Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig - Adroddiad Cwmpasu

Daeth i ben ar 13 Awst 2025

Pennod 3 Cynlluniau a Rhaglenni Perthnasol

3.1 Mae Atodlen 2 Rheoliadau AAS (Cymru) yn mynnu bod yr Adroddiad Amgylcheddol yn cynnwys:

(a) “amlinelliad o’r...berthynas â chynlluniau neu raglenni perthnasol eraill”; a’r

(e) “amcanion diogelu’r amgylchedd, a sefydlwyd ar lefel ryngwladol, Gymunedol neu Aelod-wladwriaeth, sy’n berthnasol i’r cynllun neu’r rhaglen a’r ffordd y mae’r amcanion hynny ac unrhyw ystyriaethau amgylcheddol wedi cael eu hystyried yn ystod y broses baratoi.”

3.2 Er mwyn sefydlu cwmpas clir ar gyfer yr ISA, mae angen adolygu a datblygu dealltwriaeth o'r amcanion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sydd mewn polisïau, cynlluniau a strategaethau rhyngwladol a chenedlaethol sy'n berthnasol i CDLl newydd Ynys Môn. O ystyried gofynion y Rheoliadau AAS a nodir uchod, mae hefyd angen ystyried y berthynas rhwng y CDLl a chynlluniau, polisïau a rhaglenni perthnasol eraill.

3.3 Mae'r bennod hon yn cyflwyno'r cynlluniau, y polisïau a'r rhaglenni rhyngwladol a chenedlaethol perthnasol sydd uwchben y CDLl ac y mae angen eu hystyried yn y CDLl a'r ISA, yn ogystal â'r cynlluniau a'r rhaglenni hynny sy'n berthnasol i'r CDLl ar lefel leol. Darperir adolygiad manylach o'r dogfennau perthnasol fesul pwnc yn Atodiad A. Mae amcanion y dogfennau hyn wedi cael eu hystyried wrth ddrafftio fframwaith yr ISA ym Mhennod 6.

3.4 Daw Ffigur 3.1 isod o'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu ac mae'n dangos hierarchaeth cydymffurfio cynlluniau datblygu.

Ffigur 3.1: Hierarchaeth Cydymffurfio Cyffredinol a Chynlluniau Datblygu

Cyd-destunpolisi rhyngwladol

3.5 Ar lefel ryngwladol, mae yna amrywiaeth eang o gynlluniau a rhaglenni sy'n gweithredu i lywio a siapio deddfwriaeth ar lefel genedlaethol. Dylai polisi cynllunio yng Nghymru ar lefel genedlaethol a lleol (h.y. Polisi Cynllunio Cymru (PCC)18 a'r CDLl) ystyried y ddeddfwriaeth berthnasol a chydymffurfio â hi. Mae amcanion cynaliadwyedd cynlluniau a rhaglenni rhyngwladol sydd fwyaf perthnasol i'r CDLl a'r ISA wedi'u nodi yn Atodiad A.

Y cyd-destun polisi cenedlaethol

3.6 Mae ystod eang o bolisïau, cynlluniau a rhaglenni cenedlaethol sy'n berthnasol i'r Cynllun Datblygu Lleol a phroses yr ISA. Mae dull pragmatig a chymesur wedi'i fabwysiadu o ran nodi polisïau, cynlluniau a rhaglenni cenedlaethol allweddol, gan ganolbwyntio ar y rhai sydd fwyaf perthnasol. Ceir crynodeb isod o brif amcanion Polisi Cynllunio Cymru (PCC) sy'n berthnasol i'r CDLl a'r ISA.

3.7 Ar ben hynny, mae prif amcanion cynaliadwyedd cynlluniau a rhaglenni cenedlaethol eraill sydd fwyaf perthnasol i'r CDLl a'r ISA i'w gweld yn Atodiad A. Mae hyn yn cynnwys Cymru'r Dyfodol – y Cynllun Cenedlaethol 2040 a Chynllun Datblygu Strategol (SDP) Gogledd Cymru sy'n cael ei ddatblygu.

Polisi Cynllunio Cymru

3.8 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi polisïau cynllunio defnydd tir Llywodraeth Cymru. Ochr yn ochr â chyfres o Nodiadau Cyngor Technegol (NCT), Cylchlythyrau Llywodraeth Cymru a llythyrau egluro polisi, mae'n darparu'r fframwaith polisi cynllunio cenedlaethol ar gyfer Cymru. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn seiliedig ar y cysyniad o 'greu lleoedd', y mae'n ei ddiffinio fel dull cyfannol o gynllunio a dylunio datblygiadau a mannau, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau cadarnhaol ac ychwanegu gwerth cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol at gynigion datblygu gan arwain at fanteision sy'n mynd y tu hwnt i ffin datblygu ffisegol ac sy'n gwreiddio cydnerthedd ehangach mewn penderfyniadau cynllunio.

3.9 Dylai Cynllun Datblygu Lleol Ynys Môn fod yn gyson â gofynion Polisi Cynllunio Cymru sy'n datgan:

“Cynlluniau datblygu cyfredol yw sail y system gynllunio ac maent yn gosod y cyd-destun ar gyfer gwneud penderfyniadau rhesymegol a chyson. Rhaid paratoi cynlluniau ar bob lefel yn hierarchaeth y cynllun datblygu yn unol â pholisïau cynllunio cenedlaethol ... Rhaid i gynlluniau datblygu ddangos sut y disgwylir i leoedd newid i ddarparu ar gyfer anghenion datblygu dros gyfnod y cynllun”

3.10 Mae natur drosfwaol Polisi Cynllunio Cymru yn golygu bod ei oblygiadau i'r ISA yn ymwneud â nifer o bynciau y mae'r adroddiad hwn yn ceisio rhoi sylw iddynt. Mae perthnasedd y polisi hwn a'i oblygiadau i'r broses o lunio cynlluniau a'r ISA yn cael eu crynhoi'n fanylach isod.

3.11 Mae PCC yn cyflwyno pum Egwyddor Allweddol fel gweledigaeth arweiniol ar gyfer paratoi pob cynllun datblygu. Mae'r rhain yn ymwneud â phynciau sy'n bwysig i'r ISA fel y nodir isod:

3.12 Mae PCC yn cefnogi twf yr economi mewn ffordd gynaliadwy gan ddefnyddio'r seilwaith presennol a chynllunio ar gyfer seilwaith a gwasanaethau ategol newydd. Mae'r ddogfen hefyd yn ceisio sicrhau bod pawb yn gallu teimlo manteision twf economaidd.

3.13 Hyrwyddir defnyddio adnoddau'n effeithlon hefyd fel sail i ddatblygu cynaliadwy. Mae hyn i gynnwys defnyddio tir ac adnoddau naturiol eraill yn effeithlon. Mae PCC yn cydnabod y rôl sydd gan y system gynllunio i'w chwarae o ran sicrhau bod datblygiad yn gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd. Mae hefyd yn tynnu sylw at ei rôl o ran datgarboneiddio cymdeithas a datblygu economi gylchol. Mae'r egwyddorion hyn yn nodi'r dull gweithredu y dylai cynlluniau datblygu ei fabwysiadu mewn perthynas â lliniaru newid yn yr hinsawdd yn ogystal ag addasu i newid yn yr hinsawdd.

3.14 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn tynnu sylw at y rôl sydd gan gynllunio i'w chwarae o ran creu lleoedd sy'n hygyrch i bawb ac sy'n cefnogi iechyd a lles. Nodir y gall creu lleoedd o ansawdd uchel ganiatáu i bobl fyw, gweithio, teithio a chwarae mewn ffordd sy'n cefnogi iechyd corfforol a meddyliol da. O hyn, dylid cynllunio amgylcheddau adeiledig a naturiol i hyrwyddo lles meddyliol a chorfforol. Dylai hefyd ystyried goblygiadau posibl datblygu o ran trafnidiaeth.

3.15 Mae creu cymunedau cynaliadwy yn golygu cynnwys cydbwysedd priodol rhwng defnyddiau a dwysedd, gan greu mannau lle mae pobl eisiau bod a rhyngweithio ag eraill. Bydd hyn yn cynnwys darparu cartrefi, swyddi, gwasanaethau, seilwaith a chyfleusterau o ansawdd da/wedi'u dylunio'n dda.

3.16 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi'r angen i sicrhau bod asedau naturiol, hanesyddol a diwylliannol yn cael eu diogelu, eu gwarchod a'u gwella. Mae hwn yn nodi'r dull gweithredu y dylai cynlluniau datblygu ei fabwysiadu o ran datblygu ac effeithiau posibl mewn perthynas â bioamrywiaeth, yr amgylchedd hanesyddol a'r dirwedd. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd ar y gofrestr o dirweddau hanesyddol yng Nghymru.

3.17 Ar ben hynny, dylid osgoi effeithiau amgylcheddol negyddol er budd ehangach y cyhoedd. Bydd hyn yn cynnwys diogelu ansawdd aer ac ansawdd dŵr yn ogystal â chyfyngu ar y potensial ar gyfer effeithiau niweidiol llygredd sŵn. Dylid darparu datblygiad mewn ffordd integredig fel nad yw adnoddau a/neu asedau'n cael eu difrodi na'u disbyddu'n ddi- droi'n-ôl. Mae Polisi Cynllunio Cymru hefyd yn mabwysiadu 'egwyddor y llygrwr sy'n talu' lle na ellir atal llygredd ac mae'n defnyddio'r egwyddor ragofalus i sicrhau mesurau cost- effeithiol i atal difrod amgylcheddol.

3.18 O'r Egwyddorion Allweddol, mae PCC wedi datblygu canlyniadau cenedlaethol ar gyfer creu lleoedd cynaliadwy y dylai cynlluniau datblygu fwrw ymlaen â hwy. Mae'r rhain yn adeiladu ar yr Egwyddorion Allweddol i helpu i sicrhau bod y system gynllunio'n gallu cefnogi'r gwaith o ddarparu mannau cynaliadwy.

Polisïau, cynlluniau a rhaglenni cenedlaethol eraill

3.19 Ym mis Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Adeiladu Lleoedd Gwell19, sy'n nodi blaenoriaethau polisi cynllunio'r Llywodraeth i helpu i weithredu yn y cyfnod adfer ar ôl pandemig COVID-19. Mae'n cydnabod pwysigrwydd y system gynllunio o ran mynd i'r afael â'r materion amgylchedd adeiledig a naturiol sydd wedi codi o'r pandemig. Mewn perthynas â Chynlluniau Datblygu Lleol, mae'n cydnabod pwysigrwydd cael cynllun cyfredol ar waith er mwyn mynd i'r afael â'r blaenoriaethau presennol a'r rôl y gall cynlluniau ei chwarae o ran gwella iechyd a lles yn fwy cyffredinol.

3.20 Cyhoeddwyd Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 204020 ym mis Chwefror 2021 gan Lywodraeth Cymru fel y fframwaith datblygu cenedlaethol ar gyfer Cymru, gan ddisodli Cynllun Gofodol Cymru (WSP). Mae'r ddogfen yn seiliedig ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 drwy geisio bodloni'r gofynion bod datblygu a defnyddio tir yn cyfrannu at wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'n cydnabod pwysigrwydd Polisi Cynllunio Cymru fel y prif ddatganiad polisi cynllunio cenedlaethol ac mae'r holl bolisïau a nodir yn Cymru'r Dyfodol wedi cael eu croesgyfeirio yn erbyn rhannau perthnasol o Bolisi Cynllunio Cymru. Fe'i cyhoeddwyd i gynnwys 11 Canlyniad fel uchelgeisiau trosfwaol yn seiliedig ar yr egwyddorion cynllunio cenedlaethol a chanlyniadau cenedlaethol creu lleoedd cynaliadwy i nodi datganiad o ble y disgwylir i'r wlad fod ar ddiwedd cyfnod y cynllun 20 mlynedd. Ar ôl eu mabwysiadu, bydd yn ofynnol i Gynlluniau Datblygu Gofodol (SDP) a Chynlluniau Datblygu Lleol gydymffurfio â Chymru'r Dyfodol.

3.21 Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi'r strategaeth ofodol ar gyfer y wlad. Mae'r cynllun yn nodi ac yn cysylltu canolfannau cenedlaethol a rhanbarthol allweddol, yn darparu sail ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith yn y tymor hir, yn nodi blaenoriaethau ar gyfer y system gynllunio a fframwaith ar gyfer rheoli adnoddau naturiol. Mae tair Ardal Twf Cenedlaethol wedi'u cynnwys yn y strategaeth ofodol (Caerdydd, Casnewydd a'r Cymoedd; Bae Abertawe a Llanelli; a Wrecsam a Glannau Dyfrdwy), ac mae twf ac adfywiad parhaus y rhain yn cael eu cefnogi fel lleoedd o arwyddocâd rhyngwladol a chenedlaethol. Mae'r rhain yn cael eu hategu gan Ardaloedd Twf Rhanbarthol mewn tri o ranbarthau Cymru (y De Orllewin, y Canolbarth a'r Gogledd), . Yng Ngogledd Cymru mae pedair Ardal Twf Rhanbarthol, ac un ohonynt yw Caergybi ar Ynys Môn. Ardaloedd Twf Rhanbarthol yw'r canolfannau ar gyfer cyflogaeth, gwasanaethau, siopau a thwristiaeth yn yr ardaloedd hynny a bydd Cynlluniau Datblygu Lleol a Strategol yn canolbwyntio ar yr ardaloedd hynny wrth gynllunio gwasanaethau.

3.22 Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi pedwar rhanbarth yng Nghymru: Y Gogledd, y Canolbarth, y De Orllewin a'r De Ddwyrain. Mae hyn yn pwysleisio'r rôl bwysig sydd gan gynllunio rhanbarthol i'w chwarae yn nyfodol y wlad. Mae'r dull rhanbarthol wedi'i nodi fel ffordd o sicrhau bod datblygiad strategol yn cael ei gydlynu a'i reoli'n llwyddiannus ar draws y rhanbarthau ac i sicrhau bod materion ehangach na lleol yn cael sylw ar y cyd.

3.23 Mae nifer o bolisïau, cynlluniau a rhaglenni eraill ar lefel genedlaethol yn berthnasol i'r CDLl a'r ISA. Yn wahanol i Bolisi Cynllunio Cymru a Chymru'r Dyfodol, mae'r rhan fwyaf o'r dogfennau'n mynd i'r afael â maes pwnc penodol sy'n berthnasol i'r ISA. Bydd rhywfaint o orgyffwrdd rhwng pynciau ISA sy'n cael sylw yn y cynlluniau a'r rhaglenni hyn, yn enwedig lle mae'r dogfennau hynny'n cynnwys amcanion lefel uchel neu drawsbynciol. Gyda hynny mewn golwg, mae'r cynlluniau a'r rhaglenni yr ystyrir eu bod fwyaf perthnasol i'r ISA wedi'u grwpio yn ôl y pynciau y maent yn ceisio mynd i'r afael â hwy'n fwyaf uniongyrchol, ac mae blychau gwyrdd o dan bob pennawd yn crynhoi goblygiadau'r cynlluniau, y polisïau a'r rhaglenni cenedlaethol (gan gynnwys PCC) ar gyfer y CDLl a'r ISA.

Addasu a lliniaru newid yn yr hinsawdd, effeithlonrwydd ynni a lleihau gwastraff

3.24 Y cynlluniau, y polisïau a'r rhaglenni cenedlaethol perthnasol o dan y pwnc hwn yw:

  • NCT 15: Datblygu a Pherygl o Lifogydd (2025)
  • Deddf Seilwaith (Cymru) 2024
  • Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WeITAG) (2024)
  • Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 12 (2024)
  • Gweithio Gyda'n Gilydd dros Gymru Iachach: Ein Strategaeth Tymor Hir 2023-2035 (2023)
  • Deddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023
  • Strategaeth Diogelwch Ynni Prydain (2022)
  • Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth 2022 i 2027
  • Y Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026 (2021)
  • Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan i Gymru: Cynllun Gweithred (2021)
  • Statws Carbon Sero Net erbyn 2030: Trywydd ar gyfer Datgarboneiddio ar draws Sector Cyhoeddus Cymru (2021)
  • Llwybr Newydd - Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021
  • Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) (2020)
  • Y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru (2020)
  • Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel (2019)
  • Canllawiau Statudol Draenio Cynaliadwy (2019)
  • Effeithlonrwydd Ynni yng Nghymru: Strategaeth ar gyfer y 10 Mlynedd Nesaf 2016-2026 (2017)
  • NCT 21: Gwastraff (2017)
  • Deddf yr Amgylchedd (Cymru) (2016)
  • Deddf Cynllunio (Cymru) (2015)
  • Deddf Teithio Llesol (Cymru) (2013)
  • Ynni Cymru: Pontio i Economi Carbon Isel (2012)
  • Tuag at Ddyfodol Diwastraff – Strategaeth Wastraff Cymru (2010)
  • Rheoliadau Perygl Llifogydd (2009)
  • Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008
  • NCT 18: Trafnidiaeth (2007)
  • Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol (2004)
  • NCT 2: Parthau Cynllunio Syml (1996)
  • Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru: Gogledd-orllewin Cymru

Goblygiadau i'r CDLl a'r ISA: Dylai'r CDLl ystyried nodi polisïau i gyflawni lliniaru ac addasu i'r newid yn yr hinsawdd ar yr un pryd ag annog datblygiad a fyddai'n helpu i leihau allyriadau carbon. Gellir gwneud hyn drwy leoli dyraniadau datblygu mewn ardaloedd lle gellir cyflawni patrymau trafnidiaeth gynaliadwy yn y ffordd orau, gan annog dulliau teithio llesol a chynaliadwy i leihau dibyniaeth ar geir preifat, ac annog datblygiad i ddefnyddio dulliau adeiladu a ffynonellau ynni mwy cynaliadwy. Dylai rôl seilwaith gwyrdd o ran addasu i newid yn yr hinsawdd a'i liniaru gael ei hystyried yn drylwyr wrth ddatblygu polisi. Mae hyn yn cynnwys drafftio'r CDLl i gynnwys polisïau i annog ymgorffori Systemau Draenio Cynaliadwy fel rhan o'r math hwn o ddarpariaeth. Dylai polisïau hefyd gefnogi trin gwastraff yn unol â'r hierarchaeth gwastraff.

Gall yr ISA brofi opsiynau polisi mewn perthynas â'r cyfraniadau a wnânt tuag at y nodau hyn a nodi parthau twf cenedlaethol. Dylai hefyd arfarnu'r cyfraniad y gall opsiynau safleoedd unigol ei wneud i gyfyngu ar allyriadau carbon (gan gynnwys drwy ddefnyddio ffynonellau ynni mwy cynaliadwy). Dylid hefyd ystyried safleoedd o ran yr effaith y byddant yn ei chael o ran hyrwyddo addasu i'r newid yn yr hinsawdd yn ogystal â lleihau'r perygl o lifogydd, erydu arfordirol a faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi.

Iechyd a lles

3.25 Y cynlluniau, y polisïau a'r rhaglenni cenedlaethol perthnasol o dan y pwnc hwn yw:

  • NCT 15: Datblygu a Pherygl o Lifogydd (2025)
  • Deddf Seilwaith (Cymru) 2024
  • Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 12 (2024)
  • Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024
  • Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2024)
  • Deddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023
  • Cynllun Sŵn a Seinwedd i Gymru: Ein Strategaeth
  • Genedlaethol ar Seinweddau, 2023-2028 (2023)
  • Gweithio Gyda'n Gilydd dros Gymru Iachach: Ein Strategaeth Tymor Hir 2023-2035 (2023)
  • Cynllun Strategol Iechyd Cyhoeddus Cymru 2022-25 (2022)
  • Y Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026 (2021)
  • Ailddychmygu Adeiladu Tai Cymdeithasol yng Nghymru: Strategaeth Dulliau Adeiladu Modern ar gyfer Tai Cymdeithasol (2020)
  • Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) (2020)
  • Adeiladu Lleoedd Gwell (2020)
  • Y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru (2020)
  • Y Cynllun Aer Glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach (2020)
  • Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy (2019)
  • Strategaeth Aer Glân 2019
  • Cymru Iachach: Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2019)
  • Canllawiau Statudol Draenio Cynaliadwy (2019)
  • Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru – Gweithio i Gyflawni Dyfodol Iachach i Gymru (2018)
  • Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (2018)
  • Cylchlythyr 005/2018 (2018)
  • Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygiad) 2018
  • Creu Lleoedd a Mannau Iachach ar gyfer Cenedlaethau'r Presennol a'r Dyfodol (2018)
  • Ffyniant i Bawb: Y Strategaeth Genedlaethol (2017)
  • Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) (2017)
  • Mesur Iechyd a Lles Cenedl: Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus Cymru (2016)
  • Dringo'n Uwch: Strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (2015)
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Deddf Cynllunio (Cymru) (2015)
  • Law yn Llaw at Iechyd Meddwl: Strategaeth ar gyfer Iechyd Meddwl a Lles yng Nghymru (2012)
  • Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) (2010)
  • Deddf Cydraddoldeb (2010)
  • NCT 16: Chwaraeon, Hamdden a Mannau Agored (2009)
  • Rheoliadau Perygl Llifogydd (2009)
  • NCT 2: Cynllunio a Thai Fforddiadwy (2006)
  • Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol (2004)
  • Rheoliadau Ansawdd Aer (Diwygiad) (Cymru) 2002
  • NCT 11: Sŵn (1997)
  • NCT 3: Parthau Cynllunio Syml (1996)
  • Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru: Gogledd-orllewin Cymru

Goblygiadau i'r CDLl a'r ISA:  Mae angen i'r CDLl ystyried yr angen am seilwaith gan fod hyn yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd, a dylid ei baratoi i sicrhau bod gan y boblogaeth fynediad at seilwaith a gwasanaethau a chyfleusterau carbon isel cynaliadwy a bod digon o gapasiti ynddynt i wasanaethu'r boblogaeth gynyddol. Dylai hyn gynnwys gofal iechyd, addysg a mannau agored gyda'r potensial i gael goblygiadau cadarnhaol sy'n ymwneud ag iechyd meddwl yn ogystal ag iechyd corfforol o ystyried y potensial i gyfyngu ar arwahanrwydd cymdeithasol. Dylid lleoli dyraniadau datblygu mewn ardaloedd lle mae cyfleusterau ar gael fwyaf, lle byddai problemau o ran gorgapasiti yn llai tebygol o ddigwydd. Dylid ystyried y potensial ar gyfer defnyddio dulliau teithio llesol a goblygiadau posibl perygl llifogydd o ran iechyd a lles.

Bydd darparu lefel briodol o dai dros gyfnod y cynllun yn helpu i fynd i'r afael â materion gwahaniaeth o ran mynediad at dai teilwng yn ardal y cynllun. Dylai darparu tai newydd ystyried anghenion lleol o ran maint, deiliadaeth a math y tai, gan gynnwys anghenion Teithwyr a Sipsiwn.

Gellir profi'r opsiynau polisi a ystyriwyd ar gyfer y CDLl drwy'r ISA mewn perthynas â'r cyfraniadau a wnânt tuag at y nodau hyn. Dylai'r ISA hefyd werthuso'r cyfraniad y gall opsiynau safleoedd unigol ei wneud i iechyd a lles. Dylid ystyried hyn drwy allu'r safle i gefnogi'r gwaith o ddarparu seilwaith a chyfleusterau newydd a allai fod o fudd i iechyd y cyhoedd, yn ogystal â hygyrchedd seilwaith a chyfleusterau presennol o'r natur hon. Efallai y bydd angen ystyried capasiti cyfleusterau presennol wrth ystyried opsiynau safleoedd unigol. Dylid hefyd ystyried capasiti safleoedd i ddarparu cartrefi newydd, gan gynnwys cartrefi fforddiadwy. Dylai opsiynau polisi hefyd geisio cefnogi gwella ansawdd aer a all gael effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar iechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal â disgwyliad oes. Mae potensial i bolisïau yn y CDLl helpu i hwyluso cyflenwi bwyd lleol iach.

Bydd elfennau asesiad o'r effaith ar iechyd ac asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb yr ISA yn arbennig o bwysig er mwyn sicrhau bod y materion hyn yn cael eu hystyried yn drylwyr.

Yr amgylchedd (bioamrywiaeth/geoamrywiaeth, tirwedd, priddoedd a seilwaith gwyrdd)

3.26 Y cynlluniau, y polisïau a'r rhaglenni cenedlaethol perthnasol o dan y pwnc hwn yw:

  • Deddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023
  • NCT 14: Cynllun Arfordirol (2021)
  • Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru 2020-21 (2020)
  • Canllawiau Statudol Draenio Cynaliadwy (2019)
  • Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (2018)
  • Strategaeth Coetiroedd i Gymru (2018)
  • Polisi Adnoddau Naturiol (2017).
  • Polisi Adnoddau Naturiol (2017).
  • NCT 12: Dylunio (2016)
  • Deddf yr Amgylchedd (Cymru) (2016)
  • Deddf Cynllunio (Cymru) (2015)
  • Cymru'n Un: Un Blaned – Cynllun Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru (2009)
  • NCT 5: Cadwraeth Natur a Chynllunio (2009)
  • MTAN 2: Glo (2009)
  • Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol (2004)
  • MTAN 1: Agregiadau (2004)
  • NCT 10: Gorchmynion Cadw Coed (1997)
  • NCT 7: Rheoli Hysbysebion Awyr Agored (1996)

Goblygiadau i'r CDLl a'r AC: Dylai'r CDLl gyfyngu ar y posibilrwydd o achosi effeithiau niweidiol ar safleoedd bioamrywiaeth. Fel rhan o'r ystyriaeth hon, dylai'r broses o wneud penderfyniadau ystyried yr effeithiau posibl ar y rhwydwaith ecolegol ehangach a chyfraniad safleoedd at gydnerthedd ecosystemau. Mae Polisi Cynllunio Cymru 11 yn datgan "na ddylai datblygiad arwain at golli cynefinoedd neu boblogaethau o rywogaethau'n sylweddol, yn lleol nac yn genedlaethol a rhaid iddo ddarparu budd net i fioamrywiaeth".

Dylid gwarchod tirweddau pwysig. Dylai'r cynllun warchod priddoedd amaethyddol uchel eu gwerth rhag cael eu datblygu ac annog ailddefnyddio tir llwyd lle bo hynny'n briodol. Gellir defnyddio polisïau a dyraniadau safle i gyfeirio datblygiadau i leoliadau llai sensitif a hyrwyddo seilwaith gwyrdd/glas i gefnogi cysylltedd cynefinoedd.

Dylai'r cynllun hefyd ystyried tirweddau heb eu dynodi sy'n arbennig o sensitif i ddatblygiad a chynefinoedd heb eu dynodi sy'n rhan o rwydwaith ecolegol ehangach. Mae'r cynllun hefyd yn cynnig cyfleoedd i hyrwyddo cyflawni enillion bioamrywiaeth.

Rôl yr ISA fydd profi'r opsiynau polisi o ran yr effaith y byddant yn ei chael ar seilwaith gwyrdd (gan gynnwys safleoedd bioamrywiaeth/geoamrywiaeth), cynefinoedd, rhywogaethau, ac ar dirweddau gwerthfawr. Dylid hefyd arfarnu effeithiau'r opsiynau hyn mewn perthynas â hyrwyddo datblygu tir llwyd a chyfyngu ar golli priddoedd amaethyddol gwerthfawr. Dylid ystyried opsiynau safle yn y termau hyn hefyd, gan ddefnyddio canfyddiadau'r HRA a'r gwaith asesu seilwaith gwyrdd lle bo hynny'n briodol.

Amgylchedd a Diwylliant Hanesyddol

3.27 Y cynlluniau, y polisïau a'r rhaglenni cenedlaethol perthnasol o dan y pwnc hwn yw:

  • Deddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023
  • Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023
  • Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) (2020)
  • Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (2018)
  • Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr (2017)
  • NCT 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol (2017)
  • NCT 20: Cynllunio a'r Iaith Gymraeg (2017)
  • NCT 12: Dylunio (2016)
  • Deddf Cynllunio (Cymru) (2015)
  • Mesur y Gymraeg (Cymru) (2011)
  • Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol (2004)
  • Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990
  • NCT 7: Rheoli Hysbysebion Awyr Agored (1996)

Goblygiadau i'r CDLl a'r AC: Dylai effaith bosibl datblygiad newydd ar yr amgylchedd hanesyddol, gan gynnwys cymeriad lleol yn ogystal ag asedau treftadaeth dynodedig a heb eu dynodi a'u lleoliadau perthnasol gyfrannu at baratoi'r CDLl. Gellir rhoi sylw penodol i ddiogelu asedau treftadaeth y nodwyd eu bod 'mewn perygl' (ar lefel genedlaethol a lleol). Dylid cynnwys polisïau i fynd i'r afael â'r materion hyn a dylid ystyried opsiynau safle mewn perthynas â'r potensial ar gyfer materion cysylltiedig. Dylai'r gwaith o baratoi'r CDLl hefyd roi sylw i'r iaith Gymraeg ac ystyried yr ardaloedd lle caiff ei siarad yn ehangach, gan hefyd geisio cynyddu'r defnydd ohoni.

Dylai'r ISA arfarnu opsiynau polisi a safleoedd o ran y posibilrwydd o effeithiau ar yr amgylchedd hanesyddol. Dylai nodi'r lleoliadau hynny lle byddai gan ddatblygiadau'r potensial mwyaf i gael effaith niweidiol ar yr amgylchedd hanesyddol, yn unol ag unrhyw waith asesu effaith ar dreftadaeth sy'n cael ei wneud i hysbysu'r Cynllun Datblygu Lleol.

Dylai'r ISA, drwy'r amcan o fynd i'r afael ag asesu'r effaith ar y Gymraeg, hefyd arfarnu holl elfennau'r CDLl o ran yr effeithiau posibl ar y Gymraeg. Dylai hyn ystyried cefnogaeth y cynllun i siaradwyr Cymraeg presennol a newydd yn ogystal ag effeithiau diwylliannol cysylltiedig y gallai'r cynllun eu hachosi.

Adnoddau naturiol gan gynnwys ansawdd aer ac ansawdd dŵr

3.28 Y cynlluniau, y polisïau a'r rhaglenni cenedlaethol perthnasol o dan y pwnc hwn yw:

  • Deddf Seilwaith (Cymru) 2024
  • Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024
  • Deddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023
  • Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth 2022 i 2027
  • Llwybr Newydd - Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021
  • Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan i Gymru (2021)
  • Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan i Gymru: Cynllun Gweithred (2021)
  • Statws Carbon Sero Net erbyn 2030: Trywydd ar gyfer Datgarboneiddio ar draws Sector Cyhoeddus Cymru (2021)
  • Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) (2020)
  • Y Cynllun Aer Glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach (2020)
  • Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel (2019)
  • Strategaeth Aer Glân 2019
  • Canllawiau Statudol Draenio Cynaliadwy (2019)
  • Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (2018)
  • Mynd i'r Afael â Chrynodiadau Nitrogen Deuocsid ar Ymyl y Ffordd yng Nghymru: Cynllun Atodol Llywodraeth Cymru i Gynllun y DU ar gyfer Mynd i'r Afael â Chrynodiadau Nitrogen Deuocsid Ymyl Ffordd 2017 (2018)
  • Effeithlonrwydd Ynni yng Nghymru: Strategaeth ar gyfer y 10 Mlynedd Nesaf 2016-2026 (2017)Polisi Adnoddau Naturiol (2017).
  • Deddf yr Amgylchedd (Cymru) (2016)
  • Deddf Cynllunio (Cymru) (2015)
  • Strategaeth Ddŵr i Gymru (2015)
  • Deddf Teithio Llesol (Cymru) (2013)
  • Ynni Cymru: Pontio i Economi Carbon Isel (2012)
  • Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) (2010)
  • Cymru'n Un: Un Blaned – Cynllun Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru (2009)
  • MTAN 2: Glo (2009)
  • Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008
  • TAN 18: Trafnidiaeth (2007)
  • Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol (2004)
  • MTAN 1: Agregiadau (2004)
  • Rheoliadau Ansawdd Aer (Diwygiad) (Cymru) 2002
  • TAN 3: Parthau Cynllunio Syml (1996)

Goblygiadau i'r CDLl a'r ISA: Dylai'r CDLl ystyried gosod polisïau i hyrwyddo defnydd effeithlon o ddŵr a chyfyngu ar bob math o lygredd gan gynnwys llygredd dŵr ac aer. Dylai hefyd geisio cyfyngu'r pwysau ar y seilwaith trin dŵr gwastraff (WwT) a'r cyflenwad dŵr lle gwelir bod hyn yn broblem. Wrth ddyrannu safleoedd ar gyfer datblygu, dylid ystyried yr ardaloedd sydd â'r sensitifrwydd mwyaf mewn perthynas â'r materion hyn, gan gynnwys Parthau Diogelu Tarddiad Dŵr (SPZ). Er mwyn cyfyngu ar y potensial i faterion ansawdd aer gael eu dwysáu wrth i ddatblygiadau gael eu cyflawni dros gyfnod y cynllun, dylai'r CDLl hefyd ystyried y cyfraniad y gall opsiynau safle penodol ei wneud i sicrhau newid moddol a chyfyngu ar yr angen i drigolion deithio. Gall ansawdd aer gael effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar iechyd corfforol a meddyliol, a disgwyliad oes iach.

Gellir profi'r cyfraniad y gall opsiynau polisi ei wneud i gyflawni'r nodau hyn drwy'r ISA. Gellir ystyried opsiynau safleoedd unigol mewn perthynas â sensitifrwydd penodol seilwaith WwT ac ardaloedd eraill a nodwyd (fel SPZ).

Twf Economaidd

3.29 Y cynlluniau, y polisïau a'r rhaglenni cenedlaethol perthnasol o dan y pwnc hwn yw:

  • Deddf Seilwaith (Cymru) 2024
  • Deddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023
  • Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) (2020)
  • Croeso i Gymru: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-2025
  • Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (2018)
  • Ffyniant i Bawb: Y Strategaeth Genedlaethol (2017)
  • Strategaeth Ddiwydiannol y DU (2017)
  • TAN 4: Adwerthu a Datblygu Masnachol (2016)
  • TAN 4: Adwerthu a Datblygu Masnachol (2016)
  • Deddf Cynllunio (Cymru) (2015)
  • Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020
  • TAN 23: Datblygu Economaidd (2014)
  • Partneriaeth ar gyfer Twf: Strategaeth ar gyfer Twristiaeth 2013-2020
  • TAN 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy (2010)
  • Adnewyddu'r Economi: Cyfeiriad Newydd (2010)
  • Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol (2004)
  • TAN 19: Telathrebu (2002)
  • TAN 13: Twristiaeth (1997)
  • TAN 3: Parthau Cynllunio Syml (1996)
  • TAN 7: Rheoli Hysbysebion Awyr Agored (1996)
  • Y Fargen Twf
  • Ffyniant i Bawb: Y Cynllun Gweithredu ar yr Economi

Goblygiadau i'r CDLl a'r AC: Dylai'r CDLl ddyrannu tir i gefnogi'r lefel ddisgwyliedig o dwf economaidd sy'n ofynnol dros gyfnod y cynllun. Dylid cynnwys polisïau cynlluniau datblygu lleol i helpu i hyrwyddo twf economaidd a chyflogaeth cynaliadwy er budd holl aelodau'r gymuned a lleihau gwahaniaethau yn ardal y cynllun. Dylai hyn gynnwys cefnogaeth i'r seilwaith (gan gynnwys yr hyn sy'n cefnogi cysylltedd digidol) sy'n ofynnol er mwyn i'r economi weithredu'n llwyddiannus. Dylid ystyried twf economaidd lleol yng ngoleuni twf economaidd ehangach. Dylid lleoli safleoedd cyflogaeth er mwyn galluogi pobl leol i fanteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth newydd. Gall polisïau hefyd geisio hyrwyddo hyfywedd ardaloedd canol trefi ar Ynys Môn.

Dylai'r ISA brofi opsiynau polisi a safleoedd unigol mewn perthynas â'r cyfraniad y gallant ei wneud tuag at gyflawni'r nodau hyn. Dylid gwerthuso opsiynau safleoedd cyflogaeth o ran y cyfraniad y gallant ei wneud at fodloni gofynion tir cyflogaeth Ynys Môn yn ogystal â'r mynediad a fyddai gan drigolion at y cyfleoedd cyflogaeth a fyddai'n cael eu darparu.

Trafnidiaeth

2.30 Y cynlluniau, y polisïau a'r rhaglenni cenedlaethol perthnasol o dan y pwnc hwn yw:

  • Deddf Seilwaith (Cymru) 2024
  • Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WeITAG) (2024)
  • Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024
  • Deddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023
  • Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth 2022 i 2027
  • Llwybr Newydd - Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021
  • Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan i Gymru (2021)
  • Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan i Gymru: Cynllun Gweithred (2021)
  • Statws Carbon Sero Net erbyn 2030: Trywydd ar gyfer Datgarboneiddio ar draws Sector Cyhoeddus Cymru (2021)
  • Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) (2020)
  • Y Cynllun Aer Glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach (2020)
  • Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel (2019)
  • Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (2018)
  • Mynd i'r Afael â Chrynodiadau Nitrogen Deuocsid ar Ymyl y Ffordd yng Nghymru: Cynllun Atodol Llywodraeth Cymru i Gynllun y DU ar gyfer Mynd i'r Afael â Chrynodiadau Nitrogen Deuocsid Ymyl Ffordd 2017 (2018)
  • Deddf Cynllunio (Cymru) (2015)
  • Deddf Teithio Llesol (Cymru) (2013)
  • Deddf Cydraddoldeb (2010)
  • Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) (2010)
  • Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008
  • TAN 18: Trafnidiaeth (2007)
  • Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol (2004)
  • Rheoliadau Ansawdd Aer (Diwygiad) (Cymru) 2002
  • TAN 11: Sŵn (1997)

Goblygiadau i'r CDLl a'r AC: Dylai'r potensial ar gyfer lleihau'r angen i deithio, cyfyngu ar dagfeydd a'r manteision cysylltiedig ar gyfer ansawdd aer a newid yn yr hinsawdd yn ogystal ag iechyd y cyhoedd hysbysu'r gwaith o baratoi'r polisïau ar gyfer y CDLl a dyrannu safleoedd. Gall y CDLl hefyd gefnogi dulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy gan gynnwys teithio llesol. Gall hyn gynnwys cymorth ar gyfer y seilwaith sy'n angenrheidiol ar gyfer beicio a cherbydau trydan /e-feiciau. Ar ben hynny, dylai'r dewis o opsiynau safle ar gyfer datblygu gael ei hysbysu gan faterion fel y potensial ar gyfer mynediad i nodau trafnidiaeth gyhoeddus newydd a rhai sy'n bodoli eisoes a llwybrau trafnidiaeth llesol a materion capasiti priffyrdd penodol. Dylai'r dewis o safleoedd unigol hefyd fod yn seiliedig ar ba mor agos ydynt at wasanaethau a chyfleusterau hanfodol, sy'n debygol o leihau'r angen i breswylwyr deithio'n bell yn rheolaidd.

Dylid defnyddio'r ISA i brofi opsiynau polisi a safleoedd o ran y cyfraniad y gallant ei gynnig i wneud dewisiadau trafnidiaeth yn fwy cynaliadwy. Yn ogystal â phrofi opsiynau safleoedd o ran cyfyngu ar yr angen i deithio ar Ynys Môn, dylid profi opsiynau polisi o ran eu cyfraniad at ddefnyddio opsiynau trafnidiaeth mwy cynaliadwy, fel cerdded a beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Y cyd-destun polisi is-genedlaethol

3.31 O dan y lefel genedlaethol, mae rhagor o gynlluniau a rhaglenni sy'n berthnasol i CDLl Ynys Môn a'r broses ISA.

3.32 Mae hyn yn cynnwys Cynllun Datblygu Strategol newydd Gogledd Cymru a Datganiad Ardal Gogledd Orllewin Cymru. Bydd Cyd-bwyllgor Corfforedig (CJC) sy'n cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn bwrw ymlaen â'r gwaith o baratoi Cynllun Datblygu Strategol Gogledd Cymru. Mae'r gwaith o baratoi'r Cynllun Datblygu Strategol ar ei gamau cynnar iawn, fodd bynnag, mae PCC yn egluro bod yn rhaid i Gynlluniau Datblygu Lleol gydymffurfio'n gyffredinol â Cymru'r Dyfodol a'r CDS perthnasol.

3.33 Mae'r rhan fwyaf o gynlluniau a rhaglenni sy'n is na'r lefel genedlaethol ar lefel bwrdeistref sirol. Ceir manylion y cynlluniau a'r rhaglenni hynny yn Atodiad A.

Am gyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r system ac i wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig