried yr effeithiau ehangach ar y Gymraeg a chydymffurfio â’r safonau llunio polisi o dan Fesur y Gymraeg.”

2.26 Mae Nodyn Cyngor Technegol 20 (NCT 20): Cynllunio a'r Iaith Gymraeg17 yn rhoi arweiniad ar ystyried y Gymraeg fel rhan o'r cynllun datblygu a phrosesau Arfarniad Cynaliadwyedd. Yn gryno, rhaid i awdurdodau cynllunio lleol ystyried effeithiau tebygol eu cynllun datblygu ar y Gymraeg fel rhan o broses Arfarniad Cynaliadwyedd a chynnwys datganiad yn y cynllun adneuo ynghylch sut mae hyn wedi cael ei ystyried a/neu ei drin yn y cynllun datblygu.

Cynigir y bydd fframwaith yr ISA yn cynnwys amcan a fydd yn mynd i'r afael yn benodol ag effeithiau tebygol y CDLl ar y defnydd o'r Gymraeg (gweler Pennod 6). Bydd yr adroddiad ISA hefyd yn cynnwys casgliad cryno am effeithiau cyffredinol y Cynllun Datblygu Lleol ar y Gymraeg, fel rhan o'r asesiad o effeithiau cronnus tebygol y cynllun.

Deddf yr Amgylchedd (Cymru)

2.27 Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ceisio deddfu ar gyfer cynllunio a rheoli adnoddau naturiol yng Nghymru mewn ffordd sy'n rhagweithiol, yn gynaliadwy ac yn integredig. Mae'r Ddeddf hefyd yn cyflwyno canllawiau ar reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (SMNR).

2.28 Mae Polisi Cynllunio Cymru 11 (PCC11) yn nodi bod yn rhaid i Gynlluniau Datblygu Lleol ystyried y Polisi Adnoddau Naturiol a'r Datganiadau Ardal sy'n dilyn ohono. Mae PCC11 felly'n trosi egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ar gyfer y system gynllunio.

2.29 Fel sy'n ofynnol gan Adran 6 y Ddeddf, mae gan awdurdodau cyhoeddus gyfrifoldeb i "gynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, ac wrth wneud hynny hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau, i'r graddau y mae hynny'n gyson ag arfer y swyddogaethau hynny'n briodol". Mae'n ofynnol i awdurdodau adrodd ar gamau a gymerwyd i hyrwyddo cadernid ecosystemau yn ogystal â gwella bioamrywiaeth.

2.30 Mae adran 7 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i “Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi rhestr o’r organeddau byw a’r mathau o gynefinoedd sydd, yn eu barn hwy, o’r pwysigrwydd pennaf at ddiben cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru.

2.31 Cyn cyhoeddi, rhaid cynnal ymgynghoriad priodol ynghylch y rhestr gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Rhaid adolygu'r rhestr yn gyson a dylid cymryd pob cam rhesymol i gynnal a gwella'r organeddau byw a'r mathau o gynefinoedd ar y rhestr heb ragfarnu Adran 6.

2.32 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn datgan y dylai pawb sy'n ymwneud â'r broses gynllunio fabwysiadu dull rhagweithiol i hwyluso'r gwaith o gyflawni canlyniadau bioamrywiaeth a chydnerthedd. Er mwyn gallu gweithredu dyletswyddau Adran 6, mae PCC yn nodi fframwaith o ystyriaethau (DECCA), y dylid rhoi sylw iddynt:

  • Amrywiaeth – sicrhau bod mecanweithiau ar waith i leihau colli rhywogaethau o ystyried bod ecosystemau mwy amrywiol yn fwy gwydn yn erbyn dylanwadau allanol;
  • Maint – sicrhau bod penderfyniadau cynllunio'n cefnogi mesurau sy'n ceisio creu, adfer a rheoli rhwydweithiau a chysylltiadau gwyrdd yn briodol yn ogystal ag asedau presennol eraill;
  • Cyflwr – sicrhau nad yw penderfyniadau cynllunio yn peryglu cyflwr ecosystemau ac yn cefnogi'r gwaith o reoli cynefinoedd a gedwir yn y tymor hir;
  • Cysylltedd – sicrhau cyfleoedd i greu cynefinoedd gweithredol a rhwydweithiau ecolegol;
  • Gallu addasu i newid – yn bennaf, sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i ddiogelu maint, cyflwr a chysylltedd cynefinoedd, nodweddion a rhwydweithiau ecolegol rhag newid yn yr hinsawdd. Gall y camau gweithredu hefyd helpu i hwyluso dyheadau cadernid cymdeithasol ac economaidd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

2.33 Mae'r Ddeddf (adran 8) hefyd yn datgan bod rhaid i CNC baratoi adroddiad sy'n cynnwys ei asesiad o gyflwr adnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru (SoNaRR). Mae'r gofyniad i CNC baratoi a chynnal Datganiadau Ardal at ddiben hwyluso gweithredu'r polisi adnoddau naturiol cenedlaethol wedi ei nodi yn adran 11 y Ddeddf. Mae Ynys Môn yn cael ei chynnwys yn Natganiad Ardal Gogledd Orllewin Cymru ochr yn ochr â Chonwy a Gwynedd.

2.34 Mae'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu yn argymell y gellir bodloni gofynion y Ddeddf (Adran 6) drwy'r ISA. Mae'r ISA yn darparu ffordd o ystyried sut y gallai'r CDLl fynd i'r afael â gwahanol elfennau fframwaith ystyriaethau Polisi Cynllunio Cymru.

Cynigir y bydd gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cael eu bodloni drwy broses yr ISA ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol, a fydd yn cael sylw mewn amcan ISA perthnasol sy'n ymwneud â bioamrywiaeth (gweler Pennod 6).

Am gyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r system ac i wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig